Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhian Lloyd
Nodyn: column ‘Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. For English Translation during the meeting please telephone 0330 336 4321 Pin 90769187#
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 2AIL RHAGFYR 2019 PDF 315 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr, 2019 gan eu bod yn gywir. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad blynyddol drafft ar gyfer mis Chwefror, 2021. Atgoffwyd y Pwyllgor fod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn pennu'r cyfraddau talu a delir i Aelodau etholedig a chyfetholedig awdurdodau lleol Cymru ar gyfer blwyddyn nesaf y cyngor a bod ganddo bwerau i wneud argymhellion ynghylch amrywiadau arfaethedig i gydnabyddiaeth ariannol Prif Weithredwyr a Phrif Swyddogion Prif Gynghorau Cymru.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, ar gyfer 2020/21, fod penderfyniadau drafft y Panel yn cynnig - · cynnydd o £150 mewn Cyflogau Sylfaenol, gan gynyddu cyflog sylfaenol Cynghorwyr i £14,368 (ni thelir unrhyw gynnydd ychwanegol i ddeiliaid uwch-gyflogau a chyflogau dinesig, dim ond cynnydd o ran yr elfen cyflog sylfaenol y byddant yn ei gael). · mae'r Panel wedi gwneud newid sylweddol o ran y penderfyniad ynghylch Ad-dalu Costau Gofal. Mae'n cynnwys dileu'r cap misol o £403 ac mae'n caniatáu i Gynghorwyr a/neu Aelodau Cyfetholedig gael ad-daliad llawn am eu costau gofal ar gyfer gofalwyr ffurfiol a hyd at uchafswm cyfradd sy'n cyfateb i'r Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer gofalwyr anffurfiol. Bydd y penderfyniad hwn yn rhoi baich ariannol ychwanegol ar y Cyngor; fodd bynnag, o ystyried niferoedd yr hawlwyr yn y gorffennol, rhagwelir y bydd hyn yn cael ei reoli o fewn y gyllideb ddemocrataidd bresennol.
Mynegwyd pryder ynghylch y dreth a delir ar y lwfans hwn. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y byddai'n ceisio eglurder gan y gyflogres.
Mae'n ofynnol i bob Prif Awdurdod yng Nghymru dalu'r cyflog a bennir gan y Panel o 1 Ebrill, 2021, a hynny i bob un o'i aelodau etholedig, oni bai bod unrhyw aelod unigol yn dewis yn bersonol ac yn ysgrifenedig i gael swm is.
Bydd penderfyniadau drafft y Panel ar gyfer 2021/22 yn arwain at ofyniad cyllideb ychwanegol o £11,100. Caiff hyn ei ddilysu wrth bennu'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod. Nodwyd bod camgymeriad yn Atodiad 5 i adroddiad y Panel o ran lefel y cyflog sylfaenol a byddai hwn yn cael ei ddwyn i sylw'r Panel fel rhan o ymateb y Pwyllgor i'r adroddiad drafft.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
4.1 bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.
4.2 bod Cadeirydd y Pwyllgor yn cyflwyno ymateb i'r Panel ar ran y Pwyllgor. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Mae Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013 (y rheoliadau) yn llywio absenoldeb mabwysiadu (ffurf yr absenoldeb a gymerir gan unigolyn sy'n mabwysiadu plentyn). Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig diwygio Rheoliadau 2013 er mwyn ymestyn y cyfnod o absenoldeb mabwysiadu ar gyfer aelodau cynghorau o bythefnos i 26 wythnos a, hyd y bo'n ymarferol, cysoni gweithdrefnau sy'n ymwneud ag absenoldeb mabwysiadu.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddogfen ymgynghori ar newidiadau i absenoldeb mabwysiadu i Awdurdodau Lleol gynnig newidiadau i absenoldeb mabwysiadu ar gyfer aelodau awdurdodau lleol, sef o bythefnos i 26 wythnos a mynegodd gefnogaeth i'r cynigion. Nodwyd bod yr adroddiad wedi'i ddosbarthu i holl Aelodau'r Cyngor er mwyn iddynt ymateb yn uniongyrchol i'r ymgynghoriad.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y byddai'n llunio ymateb draffti'r pwyllgor ei ystyried.
PENDERFYNODD YNUNFRYDOL fod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn ymateb ar ran y Pwyllgor. |
|
SWYDDOGAETH Y GWASANAETH DEMOCRATAIDD PDF 230 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor ddynodi un o'i swyddogion i swydd statudol Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a darparu digon o adnoddau i'r swyddog hwnnw gyflawni'r swyddogaethau statudol cysylltiedig.
Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn manylu ar y staff, y swyddfeydd a'r adnoddau eraill a oedd ar gael i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd er mwyn cyflawni'r swyddogaethau hynny.
Gofynnwyd i'r Pwyllgor benderfynu a oedd y gwasanaethau a ddarperir yn ddigonol i gyflawni'r broses ddemocrataidd ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ei bod wedi bod yn flwyddyn heriol a bod Aelodau a swyddogion wedi addasu'n dda i'r heriau a wynebwyd a'r ffyrdd newydd o weithio; a oedd yn cynnwys dod i arfer â meddalwedd fideogynadledda newydd a gweithio'n rhithwir a thynnodd sylw at y gwaith gwych sydd wedi'i wneud. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, er bod y trefniadau gweithio newydd wedi bod yn heriol, fod y tîm yn addasu'n dda o dan yr amgylchiadau. Roedd trefniadau bellach yn cael eu rhoi ar waith i symud o Microsoft Teams i Zoom ar gyfer pob cyfarfod yn hytrach na chymysgedd o'r ddau, gan fod hyn yn ateb gwell o ran cyfieithu ar y pryd. Cyfrannodd yr Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu Corfforaethol drwy ddweud bod hyfforddiant ar-lein wedi'i ddarparu i Aelodau, ac yn parhau i gael ei ddarparu, ar ddefnyddio Zoom sydd ar gael iddynt fwy nag unwaith gan ganiatáu iddynt fagu hyder mewn sgiliau digidol a bod arolwg wedi'i gynnal ychydig fisoedd cyn hyn fel rhan o TIC i gael ymatebion/adborth gan ddefnyddwyr; bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rhannu yn y cyfarfod nesaf. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |