Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd A. James a'r Cynghorydd H.A.L. Evans, Yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd.
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Karen Davies i'r Pwyllgor.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol. Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
YMDRIN Â DIGWYDDIADAU YN YMWNEUD Â PHLÂU - GWASANAETH DIOGELU'R AMGYLCHEDD PDF 131 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mehefin, 2018, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i awgrym gan Gyngor Tref Llanelli o ran Pwnc Trafod i'r Pwyllgor Craffu (gweler Cofnod 11) lle derbyniodd y Pwyllgor yr awgrym a gofynnodd am gyflwyno adroddiad yn ei gyfarfod nesaf.
Yn unol â'r argymhelliad hwnnw, daeth adroddiad i law'r Pwyllgor ynghylch delio â digwyddiadau'n ymwneud â phlâu a oedd yn amlinellu sut y mae'r Cyngor yn rheoli digwyddiadau'n ymwneud â phlâu ac yn cadarnhau'r rhwymedigaethau cyfreithiol. Nododd y Pwyllgor fod yr adroddiad wedi'i baratoi yng nghyd-destun y digwyddiad yn ymwneud â chlêr yn Ne Llanelli ym mis Mai/Mehefin 2018.
Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y ffaith fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn y broses o gynnal ymchwiliad mewn perthynas â'r digwyddiad diweddar yn ymwneud â chlêr ac felly nad oedd yn briodol i gynrychiolydd fod yn bresennol yn y cyfarfod hwn.
Codwyd yr ymholiadau canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch toriadau adrannol, rhoddodd Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel wybod i'r Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi stopio'r gwasanaeth triniaeth rheoli plâu yn 2010 er mwyn cefnogi arbedion effeithlonrwydd ar y pryd. Fodd bynnag, mae achos busnes yn cael ei ystyried ar hyn o bryd er mwyn canfod a yw'n hyfyw darparu'r gwasanaeth hwn yn y dyfodol.
· Gofynnwyd a oedd Cynllun Rheoli Plâu ar waith yn y safle? Dywedodd Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod y mater hwn yn cael ei ystyried fel rhan o ymchwiliad parhaus gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mewn ymateb i ymholiad pellach, cadarnhaodd y byddai Cynllun Rheoli Plâu yn cael ei ddatblygu gan y gweithredwyr ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru er mwyn symud ymlaen.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad ynghylch Delio â Digwyddiadau yn ymwneud â Phlâu - Gwasanaeth Diogelu'r Amgylchedd.
|
|
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19 PDF 149 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Cyllideb Cyfalaf a Refeniw dyddiedig 30 Mehefin mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2018/19. Roedd yr adroddiad yn rhoi i'r aelodau wybodaeth am fonitro'r gyllideb ar gyfer Gwasanaeth yr Amgylchedd, Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd, a'r Gwasanaeth Diogelwch Cymunedol ac roedd yn rhoi ystyriaeth i'r sefyllfa gyllidebol.
I grynhoi, roedd y gyllideb refeniw ar gyfer y gwasanaethau o fewn maes gorchwyl Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd yn rhagweld gorwariant o £307k.
Roedd y prif amrywiannau ar gynlluniau cyfalaf yn dangos gwariant net rhagweladwy o £16,589k o gymharu â chyllideb net weithredol o £16,565k gan roi amrywiant o £24k.
Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-
· Mewn ymateb i nifer o bryderon a godwyd mewn perthynas â swyddi gwag, cadarnhaodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod swyddi'r Arolygydd Gwaith Stryd a'r Technegydd wedi'u llenwi'n ddiweddar. Esboniodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, petai angen, y byddai swyddi gwag yn cael eu llenwi dros dro gan staff asiantaethau ac yn sgil hyn y byddai amrywiannau drwy gydol y flwyddyn. Cynigiodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd anfon gwybodaeth ynghylch tueddiadau mewn perthynas â swyddi gwag i'r Pwyllgor er gwybodaeth.
· Cyfeiriwyd at Atodiad D, mewn perthynas â'r prosiectau parhaus, mynegwyd pryder nad oedd y ddarpariaeth o ran mannau chwarae wedi'i hystyried. Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod y prosiectau a restrir yn Atodiad D yn brosiectau hwyluso a galluogi ac y rhagwelid y byddai darpariaethau cymunedol o'r fath yn cael eu cynnwys drwy gyfraniadau adran 106 na fyddai ar gael tan i'r prosiect gyrraedd y trothwy angenrheidiol.
·
Gofynnwyd am eglurhad
ynghylch argaeledd cyfraniadau adran 106 y tu allan i dai
fforddiadwy. Eglurodd Cyfarwyddwr yr
Amgylchedd y gellid defnyddio cyfraniadau adran 106 hefyd ar gyfer
mannau agored, meysydd chwarae ac ati er mwyn lliniaru yn erbyn
effaith y datblygiad ar gyfleusterau lleol. · Mewn ymateb i ymholiad pellach ynghylch cyfraniadau adran 106, dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y byddai pob datblygwr yn negodi swm y cyfraniadau adran 106 ar wahanol lefelau. Cynigiodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ddarparu crynodeb o'r cyfraniadau ar gyfer pob datblygiad i Aelodau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
ADOLYGIAD O'R POLISI HAPCHWARAE PDF 163 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch adolygiad o'r Polisi Hapchwarae a oedd yn cynnwys Dogfen Ymgynghorol 2018 a'r Polisi Hapchwarae diwygiedig - Deddf Hapchwarae 2005.
Nododd yr Aelodau fod y Polisi Hapchwarae cyfredol wedi cael ei fabwysiadu gan yr Awdurdod ym mis Chwefror 2016 a'i fod wedi dod i rym ar 11 Mawrth, 2016. Roedd yn ofynnol, yn ôl y ddeddfwriaeth, i'r Polisi Hapchwarae gael ei adolygu o leiaf bob tair blynedd er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu adborth gan y gymuned leol fod yr amcanion statudol yn cael eu cyflawni.
Roedd y Polisi Hapchwarae yn adlewyrchu canlyniadau'r ymgynghoriad a'r broses adolygu ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth a chyfarwyddyd perthnasol.
Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-
· Gan gadw mewn cof Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, awgrymwyd cynnwys y genhedlaeth ifancach er enghraifft Fforwm Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn ogystal â Phanel Dinasyddion Caerfyrddin a'r Fforwm 50+ mewn ymgynghoriadau yn y dyfodol. Cytunodd y Swyddog Trwyddedu a nododd yr awgrym.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL fod y Polisi Hapchwarae diwygiedig yn cael ei gymeradwyo.
|
|
ADOLYGIAD POLISI TRWYDDEDU PDF 138 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch Adolygiad o'r Polisi Trwyddedu a oedd yn cynnwys Dogfen Ymgynghorol Arolwg Polisi 2018 a'r Datganiad Polisi Trwyddedu diwygiedig.
Nododd y Pwyllgor pan oedd y Polisi Trwyddedu presennol wedi cael ei fabwysiadu ym mis Chwefror 2016, penderfynwyd cynnal ymgynghoriad pellach ynghylch y posibilrwydd o fabwysiadu Polisi Effaith Gronnol ar gyfer Heol Awst, Caerfyrddin. Ym mis Ebrill 2018, diwygiwyd y ddeddfwriaeth er mwyn cyfeirio at Asesiadau Effaith Gronnol yn hytrach na Pholisïau Effaith Gronnol.
Cynhaliwyd yr ymarfer ymgynghori rhwng 3 Ebrill a 1 Mehefin 2018 yn benodol ar gyfer awdurdodau cyfrifol, preswylwyr lleol, busnesau, deiliaid trwydded presennol a'u cynrychiolwyr gan gyrraedd 1000 o unigolion a sefydliadau.
Cynhaliwyd yr arolwg gan ddefnyddio cyfleuster ymgynghori ar wefan y Cyngor a oedd yn galluogi cysylltu â'r rhan fwyaf o ymgyngoreion drwy e-bost, ac felly yn lleihau'r gost.
Nododd y Pwyllgor fod y ddogfen polisi trwyddedu ddiwygiedig a oedd yn amgaeedig wrth yr adroddiad, yn adlewyrchu canlyniadau'r ymgynghoriad a'r broses adolygu. O ganlyniad i'r ymarfer ymgynghori, y prif fater a godwyd oedd y darparwyd digon o dystiolaeth i gyfiawnhau mabwysiadu Asesiad Effaith Gronnol mewn perthynas â Heol Awst, Caerfyrddin. Roedd y cynllun dirprwyo wedi'i ddiwygio i adlewyrchu arferion da a newidiadau i'r ddeddfwriaeth.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL fod y Polisi Trwyddedu diwygiedig yn cael ei gymeradwyo.
|
|
ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD - CWARTER 1 - 1AF EBRILL I'R 30AIN O FEHEFIN 2018 PDF 149 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad Monitro Perfformiad a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed gogyfer â'r camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol Newydd ar gyfer 2018-2023 i ddarparu'r Amcanion Llesiant ar gyfer 2018/19 a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor, dyddiedig 30 Mehefin, 2018.
Nododd y Pwyllgor o'r 62 cam gweithredu, roedd 52 yn unol â'r targed a 4 heb fod yn unol â'r targed. Nid oedd angen adrodd eto ar y 9 cam gweithredu a oedd yn weddill, yn unol â dyddiad dechrau'r cam gweithredu.
Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-
·
O ran adolygu
cyfraddau cyfranogiad presennol ar gyfer ailgylchu gwastraff y
cartref er mwyn sicrhau bod cymaint â phosibl o wastraff yn
cael ei ddargyfeirio, gofynnwyd a oedd gwasanaeth casglu pwrpasol
ar gyfer cewynnau brwnt a gwasanaeth llosgi dilynol yn
bosibilrwydd, tebyg i'r gwasanaeth llosgi gwastraff
clinigol. Nododd Pennaeth y
Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff er bod casgliad pwrpasol ar
gyfer cewynnau yn bosibilrwydd ar gyfer y rheiny a fyddai'n gymwys,
byddai'n ddatrysiad costus. Ar hyn o bryd, roedd cewynnau yn cael
eu casglu yn ein bagiau du ac yn cael eu llosgi er mwyn osgoi
tirlenwi, fel rhan o'r broses trin gwastraff bagiau
duon. Amlygodd y gellid ystyried
dulliau eraill yn y dyfodol pan fyddwn yn adolygu ein gwasanaeth
casglu gwastraff y tro nesaf. ·
Gwnaed sylw mewn
perthynas â'r sbwriel sy'n deillio o fwyd cyflym a oedd yn
effeithio ar ffordd ddeuol yr A48 yn arwain i Cross Hands a hefyd
ar hyd yr A483 yn arwain i D?-croes a allai fod yn sgil y llefydd
bwyd yng ngwasanaethau Pont Abraham. O ran gweithio gyda
rhanddeiliaid lleol i beilota trefniadau rheoli sbwriel, gofynnwyd
a oedd unrhyw beth y gallai'r Cyngor ei wneud. Dywedodd Pennaeth y
Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y byddai'n trefnu i'r Swyddog
Ansawdd yr Amgylchedd Lleol ymgysylltu â rheolwyr y
cyfleuster i dynnu sylw at y broblem.
·
Mewn ymateb i ymholiad,
cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff i'r
gweithgaredd cnocio ar ddrysau gael ei gynnal drwy gydol cyfnod yr
haf er mwyn targedu ardaloedd lle'r oedd problem.
·
Gofynnwyd am ddiweddariad ar
lafar mewn perthynas â'r camau gweithredu - 'byddwn yn
gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu seilwaith priffyrdd y
Sir er mwyn gwella ansawdd yr aer, yn enwedig yn
Llandeilo'. Dywedodd y Pennaeth
Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar
Ganllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) a oedd yn fframwaith
ar gyfer newidiadau arfaethedig i'r system drafnidiaeth ac yn cael
eu defnyddio i ddatblygu ac i arfarnu cynigion trafnidiaeth a oedd
yn cael eu hyrwyddo a'u hariannu gan Lywodraeth Cymru. Yn ogystal, roedd y gwaith paratoadol wedi cychwyn
ac ar ôl ei gwblhau, darperir diweddariad i
aelodau. · Cyfeiriwyd at y cam gweithredu mewn perthynas â datblygu llwybrau teithio llesol ar gyfer aneddiadau allweddol. Rhoddodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd wybod i'r Aelodau fod y cam gweithredu hwn yn bennaf gysylltiedig â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a oedd yn rhoi gofyniad statudol ar Awdurdodau Lleol i glustnodi ac ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CWYNION A CHANMOLIAETH 2017/18 PDF 102 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r
Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Cyngor ynghylch Cwynion
a Chanmoliaeth ar gyfer y cyfnod 2017/18 gan dalu sylw penodol i
Adrannau 9.4 a 9.6 a oedd yn berthnasol i'w faes
gorchwyl. Nodwyd
bod yr adroddiad yn manylu ar y canlynol:- · nifer y cwynion yr ymchwiliwyd ac ymatebwyd iddynt rhwng Ebrill 2017 a Mawrth 2018 fesul adran, · ystadegau o ran y negeseuon a gafwyd gan y Tîm Cwynion, ac a ailgyfeiriwyd. Roedd y rheiny'n ymwneud ag ymholiadau a cheisiadau am gymorth a oedd, unwaith y cyflwynwyd, yn cynnig y cyfle i geisio datrys anawsterau cyn i gwynion gael eu cyflwyno, · cwynion ynghylch unrhyw faterion o ran cydraddoldeb neu'r iaith Gymraeg, · cwynion yr oedd yr Ombwdsmon yn penderfynu arnynt, · dadansoddiad o gwynion a chanmoliaeth fesul adran.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cofnodi ymholiadau Cynghorwyr, amlygodd y Swyddog Gwybodaeth a Diogelu Data y byddai Ffurflenni Ymholiadau Cynghorwyr a gesglir gan yr Uned Gwasanaethau Democrataidd yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau Cwynion a Chanmoliaeth yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Cwynion a Chanmoliaeth ar gyfer 2017/18.
|
|
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 66 KB Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor restr o adroddiadau craffu na chyflwynwyd a nodwyd yr esboniadau a'r dyddiadau cyflwyno diwygiedig.
Yn sgil camgymeriad gweinyddol, amlygodd y Cadeirydd fod yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Cwynion a Chanmoliaeth ar gyfer 2017/18 wedi'i gynnwys yn yr adroddiad hwn fel heb ei gyflwyno ond cafodd ei ystyried yn y cyfarfod heddiw.
|
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 118 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor yr eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf a oedd wedi cael ei drefnu ar gyfer 16 Tachwedd 2018.
Yn atodedig i'r adroddiad oedd Blaenraglen Waith ddiwygiedig y Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ar gyfer 2018/19 ynghyd â Blaenraglen Waith y Bwrdd Gweithredol ar gyfer 2018/19/20 dyddiedig 30 Gorffennaf 2018.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
11.1 derbyn y rhestr o eitemau ar gyfer y
dyfodol; 11.2 derbyn Blaenraglen Waith ddiwygiedig y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ar gyfer 2018/19;
11.3 nodi Blaenraglen Waith
ddiwygiedig y Bwrdd Gweithredol ar gyfer 2018/19/20 dyddiedig 30
Gorffennaf 2018.
|
|
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALWYD AR Y 29 MEHEFIN 2018 PDF 298 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 29 Mehefin, 2018 gan eu bod yn gywir.
|