Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 19eg Rhagfyr, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorwyr A.C. Jones ac R. Sparks. 

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd E. Skinner

3: PL/04799 -

Adleoli'r porth awtomatig presennol i gerbydau a'r panel rheoli mynediad gyda ffensys cysylltiedig a gwaredu'r gât i gerddwyr ar dir i'r de o Rifau 175 ac 162, Pentre Nicklaus Village, Llanelli, SA15 2DF

Mae'n aelod o Glwb Golff a Chlwb Gwledig Penrhyn Machynys sydd â diddordeb tir yn y cais.

Datganodd y Cynghorydd Skinner ei ddiddordeb a gadawodd y cyfarfod cyn bod y cais yn cael ei ystyried

Y Cynghorydd E. Williams

3: PL/03279 –

Dymchwel y siop fwyd bresennol i hwyluso ailddatblygiad preswyl, ynghyd â mynediad cysylltiedig i gerbydau a cherddwyr, meysydd parcio, amwynderau, siopau beiciau a llefydd cadw biniau, gwaith tirweddu a datblygu ategol: paratoi'r safle, clirio, trin, ail-broffilio a gosod gwasanaethau a seilwaith newydd yn Archfarchnad Lidl, Heol y Prior, Caerfyrddin, SA31 1LS.

2.              

Mae'r Cynghorydd Williams yn berchen ar fflat yn T? Rhys sydd gerllaw'r datblygiad arfaethedig.

Datganodd y Cynghorydd Williams ei ddiddordeb personol a gadawodd y cyfarfod cyn bod y cais yn cael ei ystyried.

 

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 388 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/03279

Dymchwel y siop fwyd bresennol i hwyluso ailddatblygiad preswyl, ynghyd â mynediad cysylltiedig i gerbydau a cherddwyr, meysydd parcio, amwynderau, siopau beiciau a llefydd cadw biniau, gwaith tirweddu a datblygu ategol: paratoi'r safle, clirio, trin, ail-broffilio a gosod gwasanaethau a seilwaith newydd yn Archfarchnad Lidl, Heol y Prior, Caerfyrddin, SA31 1LS.

 

 

[NODER:  Bu i'r Cynghorydd Elwyn Williams ddatgan buddiant personol yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod cyn iddi gael ei hystyried a chyn y pleidleisiwyd arni.]

 

Darllenodd y Cadeirydd sylw ysgrifenedig gan yr Aelod Lleol a wrthwynebai'r cais ac a ail-bwysleisiai’r pwyntiau yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a oedd yn cynnwys:-

 

·       Nifer y pryderon a godwyd yn dilyn y broses Ymgynghori Cyn Cyflwyno Cais yn ymwneud â 

-   nifer arfaethedig yr unedau/eu dwysedd, eu deiliadaeth, amynderau;

-   effaith y cynnig ar eiddo ar hyd y Rhodfa;

-   y diffyg mannau parcio yn enwedig o ran gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol.

 

·       bod y cynllun ar gyfer pobl dros 55 oed yn unig. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw amod i'r perwyl hwn.  

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Gorfodi a Monitro i'r materion a godwyd.

 

PL/04799 -

Adleoli'r porth awtomatig presennol i gerbydau a'r panel rheoli mynediad gyda ffensys cysylltiedig a gwaredu'r gât i gerddwyr ar dir i'r de o Rifau 175 ac 162, Pentre Nicklaus Village, Llanelli, SA15 2DF

 

[NODER:  Datganodd y Cynghorydd Edward Skinner fuddiant personol yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried a chyn y pleidleisiwyd arni.]

 

Derbyniwyd sylwadau yn gwrthwynebu'r cais gan ailadrodd y pwyntiau a nodwyd yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a thynnu sylw at y pryderon ynghylch y bwriad i waredu'r gât i gerddwyr, a gâi ei defnyddio'n helaeth gan lawer o bobl, ac felly dylid ei symud i'r lleoliad newydd.

 

Yn dilyn y sylwadau, cynigiwyd nad oedd angen ymweliad safle gan fod y wybodaeth a gyflwynwyd gan swyddogion yn ddigonol, a chymeradwywyd y cynnig.

 

Ymatebodd yr Asiant a'r Uwch-swyddog Gorfodi a Monitro i'r materion a godwyd wrth i'r adroddiad gael ei ystyried.

 

 

PL/06289

 

Adeiladu 12 o breswylfeydd gyda seilwaith cysylltiedig ar dir i'r de o Barc Gitto, Llwynhendy, Llanelli, SA14 9LB

 

 

Oherwydd ymrwymiad arall, bu'n rhaid i'r Aelod lleol adael y cyfarfod cyn rhoddid ystyriaeth i'r eitem hon, felly darllenodd y Cadeirydd, yn ei habsenoldeb, sylwadau ysgrifenedig yn gofyn am ymweliad safle er mwyn ystyried draenio a llifogydd mewn eiddo yn yr ardal yn ddiweddar. Codwyd pryder ynghylch pwmpio d?r budr i'r orsaf bwmpio leol, nad oedd ar adegau yn gallu ymdopi â llif y d?r. Byddai dwy breswylfa ychwanegol yn cael rhagor o effaith ar allu'r orsaf bwmpio i ymdopi.

 

Yn dilyn cyflwyniad y swyddog ac ystyried y sylwadau, cynigiwyd peidio â mynd ar ymweliad safle a chafodd hynny ei gymeradwyo.

 

Ymatebodd yr Asiant a'r Uwch-swyddog Gorfodi a Monitro i'r materion a godwyd wrth i'r adroddiad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.