Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd P.M. Hughes.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.
|
|
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR 30AIN HYDREF 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Hydref 2023 yn gofnod cywir.
|
|
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
STRATEGAETH HAMDDEN, DIWYLLIANT, A HAMDDEN AWYR AGORED Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar Strategaeth Hamdden, Diwylliant a Hamdden Awyr Agored 10 mlynedd newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin, a luniwyd i ddarparu cyfeiriad strategol ar gyfer y gwasanaeth.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Strategaeth Hamdden, Diwylliant a Hamdden Awyr Agored 10 mlynedd ar gyfer Sir Gaerfyrddin.
|
|
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Awst 2023, o ran 2023/24.
Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld gorwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £8,730k ac yn rhagweld gorwariant o £6,098k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL 7.1 Derbyn adroddiad monitro'r gyllideb, a nodi'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol a gymerwyd; 7.2 O ran gorwariant sylweddol ar feysydd penodol o'r gyllideb, bydd y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'n feirniadol yr opsiynau sydd ar gael iddynt er mwyn mynd i'r afael â'r effaith barhaus.
|
|
DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2023/24 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cabinet adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ar gyfer rhaglen gyfalaf 2023/24, fel yr oedd ar 31 Awst 2023 gan fanylu ar y prosiectau newydd a'r trosglwyddiadau ariannol i'w nodi a'u cymeradwyo gan y Cabinet. Nododd Atodiad A i'r adroddiad wariant net a ragwelir o £91,370k o gymharu â chyllideb net weithredol o £142,842k, gan roi amrywiad -£51,472k.
Roedd y gyllideb net yn cynnwys rhaglenni cyfalaf gwreiddiol y Cyfrif Refeniw Tai a'r Gronfa Gyffredinol a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 1 Mawrth 2023 a llithriad o 2022/23. Roedd rhai o'r cyllidebau hefyd wedi cael eu diwygio yn unol â’r gwahaniaethau yn y dyraniadau grant gwirioneddol o gymharu â'r dyraniadau disgwyliedig pan gafodd y rhaglen ei chymeradwyo, a grantiau newydd oedd wedi dod i law yn ystod y flwyddyn hyd yn hyn. Manylwyd ar y prif amrywiadau ym mhob adran yn Atodiad B i'r adroddiad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
8.1 bod yr adroddiad ar ddiweddaru'r rhaglen gyfalaf 2023/24 yn cael ei dderbyn; 8.2 bod y prosiectau newydd, fel yr oeddent yn yr adroddiad, yn cael eu nodi a'u cytuno, i'w hariannu gan danwariant taliadau cyfalaf y flwyddyn gyfredol.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion ar gyfer datblygu llywodraethu a dulliau galluogi Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru wrth iddo gymryd cyfrifoldeb dros Maethu Cymru 2. Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio sicrhau cytundeb i lofnodi Cytundeb y Cydbwyllgor ar gyfer y Cydbwyllgor arfaethedig.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
9.1 nodi'r adroddiad diweddaru. 9.2 cytuno bod yr Awdurdod yn llofnodi Cytundeb y Cydbwyllgor ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Maethu Cymru.
|
|
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y CABINET AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
GWAREDU PARC DEWI SANT, HEOL FFYNNON JOB, CAERFYRDDIN Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod Eitem 11 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon yn anfantais faterol i'r Awdurdod mewn unrhyw drafodaethau dilynol â thrydydd partïon, a gallai cael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus.
Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad yn manylu ar y cynigion ar gyfer gwaredu Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fwrw ymlaen â'r argymhelliad fel y manylir yn yr adroddiad.
|