Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd T Higgins a'r
Cynghorydd J. E. Morgan.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
STRATEGAETH TOILEDAU LLEOL DDRAFFT PDF 304 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn atodi strategaeth toiledau lleol ddrafft a oedd wedi'i datblygu yn unol â Rhan 8 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, lle'r oedd gan y Cyngor Sir ddyletswydd statudol i gyhoeddi Strategaeth Toiledau Lleol ar gyfer Sir Gaerfyrddin.
Roedd y Strategaeth yn cynnwys yr adborth a'r ymatebion a dderbyniwyd yn dilyn arolwg Asesu Anghenion a gynhaliwyd yn ystod Hydref/Tachwedd 2018. Amlinellwyd yn yr adroddiad y canfyddiadau allweddol o'r ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd ar 25 Mawrth a 12 Mai 2019 drwy'r cyfleuster ymgynghori ar wefan y Cyngor.
Yn ogystal nodwyd mewn Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb, a oedd wedi'i atodi i'r adroddiad, nad oedd unrhyw effeithiau negyddol ac roedd cynnydd mewn mynediad gan y cyhoedd i doiledau cyhoeddus yn cael ei geisio.
Nododd yr aelodau er nad oedd dim gofyniad statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu toiledau cyhoeddus, bwriad y strategaeth oedd lliniaru unrhyw effeithiau negyddol lle gallai toiledau gael eu colli. Cafodd y cynigion a nodwyd yn y Strategaeth Toiledau Lleol Ddrafft eu datblygu i wella a gwneud y defnydd gorau posibl o gyfleusterau presennol a hyrwyddo darpariaeth toiledau ychwanegol, priodol a hygyrch at ddefnydd y cyhoedd. Hefyd byddai'r argymhellion a ddeilliai o'r strategaeth hon yn cefnogi'r weledigaeth o Sir Gâr iach sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol, yn ogystal â darparu cefnogaeth i'r bobl, y busnesau a'r cymunedau yn y sir.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch glanhau toiledau cyhoeddus, eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Trefol a Chydymffurfiaeth, er bod y Cyngor yn goruchwylio'r gwaith o redeg a gwasanaethu 19 o doiledau cyhoeddus ledled y Sir, mai gan Danfo oedd y contract ar hyn o bryd ar gyfer cadw'n lân y 9 bloc o doiledau cyhoeddus yr oedd Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y Cyngor yn gyfrifol amdanynt, ac roedd ymweliadau ychwanegol yn cael eu trefnu fel y bo'r angen. Ceir rhagor o wybodaeth mewn perthynas â chyfrifoldebau unigol pob cyfleuster yn Atodiad A o'r Strategaeth.
· Cyfeiriwyd at yr adborth oedd wedi dod i law yn dilyn yr ymgynghoriad, a dywedwyd er nad oedd dyletswydd statudol ar y Cyngor i ddarparu toiledau, fod pryderon cryf ynghylch y ddarpariaeth ac ynghylch glendid, yn enwedig gan fod y Cyngor yn ceisio cynyddu twristiaeth ar draws y sir. Gwnaed sylw pellach a oedd yn adleisio'r pryder gan ychwanegu bod darparu toiledau yn hanfodol mewn lleoliadau i dwristiaid.
· Cafwyd ymholiad ynghylch toiledau ychwanegol, a dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff nad oedd gan y Cyngor unrhyw gynlluniau i ddarparu toiledau ychwanegol gan nad oedd cyllideb gyfalaf ar gael. Mewn ymateb i ymholiad ychwanegol ynghylch diffyg toiledau cyhoeddus mewn datblygiadau ar gyrion trefi fel Pensarn, Caerfyrddin, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff er nad oedd grym gan y Cyngor i fynnu bod datblygiadau newydd yn agor eu toiledau i'r cyhoedd, gellid ystyried opsiynau lle gallai'r Cyngor o bosibl dalu cyfraniad i annog busnesau i agor eu toiledau i'r cyhoedd.
· Gofynnwyd a fyddai'n bosibl trosglwyddo perchenogaeth ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar ôl ystyried nifer o awgrymiadau ar gyfer prosiect Gorchwyl a Gorffen, yn ei Sesiwn Datblygu Blaenraglen Waith anffurfiol ar 22 Chwefror 2019 cytunodd y Pwyllgor mewn egwyddor i gynnal adolygiad i fenter Safonau Masnach Cyngor Sir Caerfyrddin - y Cynllun Diogelu rhag Camfanteisio Ariannol (FESS).
Mae'r Cynllun Diogelu rhag Camfanteisio Ariannol, sef menter aml-asiantaethol a grëwyd ac a ddatblygwyd gan Safonau Masnach Sir Gaerfyrddin, yn gweithio i ganfod ac atal camfanteisio'n ariannol ar bobl sy'n agored i niwed gan ofalwyr, aelodau o'r teulu, troseddwyr ar y trothwy, twyll drwy'r post, a sgamiau dros y ffôn a thrwy'r e-bost.
Ystyriodd y Pwyllgor y nodau a chwmpas gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen, fel y'i nodwyd yn y ddogfen cynllunio a chwmpasu, a nodi'r amserlen ar gyfer cwblhau, a oedd yn cynnwys pum cyfarfod a drefnwyd gan y Gr?p Gorchwyl a Gorffen gyda golwg ar gyflwyno adroddiad terfynol i'r Pwyllgor ym mis Ebrill 2020.
Nododd y Pwyllgor fod swyddogion o'r Adran Safonau Masnach wedi cyfrannu at ddatblygu'r Ddogfen Cynllunio a Chwmpasu a byddent yn parhau i gefnogi gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.
Er mwyn ffurfio Gr?p Gorchwyl a Gorffen gwleidyddol gytbwys, gofynnodd y Cadeirydd am hyd at 6 enwebiad gan y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-
5.1 derbyn Dogfen Gwmpasu y Gr?p Gorchwyl a Gorffen;
5.2 cymeradwyo nodau'r prosiect a chwmpas y Gr?p Gorchwyl a Gorffen;
5.3 bod yr aelodaeth o'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen fel a ganlyn:-
· Y Cynghorydd Joseph Davies · Y Cynghorydd Karen Davies · Y Cynghorydd Penny Edwards · Y Cynghorydd Jeanette Gilasbey · Y Cynghorydd John James · Y Cynghorydd Dai Thomas
|
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 161 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y rhestr o eitemau ar gyfer y cyfarfod oedd i'w gynnal ar 5 Gorffennaf 2019 a rhoddwyd cyfle i'r Pwyllgor wneud cais am wybodaeth i'w chynnwys yn yr adroddiadau.
I baratoi ar gyfer mynd yn ddi-bapur ym mis Medi 2019, cytunodd y Pwyllgor y byddai Adroddiad Blynyddol y Cyngor am 2018/19 yn eitem ddi-bapur ac felly na fyddai'n cael ei chynnwys yng nghopi papur yr agenda a anfonir at Aelodau'r Pwyllgor. Anogwyd yr Aelodau gan y Cadeirydd i ddefnyddio eu dyfeisiau IPad i fwrw golwg ar agenda'r cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD:
6.1 derbyn y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol;
6.2 nodi Blaengynllun Gwaith diwygiedig Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd;
6.3 bod Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2018/19 yn eitem ddi-bapur ar yr agenda yn y cyfarfod nesaf ar 5 Gorffennaf 2019.
|
|
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALWYD AR Y 18 EBRILL 2019 PDF 369 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 18 Ebrill, 2019 yn gofnod cywir.
|