Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 18fed Mawrth, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd / Swyddog

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd C.A. Davies

7 – CyfraddauBusnesCynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Letygarwch 2024/25

Mae ei theulu yn rhedeg busnes

Y Cynghorydd G. Davies

13 – Cronfa Cymunedau CynaliadwyCeisiadau Rownd 4

Mae e’n Ymddiriedolwr i un o’r sefydliadau

Y Cynghorydd H.A.L Evans

7 – CyfraddauBusnesCynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Letygarwch 2024/25

Perthynasagos yn rhedeg busnes

Y Cynghorydd L.D. Evans

7 – CyfraddauBusnesCynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Letygarwch 2024/25

Perthynasagos yn rhedeg busnes

Y Cynghorydd L.D. Evans

13 – Cronfa Cymunedau CynaliadwyCeisiadau Rownd 4

Mae rhywun mae hi’n adnabod wedi rhoi cais mewn am grant

Y Cynghorydd P.M. Hughes

7 – CyfraddauBusnesCynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Letygarwch 2024/25

Mae e’n rhedeg busnes yn y sir

Y Cynghorydd A. Lenny

13 – Cronfa Cymunedau CynaliadwyCeisiadau Rownd 4

Mae e’n aelod o Gyngor Tref Caerfyrddin sydd wedi rhoi cais mewn am grant

Y Cynghorydd D. Price

13 – Cronfa Cymunedau CynaliadwyCeisiadau Rownd 4

Mae ganddo cysylltiadau gyda sefydliad yn Nrefach sydd wedi rhoi cais mewn am grant

Y Cynghorydd A. Vaughan-Owen

13 – Cronfa Cymunedau CynaliadwyCeisiadau Rownd 4

Mae e’n aelod o un o’r grwpiau sydd wedi rhoi cais mewn am grant

 

3.

I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y 4YDD O FAWRTH, 2024. pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 4 Mawrth, 2024 yn gofnod cywir.

 

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

6.

FERSIWN DRAFFT O GYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2024-28 pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried y fersiwn drafft o Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 a baratowyd er mwyn amlinellu sut y bydd y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a'r Dyletswyddau Penodol i Gymru ac sy'n adeiladu ar gynlluniau blaenorol y Cyngor. Mae angen i'r Awdurdod gyhoeddi'r cynllun newydd ym mis Ebrill 2024.

 

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn crynhoi ac yn disodli'r ddeddfwriaeth flaenorol ac yn symleiddio/atgyfnerthu'r ddeddf, fel ei bod yn haws i bobl ei deall a chydymffurfio â hi. Daeth y rhan fwyaf o'r Ddeddf i rym ar 1 Hydref 2010. Mae Dyletswyddau Penodol wedi'u cyflwyno ar gyfer Cyrff Cyhoeddus yng Nghymru ac mae datblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn un o'r dyletswyddau hynny.

 

Cyfeiriwyd at bwysigrwydd yr eitem hon a oedd yn rhan fawr o weledigaeth y Cabinet.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR

 

6.1      cymeradwyo'r Fersiwn Drafft o'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol;

6.2      cytuno ar y fersiwn drafft o'r Amcanion Cydraddoldeb Strategol.

 

7.

CYFRADDAU BUSNES - CYNLLUN RHYDDHAD ARDRETHI MANWERTHU, HAMDDEN A LETYGARWCH 2024/25 pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Gan eu bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd  y Cynghorwyr C.A. Davies, H.A.L. Evans, L.D. Evans a P.M. Hughes y cyfarfod cyn i'r Cabinet ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad yn rhoi manylion am gynllun rhyddhad ardrethi sydd ar gael i awdurdodau bilio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25. 

 

Yn 2017/18 cyflwynodd Llywodraeth Cymru Gynllun Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr ar gyfer busnesau cymwys a pharhaodd y cynllun ar gyfer 2018/19, a phob blwyddyn ers hynny. Fodd bynnag, yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, nid oedd cynllun 2019-20 yn gyfyngedig i safleoedd y stryd fawr ond roedd yn cynnwys pob eiddo yng Nghymru a oedd yn bodloni'r meini prawf manwerthu ehangach.

 

Mewn ymateb i’r argyfwng Coronafeirws yn 2020/21, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n cyflwyno’r cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch i gynyddu’r gostyngiad i 100%. Roedd y cynllun hwn hefyd yn berthnasol yn 2021/22 ac yn ogystal â’r sector manwerthu cafodd ei ymestyn i gynnwys y sectorau hamdden a lletygarwch e.e. siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai ledled Cymru.

 

Roedd y cynllun ar gyfer 2022/23, yn wahanol i'r ddwy flynedd flaenorol, yn darparu cymorth i eiddo cymwys sydd wedi’i feddiannu drwy gynnig gostyngiad o 50% ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer 2022/23, ac roedd y cynllun ar gyfer 2023/24 yn cynnig gostyngiad o 75% ar gyfer eiddo cymwys sydd wedi’i feddiannu.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau'n ddiweddar y bydd yn darparu cyllid grant i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i ddarparu'r cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch i fusnesau cymwys yn 2024-25. Fodd bynnag, ar gyfer 2024/25 bydd y cynllun yn darparu gostyngiad o 40% ar gyfer eiddo cymwys sydd wedi'i feddiannu. Bydd y cynllun ar gael i bob busnes cymwys, fodd bynnag, bydd y rhyddhad yn destun cap o ran y cyfanswm y gall pob busnes ei hawlio ledled Cymru.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'r mathau o fusnes y mae'n eu hystyried yn briodol ar gyfer y rhyddhad hwn a'r rhai nad ydynt yn briodol. Roedd y rhestr anghyflawn o fathau o fusnes wedi’i hatodi i’r adroddiad yn Atodiad A.

 

Gan mai mesur dros dro yw'r rhyddhad hwn, nid yw Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw newidiadau deddfwriaethol ond yn hytrach bydd yn caniatáu i awdurdodau bilio roi rhyddhad o dan y pwerau rhyddhad yn ôl disgresiwn cyffredinol sydd ar gael o dan Adran 47 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cyllid) 1988. Fodd bynnag, gan ei fod yn b?er disgresiwn, mae angen i'r Awdurdod Lleol fabwysiadu'r cynllun yn ffurfiol. Caiff y cynllun ei ariannu'n llawn ac felly heb unrhyw gost i'r awdurdod ar yr amod bod y rhyddhad yn cael ei roi yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

7.1      bod Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2024/25 yn cael ei fabwysiadu ar gyfer 2024/25;

7.2      bod rhyddhad yn cael ei roi, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru;

7.3      bod yr Aelod Cabinet dros Adnoddau yn penderfynu ynghylch unrhyw geisiadau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 179 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2023, o ran 2023/24.

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld gorwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £10,183k ac yn rhagweld gorwariant o £4,782k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau yn benodol at y ffaith fod ysgolion yn disgwyl gwario £8.6m yn fwy na'r cyllidebau dirprwyedig, sy'n golygu y bydd y balansau presennol yn gostwng o £11.1m i £2.5m, ac roedd hyn yn destun pryder. Tynnodd sylw at y ffaith mai rhan o'r rheswm dros dynnu i lawr ar falansau ysgolion oedd oherwydd y lefel uchel o ddyfarniadau cyflog y cytunwyd arnynt yn genedlaethol gan yr NJC. Gan mai dull cyllidebol y Weinyddiaeth hon erioed yw ceisio darparu ymrwymiadau cyflog llawn i gyllidebau a ddirprwyir i ysgolion, argymhellodd fod rhan o’r gyllideb wrth gefn yn cael ei dyrannu i dalu'r gost gynyddol hon i ysgolion, a amcangyfrifir i fod tua £800k.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

8.1      derbyn adroddiad monitro'r gyllideb, a nodi'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol a gymerwyd;

8.2      o ran gorwariant sylweddol ar feysydd penodol o'r gyllideb, bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'n feirniadol yr opsiynau sydd ar gael iddynt er mwyn mynd i'r afael â'r effaith barhaus;

8.3      bod rhan o’r gyllideb wrth gefn yn cael ei defnyddio i dalu’r costau cyflog uwch i ysgolion a achoswyd gan ddyfarniadau cyflog yr NJC, a amcangyfrir i fod tua £800k.

9.

DIWEDDARIAD RHAGLEN GYFALAF 2023/24 pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad yn rhoi manylion am yr alldro a ragwelir o'r rhaglen gyfalaf fel yr oedd ar 31 Rhagfyr, 2023 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2023/24.

 

Mae'r rhaglen gyfalaf gyfredol yn seiliedig ar wybodaeth oedd ar gael ar ddiwedd mis Rhagfyr 2023. Nododd Atodiad A wariant net a ragwelir o £70,752k o gymharu â chyllideb net weithredol o £139,013k, gan roi amrywiad -£68,261k.

 

Mae'r gyllideb net yn cynnwys rhaglenni cyfalaf gwreiddiol y Cyfrif Refeniw Tai a'r Gronfa Gyffredinol a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 1 Mawrth a llithriad o 2022/23. Mae rhai o'r cyllidebau hefyd wedi cael eu diwygio yn unol â’r gwahaniaethau yn y dyraniadau grant gwirioneddol o gymharu â'r dyraniadau disgwyliedig pan gafodd y rhaglen ei chymeradwyo, a grantiau newydd oedd wedi dod i law yn ystod y flwyddyn hyd yn hyn. Roedd Atodiad B yn nodi'r prif amrywiadau ym mhob adran.

 

Cyfeiriwyd at y prosiectau anhygoel yr oedd y Cyngor yn ymgymryd a hwy gan gynnwys yr YMCA yn Llanelli a’r gwaith o ddylunio ac adeiladu ysgolion newydd er gwaethaf yr holl heriau.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

9.1      derbyn adroddiad diweddaru'r rhaglen gyfalaf;

9.2    nodi a chytuno ar y prosiectau newydd, i'w hariannu o daliadau       cyfalaf y flwyddyn gyfredol .

 

10.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau brys.

 

11.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y CABINET AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

UNANIMOUSLY RESOLVED, pursuant to the Local Government Act 1972, as amended by the Local Government (Access to Information) (Variation) (Wales) Order 2007, that the public be excluded from the meeting during consideration of the following items as the reports contained exempt information as defined in paragraph 14 of Part 4 of Schedule 12A to the Act.

 

12.

GWAREDU PARC DEWI SANT, HEOL JOBSWELL, CAERFYRDDIN

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 11 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon yn anfantais faterol i'r Awdurdod mewn unrhyw drafodaethau dilynol â thrydydd partïon, a gallai cael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus.

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad yn rhoi manylion am gynnig diwygiedig mewn perthynas â gwaredu Parc Dewi Sant, Caerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fwrw ymlaen â'r cynnig diwygiedig fel y manylir yn yr adroddiad.

</AI11>

 

13.

CRONFA CYMUNEDAU CYNALIADWY - CEISIADAU ROWND 4

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r sefydliadau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas ag unrhyw gystadleuwyr.

 

[NODER:  Gan eu bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorwyr G. Davies, L.D. Evans, A. Lenny, D. Price ac A. Vaughan-Owen y cyfarfod cyn i’r Cabinet ystyried y mater a phenderfynu arno.    Cymerodd y Cynghorydd P.M. Hughes y gadair ar gyfer yr eitem hon, yn absenoldeb y Cadeirydd.]

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad yn rhoi trosolwg o geisiadau a gyflwynwyd o dan y Gronfa Cymunedau Cynaliadwy (Rownd 4) sy'n cael ei hariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ddyfarnu cyllid i'r prosiectau a nodwyd, fel y nodir yn yr adroddiad.