Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 14eg Medi, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd N. Evans.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd W.E. Skinner

2.               3:  PL/05250 - Newid defnydd arfaethedig o B1 (swyddfeydd) i ddefnydd D1 (canolfan lesiant) yn Dragon 24, Traeth Ffordd, Llanelli, SA15 2LF

4.              

Buddiant Personol a Rhagfarnol - Yn byw yn agos at y datblygiad arfaethedig a bydd yn cyflwyno sylwadau ar y cais ond ni fydd yn pleidleisio yn unol â rhan 14(2) o gôd ymddygiad y Cyngor.

 

 

Mr I. Llewellyn - Rheolwr Blaen-gynllunio

3: E/39917 - Mae Bryn Bach Coal yn cyflwyno cais am ganiatâd i gloddio drwy ddulliau glo brig, 110,000 tunnell o'r glo caled gorau o estyniad arfaethedig Glan Lash. Mae'r estyniad yn cwmpasu 10.03 hectar o dir, i'r gogledd o safle presennol Pwll Glo Glan Lash, cyfeirnod e261560, n213900 ym Mhwll Glo Glan Lash, Heol Shands, Llandybie, Rhydaman, SA18 3ND

Aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 3 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1   PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/05354

Cadw preswylfa ar wahân ym Mhantbach, HeolTreventy, Cross Hands, Llanelli, SA14 6TE

 

Cafwyd sylwadau a wrthwynebai'r cais ac a ail-bwysleisiai’r pwyntiau yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a oedd yn cynnwys:

 

·       Ni ymgynghorwyd â phreswylwyr ar y cynnig cychwynnol cyn i'r t? gael ei adeiladu,

·       Gan fod yr eiddo yn d? mawr ar wahân ac nid yn fyngalo roedd yn ormesol;

·       Nidoedd y ffenestr ar ochr ddwyreiniol yr eiddo a oedd yn edrych dros ardd y cymydog yn cynnwys gwydr aneglur,

·       Nid oedd y tanc septig sy’n gwasanaethu'r eiddo 7m i ffwrdd o'r eiddo, ac mae hyn yn erbyn y rheoliadau cyfredol. Mynegwyd pryder ynghylch gallu'r tanc i ddarparu ar gyfer yr eiddo a oedd yn cael ei ddatblygu a'r annedd gyfagos a'r potensial y byddai'n gorlifo i gae cyfagos,

·       Mynegwyd pryder am bwysedd y cyflenwad d?r i'r eiddo ac a fyddai'n ddigonol i weithredu'r system chwistrellu tân a'r gawod ar y sail ei fod hefyd yn gwasanaethu'r byngalo cyfagos,

·       Mynegwyd pryderon am y cyflenwad trydan i'r safle, a oedd hefyd yn dod o'r byngalo cyfagos.

·       Effaith ar breifatrwydd yr eiddo cyfagos gan nad oedd y t? wedi'i godi yn unol â'r cynllun safle cymeradwy.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

PL/05493

Tair annedd ar wahân ar dir ger Fferm Plas y Fforest, Plas y Fforest, Fforest, Abertawe, SA4 0TT

 

Daeth sylw i law a wrthwynebai'r cais, ac a ail-bwysleisiai’r pwyntiau canlynol y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd:

 

·       Ni ymgynghorwyd â'r trigolion ynghylch y cynnig, a ddaeth i'r amlwg dim ond pan gyrhaeddodd offer trwm ar y safle i symud pridd.

·       Roedd graddiant y safle yn serth iawn.

·       Byddai uchder a graddfa'r tair annedd sydd i'w codi ar y safle yn edrych dros yr eiddo islaw gan arwain at golli golau.

·       Ni fyddai'r datblygiad arfaethedig yn gydnaws â'r adeiladau cyfagos,

·       Roedd caniatâd cynllunio wedi cael ei roi ar gyfer y safle 25 mlynedd ynghynt ac nid oedd angen mwy o eiddo.

·       Byddai datblygu'r safle yn cael effaith andwyol ar y fflora a'r ffawna sefydledig ar y safle ynghyd â bywyd gwyllt.

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

3.2      PENDERFYNWYD gwrthod y cais cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd::

 

E/39917

Mae Bryn Bach Coal yn cyflwyno cais am ganiatâd i gloddio drwy ddulliau glo brig, 110,000 tunnell o'r glo caled gorau o estyniad arfaethedig Glan Lash.  Mae'r estyniad yn cwmpasu 10.03 hectar o dir, i'r gogledd o safle presennol Pwll Glo Glan Lash, cyfeirnod e261560, n213900 ym Mhwll Glo Glan Lash, Heol Shands, Llandybie, Rhydaman, SA18 3ND

 

(Noder: Gadawodd Mr I Llewellyn y Siambr tra oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried gan  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

ADRODDIAD APELIADU pdf eicon PDF 192 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad Apeliadau Cynllunio a oedd yn darparu gwybodaeth yn ymwneud ag apeliadau cynllunio a gyflwynwyd ar 4 Medi, 2023.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 17 AWST 2023 pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 17 Awst 2023 yn gofnod cywir.