Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhian M Lloyd 01267 224470
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd D.M Jenkins, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau. |
||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd y datganiadau canlynol o fuddiant personol:-
Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwipiaid y pleidiau. |
||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: (1) Roedd y Cynghorydd B. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; (2) Gadawodd y Cynghorydd D. Price, y Cadeirydd, y cyfarfod cyn bod yr eitem hon yn cael ei hystyried a chyn penderfynu ar yr eitem hon gan ei fod wedi datgan buddiant rhagfarnol a phersonol ynddi'n gynharach.]
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran gweithredu Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin 2017-21. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor am y datblygiadau disgwyliedig ym maes polisi Llywodraeth Cymru.
Mae'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg presennol wedi cael ei ymestyn am flwyddyn, a bydd yn dod i ben ym mis Medi 2022 man hwyraf. Bydd y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg nesaf yn gynllun 10 mlynedd hyd at 2031. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhannu'r templed cynllunio a'r meini prawf gyda'r Awdurdodau Lleol. Mae hyn a datblygiadau ategol arfaethedig yn dangos y bydd rhai newidiadau nodedig sydd â goblygiadau penodol o ran gwneud penderfyniadau yn Sir Gaerfyrddin.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at yr hyfforddiant sabothol a mewnol a gofynnwyd am ddadansoddiad o faint o staff sy'n cael yr hyfforddiant ac ar ba lefel. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod Archwiliad o Sgiliau'r Iaith Gymraeg wedi'i gynnal yn ddiweddar ar gyfer yr holl staff. Roedd tua 758 o geisiadau wedi dod i law (ar 8.3.21) yn gofyn am gael cofrestru ar gyrsiau ieithyddol ar draws pob lefel gallu, gan nodi ar ba lefelau roeddent. Dywedodd Rheolwr Datblygu'r Gymraeg fod angen deall yr addysgeg yn y Cyfnod Sylfaen. Mae yna adnodd cyfannol sy’n edrych nid yn unig ar ddysgu iaith, ond hefyd ar addysgu a dysgu o fewn y Cyfnod Sylfaen yn ogystal â gyda rhieni. Bydd hyn yn cael i gynnig i ysgolion sy’n dymuno gweithio gyda ni wrth symud ar hyd y continwwm. Mae lefelau hyfedredd yn bwysig iawn ymhlith y staff addysgu. Hefyd mae staff yn dysgu ochr yn ochr â phlant bach iawn yn gallu bod yn gyfrwng pwerus mewn dysgu iaith. · Gofynnwyd i swyddogion faint o'r £30m fydd ar gael ar gyfer hyfforddiant – dywedodd y Cyfarwyddwr ein bod yn gymwys i wneud cais am y grant cyfalaf o £30m ond ei fod yn deall mai ar gyfer adeiladu'n unig ydyw ac nid hyfforddiant, ond bod trafodaethau'n digwydd gyda Llywodraeth Cymru ynghylch refeniw. · Dywedodd Rheolwr Datblygu'r Gymraeg fod yr archwiliad o sgiliau'r iaith Gymraeg yn rhoi 1 trosolwg ar y Gymraeg ac yn fan cychwyn da ar gyfer cynllunio strategol. · Esboniwyd pa gyrsiau oedd wedi'u cynnal a'u cwblhau gan athrawon yn ystod y cyfyngiadau symud ac ar ba lefel maent. Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fod adborth o'r cyrsiau wedi bod yn gadarnhaol iawn a bod Rheolwr Datblygu'r Gymraeg yn ymgynghori â'r ysgolion. · Mynegwyd pryder yngl?n â'r angen i fod yn gliriach ar yr iaith a ddefnyddir a nod yr ymgynghoriad cenedlaethol ar gategorïau. Dywedodd y Pennaeth ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
||||||||||
CYNNIG I AIL-LEOLI YSGOL HEOL GOFFA I SAFLE NEWYDD A CHYNYDDU EI GALLU O 75 I 120 (CAM 3) PDF 464 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad yn manylu ar gynnig i symud Ysgol Heol Goffa i safle newydd a chynyddu ei chapasiti o 75 i 120 (Cam 3) o fis Medi 2023. Yn unol â chyfarwyddiadau'r Bwrdd Gweithredol ar 18 Tachwedd, cafodd ymgynghoriad ffurfiol ei gynnal o 21 Medi 2020 hyd at 1 Tachwedd 2020. Cafodd canlyniadau'r ymarfer ymgynghori eu cynnwys mewn Adroddiad Ymgynghori ac fe'u cyflwynwyd i'r Pwyllgor Craffu ac yna i'r Bwrdd Gweithredol i'w hystyried a phenderfynu a ddylid cyhoeddi Hysbysiad Statudol ai peidio.
Ar 21 Rhagfyr 2020, roedd y Bwrdd Gweithredol wedi cymeradwyo cyhoeddi Hysbysiad Statudol a roddai i wrthwynebwyr 28 diwrnod i gyflwyno eu gwrthwynebiadau'n ysgrifenedig i'r Cyngor. Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law yn ystod y cyfnod hwnnw.
Pe bai'r Cyngor Sir yn cytuno i weithredu'r cynnig, byddai capasiti Ysgol Heol Goffa yn cynyddu o 75 i 120 wedi i'r ysgol symud i'w safle newydd o fis Medi 2023 ymlaen. Cafwyd y sylw canlynol ar yr adroddiad:-
· Gwnaed sylw a nodai, er bod hon yn ysgol arbennig ar wahân, y dylent gael y profiadau llawn fel plant prif ffrwd. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod polisi cynhwysol ar waith sy'n cael ei gefnogi yn ein hysgolion prif ffrwd yn ogystal ag Unedau Arbennig, a'i bod yn ffodus bod lleoliad newydd yr ysgol yn agos i Ysgol Penrhos ac y bydd gweithio'n digwydd ar gysylltiadau rhwng yr ysgolion hyn, ac, o bosibl, ysgolion uwchradd eraill yn Llanelli.
(1) derbyn yr adroddiad; (2) argymell i'r Bwrdd Gweithredol y dylid gweithredu'r cynnig i symud Ysgol Heol Goffa i safle newydd a chynyddu ei chapasiti o 75 i 120 o fis Medi 2023, fel y nodir yn yr Hysbysiad Statudol. |
||||||||||
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 120 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:-
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r wybodaeth. |
||||||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 205 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor restr o eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf a gynhelir ar 21 Ebrill 2021. Rhoddwyd cyfle hefyd i'r Pwyllgor awgrymu eitemau i'w trafod ar gyfer y Flaenraglen Waith am y cyfnod o 8 mis rhwng Mai a Rhagfyr, 2021. Ymhlith yr eitemau a awgrymwyd heddiw i'w trafod y mae:-
· Hunanwerthuso – edrych ar hyn am y 6 mis nesaf. · NEET – effaith bosibl colli arian Ewropeaidd · Strwythur yr Adran · Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg - cymryd rhan yn y broses gorfforaethol o ran y cynllun newydd · Llesiant ac Iechyd Meddwl / COVID - cadw llygad ar hyn wrth i ysgolion ddychwelyd yn amser llawn. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn bod angen edrych ar neilltuo rhagor o adnoddau i Iechyd Meddwl yn gyffredinol, ac er mwyn gwella ein sefyllfa fel Pwyllgor yn y dyfodol mae'n bosibl y bydd angen y data diweddaraf. · Rhaglen Moderneiddio Addysg - sut ydym yn ei chyllido? · Ymgynghori ynghylch Newidiadau i Ysgolion – edrych ar sut mae'r Cyngor yn rhannu'r neges / ymgynghoriad ynghylch amcanion strategol gydag ysgolion ar draws y sir, o ran cau ysgol, newid yr iaith ddysgu ac ati.
Bydd y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd yn cyfarfod â'r Cyfarwyddwr i roi sylw i rai o'r syniadau a awgrymwyd cyn cyflwyno'n ôl i'r Pwyllgor i'w mabwysiadu'n derfynol
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r wybodaeth. |
||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR IONAWR 28AIN, 2021 PDF 365 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Tynnwyd sylw at dud.38 (Eitem 4 ar yr Agenda) ynghylch codiad cyflog, a ddylai ddarllen "byddai cost lawn hyn yn cael ei thalu gan yr Awdurdod Lleol”.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2021 yn gofnod cywir. |