Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Iau, 7fed Medi, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 9FED O FEHEFIN 2023 pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2023 gan eu bod yn gywir.

4.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD 2022/23 pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad i'w ystyried a oedd yn amlinellu gwaith y Pwyllgor yn ystod blwyddyn y cyngor 2022/23.  Roedd yr adroddiad yn manylu ar y materion allweddol a ystyriwyd, ynghyd â'r canlyniadau cysylltiedig mewn perthynas â rôl a swyddogaeth y Pwyllgor, rhaglen ymsefydlu aelodau, polisi cyfarfod aml-leoliad, arolwg amserau cyfarfodydd a blaenraglen waith y Pwyllgor. Amlygodd yr adroddiad, er bod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd wedi cyfarfod unwaith yn unig, fod aelodau'r Pwyllgor wedi cyfarfod yn anffurfiol yn ystod y cyfnod adrodd i weld a chyfrannu at borth aelodau diwygiedig wedi'i ddiweddaru ar gyfer ymholiadau aelodau etholedig, gydag adborth yr aelodau yn ffurfio'r adroddiad terfynol yn cael ei roi gerbron y Pwyllgor ym mis Mehefin 2023. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn a'i fod ar gael i aelodau’r Cyngor er gwybodaeth.

5.

SWYDDOGAETH GRAFFU CYNGOR SIR CAERFYRDDIN - ADRODDIAD BLYNYDDOL 2022/23 pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol 2022/23 Cyngor Sir Caerfyrddin ynghylch ei Swyddogaeth Graffu a oedd yn rhoi trosolwg o Swyddogaeth Graffu'r Cyngor ac yn cyfeirio'n benodol at y gwaith yr oedd y pum Pwyllgor Craffu wedi ymgymryd ag ef:

 

·            Adnoddau a Pherfformiad Corfforaethol

·            Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio

·            Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg

·            Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd

·            Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at rôl allweddol y pwyllgorau craffu o ran hyrwyddo atebolrwydd ym mhroses gwneud penderfyniadau awdurdodau lleol, roedd yn adnodd gwerthfawr o ran sicrhau bod polisïau'r cyngor yn adlewyrchu'r blaenoriaethau presennol, yn ogystal â hyrwyddo effeithlonrwydd ac annog gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau allanol.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu fod y Pwyllgor Craffu wedi cael ei ddiweddaru gan y Cyngor yn dilyn etholiadau Mai 2022 lle daeth pob Pwyllgor Craffu yn gyfrifol am drosolwg a chraffu ar Bortffolios Cabinet penodol a'u priod wasanaethau. 

 

Ar ben hynny, er mwyn i'r Pwyllgorau Craffu gymryd mwy o berchnogaeth o'u rhaglenni gwaith eu hunain, cyflwynwyd dull craffu cyn penderfynu yn ystod blwyddyn y cyngor a alluogodd i Bwyllgorau Craffu fod yn rhagweithiol wrth ryngweithio â Blaengynllun Gwaith y Cabinet, a chraffu ar faterion perthnasol o'r dechrau.

 

Cyfeiriwyd hefyd at adolygiad Archwilio Cymru o drefniadau trosolwg a chraffu'r Cyngor a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2022 a oedd wedi argymell rhoi prosesau ar waith i alluogi asesu effeithiolrwydd ac effaith trosolwg a chraffu.  Yn unol â hynny, roedd y Cyngor yn symud tuag at ddull sy'n canolbwyntio mwy ar ganlyniadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.