Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Evans Thomas
01267 224470
Media
Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cafwyd
ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J.A.
Davies. [SYLWER: Roedd y Cynghorydd
J.A. Davies yn bresennol o 11:20].
|
2. |
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
3. |
PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 559 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
3.1 PENDERFYNWYD caniatáu'r
ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn
Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod
amdanynt yn y cyfarfod:-
PL/01154
|
Datblygiad preswyl ar dir ger Heol Glyndwr,
Pont-iets
(Sylwer: mae caniatâd hefyd yn ddarostyngedig i
Gytundeb Adran 106).
Gofynnwyd am i'r cyfraniad a ddeilliai o Gytundeb Adran 106
gael ei roi tuag at barc chwarae gerllaw'r orsaf danwydd yn y
pentref.
|
PL/02213
|
Cais am faterion a gadwyd yn ôl ar gyfer 2
breswylfa a rhyddhau amodau cysylltiedig 5, 9, 10 a 12
caniatâd cynllunio amlinellol
W/32038 (preswylfeydd fforddiadwy (tai eithrio) (ailgyflwyno cais
W/29836) ar dir ger y Stryd Fawr, Llansteffan, Caerfyrddin, SA33
5JN.
(Sylwer: mae'r caniatâd cynllunio amlinellol a
roddwyd yn flaenorol yn ddarostyngedig i Gytundeb Adran
106).
Mewn ymateb i gais, cadarnhaodd y Rheolwr
Blaen-gynllunio y byddai'r Cynllun Tai Fforddiadwy yn cael ei
ystyried fel rhan o'r adolygiad parhaus o ddarparu hyfforddiant i
Gynghorau Cymuned er mwyn sicrhau bod aelodau'n cael y wybodaeth
ddiweddaraf am ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â
chynllunio.
Cafodd cais ei wneud am i faterion yn
ymwneud ag effaith y datblygiad o safbwynt draenio d?r arwyneb gael
eu hystyried yn llawn gan yr Awdurdod.
|
PL/02798
|
Newid a helaethu'r Pinewood Lodge. Ailgyflwyno cais ar gyfer PL/01052 a wrthodwyd yn
flaenorol, Pinewood Lodge, Bronwydd, Caerfyrddin, SA33
6BE.
|
PL/03011
|
Estyniad i breswylfa gan gynnwys dymchwel rhan o
breswylfa flaenorol (ôl-weithredol), Castell Teifi, Cwm-ann,
Llanbedr Pont Steffan, SA48 8JN.
|
PL/03049
|
Cais am adeiladu adeilad ar wahân newydd i'w
ddefnyddio mewn cysylltiad â'r busnes storio menter wledig
presennol a fydd yn creu lle storio/unedau storio ychwanegol ar y
llawr gwaelod isaf a swyddfa a man hamdden ar y llawr gwaelod
uchaf, Dragon Guard Storage, Heol Capel Iwan, Castellnewydd Emlyn,
SA38 9LP.
Cafwyd sylw gan aelod lleol yn cefnogi'r
cais ar sail yr arfarniad a nodwyd yn adroddiad ysgrifenedig y
Pennaeth Cynllunio. Yn benodol,
mynegodd yr aelod lleol na fyddai'n peri unrhyw niwed i gymeriad a
golwg yr ardal; ni fyddai unrhyw ofynion draenio ac yn ogystal,
bwriad y cynnig oedd gwneud y defnydd gorau o'r safle er mwyn
bodloni'r galw a nodwyd, heb unrhyw effaith andwyol ar amodau byw
trigolion cyfagos.
Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd wrth
i'r adroddiad gael ei ystyried.
|
|
4. |
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 6ED IONAWR, 2022. PDF 194 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor a gynhaliwyd ar 6 Ionawr 2022 gan eu bod yn
gywir.
|