Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Peter Cooper.
|
|||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||
PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 3.1 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
3.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
|
|||||||
ADRODDIAD APELIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad Apeliadau Cynllunio a oedd yn darparu gwybodaeth yn ymwneud ag apeliadau cynllunio a gyflwynwyd ar 30 Hydref, 2023.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.
|
|||||||
PERFFORMIAD Y GWASANAETH CYNLLUNIO - CHWARTER 2 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Perfformiad y Gwasanaeth Cynllunio, ar gyfer Chwarter 1 am y cyfnod 1 Gorffennaf 2023 hyd at 30 Medi 2023, ac, yn arbennig, yr Is-adran Rheoli Datblygu a Gorfodi. Roedd yr adroddiad yn cynnwys dangosyddion monitro perfformiad craidd ynghyd â data cymharol ar gyfer 2022/23.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Mewn ymateb i ymholiad am y data, dywedodd yr Uwch-reolwr Datblygu a Gorfodi, wrth gydnabod bod pandemig Covid wedi cael effaith sylweddol ar y sector gorfodi oherwydd natur yr ymchwiliadau ar safleoedd, eglurwyd bod prosesau wedi cael eu newid yn gynyddrannol i fynd i'r afael â materion gorfodi gan gynnwys y rhai cyn Covid.
· Mynegwyd pryderon ynghylch yr anawsterau o ran cael mynediad at Swyddogion Cynllunio a'r diffyg diweddariadau a oedd yn cael eu rhoi i Aelodau Lleol ynghylch materion gorfodi. Eglurodd yr Uwch-reolwr Datblygu a Gorfodi fod y bwriad i’r Hwb fod yn gyswllt cyntaf wedi ei gyflwyno i helpu i leddfu'r heriau yr oedd Swyddogion Cynllunio yn eu hwynebu o ran yr amser sylweddol a oedd yn cael ei dreulio yn ymateb i lawer o ymholiadau a oedd yn cael effaith niweidiol ar y llwyth gwaith dyddiol. Roedd yr Hwb wedi helpu i ymateb i lawer o'r ymholiadau a hidlo'r ymholiadau i'w hanfon ymlaen a oedd wedyn yn cael eu blaenoriaethu yn unol â hynny. Hefyd, hysbyswyd yr Aelodau ei bod yn ofynnol i'r adran weithio o fewn cyfyngiadau'r prosesau gorfodi, gan gynnwys amserlenni. O ran y wybodaeth sy'n cael ei hanfon ymlaen at Aelodau lleol, dywedwyd bod risg y gallai achos gorfodi arwain at achos llys. Er bod cryn dipyn o waith yn cael ei wneud yn y cefndir ar gyfer pob achos gorfodi, nid oedd Swyddogion yn gallu cysylltu â'r cyhoedd na'r Aelodau mewn perthynas ag achos llys. Wrth dderbyn hyn, dywedodd yr Aelodau y byddent yn ddiolchgar am ddiweddariad byr e.e. mae 'ymweliad safle' wedi'i wneud, 'ar waith', byddai'r wybodaeth hon yn rhoi gwybod i'r Aelodau lleol bod gwaith yn cael ei wneud.
· O ran cwynion/adroddiadau, eglurodd yr Uwch-reolwr Datblygu a Gorfodi nad oedd adroddiadau dienw bellach yn cael eu derbyn a bod angen enw cyswllt er mwyn cymryd camau pellach. Os yw aelod o'r cyhoedd yn dymuno aros yn ddienw, mae'n gofyn i'w aelod lleol gwyno ar ei ran.
· O ran gorfodi, roedd yr Uwch-reolwr Datblygu a Gorfodi yn cydnabod bod angen gwelliannau pellach ac y byddai'r prosesau mewnol yn cael eu hailystyried.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.
|
|||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: RESOLVED that the minutes of the meeting of the Committee held on the DD MMM, YYYY be signed as a correct record.
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 26 Medi 2023, gan eu bod yn gywir.
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 12 Hydref, 2023, gan eu bod yn gywir.
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 24 Hydref, 2023, gan eu bod yn gywir
|