Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 12fed Mawrth, 2024 1.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd P Cooper.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 238 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/06297

Dileu Amod 5 sydd ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio cyfeirnod W/38893, i ganiatáu cadw'r strwythur pren presennol ar y safle a chadw carafán deithiol at ddibenion domestig ategol ym Mharc yr Odyn, Hebron, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0XT

 

Cyfeiriodd yr Uwch-reolwr Datblygu a Gorfodi at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.2 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 7 Rhagfyr 2023), a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yn sgil pryderon a godwyd y gallai'r cais fod yn groes i'r egwyddorion a nodwyd yn y canllawiau Datblygiad Un Blaned (OPD) o ran ei effaith amgylcheddol ac ecolegol.

 

Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r cynnig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.

 

Nodwyd y byddai caniatâd yn amodol ar Gytundeb Adran 106 i sicrhau bod y cynnig yn cydymffurfio â gofynion y Polisi Datblygu Un Blaned a dogfennau Canllawiau Ymarfer.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

PL/06617

 

Cais ôl-weithredol ar gyfer yr estyniad arfaethedig y tu cefn i Lain 3 ac estyniad i'r decin wedi'i godi yn y cefn a gymeradwywyd o dan y gymeradwyaeth am faterion a gadwyd yn ôl (cyf. PL/00588) yn Llain 3, Hen Labordai CNC, Pen y Fai, Llanelli, SA15 4EN

 

Cafwyd sylwadau a wrthwynebai'r cais ôl-weithredol ac a ailadroddodd y pwyntiau gwrthwynebu y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio ac roedd y prif bryderon yn ymwneud â'r canlynol:-

 

·       Nid yw'r datblygiad yn cydymffurfio â gofynion y caniatâd cynllunio blaenorol o ran ei faint, y math o falconi a'r balwstrad gwydr a'r effaith ganlyniadol ar yr eiddo cyfagos.

 

·       Mae'r estyniad i'r gegin a adeiladwyd 30% yn fwy na'r cynllun gwreiddiol.

 

·       Problemau o ran mynediad.

 

·       Eiddo cyfagos yn colli preifatrwydd.

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.