Lleoliad: Ystafell Y Cadeirydd, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Jenkins 01267 224088
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.Curry a D. Thomas.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw Fuddiannau Personol.
|
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 30AIN GORFFENNAF 2019 PDF 203 KB Cofnodion: Nodwyd gan yr Aelodau fod Gweithdy'r 21ain Ganrif wedi cael ei ganslo oherwydd bod cyn lleied o'r Aelodau wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad. Roedd y Gweithdy i fod cael ei gynnal ar 26 Medi.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2019 yn gofnod cywir.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffwyd y Pwyllgor fod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) bob blwyddyn yn pennu'r cyfraddau talu a delir i aelodau etholedig a chyfetholedig awdurdodau lleol Cymru ar gyfer blwyddyn nesaf y cyngor a bod ganddo bwerau i wneud argymhellion ynghylch amrywiadau arfaethedig i gydnabyddiaeth ariannol Prif Weithredwyr a Phrif Swyddogion Prif Gynghorau Cymru.
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i benderfyniadau drafft y Panel ar gyfer 2020 a dywedwyd wrtho fod y Panel yn gwahodd sylwadau ar yr adroddiad drafft erbyn 10 Rhagfyr 2019.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, ar gyfer 2020/21, fod y Panel yn argymell: -
· dim cynnydd ychwanegol i ddeiliaid uwch-gyflogau a chyflogau dinesig.
Gwnaed sylwadau mewn cyfarfod rhanbarthol gyda'r IRPW ar 22 Hydref o blaid cadw'r dyddiad gweithredu ar gyfer lefelau cyflog 2020/21 o ddechrau blwyddyn y Cyngor 2020/21 ac nid 1af Ebrill 2020. Yn ogystal, fe amlinellodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y sylwadau a wnaed i'r IRPW mewn perthynas â lefel y gydnabyddiaeth gan brif Gynghorau sy'n gofyn am benderfyniad gan y Cyngor llawn. Un o'r penderfyniadau oedd y nifer mwyaf o ddiwrnodau y gellid talu Aelodau Cyfetholedig mewn blwyddyn. Fel rhan o'r cyfnod ymgynghori, mae Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd wedi awgrymu y byddai'n ddefnyddiol pe bai'r opsiwn hwn yn cael ei ailystyried.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL :
4.1 fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn 4.2 caniatáu i'r Cadeirydd gyflwyno ymateb ar ran y Pwyllgor i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
|
|
SWYDDOGAETH GRAFFU CYNGOR SIR CAERFYRDDIN ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19 PDF 402 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn absenoldeb Cadeirydd Fforwm Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu, darparodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd drosolwg o'r Adroddiad Blynyddol a oedd yn amlinellu Swyddogaeth Graffu'r Cyngor ac yn cyfeirio'n benodol at waith y 5 Pwyllgor Craffu. ·Polisi ac Adnoddau ·Cymunedau ·Addysg a Phlant ·Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ·Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad a'i ddosbarthu i holl aelodau’r Cyngor
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD 2018-19 PDF 213 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i bob Prif Gyngor sefydlu Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd. Mae'r adroddiad sy'n cael ei adolygu yn amlinellu gwaith y Pwyllgor yn ystod blwyddyn y Cyngor 2018/19.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad a'i ddosbarthu i holl aelodau’r Cyngor
|
|
SWYDDOGAETH Y GWASANAETH DEMOCRATAIDD PDF 233 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn ystyried materion sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau cymorth a ddarparwyd iddynt yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Roedd yr adroddiad yn amlinellu ei fod yn ofynnol i'r pwyllgor ystyried y wybodaeth a oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad a phenderfynu a oedd y ddarpariaeth o ran staff, llety ac adnoddau eraill oedd ar gael i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn ddigon i weithredu'r Broses Ddemocrataidd ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Yn ystod y drafodaeth hon, nododd y Cadeirydd fod diffyg cyfleusterau yn Neuadd y Sir i Aelodau unigol weithio ac i gynnal cyfarfodydd gr?p. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod cynigion wedi cael eu rhoi ar waith i ddarparu ystafelloedd cyfarfod a chyfleusterau ychwanegol fel rhan o waith datblygu Neuadd y Sir.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOLdderbyn yr adroddiad
|
|
TREULIAU CYNGHORWYR - HUNANWASANAETH PDF 401 KB Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn amlinellu'r newid i system dreuliau hunanwasanaeth i Gynghorwyr, a nododd fod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd wedi cael gwybod gan yr Is-adran TG y byddai’r gronfa ddata dreuliau bresennol yn dod i ben erbyn 31 Mawrth 2020 oherwydd risgiau diogelwch a chydymffurfiaeth. O ganlyniad, byddai angen i'r Awdurdod ddod o hyd i system arall i brosesu treuliau, ac felly mae'n angenrheidiol bod yr holl aelodau'n symud i'r modiwl hunanwasanaeth o 31 Mawrth 2020 ymlaen.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOLdderbyn yr adroddiad
|
|
BLAENRHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD 20/21 PDF 392 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Blaenraglen Waith awgrymedig ar gyfer blwyddyn y cyngor 2020/21
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu Blaenraglen Waith 2020/21 Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.
|