Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 28ain Mawrth, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd P. Cooper ac M. Donoghue.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd/Swyddog

Eitem

Rheswm

G. Glenister

PL/07084 –

Adeilad allanol newydd i'w ddefnyddio fel cegin baratoi masnachol a storfa ddomestig yn 1 Parc Y Saint, Llan-saint, Cydweli, SA17 5JJ

Ei chwaer yw'r ymgeisydd

 

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 512 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1       PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/00152

Adeiladu gwaith trin elifiant newydd yn lle'r ased presennol sydd wedi dyddio oherwydd gwelliannau mewn technoleg a phrosesau trin yn Dairy Partners, The Creamery, Aberarad, Castellnewydd Emlyn, SA38 9DQ

 

Yn dilyn cyflwyniad gan yr Uwch-swyddog Gorfodi a Monitro, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell cymeradwyo'r cais, yn amodol ar yr amodau, am y rhesymau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Cafwyd sylwadau a wrthwynebai'r cais ac a ail-bwysleisiai'r pwyntiau yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd, gan gynnwys y pwyntiau isod: 

 

·       Dwysáu

·       ôl-weithredol

·       Amwynder

·       S?n wrth bwmpio i mewn i danceri

·       S?n o'r brif ffatri (gofynnwyd am ffens acwstig)

·       Arogleuon o danciau a thanceri slyri

·       Dirgryndod o’r peiriannau

·       Edrych dros eiddo (pan fydd tanciau'n cael eu cynnal)

·       Dylid asesu'r safle yn ei gyfanrwydd

·       Colli cyflenwad d?r

·       Cymeriad / Lleoliad mewn Man Preswyl

·       Cymeriad yr Ardal

·       Effaith ar leoliad Adeilad Rhestredig Gradd II

·       Llifogydd

·       Mae'r safle a'r briffordd gyhoeddus yn agored i lifogydd

·       Elifiant neu gemegau yn gollwng

·       Llygredd D?r

·       Diogelwch Cerddwyr (angen palmant)

·       Priffyrdd – Dwysáu Symudiadau Lorïau

·       ‘Ardal Droi’

·       Iechyd a Diogelwch ar ôl ffrwydrad ger tanc LNG

·       Cwynion yn erbyn ymgysylltiad gan y cwmni a'r Awdurdod Cynllunio.

 

Ymatebodd yr Asiant a'r Uwch-swyddog Gorfodi a Monitro i'r pwyntiau a godwyd.

 

Daeth sylw i law gan yr aelod lleol yn cefnogi'r cais yn datgan bod y cwmni’n gyfrannwr mawr i’r economi ac y byddai’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad yn gwarchod y pryderon.

 

Cynigiwyd ymweliad safle i alluogi Aelodau'r Pwyllgor i gael profiad personol o lefel yr arogl sy'n dod o'r safle. Er bod hyn wedi'i eilio, methodd y cynnig.

 

pl/03344

Gosod Tanciau Glanhau Newydd (CIP) a byndiau newydd cysylltiedig yn The Creamery, Aberarad, Castellnewydd Emlyn, SA38 9DQ

 

Yn dilyn cyflwyniad gan yr Uwch-swyddog Gorfodi a Monitro, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell cymeradwyo'r cais, yn amodol ar yr amodau, am y rhesymau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Cafwyd sylwadau a wrthwynebai'r cais ac a ail-bwysleisiai'r pwyntiau yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd, gan gynnwys y pwyntiau isod:

 

·       Mae problemau hirdymor gyda gweithrediad y safle a'r Gwaith Trin Elifion anawdurdodedig.

·       Amwynder

·       Dwysáu ers 2017 yn dyblu cynhyrchiant.

·       Gweithredu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos

·       S?n ac Aflonyddwch

 

Ymatebodd yr Asiant a'r Uwch-swyddog Gorfodi a Monitro i'r pwyntiau a godwyd.

 

Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol yn cefnogi'r cais.

 


 

 

 

PL/07177

Codi Adeilad Da Byw Arfaethedig at Ddefnydd Amaethyddol a Cheffylau gyda Llawr Caled Ategol a Thirlunio [Ailgyflwyno PL/05674 a Wrthodwyd ar 18/07/2023] ar Dir yn Mellions, Heol Ddu, Rhydaman, SA18 2UG

 

Yn dilyn cyflwyniad gan yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu [Aman Gwendraeth], rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell cymeradwyo'r cais yn unol ag amodau ac am y rhesymau a nodwyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

ADRODDIAD APELIADAU pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad Apeliadau Cynllunio a oedd yn darparu gwybodaeth yn ymwneud ag apeliadau cynllunio a gyflwynwyd ar 18 Mawrth, 2024.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

 

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar dd mm, bbbb gan eu bod yn gywir.

 

5.1

29 CHWEFROR 2024 pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 29 Chwefror, 2024 gan eu bod yn gywir.

 

 

5.2

12 MAWRTH 2024 pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2024, gan eu bod yn gywir.