Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 30ain Hydref, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

[Noder:  Newid o ran trefn materion, ar gais y Cadeirydd, cafodd eitem Agenda 16 – Oriel Myrddin ei symud i'r eitem olaf]

 

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd P. M. Hughes.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd/Swyddog

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd A. Lenny

Y Cynghorydd  H.A.L. Evans

Y Cynghorydd E. Thomas

Y Cynghorydd J. Tremlett

8 – Apeliadau Ardal Gadwraeth

Buddiant personol yn yr ystyr bod y Cynghorydd yn byw o fewn ardal gadwraeth.

Arhosodd y Cynghorydd yn y cyfarfod, cymerodd ran yn y drafodaeth a phleidleisiodd.

Wendy Walters, Prif Weithredwr

16 - Oriel Myrddin

Gadawodd Mrs Walters y cyfarfod cyn bod yr eitem hon yn cael ei hystyried.

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD YCABINET A GYNHALIWYD AR 16 HYDREF 2023 pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Hydref 2023 yn gofnod cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR GÂR AR GYFER 2022-23 pdf eicon PDF 175 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau'r Cabinet yr Adroddiad Blynyddol Drafft ar gyfer 2022-23 ar Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor 2022-2027. 

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y pedwar Amcan Llesiant a'r Galluogwyr Busnes Craidd ac yn asesu'r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn. 

 

Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar ei Amcanion Llesiant.  Yn ogystal, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, roedd dyletswydd ar y Cyngor i adrodd ar ei berfformiad ar ffurf dull hunanasesu. Nod yr adroddiad oedd bodloni'r ddau ofyniad mewn un ddogfen.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I’R CYNGOR bod Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2022-2023 yn cael ei gymeradwyo.

 

 

7.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2023 I MEHEFIN 30AIN 2023. pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad diweddaru ar weithgareddau rheoli'r trysorlys a'r dangosyddion darbodus ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2023 a Mehefin 2023.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod yr Adroddiad diweddaraf ynghylch y Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys rhwng 1 Ebrill 2023 a 30 Mehefin 2023 yn cael ei gymeradwyo.

 

 

8.

ARFARNIADAU O ARDALOEDD CADWRAETH pdf eicon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Bu i'r Cynghorwyr A. Davies. H.A.L. Evans, A. Lenny a J. Tremlett, wedi iddynt ddatgan buddiant personol yn yr eitem hon yn gynharach, aros yn y cyfarfod a phleidleisio.]

 

Ystyriodd Aelodau'r Cabinet adroddiad ynghylch yr Arfarniadau o Ardaloedd Cadwraeth a oedd yn adeiladu ar y gwaith a wnaed i adolygu deg o'r Ardaloedd Cadwraeth dynodedig ledled y Sir a'r gwaith dilynol o baratoi ac ymgynghori ar yr arfarniadau ar gyfer pob un o'r Ardaloedd Cadwraeth a nodwyd.

 

Amlinellodd yr adroddiad y broses a'r adborth a gafwyd fel rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol cysylltiedig, gan nodi'r arfarniadau o ardaloedd cadwraeth drafft terfynol ac unrhyw welliannau a argymhellwyd o ran yr Ardaloedd Cadwraeth eu hunain. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys y camau nesaf mewn perthynas â'r broses reoleiddio sydd ei hangen i ddiwygio'r Ardaloedd Cadwraeth yn ffurfiol.

 

Nodwyd bod yr ymgynghoriad ar gynnwys yr Arfarniadau o Ardaloedd Cadwraeth drafft wedi'i gynnal rhwng 24 Mehefin 2022 a 26 Awst 2022. Fel rhan o'r holiadur ar-lein derbyniwyd 16 ymateb. Cyflwynwyd 93 o sylwadau pellach fel rhan o'r sesiynau wyneb yn wyneb a'r sesiynau gweminar. Roedd yr holl sylwadau a dderbyniwyd wedi cael eu hystyried yn briodol ac wedi llywio cynnwys yr asesiadau drafft a oedd yn rhan o'r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:

 

8.1 cymeradwyo canlyniad yr Arfarniadau o Ardaloedd Cadwraeth a'r gwelliannau a argymhellir i Ffiniau Ardaloedd Cadwraeth;

         

8.2 awdurdodi swyddogion i ymgymryd â phrosesau rheoleiddio sy'n angenrheidiol i ddiwygio ffiniau Ardaloedd Cadwraeth yn ffurfiol fel yr argymhellir.

 

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2022/23 pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau'r Cabinet Adroddiad Blynyddol gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar berfformiad y gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y sir ar gyfer y flwyddyn 2022/23. Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o'r perfformiad yn ystod 2022/23, ynghyd ag asesiad ynghylch darpariaeth yn y dyfodol a'r blaenoriaethau strategol ar gyfer 2024/25.

 

Roedd yn ofynnol yn statudol i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol adrodd yn flynyddol wrth y Cyngor ar berfformiad yr ystod gyfan o wasanaethau cymdeithasol a'r modd y cânt eu darparu, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer eu gwella. Nodwyd bod y Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo'r adroddiad yn ei gyfarfod ar 4ydd Hydref 2023.

 

Mynegwyd diolchiadau i'r staff a oedd yn gweithio ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin 2022/23 yn cael ei gymeradwyo.

 

 

10.

CYNRYCHIOLAETH CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR FYRDDAU ARDAL GWELLA BUSNES CAERFYRDDIN A LLANELLI (AGB) pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Ystyriodd Aelodau'r Cabinet adroddiad ar y gynrychiolaeth ar Fwrdd Ardal Gwella Busnes Caerfyrddin a Llanelli. 

 

Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth gan y Cabinet ar gyfer cynrychiolaeth Cyngor Sir Caerfyrddin fel sylwedydd ar fyrddau AGB Caerfyrddin a Llanelli i alluogi'r Cyngor i adrodd ar hereditamentau ardoll AGB yn unol â'r Cytundebau Gweithredol.

 

Nododd y Cabinet fod AGB Caerfyrddin a Llanelli wedi'u ffurfio yn 2020 a 2016 yn y drefn honno, roedd AGB Caerfyrddin yn dal o fewn ei dymor pum mlynedd cyntaf, tra bod AGB Llanelli wedi cychwyn ar ei ail dymor ym mis Mawrth 2021.

 

Amlinellodd yr adroddiad fod y ddau AGB yn cael eu llywodraethu gan Gytundebau Gweithredol rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Carmarthen BID CIC Limited (AGB Caerfyrddin) ac Ymlaen Llanelli (AGB Llanelli). O fewn telerau'r ddau gytundeb, Cyngor Sir Caerfyrddin oedd yn gyfrifol am gasglu ardoll yr Ardal Gwella Busnes gan fusnesau atebol a gweinyddu Cyfrif Refeniw yr AGB.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo cynrychiolaeth enwebedig o Gyngor Sir Caerfyrddin fel sylwedydd ar fyrddau AGB Caerfyrddin a Llanelli.

 

 

11.

RHYBUDD GYNNIG A GYFEIRIWYD GAN Y CYNGOR - 13 MEDI 2023 FFORDD OSGOI LLANDEILO pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd Aelodau'r Cabinet adroddiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth mewn ymateb i rybudd o gynnig a gyfeiriwyd gan y Cyngor Sir yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Medi 2023 i'r Cabinet mewn perthynas â Ffordd Osgoi Llandeilo i'w ystyried.

 

Argymhellodd yr adroddiad fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn ysgrifennu llythyr pellach at Ddirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, yn nodi safbwynt y Cyngor ac i ofyn yn ffurfiol am y wybodaeth a nodir yn y Rhybudd o Gynnig. Roedd Aelodau'r Cabinet yn cefnogi'r argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL anfon llythyr at Ddirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, yn nodi safbwynt y Cyngor ac i ofyn yn ffurfiol am y wybodaeth a nodir yn y Rhybudd o Gynnig.

 

 

12.

RHYBUDD GYNNIG A GYFEIRIWYD GAN Y CYNGOR -13 MEDI 2023 GRWP CYMORTH ISELDER SHADOWS pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd Aelodau'r Cabinet adroddiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth mewn ymateb i rybudd o gynnig a gyfeiriwyd gan y Cyngor Sir yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Medi 2023 i'r Cabinet mewn perthynas â Gr?p Cymorth Iselder Shadows i'w ystyried.

 

Nododd Aelodau'r Cabinet fod cyfrifoldeb ar y Cyngor i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl statudol o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, y Ddeddf Iechyd Meddwl a'r Mesur Iechyd Meddwl a Strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.  Yn ogystal, trwy ddull amlddisgyblaethol, cynhaliwyd gwaith ar y cyd â'r Bwrdd Iechyd i ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl a chafodd timau Gwaith Cymdeithasol y Cyngor eu cydleoli â thimau Iechyd Meddwl y Bwrdd Iechyd.

 

Deallwyd bod Gr?p Cymorth Iselder Shadows wedi derbyn grant gan y Bwrdd Iechyd drwy gyllid Clwstwr Gofal Sylfaenol am gyfnod o 3 blynedd. Fodd bynnag, roedd y grant hwn tan yn ddiweddar iawn wedi dod i ben.  Rhoddodd yr adroddiad gydnabyddiaeth i'r gefnogaeth a ddarparwyd gan y Gr?p dros gyfnod y grant, a'r adborth cadarnhaol a dderbyniwyd gan bawb a gymerodd ran.

 

Mae Tîm Comisiynu'r Cyngor wedi cael trafodaethau cychwynnol gyda Gr?p Cymorth Iselder Shadows ar y posibilrwydd o gydweithio i ddiwallu angen lleol, rhoddodd yr adroddiad fanylion am 2 wasanaeth a gadarnhawyd ar gyfer Gr?p Cymorth Iselder Shadows i'w darparu yn ardaloedd Rhydaman a Gwendraeth, sef VAWDASV AC Iechyd Meddwl Generig.

 

Yn ogystal, amlygwyd bod y Tîm Comisiynu wedi bod yn cefnogi trafodaethau rhwng Gr?p Cymorth Iselder Shadows a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin a CWMPAS.  Byddai hyn yn galluogi mynediad at wybodaeth a chyngor arbenigol a fyddai'n cefnogi Gr?p Cymorth Iselder Shadows i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael i wella cynaliadwyedd y gwasanaeth wrth symud ymlaen ac i lywio'r gwaith cynllunio ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

12.1

gwneud galwadau pellach ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i sicrhau bod digon o wasanaethau iechyd meddwl ar gael i breswylwyr ledled Sir Gaerfyrddin, yn y tymor byr a'r tymor hir;

 

12.2      

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y clwstwr Meddygon Teulu a Chyngor Sir Caerfyrddin i weithio gyda Gr?p Cymorth Iselder Shadows i ddod o hyd i ateb cynaliadwy o ran cyllid er mwyn diogelu gwasanaethau yn Nyffryn Aman a Chwm Gwendraeth.

 

 

13.

CRONFA GYFALAF Y RHAGLEN 10 TREF - TREF CYDWELI pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet adroddiad a oedd yn cynnwys  cais a gyflwynwyd gan Gyngor Tref Cydweli fel rhan o'r rhaglen 10 Tref.

 

Nod y rhaglen 10 tref yw darparu cyfle ar gyfer twf economaidd a chynaliadwyedd i drefi marchnad gwledig dynodedig ledled y Sir.  Roedd Cyngor Tref Cydweli wedi cytuno i weithredu fel y corff arweiniol ar ran tîm y cynllun twf economaidd a sefydlwyd o fewn y dref ac a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector.

 

Nodwyd nad oedd ffynonellau cyllid amgen ar gael ar gyfer y prosiect hwn ac felly heb gyllid Craidd a buddsoddiad y Gronfa Ffyniant Gyffredin, ni fyddai'r prosiect hwn yn mynd yn ei flaen.

 

Ystyriodd Aelodau'r Cabinet y cais manwl yn yr adroddiad a oedd yn cynnwys crynodeb y prosiect a'r costau cysylltiedig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r cais am grant o £100,000 o Gronfa Gyfalaf 10 Tref yr Awdurdod a £75,000 o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin fel rhan o'r rhaglen Angor Gwledig.

 

 

14.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

 

15.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y CABINET AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

16.

PROSIECT CYFALAF ORIEL MYRDDIN

Cofnodion:

 

[Noder: 

  • Symudwyd yr eitem hon i ddiwedd yr agenda;
  • Roedd Wendy Walters, Prif Weithredwr wedi datgan buddiant yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod cyn i'r cais gael ei ystyried.]

 

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod Rhif 15 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Cyngor drwy danseilio ei safbwynt mewn trafodaethau ynghylch y prosiect.

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad manwl mewn perthynas â datblygu Prosiect Cyfalaf Oriel Myrddin. 

 

PENDERFYNWYD:

 

16.1

cytuno ar becyn a rhaglen cyllid cyfalaf wedi'u diweddaru;

 

16.2

cytuno ar Benawdau'r Telerau (HoT) a thrywydd gweithredu o ran trefniadau cyfreithiol sy'n ymwneud ag eiddo a llywodraethu sy'n mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar risg o ran cyhoeddi llythyr o fwriad i'r prif gontractwr penodedig ddechrau ar y safle.

 

17.

CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN Y DEYRNAS UNEDIG - CRONFA DATBLYGU EIDDO

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 15 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Cyngor drwy danseilio ei safbwynt mewn trafodaethau ynghylch y prosiect.

 

Derbyniodd y Cabinet adroddiad i'w ystyried a oedd yn darparu gwybodaeth am brosiectau arfaethedig ar gyfer cyllid grant a fyddai'n galluogi'r cynlluniau arfaethedig i gael eu datblygu. 

 

Nod y Gronfa Ffyniant Gyffredin - Datblygu Eiddo oedd darparu cymorth ariannol i ddatblygwyr tuag at adeiladu adeiladau diwydiannol a masnachol gyda'r prif nod o greu capasiti ar gyfer cyflogaeth yn Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r prosiectau arfaethedig ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin – Cronfa Datblygu Eiddo fel y manylir yn yr adroddiad.

 

 

18.

LLAIN 3 PARC ADWERTHU TROSTRE, LLANELLI

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 15 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon yn anfantais faterol i'r awdurdod mewn unrhyw drafodaethau dilynol â thrydydd partïon, a gallai cael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus.

 

Ystyriodd y Cabinet adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth fanwl am y cynllun datblygu diwygiedig ar gyfer Llain 3, Parc Adwerthu Trostre.  Roedd yr adroddiad yn gofyn am benderfyniad y Cabinet ynghylch a yw'r Awdurdod yn bwrw ymlaen â'r gwerthiant ar gyfer y cynllun amgen ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor yn Nhrostre.

 

Ar ôl ystyried yr effaith negyddol bosibl y gallai'r datblygiad ei chael ar Ganol Tref Llanelli, cynigiwyd nad yw'r gwerthiant yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.  Eiliwyd y cynnig hwn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nad yw'r Awdurdod yn bwrw ymlaen â'r gwerthiant ar gyfer y cynllun amgen ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor yn Nhrostre.

 

 

19.

CAFFAEL EIDDO I'W DDEFNYDDIO FEL CARTREFI PLANT COFRESTREDIG

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 15 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod oherwydd bod y pryniant yn weddill ac fel nad yw'n rhagfarnu trafodaethau parhaus.

 

Ystyriodd y Cabinet adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gaffael eiddo i'w defnyddio fel cartrefi plant cofrestredig.

 

Adroddwyd fel rhan o'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, fod ymrwymiad clir i ddileu elw preifat o  ofalu am blant sy'n derbyn gofal.  Erbyn 2026 bydd yn anghyfreithlon i Awdurdodau Lleol leoli plant mewn cartrefi gofal preswyl preifat 'er elw'.

 

Nododd y Cabinet, ar hyn o bryd, nad oes gan y Cyngor ddigon o gapasiti o fewn ei wasanaethau preswyl ar gyfer plant i ateb y galw presennol a'r galw a ragwelir. Yn ogystal, roedd y cyflenwad yn annigonol o fewn y sector 'nid er elw' mewn gwasanaethau preswyl yng Nghymru.

 

Wrth ystyried y bwriad i gaffael yr eiddo, nododd y Cabinet y byddai'n cael ei ariannu drwy Lywodraeth Cymru i ail-gydbwyso'r farchnad a pharatoi Awdurdodau ar gyfer 2026.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r bwriad i gaffael eiddo 5 ystafell wely fel y nodwyd yn yr adroddiad i'w ddefnyddio fel Cartref Plant Cofrestredig.