Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer
01267 224029
Media
Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cafwyd
ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd. D. Owen.
|
2. |
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Y Cynghorydd
|
Rhif y Cofnod
|
Y Math o Fuddiant
|
Y Cynghorydd T. Davies
|
3. PL/05250 – 8 t?
fforddiadwy newydd ar dir ger 91 Maes yr Haf, Pwll, Llanelli, SA15
4AU
|
Personol a rhagfarnol – mae gan
gleient gysylltiad â'r datblygiad.
|
Y Cynghorydd T. Davies
|
3. PL/05187 – Codi
preswylfeydd newydd, mynediad i gerbydau, mannau agored a seilwaith
cysylltiedig arall ar dir Cefncaeau, Llanelli
|
Personol a rhagfarnol –
noddi Canolfan Adar y Gwlyptir
|
|
3. |
PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 515 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
3.1
PENDERFYNWYD
caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr
amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y
rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
PL/04244
|
8 t? fforddiadwy newydd ar dir ger 91
Maes yr Haf, Pwll, Llanelli, SA15 4AU
|
|
(NODER: Datganodd y Cynghorydd T. Davies fuddiant yn
yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod tra bo'r Pwyllgor yn trafod yr
eitem ac yn pleidleisio yn ei chylch.)
Yn dilyn cyflwyniad gan yr
Uwch-swyddog Rheoli Datblygu, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y
Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell cymeradwyo'r cais am y
rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylwadau gan yr aelodau lleol a wrthwynebai'r
cais ac a ail-bwysleisiai'r pwyntiau yn adroddiad y Pennaeth Lle a
Chynaliadwyedd, gan gynnwys y pwyntiau isod: Ni chaniatawyd
cais i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle:-
· Yr heriau
topograffig;
· Yr effaith niweidiol y byddai'r
datblygiad yn ei chael ar drigolion a busnesau
lleol;
·
Colli ardal gymunedol
werthfawr yn sgil y datblygiad;
· Cynyddu'r pwysau traffig ar yr
A484 a gwaethygu problemau parcio;
· Diffyg ymgynghori â
phreswylwyr lleol.
Ymatebodd y swyddogion i'r
materion a godwyd.
|
PL/05853
|
Siop gyfleustra i'r gymdogaeth, gan
gynnwys cyfleuster cludfwyd poeth gyrru trwodd ar dir gyferbyn
â Ffos Las, Culla Road, Trimsaran, SA17
4HD.
|
3.2
PENDERFYNWYD gohirio
ystyried y cais canlynol er mwyn i'r ymgeisydd allu darparu rhagor
o wybodaeth i ymdrin â'r materion sydd heb eu
datrys:-
PL/00895
|
Preswylfa menter wledig â sied
amaethyddol gysylltiedig ar dir yn Derwen Fawr, Crug-y-bar,
Llanwrda
|
|
Yn dilyn cyflwyniad gan yr
Uwch-swyddog Rheoli Datblygu, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y
Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell gwrthod y cais am y
rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol yn cefnogi'r cais a
oedd yn cynnwys y pwyntiau canlynol:
·
Roedd y datblygiad yn
gymedrol ac yn gydnaws â'r dirwedd;
·
Roedd y cais yn cefnogi
anghenion lleol;
·
Byddai'r datblygiad yn
lleihau teithio i'r safle ac yn gwella diogelwch
priffyrdd;
·
Yn ddiweddar, roedd yr
ymgeisydd wedi sicrhau tenantiaeth tir arall.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog
Rheoli Datblygu i'r pwyntiau a godwyd.
|
3.3
PENDERFYNWYD, a hynny ar gais yr aelod lleol, ohirio ystyried
y cais canlynol i alluogi rhagor o drafod rhwng swyddogion a'r
ymgeisydd.
PL/06643
|
Cais am estyniad deulawr ar yr ochr a
newidiadau i'r byngalo presennol, ynghyd ag estyniad i'r cwrtil
domestig, Golygfa, Cydweli, SA17 5AR.
|
3.4
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais
cynllunio canlynol er mwyn galluogi'r Pwyllgor i ymweld â'r
safle os ceir caniatâd gan y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn
dilyn asesiad risg.
PL/05187
|
Codi preswylfeydd newydd,
mynediad i gerbydau, mannau agored a seilwaith cysylltiedig arall
ar dir Cefncaeau, Llanelli.
|
|
(NODER: Datganodd y Cynghorydd T. Davies fuddiant yn
yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod tra bo'r Pwyllgor yn trafod yr
eitem ac yn pleidleisio yn ei chylch)
Oherwydd ymrwymiad arall, ni allai'r aelod lleol fod
yn bresennol yn y cyfarfod ac yn ei habsenoldeb, darllenodd yr
Uwch-swyddog Rheoli Datblygu ddatganiad ysgrifenedig yn gofyn am
ymweliad safle er mwyn ystyried y pwyntiau canlynol:
·
Yr effaith
niweidiol ar y Ganolfan ...
Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.
|
|
4. |
ADRODDIAD APELIADAU PDF 198 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd y Pwyllgor
ystyriaeth i'r Adroddiad Apeliadau Cynllunio a oedd yn darparu
gwybodaeth yn ymwneud ag apeliadau cynllunio a gyflwynwyd ar 22
Ionawr, 2024.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
nodi'r adroddiad.
|
5. |
PERFFORMIAD Y GWASANAETH CYNLLUNIO - CHWARTER 3 PDF 114 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Perfformiad y
Gwasanaeth Cynllunio, ar gyfer Chwarter 3 am y cyfnod rhwng Hydref
a Rhagfyr, 2023 ac, yn arbennig, yr Is-adran Rheoli Datblygu a
Gorfodi. Roedd yr adroddiad yn cynnwys dangosyddion monitro
perfformiad craidd ynghyd â data cymharol ar gyfer chwarteri
blaenorol yn 2022/23.
Roedd
yr adroddiad yn nodi set o ddangosyddion monitro perfformiad craidd
a fyddai'n rhan o fonitro perfformiad y gwasanaethau cynllunio yn y
dyfodol. Roedd y rhain yn cynnwys "Dangosyddion Cenedlaethol" a'r
rhai a nodwyd gan y Cyngor.
Dywedodd yr Uwch-reolwr Datblygu a Gorfodi wrth y pwyllgor y
gallai fod posibilrwydd y byddai rhai ardaloedd yn gweld gostyngiad
yn y canrannau targed oherwydd diffyg capasiti adnoddau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr
adroddiad.
|
6. |
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 19EG RHAGFYR, 2023 PDF 131 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2023 yn gofnod
cywir.
|