Lleoliad: Siambr, 3 Heol Spilman
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies, W.G. Thomas a D.C. Evans. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau am chwip waharddedig.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: The Chair advised that no public questions had been received.
|
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 42 KB Cofnodion: Ar ôl i gwestiwn gael ei godi yngl?n â chais y Pwyllgor am seminar ar Ddynladdiad Corfforaethol, dywedodd y Cadeirydd y byddai’r seminar, yn dilyn penderfyniad a wnaed gan y Bwrdd Gweithredol, yn cael ei ddarparu i holl aelodau’r Cyngor a’i fod ers hynny wedi cael ei gynnwys yn Rhaglen Sefydlu’r cyfnod ar ôl etholiadau mis Mai 2017.
|
|
GORFODI MATERION AMGYLCHEDDOL DIWEDDARIAD PDF 166 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y Diweddariad Materion Amgylcheddol a roddai ddiweddariad ar faterion gorfodi yn cynnwys Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus, Rhybuddion Diogelu Cymunedol, mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon a materion gorfodi eraill.
Nododd y Pwyllgor fod Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 wedi cyflwyno sawl arf a ph?er newydd i’w defnyddio gan awdurdodau lleol a phartneriaid i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu hardaloedd lleol. Roedd hyn yn cynnwys y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus a ddaeth i rym ar y 1af Medi 2015 gan roi’r awdurdod i gynghorau i ddrafftio a gweithredu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn ymateb i’r materion penodol sy’n effeithio ar eu cymunedau, cyhyd â bod rhai meini prawf yn cael eu bodloni. Roedd hyn yn cynnwys y p?er i roi tocynnau cosb benodedig i bobl sy’n gadael i’w c?n faeddu mewn unrhyw le yn Sir Gâr y mae gan y cyhoedd fynediad iddo. Roedd hefyd yn cynnwys pwerau eraill fel gofyn i bobl roi eu ci ar dennyn a gwahardd c?n o fannau chwarae amgaeedig i blant.
Codwyd y materion canlynol mewn perthynas â’r adroddiad:
Mewn ymateb i gwestiynau yngl?n â thipio anghyfreithlon cyson mewn rhai ardaloedd gwledig, dywedodd y Rheolwr Gorfodaeth Amgylcheddol fod cael tystion sy’n barod i ddod i’r llys yn her. Fodd bynnag, pe bai teledu cylch cyfyng ar gael, byddai’n llai anodd cael y dystiolaeth..
Gofynnwyd a oedd Swyddogion Gorfodi yn cael mynd at bobl sy’n cerdded c?n i ofyn a ydynt yn cario bag gwastraff ci. Er ei bod yn drosedd peidio â chario bag gwastraff ci wrth gerdded ci yn ardaloedd rhai awdurdodau leol, eglurodd y Rheolwr Gorfodaeth Amgylcheddol fod sialensiau cyfreithlon yngl?n â hyn ac na fyddai Sir Gâr yn mabwysiadu’r drefn hon ar hyn o bryd.
Mewn ymateb i gwestiwn, eglurodd y Rheolwr Gorfodaeth Amgylcheddol fod wyth Swyddog Gorfodi wedi cael hyfforddiant ar hyn o bryd i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon a throseddau amgylcheddol eraill. Caiff y gwaith hwn ei gynorthwyo gan wybodaeth swyddogion a gwybodaeth sy’n dod i law oddi wrth Gynghorwyr a’r cyhoedd.
Tra oeddid yn cydnabod bod nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon wedi gostwng yn sylweddol mewn rhai ardaloedd gwledig, mynegwyd pryderon yngl?n â’r trefniadau gwaith newydd oherwydd y teimlad fod y trefniadau blaenorol wedi bod yn gweithio’n effeithiol. Pe bai’r adolygiad yn dangos nad yw’r trefniadau newydd yn gweithio mor effeithiol ag y bwriadwyd, dywedwyd y byddai’r Aelodau’n hapus i’r trefniadau blaenorol gael eu hail sefydlu. Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod barn Cynghorwyr yn bwysig ac y byddai’n rhan allweddol o’r adolygiad.
Yn dilyn cwestiwn, eglurodd y Rheolwr Gorfodaeth Amgylcheddol y byddai’n ofynnol yn ôl y trefniadau gwaith newydd fod dau Swyddog Gorfodi yn gweithredu’n strategol ym mhob cornel o’r Sir.
Gofynnwyd beth oedd yn cael ei wneud i rwystro pobl rhag gadael i’w c?n grwydro’n rhydd heb dennyn ar gaeau chwarae ysgolion, gan fod hyn yn achosi problemau mewn llawer o ardaloedd. Dywedodd y Rheolwr Gorfodaeth ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
ADOLYGU'R PROSIECT NEWID I OLEUADAU LED PDF 132 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar yr adolygiad o’r Prosiect Newid i Oleuadau LED a roddai ddiweddariad i’r Aelodau ar y cynnydd hyd yma. Nodwyd bod yr Awdurdod wedi parhau i weithredu rhaglen i droi lanternau sodiwm yn rhai LED, fel a gymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol ar 27ain Gorffennaf 2015. Datblygwyd y rhaglen er mwyn gwireddu arbedion effeithlonrwydd wedi’u targedu o £627k. Hefyd, nodai’r adroddiad i’r Bwrdd Gweithredol y ceid £401k o arbedion refeniw drwy newid i LED ac y gwireddid £227k arall drwy gostau cynnal a chadw, llafur ac offer is.
Sicrhawyd yr arian ar gyfer y rhaglen drwy Fenthyciad Buddsoddi i Arbed £1.4m gyda’r gweddill yn dod o arian wrth gefn. Nododd y Pwyllgor fod y rhaglen wedi’i threfnu’n dair rhan, a manylwyd ar bob cam yn yr adroddiad ynghyd â’r cynnydd ar bob cam. Dangosai’r diweddariad cynnydd fod arbedion o £309k wedi’u gwireddu drwy newidiadau gweithredol ym meysydd cynnal a chadw, cerbydau, ynni a llafur, gydag arbedion llawn o £454k wedi’u gwireddu erbyn diwedd Cam 1.
Nododd Aelodau’r Pwyllgor fod yr Awdurdod, o safbwynt buddsoddi cyfalaf, wedi tynnu i lawr £950k o fenthyciad buddsoddi i arbed £1.4m a bod cynlluniau i dynnu gwerth llawn y benthyciad i lawr erbyn diwedd Cam 3. Dywedwyd bod y prosiect wedi llwyddo hyd yma i wireddu’r arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd a, gan fod y rhaglen yn agored i risg yn arbennig o safbwynt costau ynni, byddid yn cynnal adolygiad pellach pan fyddai Cam 2 bron â chael ei gwblhau.
Codwyd y materion canlynol mewn perthynas â’r adroddiad
Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod rhaid tendro am gyflenwr allanol i ymgymryd â’r gwaith er mwyn cynhyrchu arbedion yn unol â’r rhaglen.
Gofynnwyd a oedd modd cadw unrhyw elfen o’r arbedion yn yr Adran. Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd wrth y Pwyllgor nad oedd unrhyw arian ychwanegol wedi’i wireddu eto, bod yr arbedion yn unol â gofynion y gyllideb a bod hyn yn enghraifft o sut y gellir cyflenwi gwasanaethau mewn ffordd wahanol heb dorri ar y gwasanaeth rheng flaen.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
|
|
BLAEN-GYNLLUN DEDDF YR AMGYLCHEDD CYNGOR SIR CAERFYRDDIN PDF 155 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar Flaen-gynllun Deddf yr Amgylchedd, Cyngor Sir Caerfyrddin. Nodai’r adroddiad fod rhaid i bob corff cyhoeddus, o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, geisio cynnal a chynyddu bioamrywiaeth wrth weithredu’u swyddogaethau’n briodol a, thrwy wneud hynny, hyrwyddo ecosystemau cyfnerth. Roedd y ddyletswydd newydd hon wedi’i galw’n Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau, ac mae’n cryfhau ac yn disodli’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a roddwyd ar gyrff cyhoeddus o dan Ddeddf Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006.
Nododd y Pwyllgor ei bod yn ofynnol o dan y Ddeddf i bob awdurdod cyhoeddus ddarparu Blaen-gynllun Deddf yr Amgylchedd i Lywodraeth Cymru erbyn yr 31ain Mawrth, 2017. Byddai’r blaen-gynllun yn manylu ar sut y maent yn bwriadu cydymffurfio â’r ddeddf newydd. Hefyd, yn 2019, byddai gofyn i awdurdodau adrodd ar sut yr oeddent wedi cyflawni’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau a fyddai’n gwneud awdurdodau cyhoeddus yn fwy cyfrifol am ddangos sut mae’u gweithredoedd wedi cyfrannu tuag at wella bioamrywiaeth ac ecosystemau.
Cafodd Blaen-gynllun Deddf yr Amgylchedd ei ddatblygu gan Adran yr Amgylchedd ar gyfer yr adran drwy gyfres o weithdai gyda’r Penaethiaid Gwasanaeth a Swyddogion o bedair o’r is-adrannau. Cynhaliwyd y gweithdai ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr 2016. Nodai’r cynllun ddeuddeg cam gweithredu allweddol a gâi eu cyflawni i ddangos sut mae’r Cyngor yn cynnwys bioamrywiaeth fel rhan annatod o’i brosesau penderfynu a’i arferion gwaith. Pe bai’r drefn hon yn llwyddiannus, byddai gweithdai tebyg yn cael eu hymestyn i adrannau eraill o’r Cyngor yn ystod 2017.
Codwyd y materion canlynol mewn perthynas â’r adroddiad:
Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Rheolwr Cadwraeth Wledig fod y ddyletswydd newydd yn fwy gweithredol a’i bod yn helaethach na’r ddyletswydd flaenorol.
Cyfeiriwyd at Gam Allweddol 6 sy’n ymwneud â thorri ymylon ffyrdd a nodwyd bod aelodau o’r cyhoedd yn cysylltu â chynghorwyr yn rheolaidd yn gofyn pryd y câi gwrychoedd eu torri. Mynegwyd pryder yngl?n ag effaith unrhyw oedi cyn torri ymylon ffyrdd a gwrychoedd ar ddiogelwch. Pwysleisiodd y Rheolwr Cadwraeth Wledig mai iechyd a diogelwch y cyhoedd yw’r ystyriaeth bennaf a bod ymylon ffyrdd a gwrychoedd ar gyffyrdd neu gerllaw iddynt yn cael eu torri’n fwy rheolaidd i sicrhau gwell gwelededd.
Gofynnodd y Pwyllgor am i’w werthfawrogiad gael ei basio ymlaen i’r swyddogion hynny a fu â rhan yn y gwaith o ddatblygu’r cynllun.
PENDERFYNWYD ARGYMELL I’R BWRDD GWEITHREDOL fod adroddiad Blaen-gynllun Deddf yr Amgylchedd, Cyngor Sir Caerfyrddin, i gael ei gymeradwyo.
|
|
ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD CYNLLUN GWELLA 2016/17 PDF 185 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w ystyried gan y Pwyllgor, Adroddiad Monitro Perfformiad Cynllun Gwella 2016/17 o ran y gwasanaethau sy’n rhan o gylch gwaith y Pwyllgor, am y 3ydd Chwarter, 1af Ebrill hyd at 31ain Rhagfyr 2016. Roedd yr adroddiad yn cynnwys:
Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:
Gwnaed sylw nad oedd yr adroddiad yn egluro’r ffigurau a’i bod yn anodd gwybod ystyr y canrannau a’r targedau a gyflwynwyd. Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y byddai’n bwydo’r sylwadau’n ôl i’r swyddogion perthnasol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
|
|
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2016/17 PDF 149 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyfalaf ar gyfer Adran yr Amgylchedd, Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd a’r Gwasanaeth Diogelwch Cymunedol, ar y 31ain Rhagfyr 2016 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2016/17. Codwyd y materion canlynol yn yr adroddiad:
Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â chost casglu gwastraff gwyrdd, cadarnhaodd y Pennaeth Gwastraff a’r Gwasanaethau Amgylcheddol fod y gost yn £48 y flwyddyn gyda gostyngiad i £40.80 am dalu’n gynnar.
Nodwyd bod rhai Cynghorau’n casglu gwastraff gwyrdd 12 mis y flwyddyn a gofynnwyd pam nad yw Sir Gaerfyrddin ond yn casglu gwastraff gwyrdd dros fisoedd yr haf. Dywedodd y Pennaeth Gwastraff a’r Gwasanaethau Amgylcheddol fod hynny oherwydd cost sylweddol llogi’r cerbydau sy’n ofynnol i gasglu’r gwastraff gwyrdd ledled y Sir. Fodd bynnag, byddai hyn yn cael ei adolygu ar ôl cyflwyno’r cynllun.
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd yngl?n â’r cynnydd ym Mharc Howard, Llanelli, dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod y cais cynllunio yn mynd rhagddo ac y câi’r gwariant cyfalaf a oedd wedi’i neilltuo ei ddefnyddio fel y bwriadwyd.
Gofynnwyd am ddiweddariad ar brosiect Seilwaith Priffyrdd Adfywio Economaidd Rhydaman. Rhoddodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd ddiweddariad llafar byr i’r Pwyllgor ar y gwaith sydd wedi’i gwblhau hyd yma. Hefyd, dywedwyd wrth yr Aelodau fod blaenoriaethau tymor hwy wedi’u nodi yn y Cynllun Trafnidiaeth Leol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad yn manylu ar y cynnydd a wnaed o ran camau gweithredu, ceisiadau neu atgyfeiriadau yn deillio o gyfarfodydd craffu blaenorol.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at gais a wnaed gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar yr 11eg Tachwedd, 2016, i wahodd Mr. Simon Wilkinson o CLlLC i gyfarfod yn y dyfodol. Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad ar ran Roger Edmunds (Rheolwr y Gwasanaethau Safonau Masnach) gan ddweud eu bod wedi cysylltu â Mr. Wilkinson a’i fod yn hapus i dderbyn gwahoddiad y Pwyllgor. Fodd bynnag, awgrymwyd y byddai’n fuddiol i’r Pwyllgor pe bai Mr. Wilkinson yn dod i gyfarfod ar ôl etholiadau’r Cyngor Sir ym mis Mai er mwyn cynnwys carfan newydd o aelodau pwyllgor. Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Mr. Wilkinson i gyfarfod ym mis Medi/Hydref 2017.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at gam gweithredu nad oedd wedi’i gyflawni mewn perthynas â chais y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar yr 16eg Rhagfyr 2016, i wahodd cynrychiolydd o Valero i gyfarfod yn y dyfodol. Gofynnodd y Cadeirydd am farn yr Aelodau pa un a oedd angen gwahodd cynrychiolydd o Valero, gan fod y Pwyllgor wedi cael diweddariadau rheolaidd gan swyddogion, yng nghyfarfodydd y Pwyllgor a thrwy e-bost. Ar ôl trafodaeth, cytunodd y Pwyllgor i wahodd cynrychiolydd o Valero i gyfarfod yn y dyfodol.
Yn dilyn cwestiwn yngl?n ag iawndal, atgoffodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y Pwyllgor fod Valero wedi dweud y dylai unrhyw hawliadau am iawndal gael eu cyflwyno’n uniongyrchol iddyn nhw.
PENDERFYNWYD yn unfrydol:
11.1 Nodi’r diweddariad.
11.2 Bod y Pwyllgor i wahodd Mr Simon Wilkinson, CLlLC i gyfarfod o’r Pwyllgor ym mis Medi/Hydref 2017.
11.3 Bod y Pwyllgor i wahodd cynrychiolydd o Valero i gyfarfod yn y dyfodol.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion Pwyllgor Craffu Diogelu’r Cyhoedd a’r Amgylchedd a gynhaliwyd ar y 12fed Ionawr 2017 fel rhai cywir.
|