Agenda a Chofnodion

Draft Budget, Cabinet - Dydd Llun, 15fed Ionawr, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.  Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Cynghorydd Philip Hughes i'w gyfarfod cyntaf yn dilyn cyfnod o salwch. 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd/    Swyddog

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd  H.A.L. Evans

9 - Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2024 -27 - Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin

Ei chwaer yn Brif Weithredwr Cymdeithas Tai

Y Cynghorydd  H.A.L. Evans

9 - Cyfrif Refeniw Tai a Gosod Rhent Tai 2024/25

Ei chwaer yn Brif Weithredwr Cymdeithas Tai

Y Cynghorydd L.D. Evans

12 - Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor

Yn gysylltiedig â'i thad.

Y Cynghorydd L.D. Evans

14 - Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2023/24

Mae ei merch yn dysgu.

Cynghorydd P.M. Hughes

9 - Cyfrif Refeniw Tai a Gosod Rhent Tai 2024/25

Mae'n rhentu eiddo.

Y Cynghorydd D. Price

9 - Cyfrif Refeniw Tai a Gosod Rhent Tai 2024/25

Mae ei fam-gu yn denant i'r Cyngor.

Y Cynghorydd D. Price

12 - Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor

Mae ei fam-gu yn derbyn rhyw fath o fudd-dal o'r cynllun.

Cynghorydd A. Vaughan-Owen

14 - Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2023/24

Ei wraig yn athrawes.

J. Morgan, Pennaeth Tai

14 - Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2023/24

Ei wraig yn athrawes.

W. Walters, Prif Weithredwr

12 - Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor

Yn gysylltiedig â'i mam-yng-nghyfraith. 

 

3.

I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR YR 11EG RHAGFYR 2023 pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2023 yn gofnod cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod un cwestiwn â rhybudd wedi cael ei gyflwyno.

 

4.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD ALUN LENNY, AELOD Y CABINET DROS ADNODDAU

“A allai’r Aelod Cabinet ddatgan faint a dalodd yr awdurdod hwn mewn ffioedd ymgynghori yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan gynnwys tuag at brosiectau ar y cyd neu brosiectau rhanbarthol?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“A allai'r Aelod Cabinet ddatgan faint mae'r awdurdod hwn wedi'i dalu mewn ffioedd ymgynghori yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan gynnwys tuag at brosiectau ar y cyd neu ranbarthol?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau:

 

 

“Byddwch yn gwerthfawrogi wrth gwrs mai hwn yw'r cyfnod mwyaf prysur posib i'n swyddogion wrth i ni geisio dod â'r gyllideb anoddaf yn hanes y Cyngor hwn at ei gilydd.  Fel y gwelwch o'r adroddiadau canlynol yn y cyfarfod hwn ac fel y trafodir yn y seminarau yr wythnos hon yn Llanelli.  Er gwaethaf hyn, mae swyddogion yn casglu'r data y gwnaethoch ofyn amdano at ei gilydd ond bydd angen i ni sicrhau cysondeb ac eglurder ynghylch y diffiniad o Ymgynghorwyr fel y'u diffinnir gan Awdurdodau eraill yng Nghymru.  Cyn gynted ag y bydd gennym ffigur pendant, byddaf wrth gwrs yn rhoi ateb i chi. Fodd bynnag, rwy'n credu ei bod yn werth dweud ar y pwynt hwn y gallai'r gair Ymgynghorwyr greu ymdeimlad negyddol felly mae'n werth egluro bod ffioedd ymgynghori'n cael eu talu i gwmnïau sy'n arbenigwyr yn eu maes ac sy'n cael eu comisiynu gan yr Awdurdod hwn i wneud swydd benodol am gyfnod penodol o amser oherwydd nad oes gennym y staff na'r gallu i wneud hynny.  Gallaf eich sicrhau y craffir yn fanwl ar bob comisiwn gan y Pennaeth Gwasanaeth perthnasol er mwyn rhoi'r fargen orau bosibl i dalwyr y Dreth Gyngor.  Bydd y galw hwn yn amlwg yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn yn dibynnu ar ba brosiectau rydym yn eu gwneud sy'n gofyn am gymorth arbenigol.  Fel arall, ni fyddai modd cyflawni prosiectau ac mae hynny'n cynnwys ailddatblygu canol trefi, ystadau tai di-garbon fforddiadwy, ysgolion newydd a chanolfan hamdden o'r radd flaenaf ar gyfer Llanelli.  Mae lefel y ffioedd ymgynghori yn gysylltiedig yn uniongyrchol â'r gweithgaredd sy'n gwella ansawdd bywyd a chyfleoedd cyflogaeth i bobl Sir Gaerfyrddin.  Fel y gwyddoch, mae gan y Cyngor hwn raglen adfywio uchelgeisiol iawn. Y datblygiad blaenllaw yw prosiect Pentre Awel gwerth dros £200m a fydd yn hwb anhygoel i Lanelli a'r rhanbarth cyfan ac yn creu bron i 2000 o swyddi maes o law.   Byddai'n amhosibl cyflawni'r prosiect hwnnw heb gyflogi ystod eang o arbenigwyr allanol h.y. dylunio, peirianneg, ecoleg ac ati.  Mae rhai o'r Ymgynghorwyr yn arbenigol iawn yn eu maes h.y. wrth feddwl am Harbwr Porth Tywyn, dim ond llond llaw yn Ne Cymru sy'n arbenigwyr mewn carthu harbwr ac yn yr un modd Pentre Awel, lle'r oedd amodau'r tir yngolygu gosod seilbyst tua 25m yn y ddaear.  Byddai cyflogi arbenigwyr fel staff llawn amser, hyd yn oed pe gallem eu denu ac rwy'n amau hynny, yn ddrud dros ben ac efallai y byddent yn eistedd o gwmpas yn gwneud dim am ran helaeth o'r flwyddyn, fel y byddai arbenigwyr eraill pe baent ar gael yn fewnol.  Fel y dywedais yn gynharach, cyn gynted ag y bydd ffigur pendant ar gael, byddaf wrth gwrs yn ei roi i chi ond mae arnaf ofn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.1

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

STRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW 2024/25 I 2026/27 pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2024/25 a'r ddwy flynedd ariannol ganlynol. Roedd yn rhoi manylion am broses y gyllideb, setliad dros dro presennol Llywodraeth Cymru ac amserlen y setliad terfynol ac yn clustnodi'r gwasgfeydd dilysu a'r gwasgfeydd cyllidebol y byddai'n rhaid i'r Aelodau roi sylw iddynt wrth bennu cyllideb refeniw'r flwyddyn nesaf. Bydd yr adroddiad yn sail i'r broses ymgynghori ar y gyllideb a fydd yn cael ei chynnal yn ystod mis Ionawr.

 

Mynegwyd pryder ynghylch y pwysau digynsail sy'n wynebu pob Awdurdod Lleol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL 

 

6.1      bod y Strategaeth Gyllideb tair blynedd 2024/25 i 2026/27 yn cael ei chymeradwyo a bod y strategaeth yn cael ei defnyddio i gefnogi'r ymgynghoriad ar y gyllideb a llunio sail y cynigion terfynol ar gyfer y gyllideb;

6.2      bod y gostyngiadau yn y gyllideb / cynigion arbedion yn Atodiad A, a fydd yn cael eu hystyried fel rhan o'r ymgynghoriad, yn cael eu nodi;

6.3      nodi diffyg 2024/25 sef £801k yn y strategaeth bresennol, y bydd angen nodi mwy o gyllid neu leihau costau ar ei gyfer wrth gwblhau'r ymgynghoriad fel y nodir ym mharagraff 4.3 o'r adroddiad;  

6.4      nodi bod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn cynnwys cynnig i ddefnyddio cyllid wrth gefn i gefnogi costau unwaith yn unig ar gyfer y Gwasanaethau Plant.

 

 

7.

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) 2024/25 I 2028/29 pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar y cynigion diweddaraf ar  gyfer y rhaglen gyfalaf bum mlynedd  2024/25 i 2028/29, a oedd yn sail i'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb gyda'r aelodau a phartïon perthnasol eraill. Byddai'r adborth o'r broses ymgynghori hon, ynghyd ag unrhyw ddiweddariadau, yn cyfrannu i'r adroddiad terfynol ynghylch cyllideb y Rhaglen Gyfalaf a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor Sir ym mis Chwefror 2024.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi a chymeradwyo'r adroddiad fel y rhaglen gyfalaf dros dro at ddibenion ymgynghori. 

 

 

8.

CYNLLUN BUSNES 2024-27 Y CYFRIF REFENIW TAI - RHAGLEN BUDDSODDIADAU TAI SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Gan fod y Cynghorydd H.A.L Evans  wedi datgan buddiant personol a rhagfarnol yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y cyfarfod cyn ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad yn manylu ar Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2024-27 a Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin.  Ar ddechrau pob blwyddyn, mae cynllun busnes yn cael ei lunio sy'n egluro gweledigaeth yr Awdurdod a'r rhaglenni buddsoddiadau tai tair blynedd i gynnal a chadw ein stoc a darparu mwy o dai fforddiadwy.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL Y CANLYNOL I'R CYNGOR

 

8.1     cadarnhau'r weledigaeth ar gyfer ein rhaglenni buddsoddiadau tai dros y tair blynedd nesaf;

8.2     cytuno y gellir cyflwyno Cynllun Busnes 2024/25 i Lywodraeth Cymru; 

8.3     nodi'r cynnig newydd o ran rheoli ystadau a thenantiaethau a fydd yn sicrhau bod ein swyddogion tai yn fwy gweladwy a hygyrch, gan gydbwyso'r cymorth sydd ei angen ar denantiaid a'r angen i gymryd camau gorfodi pan fo angen;

8.4     cytuno i weithredu cynllun peilot "tasgmon" newydd ar ystadau sydd â blaenoriaeth;

8.5     nodi ymrwymiad yr Awdurdod i gadw nifer yr eiddo gwag mor isel â phosibl;

8.6     cadarnhau ymrwymiad yr Awdurdod i leihau nifer yr atgyweiriadau o ddydd i ddydd sydd yn aros i'w gwneud trwy ailgydbwyso'r rhaniad rhwng contractwyr mewnol ac allanol, a datblygu fframwaith gwaith bach newydd;

8.7     cadarnhau blaenoriaeth yr Awdurdod i brynu tir ychwanegol a datblygu safleoedd mawr ar gyfer tai Cyngor yn unig a nodi'r cyfraniad y mae'r cynllun hwn yn ei wneud i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy;

8.8     nodi ymrwymiad yr Awdurdod i wneud ein holl dai yn fwy effeithlon o ran ynni i denantiaid, gan sicrhau sgôr perfformiad ynni Band C o leiaf, gosod paneli solar ar doeau fel rhan o'n rhaglen gosod toeau newydd, a datblygu achos busnes dros osod ar raddfa fwy helaeth baneli solar ar gartrefi tenantiaid a chefnogi egwyddorion carbon sero net y Cyngor;

8.9     cadarnhau ymrwymiad yr Awdurdod i barhau i gynyddu'r cyflenwad o dai arbenigol yn y sir;

8.10   nodi pwysigrwydd y buddsoddiad sydd wedi'i gynnwys yn y cynllun hwn a'i rôl o ran ysgogi'r economi leol a chreu swyddi a chyfleoedd hyfforddi lleol

 

 

 

9.

CYFRIF REFENIW TAI A PHENNU RHENTI TAI 2024/25 pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Gan eu bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd  y Cynghorwyr H.A.L. Evans, P.M. Hughes a D. Price y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf ar gyfer cyllidebau refeniw a chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai am 2024/2027. Hefyd roedd yr adroddiad yn manylu ar sut y bydd rhenti'n cynyddu ar gyfer 2024/25.

 

Tynnwyd sylw'r Cabinet at y ffaith nad oedd yr argymhelliad cyntaf a welir yn y grynodeb yn y fersiwn Saesneg yn egluro'r cynnydd yn yr un modd â'r crynodeb yn y Gymraeg lle'r oedd yr argymhelliad yn rhoi diffiniad pellach o'r categorïau o gynnydd.  Felly, gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau i'r pwyntiau ychwanegol hyn gael eu hychwanegu ar ôl y frawddeg gyntaf o'r argymhelliad cyntaf.  Tynnodd sylw'r Cabinet hefyd at welliant bach i'r trydydd argymhelliad ac eglurodd y bydd y rhent ar gyfer sylfeini garejis yn cynyddu o £2.08 i £2.22 nid £2.25 i £2.40 fel y nodir yn yr adroddiad.

 

 

Yn amodol ar gynnwys y gwelliannau uchod,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL Y CANLYNOL I'R CYNGOR

 

9.1      cynyddu'r rhent tai cyfartalog o 6.5% (£6.47) fesul preswylfa yr wythnos oddi mewn i derfynau Polisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru (gan gynnwys y camau cynnydd ar gyfer tenantiaid sy'n is na'r rhenti targed)

- bydd cynnydd o 6.39% yn digwydd i renti eiddo sydd ar y rhenti targed

- bydd eiddo lle mae rhent yn is na'r rhent targed yn cynyddu 6.39%    

yn ogystal â'r cynnydd mwyaf posibl o £1.00

- caiff y rhenti hynny sy'n uwch na'r targed eu rhewi hyd nes eu bod yn unol â'r rhent targed a fydd yn creu Cynllun Busnes cynaliadwy, yn cynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ac yn cyflawni Cynllun Cyflawni yr Awdurdod ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai;

9.2      parhau â'r camau cynnydd mwyaf posibl o £1 a ganiateir ar gyfer rhenti sy'n is na'r rhenti arfaethedig ar gyfer pob math o stoc;

9.3      cynyddu rhenti garejis 9.3% o £9.00 i £9.60 a sylfeini garejis o £2.08 i £2.22;

9.4      gweithredu'r Polisi ynghylch Taliadau am Wasanaethau sydd wedi'i ddiwygio i sicrhau bod y tenantiaid sy'n elwa ar wasanaethau penodol yn talu am y gwasanaethau hynny (Atodiad C i'r adroddiad);

9.5      cynyddu'r taliadau am ddefnyddio ein gwaith trin carthffosiaeth yn unol â'r cynnydd mewn rhenti;

9.6      cymeradwyo Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2024/27 (cyllidebau dangosol oedd rhai 2025/26 a 2026/27), fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad;

9.7      cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig a'r cyllido perthnasol ar gyfer 2024/25 , a'r gwariant mynegiannol a bennwyd ar gyfer 2025/26 i 2026/27, fel y'u nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad.

 

</AI9>

<AI10>

 

10.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar  31Hydref 2023, o ran 2023/24.

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld gorwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £10,900k ac yn rhagweld gorwariant o £5,312k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

10.1    derbyn adroddiad monitro'r gyllideb, a nodi'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol a gymerwyd;

10.2    O ran gorwariant sylweddol ar feysydd penodol o'r gyllideb, bydd y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'n feirniadol yr opsiynau sydd ar gael iddynt er mwyn mynd i'r afael â'r effaith barhaus. </AI10>

 

11.

DIWEDDARIAD RHAGLEN GYFALAF 2023/24 pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cabinet adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ar gyfer rhaglen gyfalaf 2023/24, fel yr oedd ar 31 Hydref 2023 gan fanylu ar y prosiectau newydd a'r trosglwyddiadau ariannol i'w nodi a'u cymeradwyo gan y Cabinet. Nododd Atodiad A i'r adroddiad wariant net a ragwelir o £89,434k o gymharu â chyllideb net weithredol o £142,641k, gan roi amrywiad -£53,207k.

 

Roedd y gyllideb net yn cynnwys rhaglenni cyfalaf gwreiddiol y Cyfrif Refeniw Tai a'r Gronfa Gyffredinol a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 1 Mawrth a llithriad o 2022/23. Roedd rhai cyllidebau hefyd wedi cael eu diwygio yn unol â’r gwahaniaethau yn y dyraniadau grant gwirioneddol o gymharu â'r dyraniadau disgwyliedig pan gafodd y rhaglen ei chymeradwyo, a grantiau newydd oedd wedi dod i law yn ystod y flwyddyn hyd yn hyn. Dylid nodi, yn dilyn ad-drefnu adrannol, bod prosiectau y gwasanaethau eiddo a adroddwyd yn flaenorol fel rhan o'r Adran Lle a Seilwaith bellach yn rhan o adroddiadau portffolio Adran y Prif Weithredwr.

 

Roedd Atodiad B i'r adroddiad yn nodi'r prif amrywiadau ym mhob adran.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

11.1   bod yr adroddiad ar ddiweddaru'r rhaglen gyfalaf 2023/24 yn cael ei dderbyn;

11.2.  bod y prosiectau newydd, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, yn cael eu nodi a'u cytuno, a'u bod yn cael eu hariannu o danwariant taliadau cyfalaf y flwyddyn gyfredol.

 

</AI11>

 

12.

CYNLLUN GOSTYNGIADAU'R DRETH GYNGOR 2024/25 pdf eicon PDF 215 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Gan eu bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd  y Cynghorwyr L.D. Evans a D. Price ac W. Walters, Prif Weithredwr y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad yn manylu ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar gyfer 2024/25.

 

Mae'r cynllun safonol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2013/14 a (gyda mân welliannau) y blynyddoedd dilynol, yn gynllun unffurf i Gymru gyfan, er bod elfennau cyfyngedig o ddisgresiwn lleol ar gael i Awdurdodau Lleol. Er bod hwn yn gynllun Cymru gyfan, roedd yn ofynnol i Gynghorau unigol yn ôl y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig i fabwysiadu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn ffurfiol erbyn 31 Ionawr bob blwyddyn. Manylwyd ar yr elfennau cyfyngedig o ran disgresiwn lleol a'r polisi a fabwysiadwyd gan y Cyngor mewn perthynas â'r disgresiwn hynny yn yr adroddiad. 

 

Yn amodol ar gymeradwyo'r rheoliadau gan ddod i rym ar 19 Ionawr, 2024

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL Y CANLYNOL I'R CYNGOR

 

12.1  bod Cynllun safonol Cymru Gyfan ar gyfer Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a ddarperir yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 yn cael ei fabwysiadu'n ffurfiol;

12.2   gweithredu'r ffigurau uwchraddio blynyddol (a ddefnyddir wrth gyfrifo hawl) a'r diwygiadau technegol eraill sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2024, a fydd yn dod i rym ar 19 Ionawr 2024 a bod y rheoliadau hyn yn cael eu cymhwyso mewn perthynas â Chynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a wnaed ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2024;

12.3   parhau i arfer ei ddisgresiwn o ran elfennau disgresiwn cyfyngedig y cynllun rhagnodedig, fel y'u hamlinellir yn y Crynodeb Gweithredol

          yn yr adroddiad

 

13.

DEDDF TRWYDDEDU 2003 ADOLYGIAD O'R BOLISI TRWYDDEDU AC ASESIADAU EFFAITH GRONNOL pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad yn manylu ar yr adolygiad o Bolisi Trwyddedu ac Asesiadau Effaith Gronnol yr Awdurdod.  Mae'n ofynnol yn ôl y ddeddfwriaeth i'r 'r polisi trwyddedu gael ei adolygu bob pum mlynedd ac Asesiadau Effaith Gronnol bob tair blynedd, er mwyn sicrhau eu bod dal yn briodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR

 

13.1   mai opsiwn tri, fel y nodir yn y Crynodeb Gweithredol, oedd yr opsiwn polisi mwyaf priodol ar gyfer yr Asesiadau Effaith Gronnol i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu yn Sir Gaerfyrddin orau;

13.2    cymeradwyo Datganiad y Polisi Trwyddedu sy'n adlewyrchu'r opsiwn a ddewiswyd.

</AI15>

 

14.

POLISI CYFLOGAU ATHRAWON ENGHREIFFTIOL 2023/24 pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Gan eu bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd  y Cynghorwyr L.D. Evans ac A.Vaughan-Owen a J. Morgan, Pennaeth Tai y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar y Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2023/24 a oedd wedi cael ei ddiweddaru i gynnwys tâl mis Medi 2023 fel y nodir yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2023.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2023/24 cyn iddo gael ei ddosbarthu i'r ysgolion er mwyn i'w Cyrff Llywodraethu ei fabwysiadu'n ffurfiol.

 

15.

POLISI CYFLOG ATHRAWON DIGYSWLLT MODEL 2023/24 pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad yn manylu ar y Polisi Cyflogau Athrawon Digyswllt Enghreifftiol diwygiedig hwn i gynnwys tâl mis Medi 2023 fel y nodir yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2023.  At ddibenion y polisi hwn, mae athrawon digyswllt yn cyfeirio at athrawon nad ydynt yn dod o dan reolaeth Cyrff Llywodraethol yr Ysgol e.e. Athrawon Peripatetig, Athrawon Bro, Athrawon a Gyflogir yn Ganolog etc.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Polisi Cyflogau Athrawon Digyswllt Enghreifftiol 2023/24.

 

16.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion: