Cofnodion:
Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPO) newydd arfaethedig i fynd i'r afael â throseddau, anhrefn a niwsans sy'n gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau yn yr ardal a nodwyd yn Llanelli.
Mae Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn delio â mater neu faterion penodol mewn ardal benodedig sy'n cael effaith niweidiol ar ansawdd bywyd y gymuned leol. Gosodir yr amodau, o fewn y Gorchymyn, i gyfyngu ar ymddygiad penodol y ceir tystiolaeth ohono, a rhaid iddynt fod yn gymesur â'r effaith niweidiol y mae'r ymddygiad yn ei achosi neu'n gallu ei achosi, ac yn angenrheidiol i atal yr ymddygiad hwn rhag parhau, digwydd neu ddigwydd yn rheolaidd. Ar ôl ystyried effaith y Gorchymyn blaenorol a'r gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol, ystyriwyd ei bod yn briodol cynnig Gorchymyn newydd ar gyfer yr ardal.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod llunio Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (PSPO) newydd ar gyfer Canol Tref Llanelli, y manylwyd arno yn yr adroddiad, yn cael ei gymeradwyo.
Dogfennau ategol: