Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 11eg Rhagfyr, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P.M. Hughes a J. Tremlett.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd/Swyddog

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd A. Davies

12 - Adolygiad Derbyn Disgyblion i Ysgolion Cynradd (Plant sy'n codi'n 4 oed)

Mae ganddi Feithrinfa i Blant yn Llanarthne.

 

3.

I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y 13EG TACHWEDD 2023 pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2023 yn gofnod cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

GWEITHRED AMRYWIO I DDIWYGIO ATODLEN 3 "CYLCH GORCHWYL" CYTUNDEB Y CYD-BWYLLGOR AR GYFER PARTNERIAETH pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Cabinet fod yr Awdurdod wedi ymrwymo i gytundeb gyda Chyngor Sir Penfro a Chyngor Dinas a Sir Abertawe ym mis Ebrill 2022 i sefydlu Cyd-bwyllgor i gefnogi'r gwaith o gyflawni gwelliannau addysgol drwy Bartneriaeth Addysg De-orllewin Cymru ("Partneriaeth”).

 

Mae Cylch Gwaith Partneriaeth (Atodlen 3 o Gytundeb y Cyd-bwyllgor) yn nodi y bydd y trefniadau llywodraethu drwy gyfrwng y tri aelod â phleidlais sef Arweinwyr y tri Chyngor. Fodd bynnag, mae'n anochel bod Arweinwyr yn cymryd rhan mewn llawer o gyfarfodydd sy'n gallu arwain at ymrwymiadau yn y dyddiadur sy'n digwydd ar yr un pryd. O ganlyniad, yn ei chyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2023 cytunodd Partneriaeth y byddai'n well cael rhywfaint o hyblygrwydd i'r 3 Awdurdod Cyfansoddol enwebu eu Haelod Cabinet, gyda'r Portffolio Addysg fel yr aelod â phleidlais yn lle eu Harweinydd, pe baent yn dymuno hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Atodlen 3 o Gytundeb Cyd-bwyllgor Partneriaeth, a'r aelod â phleidlais ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin fydd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg a'r aelod heb bleidlais fydd yr Arweinydd.

 

7.

STRATEGAETH GAFFAEL 2023/28. pdf eicon PDF 239 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried Strategaeth Caffael 2023-28, oedd â'r nod o gael fframwaith ar waith er mwyn sicrhau bod gan benderfyniadau comisiynu a chaffael rôl allweddol o ran cefnogi'r gwaith o gyflawni nodau Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor a Datganiad Gweledigaeth y Cabinet. Roedd yr adroddiad yn manylu ar flaenoriaethau allweddol yr Uned Caffael Corfforaethol dros y 5 mlynedd nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Strategaeth Caffael 2023-28.

 

 

8.

SYLFAEN TRETH Y CYNGOR 2024/25. pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad yn manylu ar gyfrifiadau Sylfaen y Dreth Gyngor mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2024-25.  Penderfynodd y Cyngor ar 8 Rhagfyr, 2004 fod cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor yn cael ei ddynodi'n swyddogaeth weithredol.

 

Mae'n ofynnol i'r Cyngor bennu bob blwyddyn Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer ardal y Cyngor a Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer pob cymuned o fewn ei ardal, at ddibenion pennu lefel y Dreth Gyngor am y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

8.1.    bod y cyfrifiadau o ran pennu Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer

          blwyddyn ariannol 2024-25, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad A o'r

          adroddiad, yn cael eu cymeradwyo;

         

8.2   bod Sylfaen y Dreth Gyngor o £76,460.40 yng nghyswllt ardal y   Cyngor Sir, yn cael ei gadarnhau;

 

8.3.    bod y sylfeini treth perthnasol yng nghyswllt y Cynghorau

          Cymuned a Thref unigol, fel y manylwyd arnynt yn Nhabl 2 o'r

          adroddiad, yn cael eu cadarnhau. 

 

9.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried Adroddiad canol blwyddyn Ynghylch y Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau rheoli'r trysorlys o 1 Ebrill hyd at 30 Medi 2023.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad.

 

10.

ADOLYGU'R POLISI DIOGELU CORFFORAETHOL. pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar adolygu'r Polisi Diogelu Corfforaethol.

 

Yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst 2023, cwblhaodd Swyddfa Archwilio Cymru adolygiad o drefniadau sicrwydd ac atebolrwydd Cyngor Sir Caerfyrddin o ran sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau diogelu ar waith ac y cydymffurfid â hwy. Bu'r adolygiad yn rhoi sylw i'r hyn roedd y Cyngor ei hun wedi'i wneud i sicrhau bod ei drefniadau i gefnogi diogelu'n drefniadau effeithiol drwy adolygu'r modd yr oedd y Cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldebau diogelu ar bob lefel: y Cabinet, y tîm uwch-reolwyr, y Pwyllgor Craffu a swyddogion unigol.

 

Un o'r argymhellion oedd yn deillio o'r adolygiad oedd y dylid diwygio'r Polisi Diogelu Corfforaethol sy'n ymdrin â holl feysydd gwasanaeth y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r fersiwn ddiwygiedig o'r Polisi Diogelu Corfforaethol.

11.

CYFLWYNO GORCHYMYN DIOGELU MANNAU AGORED CYHOEDDUS (PSPO) - CANOL TREF LLANELLI pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPO) newydd arfaethedig i fynd i'r afael â throseddau, anhrefn a niwsans sy'n gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau yn yr ardal a nodwyd yn Llanelli.

