Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALWYD AR 19EG MEHEFIN 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2023 yn gofnod cywir. |
|
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
POLISI DIGOLLEDU AR GYFER DEILIAID CONTRACTAU (TENANTIAID). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried y Polisi Digolledu ar gyfer Deiliaid Contractau (Tenantiaid) a oedd yn amlinellu dull yr Awdurdod o ddelio ag achosion pryd y gallai fod yn briodol digolledu tenant sydd wedi dioddef colled neu anghyfleustra oherwydd methiant yn y gwasanaeth. Bydd y polisi yn arwain swyddogion wrth ddelio â thenantiaid y cyngor gan sicrhau dull cyson. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Digolledu ar gyfer Deiliaid Contractau (Tenantiaid).
|
|
POLISI ADENNILL COSTAU AM WAITH ATGYWEIRIO AR GYFER DEILIAID CONTRACTAU (TENANTIAID). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried y Polisi Adennill Costau am Waith Atgyweirio ar gyfer Deiliaid Contractau (Tenantiaid) a oedd yn nodi'r meini prawf pryd byddid yn codi tâl ar denant (deiliad contract) am atgyweiriadau y maent hwy'n gyfrifol amdanynt o dan y cytundeb tenantiaeth (Contract).
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Adennill Costau am Waith Atgyweirio ar gyfer Deiliaid Contractau (Tenantiaid).
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Yn ei gyfarfod ar 27 Gorffennaf 2020 (gweler cofnod 8), ar ôl i'r Cyngor gymeradwyo'r ddau Rybudd o Gynnig ar hiliaeth yn Sir Gaerfyrddin ar 12 Chwefror 2020 (7.1) ac 8 Gorffennaf 2020 (7.1), roedd y Cabinet o'r farn y dylid mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd gan bob Cynnig ar y cyd â'i gilydd a chymeradwyodd sefydlu Panel Ymgynghorol Gorchwyl a Gorffen a oedd yn wleidyddol gytbwys i wrando ar lais cymunedau Du, Asiaidd, a Lleiafrifoedd Ethnig yn Sir Gaerfyrddin.
Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi canfyddiadau'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen a gasglwyd dros gyfnod o flwyddyn rhwng 2020 a 2021. Mae'r adroddiad yn adlewyrchu'r sefyllfa a'r wybodaeth a oedd ar gael i'r Gr?p bryd hynny. Cytunodd y Gr?p ar yr argymhellion yn yr adroddiad yn ei gyfarfod olaf ym mis Gorffennaf 2021.
Ers mis Mai 2020 mae cyflymder y newid o ran anghydraddoldeb hiliol wedi cynyddu'n sylweddol. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith ar lefel genedlaethol ac ym mis Mehefin 2022 cyhoeddodd ei Gweledigaeth ar gyfer Cymru Wrth-hiliol a sut y byddai'n mynd ati i gyflawni hyn drwy Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol. Hefyd, ym mis Hydref 2021, Cymru oedd y genedl gyntaf yn y DU i wneud addysgu hanes a phrofiadau pobl Dduon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol yn orfodol yng nghwricwlwm ysgolion. Wrth ystyried yr adroddiad roedd yn amlwg bod mentrau cenedlaethol wedi mynd y tu hwnt i uchelgais y Gr?p, ond mae rhai argymhellion yn benodol i Gyngor Sir Caerfyrddin.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
8.1 bod argymhellion 1-17 ac argymhelliad 20 y Gr?p Gorchwyl a Gorffen, fel y nodir yn yr adroddiad yn cael ei derbyn;
8.2 gofyn i swyddogion adolygu argymhellion 18 a 19, o ystyried y goblygiadau cost posibl.
|
|
CAIS I'R GRONFA DDATBLYGU. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am sefyllfa ddiweddaraf y Gronfa Ddatblygu ac yn gofyn am gymeradwyo cais diweddar i roi swm o £150,000 i ariannu Cwrs Golff Bach newydd wedi'i seilio ar thema ar Safle Prosiect Denu Twristiaid Pentywyn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
9.1 cymeradwyo rhoi swm o £150,000 ar gyfer Cwrs Golff Bach newydd wedi'i seilio ar thema ar Safle Prosiect Denu Twristiaid Pentywyn, gan greu mwy o incwm; 9.2 bod yr ad-daliad am y cynllun uchod yn para dros gyfnod o bedair blynedd; 9.3 bod y taliadau'n dechrau yn 2024/25
|
|
CYNLLUN CREU LLEOEDD PORTH TYWYN. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi manylion Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer Porth Tywyn a luniwyd i ategu Cynlluniau Twf y Deg Tref a'r cynlluniau adfer Covid-19 ar gyfer prif drefi Sir Gaerfyrddin. Byddai cyhoeddi'r Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer Porth Tywyn yn sicrhau ei bod yn cyd-fynd â'r prif drefi a'r trefi eilaidd eraill ar draws y sir.
Dylid nodi bod y cynllun yn adlewyrchu'r sefyllfa ym mis Mai 2022. Mae’r cynllun yn ddigon hyblyg i adlewyrchu anghenion a gofynion newidiol posibl y dref a gellir ei ddiwygio o bryd i'w gilydd gan dîm y dref. Mae'r cynllun wedi'i ddatblygu gyda rhanddeiliaid allweddol yn yr ardal i nodi cyfleoedd a oedd yn cysoni'r cynigion adfer ar gyfer canol y dref â dyheadau adfywio yr harbwr gan sicrhau bod Porth Tywyn yn y sefyllfa orau i fanteisio i'r eithaf ar effaith gwaith adfywio arfaethedig yn yr ardal leol.
Wrth lunio'r Cynllun Creu Lleoedd, cynhaliwyd sesiynau ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol yn y gymuned ac roedd eu cyfraniad wedi helpu i nodi 15 o Gyfleoedd Prosiect Creu Lleoedd yn yr ardal a fyddai'n helpu i wireddu'r dyheadau ar gyfer Porth Tywyn, a nodwyd y rhain yn yr adroddiad.
Petai’r Cabinet yn cymeradwyo'r cynllun, byddai swyddogion yn cynnal cyfarfod i randdeiliaid allweddol ym Mhorth Tywyn i gyflwyno'r cynllun terfynol ac yn ceisio ffurfio gr?p i symud y cynllun ymlaen, gan fanteisio, lle bynnag y bo'n bosibl, ar ffrydiau cyllido perthnasol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Creu Lleoedd Porth Tywyn.
|
|
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.
|