Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Sylwer: Cytunodd y Cadeirydd, ar ôl cael cais gan y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd, i newid trefn yr eitemau ar yr agenda, felly rhoddwyd sylw i Eitem 6 cyn Eitem 4. Fodd bynnag, er hwylustod, mae'r cofnodion hyn yn adlewyrchu trefn y materion ar agenda'r cyfarfod.]
Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd P. M. Edwards.
Croesawyd Mr Rhodri Griffiths, Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd, yn ffurfiol i'r cyfarfod gan y Cadeirydd.
Mynegodd y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, gydymdeimlad
â theulu'r diweddar Gynghorydd Mair Stephens.
|
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.</AI2>
|
|||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||
YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2022/23 TAN 2024/25 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Datganodd y Cynghorydd D. Phillips fuddiant yn Atodiad 'C' i'r adroddiad (Crynhoad Taliadau) ac nid oedd wedi siarad na phleidleisio ar yr Atodiad hwnnw].
Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau ar Strategaeth Cyllideb Refeniw'r Cyngor 2022/23 hyd at 2024/25, fel y'i cymeradwywyd gan y Cabinet at ddibenion ymgynghori yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2022. Roedd yr adroddiad yn darparu'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2022/2023, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2023/2024 a 2024/2025, yn seiliedig ar ragamcanion ynghylch gofynion gwariant y swyddogion ac yn ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 21 Rhagfyr 2021. Roedd hefyd yn adlewyrchu cyflwyniadau adrannol cyfredol ar gyfer cynigion am arbedion ar ôl ystyried effaith pandemig Covid-19 ar gyflawni'r arbedion hynny.
Dywedodd yr Aelod Cabinet fod y setliad dros dro gan Lywodraeth Cymru eleni gryn dipyn yn uwch na'r hyn y cynlluniwyd ar ei gyfer. Fodd bynnag dywedodd hefyd fod y pwysau oedd ar wariant yr Awdurdod hwn ac Awdurdodau Lleol yn fwy nag erioed o'r blaen. Roedd y setliad dros dro yn gynnydd cyfartalog o 9.4% ledled Cymru ar setliad 2021/22. Roedd cynnydd o 9.2% (£26.335m) yn ffigurau setliad Sir Gâr, gan fynd â'r Cyllid Allanol Cyfun i £311.957m ar gyfer 2022/23 a oedd yn cynnwys £302k mewn perthynas â Grant y Gweithlu Gofal Cymdeithasol.
Ar draws holl gyllidebau'r Cyngor, roedd dilysu'n ychwanegu £23m, sef yr uchaf o dipyn rydym wedi gorfod caniatáu ar ei gyfer yn y blynyddoedd diwethaf.
Roedd y gyllideb hefyd yn cynnwys £12.5m ar gyfer pwysau gwariant adrannol newydd a glustnodwyd gan adrannau ac nad oedd modd eu hosgoi os ydym am barhau i ddarparu ein prif wasanaethau ar y lefel bresennol. O ran y cynnydd mewn chwyddiant, roedd yn llawer mwy na'r norm ac roedd yn adlewyrchu'r pwysau oedd ar wasanaethau presennol y Cyngor.
O ran y cynigion arbedion (Atodiad Aii), eglurodd yr Aelod Cabinet fod yr ymateb parhaus i'r pandemig wedi effeithio ymhellach ar gyflawni arbedion effeithlonrwydd.
Serch hynny, roedd strategaeth cyllideb y Cyngor wedi cyflwyno tua £3.8m o arbedion y flwyddyn nesaf a £7.9m arall dros y ddwy flynedd ganlynol. Mewn perthynas â maes gorchwyl y pwyllgor hwn, roedd cyfanswm y cynigion presennol tua £886k ym mlwyddyn 1 a £1.6m arall dros y ddwy flynedd ganlynol.
Roedd Strategaeth y Gyllideb yn cynnig cynnydd o 4.39% yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2022/23, yn unol â'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, a byddai'r cynnig hwnnw'n cael ei ystyried fel rhan o'r broses o gwblhau'r gyllideb dros y mis nesaf a lle cafodd yr Awdurdod eglurhad pellach ynghylch costau a chyllid grant gyda'r bwriad o gyfyngu ar y cynnydd yn y Dreth Gyngor cyn belled ag y bo modd. Byddai cynigion terfynol y gyllideb wedyn yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet ddiwedd mis Chwefror, i sicrhau bod cyllideb gytbwys yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor Sir.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2021/22 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Hydref 2021, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2021/22.
Adroddwyd bod yr amcanestyniadau'n adlewyrchu'r ad-daliadau a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwariant ychwanegol oedd yn gysylltiedig â Covid-19 drwy'r gronfa galedi a hefyd i wneud iawn am golli incwm o wasanaethau roedd y pandemig wedi effeithio arnynt. Roedd adain Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd yn rhagweld tanwariant o £256K ar y gyllideb refeniw ac amrywiant net o £17,160K o gymharu â chyllideb net gweithio o £18,270k gan roi -£1,110k.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Mewn ymateb i ymholiad a godwyd mewn perthynas â'r Casgliad Gwastraff Gwyrdd, eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol mai canlyniad cynnydd yn y cwsmeriaid oedd y gwarged a chadarnhaodd fod y gwasanaeth ar y trywydd iawn i gwrdd â'i gostau.
