Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 26ain Gorffennaf, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Tomas  01267 224470

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd L.D. Evans

19 - Polisi Amser o’r Gwaith (Enghreifftiol) ar gyfer Ysgolion

Ei merch yn athrawes yn y sir.

Y Cynghorydd G.O. Jones

19 - Polisi Amser o’r Gwaith (Enghreifftiol) ar gyfer Ysgolion

Ei wraig yn dysgu yn y sir.

Y Cynghorydd J. Tremlett

23 - Maes Parcio Cyhoeddus Newydd Arfaethedig, Stryd y Brenin, Talacharn

Perchen eiddo yn Stryd y Brenin, Talacharn.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y

Dogfennau ychwanegol:

3.1

20FED MEHEFIN, 2016. pdf eicon PDF 391 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol oedd wedi ei gynnal ar 20fed Mehefin, 2016, gan eu bod yn gywir.

 

3.2

4YDD GORFFENNAF, 2016. pdf eicon PDF 237 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol oedd wedi ei gynnal ar 4ydd Gorffennaf, 2016, gan eu bod yn gywir.

 

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.  Fodd bynnag, yr oedd wedi cael gwybod gan y Cynghorwyr D.M. Cundy, T. Devichand a J.S. Edmunds eu bod yn dymuno gofyn cwestiynau ynghylch eitem 7 ar yr agenda, felly byddid yn rhoi sylw i'r rhain o dan yr eitem briodol yn ddiweddarach yn y cyfarfod. 

 

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

5.1

CWESTIWN GAN MRS KAREN HUGHES I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWETIHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Bu nifer o fethiannau yn y broses ymgynghori, gyda’r pennaeth yn cyfaddef ar 26ain Ebrill iddynt fod yn naïf yngl?n â’r broses ymgynghori. Derbyniom ohebiaeth yn cadarnhau bod yr ysgol yn ymwybodol o gynnig gan yr Awdurdod Addysg Lleol ym mis Medi 2014, a llythyr dilynol o gynnig ym mis Ionawr 2015 i’r ysgol sy’n cyfeirio at 5 mater a gytunwyd fel pecyn yr oedd yn rhaid eu cymryd fel cyfanwaith. Gan fynnu bod yn rhaid i’r pecyn gael ei dderbyn gan y llywodraethwyr a’r Awdurdod Addysg Lleol fel cyfanwaith ac eisoes wedi’i dderbyn ym mis Chwefror 2015, y mae’n gwneud inni feddwl a oedd y fargen hon eisoes wedi’i tharo. Pam na wnaed hyn yn hysbys i’r holl randdeiliaid ym mis Medi 2014 gan ddangos didwylledd a thryloywder?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Bu nifer o fethiannau yn y broses ymgynghori, gyda’r pennaeth yn cyfaddef ar 26ain Ebrill iddynt fod yn naïf yngl?n â’r broses ymgynghori. Derbyniom ohebiaeth yn cadarnhau bod yr ysgol yn ymwybodol o gynnig gan yr Awdurdod Addysg Lleol ym mis Medi 2014, a llythyr dilynol o gynnig ym mis Ionawr 2015 i’r ysgol sy’n cyfeirio at 5 mater a gytunwyd fel pecyn yr oedd yn rhaid eu cymryd fel cyfanwaith. Gan fynnu bod yn rhaid i’r pecyn gael ei dderbyn gan y llywodraethwyr a’r Awdurdod Addysg Lleol fel cyfanwaith ac eisoes wedi’i dderbyn ym mis Chwefror 2015, y mae’n gwneud inni feddwl a oedd y fargen hon eisoes wedi’i tharo. Pam na wnaed hyn yn hysbys i’r holl randdeiliaid ym mis Medi 2014 gan ddangos didwylledd a thryloywder?”

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

"Cynhaliwyd y broses ymgynghori yn unol â'r Côd Trefniadaeth Ysgolion statudol. Mae'r Adran Addysg a Gwasanaethau Plant wedi bod yn trafod â chyrff llywodraethu'r ddwy ysgol ers rhai blynyddoedd ynghylch potensial y cynnig presennol, ac mae'r partïon wedi bod yn cyfnewid gohebiaeth. Mae'r Adran wedi dangos gohebiaeth ynghylch y mater hwn i'r gwrthwynebwyr, gan amlygu ei bod yn agored ac yn dryloyw. Mae gan gyrff llywodraethu ysgolion gyfrifoldeb statudol dros eu hysgolion, ac mae trafodaethau rhwng yr awdurdod lleol a'r ysgolion ynghylch cynigion i newid pethau yn cychwyn bob amser â thrafodaeth gyda'r cyrff llywodraethu. Cynhelir trafodaethau ac ymgynghoriadau gyda phobl eraill a grwpiau eraill ar yr adegau priodol yn y broses yn unol â'r disgwyliadau statudol.

Nid oes penderfyniad terfynol wedi'i ei wneud hyd yn hyn ynghylch y cynnig hwn. Os bydd y Bwrdd Gweithredol yn penderfynu camu ymlaen i'r cam nesaf yn y broses, drwy gyhoeddi hysbysiad statudol, bydd cyfle arall i'r partïon sydd â buddiant gyflwyno eu sylwadau, a gaiff eu hystyried yn llawn cyn penderfynu'n derfynol ar y mater.

Bwriad yr ohebiaeth rhwng y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant a'r cyrff llywodraethu oedd bod y partïon hyn yn cytuno ar egwyddorion y cynnig ac ar y modd y gellid ei weithredu, gan roi sylw hefyd i ffactorau eraill, megis sut y gellid rhoi sylw i'r diffyg lle yn yr ysgol fabanod a sut y gallai'r cyllid lles cynllunio oedd ar gael ar gyfer yr ardal gael ei ddefnyddio mewn modd defnyddiol.

Yn ei lythyr ar 29ain Ionawr 2015 at Gadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Fabanod Llangennech, yr anfonwyd copi ohono at Gadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Iau Llangennech, roedd y Cyfarwyddwr wedi datgan yn glir y bydd yn rhaid i'r Cyngor Sir gynnal proses statudol i ffurfio ysgol gynradd newydd yn lle'r ddwy ysgol bresennol, i ymestyn ystod oedran yr ysgol ac i sefydlu'r ysgol newydd fel ysgol Gymraeg ei chyfrwng, gan danlinellu'r heriau amseryddol o ran cwblhau'r broses statudol.

Hefyd roedd y llythyr yn cyfeirio at ymrwymiad i ddarparu ystafell ddosbarth ddwbl symudol ychwanegol er mwyn darparu rhagor o le yn yr ysgol fabanod (mae hyn wedi'i wneud bellach) ac yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.1

5.2

CWESTIWN GAN MR STEVE HATTO I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Rydym wedi cyfnewid gohebiaeth helaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin gydag un pwnc yn ymwneud â risg diogelwch ynghlwm wrth gludo disgyblion i Ysgolion Cyfrwng Saesneg eraill. Un o'r prif bryderon yw y byddai teuluoedd nad ydynt yn gallu gyrru yn gorfod cerdded gyda'u plant bach am dros 2 filltir ym mhob tywydd, yn dibynnu ar ble yn Llangennech y maent yn byw. Byddai'n rhaid iddynt groesi heol brysur 40 milltir yr awr a thair ffordd ymuno/adael â'r draffordd i gyrraedd eu hysgol benodedig. Ond safbwynt yr Awdurdod Addysg Lleol ar y mater hwn yw mai dewis rhieni yw peidio â chofrestru ein plant yn Llangennech ac felly cyfrifoldeb rhieni yw cludo eu plant i ysgolion eraill. Ond mae’r Cyfrwng Saesneg yn cael ei dynnu’n ôl gan yr Awdurdod Addysg Lleol. Nid dewis rhieni yw tynnu’r plant o Langennech, ond gweithred a orfodir arnom i fynd â’n plant i Ysgol Cyfrwng Saesneg addas. Ni all pob plentyn ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg am amryw resymau. Ond mae 170 o leoedd gwag cyfrwng Cymraeg ar gael yn yr ardal leol ym Mrynsierfel a Ffwrnes. Ond mae’r tair ysgol cyfrwng Saesneg arall, Bryn, Bynea a’r Hendy, eisoes y tu hwnt i’w capasiti. Nid oes ystyriaeth wedi'i rhoi i'r 91 o dai sy'n cael eu codi yn yr Hendy, na'r 700 a mwy o dai sydd yn yr arfaeth ym Mhontarddulais a hefyd Bynea.  Mae'n si?r y byddai hyn yn cael effaith fawr ar yr ysgolion cyfagos. Ar hyn o bryd gall unrhyw deulu yn Llangennech sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg ddewis bod eu plentyn yn cael ei addysgu yn y naill neu'r llall o ieithoedd swyddogol Cymru. Onid yw'r dewis addysgol hwn yn yr ysgol leol yn cael ei waredu, ac oni wahaniaethir yn erbyn pobl sydd am i'w plentyn gael ei addysgu yn un o'r ieithoedd swyddogol? Os yw’r Cyfrwng Saesneg i’w dynnu’n ôl, a allwch esbonio sut mai dewis rhieni yw hyn? A ble byddwch yn darparu Addysg Cyfrwng Saesneg amgen i’n plant?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Rydym wedi cyfnewid gohebiaeth helaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin gydag un pwnc yn ymwneud â'r risgiau diogelwch sydd ynghlwm wrth gludo disgyblion i Ysgolion Cyfrwng Saesneg eraill. Un o'r prif bryderon yw y byddai teuluoedd nad ydynt yn gallu gyrru yn gorfod cerdded gyda'u plant bach am dros 2 filltir ym mhob tywydd, yn dibynnu ar ble yn Llangennech y maent yn byw. Byddai'n rhaid iddynt groesi heol brysur 40 milltir yr awr a thair ffordd ymuno/ymadael â'r draffordd i gyrraedd eu hysgol benodedig. Ond safbwynt yr Awdurdod Addysg Lleol ar y mater hwn yw mai dewis y rhieni yw peidio â chofrestru ein plant yn Llangennech ac felly cyfrifoldeb y rhieni yw cludo eu plant i ysgolion eraill. Ond mae’r Cyfrwng Saesneg yn cael ei dynnu’n ôl gan yr Awdurdod Addysg Lleol. Nid dewis rhieni yw tynnu’r plant o Langennech, ond gweithred a orfodir arnom i fynd â’n plant i Ysgol Cyfrwng Saesneg addas. Ni all pob plentyn ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg am amryw resymau. Ond mae 170 o leoedd gwag cyfrwng Cymraeg ar gael yn yr ardal leol ym Mrynsierfel a Ffwrnes. Ond mae’r tair ysgol cyfrwng Saesneg arall, y Bryn, y Bynea a’r Hendy, eisoes y tu hwnt i’w capasiti. Nid oes ystyriaeth wedi'i rhoi i'r 91 o dai sy'n cael eu codi yn yr Hendy, na'r 700 a mwy o dai sydd yn yr arfaeth ym Mhontarddulais a hefyd y Bynea.  Mae'n si?r y byddai hyn yn cael effaith fawr ar yr ysgolion cyfagos. Ar hyn o bryd gall unrhyw deulu yn Llangennech sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg ddewis bod eu plentyn yn cael ei addysgu yn y naill neu'r llall o ieithoedd swyddogol Cymru. Onid yw'r dewis addysgol hwn yn yr ysgol leol yn cael ei waredu, ac oni wahaniaethir yn erbyn pobl sydd am i'w plentyn gael ei addysgu yn un o'r ieithoedd swyddogol? Os yw’r Cyfrwng Saesneg i’w dynnu’n ôl, a allwch esbonio sut mai dewis rhieni yw hyn? A ble y byddwch yn darparu Addysg Cyfrwng Saesneg amgen i’n plant?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

"Cynnig yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant yw y dylai'r ddarpariaeth i'r holl ddisgyblion yn y dyfodol yn Ysgol Gynradd newydd Llangennech fod trwy gyfrwng y Gymraeg, fel sy'n digwydd yn llwyddiannus eisoes mewn llawer o ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin, ac y dylai'r plant lleol fynychu ysgol Llangennech.

Fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad i'r Bwrdd Gweithredol, mae'r cynnig yn gyson â'r polisi cenedlaethol i helaethu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn cynyddu nifer y bobl ifanc sy'n gwbl ddwyieithog, ac er mwyn galluogi rhagor o blant i elwa ar fanteision dwyieithrwydd - a gadarnheir gan waith ymchwil rhyngwladol, a gynhwyswyd hefyd yn yr adroddiad.

Dymuniad y Cyngor Sir yw bod plant yn mynychu eu hysgol leol, a chred yr Adran y bydd ysgol gynradd Gymraeg ei chyfrwng yn Llangennech yn dal i gynnig addysg o'r radd flaenaf i'r disgyblion.

 

Bwriad yr Adran yw bod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.2

5.3

CWESTIWN GAN MS JULIA REES I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

O'r wybodaeth a ddarparwyd gan yr Awdurdod Addysg Leol, mae'n amlwg bod y ffigurau wedi cael eu trin gan unigolion i gryfhau sefyllfa benodol. Mae 121 o ddisgyblion yn yr ysgol nad ydynt yn byw yn Llangennech. Ond mae yna 96 o blant o'r pentref sy’n teithio i ysgolion eraill y tu allan i'r ardal. Mae 81 ohonynt yn mynychu ysgol cyfrwng Saesneg. Os bydd yr 81 o blant yn gallu mynychu eu hysgol gymunedol, yna byddai'r ffigurau yn adlewyrchu mwy o angen 50/50 ar gyfer Saesneg a Cymraeg yng nghymuned Llangennech. Mae rhieni a oedd yn dymuno ceisio cyfrwng Saesneg yn y gorffennol yn Llangennech wedi cael eu troi i ffwrdd oherwydd yr oedd yr ysgol yn llawn. Ondnid oedd hyn yn wir a brofodd rhai rhieni hyn mewn tribiwnlys ac yna cafwyd eu dderbyn yn ysgol Llangennech. Pam gwrthodir lle yn y cyfrwng Saesneg pan oedd y cynhwysedd y dosbarthiadau cyfrwng Saesneg yn hanner y cynhwysedd y dosbarthiadau Cymraeg? A sut y gall yr ysgol rhoi cyhoeddusrwydd i'w nodweddion gwyrdd pan fydd yn mynd ati i cefnogi cludo nifer fawr o ddisgyblion i mewn ac allan o'r pentref?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“O'r wybodaeth a ddarparwyd gan yr Awdurdod Addysg Leol, mae'n amlwg bod y ffigurau wedi cael eu trin gan unigolion i gryfhau sefyllfa benodol. Mae 121 o ddisgyblion yn yr ysgol nad ydynt yn byw yn Llangennech. Ond mae yna 96 o blant o'r pentref sy’n teithio i ysgolion eraill y tu allan i'r ardal. Mae 81 ohonynt yn mynychu ysgol cyfrwng Saesneg. Os bydd yr 81 o blant yn gallu mynychu eu hysgol gymunedol, yna byddai'r ffigurau yn adlewyrchu mwy o angen 50/50 ar gyfer Saesneg a Cymraeg yng nghymuned Llangennech. Mae rhieni a oedd yn dymuno ceisio cyfrwng Saesneg yn y gorffennol yn Llangennech wedi cael eu troi i ffwrdd oherwydd yr oedd yr ysgol yn llawn. Ond nid oedd hyn yn wir a brofodd rhai rhieni hyn mewn tribiwnlys ac yna cafwyd eu dderbyn yn ysgol Llangennech. Pam gwrthodir lle yn y cyfrwng Saesneg pan oedd y cynhwysedd y dosbarthiadau cyfrwng Saesneg yn hanner y cynhwysedd y dosbarthiadau Cymraeg? A sut y gall yr ysgol rhoi cyhoeddusrwydd i'w nodweddion gwyrdd pan fydd yn mynd ati i cefnogi cludo nifer fawr o ddisgyblion i mewn ac allan o'r pentref?”

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

Y ffigurau a gyflwynwyd yn y Ddogfen Ymgynghori, o ran niferoedd y disgyblion, yw'r rheiny a oedd yn bodoli ar adeg y cyfrifiad statudol blynyddol o ddisgyblion ym mis Ionawr 2015.

 

Mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer mis Ionawr 2016 fel a ganlyn:

 

Ysgol Fabanod Llangennech

 

Cyfanswm nifer y disgyblion yw 210, gyda 161 o blant yn byw yn y dalgylch a 49 o ddisgyblion yn byw y tu allan i'r dalgylch.

 

Ysgol Iau Llangennech

 

Cyfanswm nifer y disgyblion yw 236, gyda 175 o blant yn byw yn y dalgylch a 61 o ddisgyblion yn byw y tu allan i'r dalgylch.

 

Y Ddwy Ysgol Gyda'i Gilydd

 

Gyda'i gilydd y cyfanswm ar gyfer y ddwy ysgol yw 446, gyda 336, neu 75% yn byw yn y dalgylch a 110 o blant, neu 25% yn byw y tu allan i'r dalgylch.

 

Ym mis Ionawr 2016, roedd 96 o blant sy'n byw o fewn dalgylch ysgolion Llangennech yn mynychu ysgolion eraill. O blith y rhain, roedd 16 o blant yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, 7 yn mynychu ysgolion dwy ffrwd a 73 yn mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg, gyda nifer sylweddol o blant, 39 ohonyn nhw, sef dros hanner y rheiny a oedd yn gadael y dalgylch, yn mynychu ysgol y Bryn. Roedd 3 o'r plant yn mynychu ysgolion ffydd.