 

Mae Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn delio â mater neu faterion penodol mewn ardal benodedig sy'n cael effaith niweidiol ar ansawdd bywyd y gymuned leol. Gosodir yr amodau, o fewn y Gorchymyn, i gyfyngu ar ymddygiad penodol y ceir tystiolaeth ohono, a rhaid iddynt fod yn gymesur â'r effaith niweidiol y mae'r ymddygiad yn ei achosi neu'n gallu ei achosi, ac yn angenrheidiol i atal yr ymddygiad hwn rhag parhau, digwydd neu ddigwydd yn rheolaidd. Ar ôl ystyried effaith y Gorchymyn blaenorol a'r gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol, ystyriwyd ei bod yn briodol cynnig Gorchymyn newydd ar gyfer yr ardal.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod llunio Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (PSPO) newydd ar gyfer Canol Tref Llanelli, y manylwyd arno yn yr adroddiad, yn cael ei gymeradwyo.

 

 

12.

ADOLYGIAD DERBYNIADAU YSGOLION CYNRADD (CODI 4) pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorydd A. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad yn manylu ar ganlyniad Adolygiad Derbyn Disgyblion i Ysgolion Cynradd (Plant sy'n codi'n 4 oed)

 

Yn 2018/19 cwblhawyd Adolygiad Gorchwyl a Gorffen gan y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant o'r ddarpariaeth bresennol ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar, gofal plant a chyfleoedd chwarae. Un o'r casgliadau a nodwyd yn yr adroddiad oedd bod Polisi 'Plant sy'n Codi'n 4 oed' yr Awdurdod yn wahanol iawn i Awdurdodau Lleol eraill cyfagos ac awgrymodd fod y Cyngor yn cynnal adolygiad ffurfiol o'i bolisi derbyn presennol ar gyfer addysg llawn amser i blant 4 oed (y polisi Plant sy'n Codi'n 4 oed).  Mae'r Cabinet eisoes wedi ystyried adroddiad ynghylch y rhesymeg dros hyn ac wedi gofyn am asesiad o oblygiadau cael gwared ar y Polisi Plant sy'n Codi'n 4 oed mewn ysgolion unigol.

 

Cynhaliwyd yr asesiad ar ffurf dadansoddiad o'r bylchau o ran y ddarpariaeth addysg ar gyfer plant 3 a 4 oed pe bai'r polisi'n cael ei ddiwygio. Nododd y mannau lle bydd cael gwared ar y polisi yn cael effaith gyfyngedig neu ddim effaith arnynt, a'r ysgolion hynny (pob ysgol 4-11) lle bydd cael gwared ar y polisi yn gadael bylchau o ran y ddarpariaeth mewn rhai ysgolion ac ardaloedd daearyddol. Cynigir atebion posibl lle mae bylchau wedi'u nodi yn y ddarpariaeth. Fodd bynnag, byddai unrhyw oblygiadau ariannol newidiadau sy'n arwain at gynnydd yn y gwariant yn ddibynnol ar ddileu'r Polisi Plant sy'n Codi'n 4 oed.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cyngor Sir Caerfyrddin, fel yr Awdurdod Derbyn ar gyfer ysgolion cynradd cymunedol ac ysgolion cynradd gwirfoddol a reolir, yn ymgynghori ar ddileu'r Polisi Plant sy'n Codi'n 4 oed yn ystod yr ymarfer ymgynghori ar dderbyniadau blynyddol ym mis Ionawr 2024, i'w weithredu o bosibl ym mis Medi 2025. 

 

 

 

13.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

14.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y CABINET AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

15.

PROSIECTAU A ARIENNIR YN ROWND 1 FFYNIANT BRO LLYWODRAETH Y DU - Y DIWEDDARAF AM BROSIECT HWB CAERFYRDDIN

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 14 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Cyngor drwy danseilio ei safbwynt mewn trafodaethau yn y dyfodol ynghylch y prosiectau hyn.

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Prosiect a Ariennir yn Rownd 1 Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, Prosiect Hwb Caerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

15.1    bod y cynigion diwygiedig, y manylwyd arnynt yn yr adroddiad,   yn cael eu cymeradwyo;

15.2    bod Opsiwn B, a amlinellwyd yn yr adroddiad, yn cael ei       gymeradwyo;

15.3    cymeradwyo bod yr arian ychwanegol sydd ei angen yn dod o   ffynonellau fel y manylir yn yr adroddiad;

15.4    bod y newidiadau i'r cynllun gwreiddiol yn cael eu cydnabod a'r       cynigion diwygiedig yn cael eu cefnogi.

 

16.

ROWND 3 CRONFA CYMUNEDAU CYNALIADWY

Cofnodion:

[NODER:  Bu'n rhaid i'r Cadeirydd adael y cyfarfod cyn bod yr eitem hon yn cael ei hystyried.  Roedd yr Is-gadeirydd wedi llywyddu'r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.]

 

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 14 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r unigolyn a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'i gystadleuwyr masnachol

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o geisiadau a gyflwynwyd o dan y Gronfa Cymunedau Cynaliadwy (Rownd 3) sy'n cael ei hariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ddyfarnu cyllid o fewn y gyllideb sydd ar gael i'r 11 cais, fel yr argymhellwyd gan y Panel Cyllido ac ar y telerau a'r amodau fel y manylir yn Nhabl 2 ac Atodiad A o'r adroddiad.