· Wrth ymateb i ymholiad a godwyd ar y taliadau am gyfleusterau cyhoeddus, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol nad oedd y cynnydd arfaethedig wedi'i roi ar waith oherwydd y pandemig.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.
|
|||||||
CYNLLUN RHEOLI ANSAWDD YR AMGYLCHEDD LLEOL 2022 - 2026 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad ar Gynllun Rheoli Ansawdd yr Amgylchedd Lleol 2022-2026, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd a'r Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd.
Roedd y cynllun yn cynnwys cyfeiriad rheoli sbwriel y Cyngor yn y Sir am y pedair blynedd nesaf a'i nod oedd dangos sut y byddid yn rheoli sbwriel, tra'n cyfrannu at Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, gan roi pwyslais arbennig ar Amcan Llesiant 10 – Amgylchedd Iach a Diogel; gofalu am yr amgylchedd ar hyn o bryd ac i’r dyfodol.
Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-
· Mewn ymateb i ymholiad a godwyd yngl?n â nifer y swyddogion oedd ar gael yn y tîm gorfodi, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod 8 swyddog gydag 1 swydd wag ar hyn o bryd. Felly roedd cyfanswm o 9 aelod o staff yn y tîm gorfodi.
· Cyfeiriwyd at adran 11.2 – Grwpiau Gwirfoddol a Sefydliadau Eraill. Gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch cyhoeddusrwydd gwybodaeth i annog a chynorthwyo aelodau o'r cyhoedd a Chynghorau Tref/Cymuned i fynd ati i sefydlu grwpiau i lanhau pentrefi ac ardaloedd gwledig. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd y byddai hyn yn berthnasol i'r fenter Cymoni Cymuned a oedd yn cael ei hailgyflwyno. Eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol ymhellach i'r aelodau fod y fenter 'Cymoni Cymuned' yn gweithio i ymgysylltu â chymunedau lleol i chwilio am wirfoddolwyr i fod yn hyrwyddwyr codi sbwriel a fyddai wedyn yn trefnu digwyddiadau codi sbwriel yn lleol. Dywedodd y Swyddog Polisi a Strategaeth, yr Amgylchedd a Gorfodi, fod 52 o grwpiau wedi'u cofrestru ar draws Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd, a'i fod yn gweithio'n agos gyda'r tîm asesu risg ynghylch yswiriant priodol ar gyfer gwirfoddolwyr. Roedd mentrau eraill yn effeithiol gan gynnwys prosiect Caru Cymru a Cadwch Brydain yn Daclus.
· Dywedodd y Swyddog Polisi a Strategaeth, yr Amgylchedd a Gorfodi, mewn ymateb i ymholiad mewn perthynas â chasglu sbwriel ar hap, fod Googleform ar-lein wedi cael ei chyflwyno a oedd yn galluogi aelodau o'r cyhoedd i hysbysu'r Awdurdod am y digwyddiad/gweithgaredd codi sbwriel, a fydd hefyd yn casglu'r data o ran ble fyddai'r bagiau sbwriel a byddai trefniadau'n cael eu gwneud i'w casglu.
· At hynny, mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch cael gafael ar y bagiau coch yn benodol ar gyfer codwyr sbwriel, eglurodd y Swyddog Polisi a Strategaeth, yr Amgylchedd a Gorfodi, fod Cadwch Brydain yn Daclus yn dosbarthu'r bagiau coch i hyrwyddwyr cofrestredig Cadwch Gymru'n Daclus. Yn ogystal dosbarthwyd y bagiau clir i Hyrwyddwyr Ansawdd Amgylchedd Lleol yr Awdurdod, sef menter a ddatblygwyd dros y pandemig.
· Cyfeiriwyd at y broblem barhaus o faw c?n. Gofynnwyd a oedd unrhyw gynnydd wedi'i wneud o ran y trafodaethau gyda'r Heddlu ynghylch y Cyngor a Swyddogion Cymunedol yr Heddlu yn rhannu'r ddirwy. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod gwaith wedi'i wneud gyda'r heddlu drwy lythyr at y Prif Gwnstabl a hyfforddiant a darparu cosb benodedig i'r heddlu. Dywedwyd er bod yr heddlu'n gefnogol, roeddent yn dibynnu ar yr ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor ei fod wedi cael cais i gynnwys adroddiad am y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref (HWRC) ar agenda'r cyfarfod nesaf. Cynigiodd y Cadeirydd fod y cais yn cael ei dderbyn, gan fod yr adroddiad yn ceisio darparu strategaeth hygyrchedd ar gyfer y gwasanaeth HWRC yn Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol, a chafodd y cynnig ei eilio.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
7.1 nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 7 Mawrth 2022;
7.2 cynnwys adroddiad HWRC ar agenda'r cyfarfod nesaf – 7 Mawrth 2022.
7.3 nodi Blaenraglen Waith ddiwygiedig y Pwyllgor 2021/22.
|
|||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 22 RHAGFYR 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |