Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
PENODI CADEIRYDD AR GYFER Y CYFARFOD Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd J.E. Williams yn gadeirydd y cyfarfod.
|
|||||||||||||
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.M. Allen, D.J.R. Bartlett, H.I. Jones, P.E.M. Jones, E.G. Thomas a J. Williams.
Estynnodd y Cadeirydd longyfarchiadau i Mrs. Rhian Dawson ar ei phenodiad yn ddiweddar yn Bennaeth y Gwasanaethau Integredig.
Estynnodd y Cadeirydd groeso i Mrs Lesley Roberts, Arolygydd, AGGCC, i'r cyfarfod.
|
|||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion:
|
|||||||||||||
DATGAN CHWIPI WAHARDDEDIG Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig. |
|||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Ni chafwyd yr un.
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad AGGCC ynghylch ei werthusiad a'i adolygiad blynyddol o Wasanaethau Cymdeithasol Sir Gaerfyrddin a oedd hefyd yn rhoi barn gyffredinol ar y prif feysydd cynnydd a'r meysydd ar gyfer gwella. Hefyd cafwyd cyflwyniad cynhwysfawr gan Mrs. L. Roberts (AGGCC).
Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:
Mynegwyd pryderon ynghylch diffyg lleoliadau sefydlog i rai Plant sy'n Derbyn Gofal. Roedd Pennaeth y Gwasanaethau Plant yn rhannu'r pryderon hyn ond pwysleisiodd fod y rhain yn nifer bychan o Blant sy'n Derbyn Gofal a bod nifer y symudiadau'n fychan. Yn gyffredinol, roedd y lleoliadau addysg yn sefydlog ond roedd carfan fechan o bobl ifanc 13 oed neu h?n yr oeddynt yn ceisio'u cynnal mewn lleoliadau. Roedd angen sicrhau bod yr ystod o ofalwyr maeth yn cynyddu ac yn gwella. Byddai'r Awdurdod yn ymgymryd â chynllun peilot Llywodraeth Cymru flwyddyn nesaf i fwrw golwg ar wahanol ffyrdd o ddatblygu gofalwyr maeth drwy gwrs 12 wythnos gydag arbenigwyr a gweithwyr cyswllt yn canolbwyntio ar Blant sy'n Derbyn Gofal sydd ag anghenion cymhleth. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant eu bod yn gweithio'n galed i wella perfformiad o ran sefydlogrwydd lleoliadau Plant sy'n Derbyn Gofal a oedd wedi gostwng i 6.9% yn ystod hanner cyntaf eleni.
Gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch plant sy'n arddangos ymddygiadau peryglus. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod y rhain yn gyfran fechan o Blant sy'n Derbyn Gofal ond roedd yr asesiad o Blant sy'n Derbyn Gofal wedi pwysleisio bod angen gwella'r asesiadau risg er mwyn sicrhau bod trefniadau priodol ar waith o ran cymorth a rheoli risg.
Mynegwyd pryderon ynghylch nifer fach iawn yr atgyfeiriadau ym maes Diogelu Oedolion a oedd yn gorffen mewn erlyniad o ystyried natur ddifrifol y cwynion. Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu fod diogelwch pob unigolyn yn hollbwysig ond er mwyn mynd ag achosion i'r llys roedd yn rhaid cael tystiolaeth. Ffocws y tîm rheoli gofal oedd y canlyniad yr oedd yr oedolyn agored i niwed yn dymuno a beth roeddynt hwy'n dymuno'i newid. Ychwanegodd yr Arolygydd fod nifer isel yr erlyniadau yn bwynt hanfodol ac un o'r ffactorau oedd bod fframwaith deddfwriaethol clir ar waith ar gyfer plant ond nid oedd un ar gyfer oedolion. Roedd hwn yn fater y byddai'n rhaid ymchwilio iddo ymhellach rhwng y Cyngor a'r Bwrdd Diogelu Oedolion. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod y mater hwn yn thema ar draws Cymru a bod angen gwella'r modd y cesglir tystiolaeth. Byddai ef yn edrych ar hyn yn rhanbarthol gyda Heddlu Dyfed-Powys yn y Bwrdd Diogelu Oedolion. Roedd angen dadansoddi achosion oedd yn destun llawer o bryder ond oedd heb fynd yn eu blaenau i erlyniad.
Cyfeiriwyd at y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a mynegwyd pryderon bod costau rhai o'i gofynion heb gael eu nodi'n llawn a fyddai'n rhoi straen pellach ar gyllidebau oedd yn lleihau. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymunedol fod y tuedd i ddeddfu ar yr un pryd â chwtogi cyllidebau yn heriol yn wir. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |