Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 29ain Chwefror, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. B. Thomas a D. Owen.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 487 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1      PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/04067

Adeiladu 14 o breswylfeydd fforddiadwy (safle eithriedig) gyda gwaith seilwaith cysylltiedig ar dir ger Heol Cilycwm, Llanymddyfri, SA20 0DU

PL/06479

Datblygiad Un Blaned yn cynnwys un caban, un storfa goed, un gweithdy gwehyddu, un t? gwydr a gweithdy, un sied storio, arae o baneli solar, llain lysiau gan gynnwys cawell ffrwythau, perllan, dwy goedlan, gwely helyg a dôlar dir gyferbyn â Th? Derwen, Penybanc, Llandeilo, SA19 7TA

PL/06651

 

Newid defnydd tafarndy presennol yn breswylfa yn Nhafarny Deri, Heol Ebenezer, Llanedi, Abertawe, SA4 0YT

 

Yn dilyn cyflwyniad gan yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Cafwyd sylwadau gan yr Aelod lleol a wrthwynebai'r cais ac a ail-bwysleisiai'r pwyntiau yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd, gan gynnwys y pwyntiau isod: 

 

·        Roedd Tafarn y Deri yn fusnes llewyrchus.

        ·Roedd y safle yn cael ei feddiannu gan deulu a oedd yn rheoli'r dafarn ac a oedd yn lletya ac yn annog grwpiau elusennol lleol.

·        Byddai newid y lle'n breswylfa yn golled fawr i'r pentref, a oedd yn llwyr gefnogi Tafarn y Deri.

·        Roedd yn darparu cyflogaeth i bobl ifanc leol.

 

Ymatebodd y swyddogion i'r materion a godwyd.

 

 

3.2   PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â rhan ogleddol safle'r cais. 

 

PL/05187

Codi preswylfeydd newydd, mynediad i gerbydau, mannau agored a seilwaith cysylltiedig arall ar dir yn ,Cefncaeau, Llanelli

 

3.3 PENDERFYNWYD gwrthod y cais cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/06529

Annedd Angen Lleol (Ailgyflwyno PL/04500 a wrthodwyd ar 18/10/2022) ar dir yn Old Hunt Kennels, Llandybïe, Rhydaman, SA183NX

 

Yn dilyn cyflwyniad gan yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol yn cefnogi'r cais a oedd yn cynnwys y pwyntiau canlynol:

 

·        Pryderon y byddai methiant ar ran yr Awdurdod i ddarparu cartrefi a gwaith i bobl leol yn cael effaith ar yr ardal leol.

·        Dim ond ychydig y tu allan i ardal y Cynllun Datblygu Lleol oedd y safle datblygu ac roedd mewn ardal oedd eisoes ag adeiladau.

·        Roedd yr ymgeiswyr yn cefnogi'r economi leol a phe baent yn cael eu gorfodi i symud byddai hynny'n cael effaith ar yr ardal.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r pwyntiau a godwyd.

 

PL/06880

 

Adeiladu annedd (Ailgyflwyno PL/05554 a wrthodwyd ar 14/08/2023) ar dir yn 60 Heoly Felin, Pontyberem, Llanelli, SA155DB

 

Yn dilyn cyflwyniad gan yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Cafwyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

ADRODDIAD APELIADAU pdf eicon PDF 213 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad Apeliadau Cynllunio a oedd yn darparu gwybodaeth yn ymwneud ag apeliadau cynllunio a gyflwynwyd ar 19 Chwefror, 2024.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 1AF CHWEFROR, 2024 pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2024, gan eu bod yn gywir.