Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 16eg Hydref, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H.A.L. Evans a P.M. Hughes

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR 18EG MEDI, 2023. pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Medi 2023 yn gofnod cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

ADRODDIAD TERFYNOL GRWP GORCHWYL A GORFFEN - ADOLYGIAD O REOLI TIPIO ANGHYFREITHLON YN SIR GAERFYRDDIN. pdf eicon PDF 156 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad terfynol y Gr?p Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd gan y Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd i gynnal adolygiad o reoli Tipio Anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin.

 

Croesawyd y Cadeirydd i’r cyfarfod y Cynghorydd J.D. James, Cadeirydd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen, a gyflwynodd yr adroddiad ac amlinellodd yr argymhellion a luniwyd gan y Gr?p ar ôl ystyried yr ystod o dystiolaeth oedd dan sylw mewn cyfres o gyfarfodydd oedd wedi eu cynnal rhwng Rhagfyr 2022 a Mehefin 2023.

 

Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Gorffennaf 2023, bu'r Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd, yn ystyried yr adroddiad terfynol gan argymell bod y Cabinet yn ystyried yr adroddiad a'r argymhellion ynddo.

 

Diolchwyd i'r Cynghorydd James ac aelodau'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen am eu gwaith yn cynnal yr adolygiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid cymeradwyo'r adroddiad a'r saith argymhelliad gan y Gr?p Gorchwyl a Gorffen

 

 

7.

CYMHWYSO BWRIADOLDEB I ANGEN BLAENORIAETHOL (GORCHYMYN DIGARTREFEDD). pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar y newidiadau i ddeddfwriaeth digartrefedd. Daeth Deddf Tai (Cymru) 2014 i rym ar 27 Ebrill 2015 ac ym mis Gorffennaf 2015 cymeradwyodd yr Awdurdod adroddiad i gymhwyso bwriadoldeb ar draws y 10 categori gwreiddiol o Angen Blaenoriaethol.

 

Mae awdurdodau lleol yn cymhwyso'r prawf bwriadoldeb i ystyried a yw person sy'n ddigartref wedi gwneud neu wedi methu â gwneud rhywbeth a allai fod wedi achosi iddo golli ei lety sefydlog ac felly gellid tybio ei fod wedi achosi ei ddigartrefedd yn 'fwriadol’. Pan fo person wedi dod yn ddigartref yn fwriadol, nid oes dyletswydd statudol ar yr Awdurdod i sicrhau llety parhaol i'r person hwnnw.

 

Ym mis Hydref 2022 daeth Rheoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022 i rym a ychwanegodd gategori newydd o ran Angen Blaenoriaethol sef Digartref ac ar y Stryd. Ers cyflwyno hyn, nid yw'r Awdurdod wedi gallu cymhwyso'r prawf bwriadoldeb i unrhyw aelwyd sy'n cyflwyno eu hunain yn Ddigartref ac ar y Stryd gan ganiatáu iddynt gael y dyletswyddau tai llawn o dan y ddeddfwriaeth.  Felly, roedd angen penderfyniad, yn seiliedig ar y wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad, ynghylch a ddylai'r Awdurdod barhau i gymhwyso'r prawf digartref yn fwriadol ar draws y categorïau presennol a hefyd i'r categori ychwanegol Digartref ac ar y Stryd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i gadw bwriadoldeb ar gyfer pob un o'r 10 categori angen blaenoriaethol a restrir o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a  chymhwyso bwriadoldeb i'r 11eg categori a ychwanegwyd, sef Digartref ac ar y Stryd.

 

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR GAERFYRDDIN 2022-23. pdf eicon PDF 175 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod yr adroddiad hwn wedi'i dynnu'n ôl.  

 

9.

LLYTHYR BLYNYDDOL YR OMBWDSMON 2022/2023 - CYNGOR SIR GAERFYRDDIN. pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon 2022/23 ynghyd â'r daflen ffeithiau a'r data cysylltiedig.

 

Nodwyd bod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn rhoi llythyr i bob Cyngor Sir yng Nghymru bob blwyddyn ar ffurf taflen ffeithiau ynghyd â'r data cysylltiedig er mwyn helpu i adolygu perfformiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2022-23.

 

10.

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2022/23 - CYNLLUN DATBLYGU LLEOL MABWYSIEDIG SIR GAERFYRDDIN (2006 - 2021). pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried Adroddiad Monitro Blynyddol 2022/23 ynghylch Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin a fabwysiadwyd (2006-2021), a oedd wedi'i baratoi'n unol â darpariaethau Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2022 a Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol 23.

 

Yn unol â dyletswydd statudol y Cyngor, byddai'r Adroddiad Monitro Blynyddol yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a'i gyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn 31 Hydref 2021. Byddai ymgynghoriad anffurfiol yn cyd-fynd â hyn a fyddai'n rhoi cyfle i bartïon â diddordeb roi sylwadau ar y materion allweddol a godwyd. Er nad oedd yn ofyniad statudol, roedd ymgynghoriad o'r fath yn gyfle pwysig i gyflwyno sylwadau, a lle bo'n briodol, i'r sylwadau hynny gyfrannu at gynnwys Adroddiadau Monitro Blynyddol dilynol. Byddai cynnwys yr Adroddiad Monitro Blynyddol presennol, ynghyd â chynnwys y tair dogfen flaenorol, yn cael ei ddefnyddio wrth baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol  Diwygiedig 2018 - 2033 a'i sylfaen dystiolaeth gysylltiedig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR y dylid cymeradwyo'r Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, ac awdurdodi swyddogion i wneud newidiadau teipograffyddol neu ffeithiol yn ôl yr angen i wella ei eglurder a'i gywirdeb.

 

11.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2023/24. pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cabinet adroddiad a oedd yn amlinellu'r sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf ar gyfer rhaglen gyfalaf 2022/23, fel yr oedd ar 30 Mehefin 2022 gan fanylu ar y   prosiectau newydd i'w nodi a'u cymeradwyo gan y Cabinet.  Roedd yr adroddiad yn dangos gwariant net rhagweladwy o £85,865 o gymharu â chyllideb net weithredol o £145,604 gan roi amrywiant o £-59,739k. 

 

Roedd y gyllideb net yn cynnwys y Cyfrif Refeniw Tai gwreiddiol a'r Gronfa Gyffredinol, a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 1 Mawrth a llithriad o 2022/23. Roedd rhai cyllidebau hefyd wedi cael eu diwygio yn unol â’r gwahaniaethau yn y dyraniadau grant gwirioneddol o gymharu â'r dyraniadau disgwyliedig pan gafodd y rhaglen ei chymeradwyo, a grantiau newydd oedd wedi dod i law yn ystod y flwyddyn hyd yn hyn.

 

Roedd Atodiad B i'r adroddiad yn nodi'r prif amrywiadau ym mhob adran.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

11.1   bod yr adroddiad ar ddiweddaru'r rhaglen gyfalaf 2022/23 yn cael

          ei dderbyn;

11.2.  bod y prosiectau newydd, fel yr oeddent yn yr adroddiad, yn cael

          eu nodi a'u cytuno.

  

 

12.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR. pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 30 Mehefin: 2022, o ran 2022/2023.

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld gorwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £7,399k ac yn rhagweld gorwariant o £4,504k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

12.1    Derbyn adroddiad monitro'r gyllideb, a nodi'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol a gymerwyd;

12.2   O ran gorwariant sylweddol ar feysydd penodol o'r gyllideb, bydd y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'n feirniadol yr opsiynau sydd ar gael iddynt er mwyn mynd i'r afael â'r effaith barhaus.

 

13.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.