 

Mae'n berthnasol nodi oherwydd cyfluniad dalgylch ysgolion Llangennech, fod nifer sylweddol o blant sy'n byw yn ne'r dalgylch yn byw yn agosach at ysgolion eraill nag ydyn nhw i ysgolion Llangennech. Yn amlwg ymhlith y rhain mae Ysgol y Bryn sy'n derbyn 39 o blant o ddalgylch Llangennech sy'n byw naill ai ar Heol Penllwyngwyn, Parc Hendre, Harddfan, Bryn Uchaf a Heol Pendderi neu'n agos atyn nhw ac o ganlyniad yn byw yn llawer agosach i'r ysgol hon.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.3

5.4

CWESTIWN GAN MRS MICHAELA BEDDOWS I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

Anghenion Addysgol Arbennig: Ni roddwyd unrhyw ystyriaeth i blant sydd ag anghenion addysgol arbennig sydd fel arfer yn cael eu cynghori i fynd i ffrwd cyfrwng Saesneg neu iaith y cartref yn unig. Mae plant sydd ag oedi cyffredinol yn cael trafferth gydag un iaith heb sôn am ddwy, felly drwy waredu’r ddwy ffrwd byddai hyn yn eithrio’r plant hyn rhag mynychu’r ysgol. Ni all plant sydd ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig ymdopi â newid mewn trefn, felly petaent yn cychwyn ac wedyn yn cael trafferth mewn ysgol Cyfrwng Cymraeg ac wedyn yn gorfod symud i ysgol Cyfrwng Saesneg, byddai’r newid hwnnw yn cael effaith enfawr arnynt. Mae llawer o blant sydd ag anawsterau dysgu, yn arbennig Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig, yn teimlo’n ynysig iawn hyd yn oed mewn amgylchedd â chymorth. Pe cânt eu gwneud i fynychu ysgol y tu allan i’r ardal byddai hyn yn eu hynysu hyd yn oed yn bellach o’r gymuned yn ei chyfanrwydd. Sut yr esgeuluswyd hyn a pham na aethpwyd i’r afael â hyn?” 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Anghenion Addysgol Arbennig: Ni roddwyd unrhyw ystyriaeth i blant sydd ag anghenion addysgol arbennig sydd fel arfer yn cael eu cynghori i fynd i ffrwd cyfrwng Saesneg neu iaith y cartref yn unig. Mae plant sydd ag oedi cyffredinol yn cael trafferth gydag un iaith heb sôn am ddwy, felly drwy waredu’r ffrwd ddeuol byddai hyn yn eithrio’r plant hyn rhag mynychu’r ysgol. Ni all plant sydd ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig ymdopi â newid mewn trefn, felly petaent yn cychwyn ac wedyn yn cael trafferth mewn ysgol Cyfrwng Cymraeg ac wedyn yn gorfod symud i ysgol Cyfrwng Saesneg, byddai’r newid hwnnw yn cael effaith enfawr arnynt. Mae llawer o blant sydd ag anawsterau dysgu, yn arbennig Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig, yn teimlo’n ynysig iawn hyd yn oed mewn amgylchedd â chymorth. Pe cânt eu gwneud i fynychu ysgol y tu allan i’r ardal byddai hyn yn eu hynysu hyd yn oed yn bellach o’r gymuned yn ei chyfanrwydd. Sut yr esgeuluswyd hyn a pham na aethpwyd i’r afael â hyn?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Polisi Cyngor Sir Caerfyrddin yw y dylai ei holl ysgolion fod yn gynhwysol, a bod plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu haddysgu mewn lleoliad prif ffrwd ochr yn ochr â'u cyfoedion ble bynnag y bo modd.Mae modd gwneud hyn yn y rhan fwyaf o ddigon o'r achosion, sydd o fudd i'r holl blant.

 

Er bod y gyfundrefn wedi'i chynllunio i ddiwallu anghenion dysgwyr drwy ymagwedd gyffredinol a chynhwysol, yn achos nifer bychan o blant sydd ag anghenion ychwanegol cymhleth a sylweddol nid yw hynny'n bosibl bob amser ac mae darpariaeth arbenigol yn cynnig lleoliadau dysgu mwy priodol.

 

Er mwyn gallu sicrhau y caiff anghenion yr holl ddysgwyr eu diwallu, mae'r gyfundrefn ysgolion yn Sir Gaerfyrddin yn cynnwys darpariaeth helaeth ar gyfer plant sydd ag anghenion ychwanegol. Cynigir addysg mewn ysgol neu uned arbenigol i'r plant sydd â'r anghenion mwyaf difrifol neu gymhleth pan na fo lleoliad prif ffrwd yn addas i'w hanghenion neu pan fo'n well gan y rhieni leoliad arall.  Mae gan rai ysgolion uwchradd a chynradd ledled y sir unedau arbenigol ar gyfer plant sydd ag anghenion penodol, megis awtistiaeth, namau synhwyraidd, neu oedi o ran lleferydd ac iaith.Mae'r Adran Addysg a Gwasanaethau Plant yn darparu cymorth ychwanegol penodol yn yr ysgolion, lle bo modd, fel bod cynifer o blant â phosibl yn aros yn eu hysgol leol. Er ei bod yn well gan y Cyngor ddiwallu anghenion yr holl blant mewn ysgol brif ffrwd pryd bynnag y bo modd, nid yw hyn yn ymarferol bob amser.

 

Mae gan yr holl ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol gynlluniau unigol penodol sy'n seiliedig ar eu hamgylchiadau, a darperir rhaglen gymorth bwrpasol i gyd-fynd ag anghenion yr unigolyn.Yn gyffredinol nid yw 'angen dysgu ychwanegol' yn rhwystr o ran dysgu dwy iaith.  Mae'n bwysig asesu a monitro'r cynnydd ym mhob iaith y mae plentyn yn ei defnyddio neu'n  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.4

5.5

CWESTIWN GAN MR KARL HARRIES I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Rwyf yn rhiant i 3 o gyn-ddisgyblion Ysgol Llangennech ac yn dad-cu i ddau o'r disgyblion presennol. Mae gan un o'm hwyrion anableddau dysgu ac roedd yn ddieiriau yn 4 oed. Bu i bob un o'm plant fynychu Ysgol Llangennech drwy gyfrwng y Gymraeg. Gan nad yw fy ngwraig na finnau'n siarad Cymraeg, fe'u gwelsom yn straffaglu ac nid oeddem yn gallu eu helpu.  Roeddem yn teimlo'n ddiymadferth, ac ni fyddem yn dymuno hynny ar unrhyw riant, heb sôn am riant plentyn ag anableddau dysgu.  Mae hon yn dasg ddirdynnol ac anodd iawn, heb ychwanegu rhwystr ieithyddol ati. Hoffwn ofyn a ellir cyflwyno tystiolaeth wirioneddol, ac nid tybiaethau a'r defnydd cyson o'r gair 'credu', er mwyn profi honiadau bod addysg cyfrwng Cymraeg mor llwyddiannus, os nad yn fwy llwyddiannus, nag addysg cyfrwng Saesneg i blant sydd ag anabledd dysgu? Gan ganolbwyntio ar blant sydd ag anableddau dysgu sylweddol, plant dieiriau, a hefyd plant ag anableddau o gartrefi di-Gymraeg.” 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Mr Harries yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw a'i fod wedi gofyn i'r Cadeirydd gyflwyno'r cwestiwn ar ei ran.

 

“Rwyf yn rhiant i 3 o gyn-ddisgyblion Ysgol Llangennech ac yn dad-cu i ddau o'r disgyblion presennol. Mae gan un o'm hwyrion anableddau dysgu ac roedd yn ddieiriau yn 4 oed.? Bu i bob un o'm plant fynychu Ysgol Llangennech drwy gyfrwng y Gymraeg. Gan nad yw fy ngwraig na finnau'n siarad Cymraeg, fe'u gwelsom yn straffaglu ac nid oeddem yn gallu eu helpu.  Roeddem yn teimlo'n ddiymadferth, ac ni fyddem yn dymuno hynny ar unrhyw riant, heb sôn am riant plentyn ag anableddau dysgu.  Mae hon yn dasg ddirdynnol ac anodd iawn, heb ychwanegu rhwystr ieithyddol ati. Hoffwn ofyn a ellir cyflwyno tystiolaeth wirioneddol, ac nid tybiaethau a'r defnydd cyson o'r gair 'credu', er mwyn profi honiadau bod addysg cyfrwng Cymraeg mor llwyddiannus, os nad yn fwy llwyddiannus, nag addysg cyfrwng Saesneg i blant sydd ag anabledd dysgu? Gan ganolbwyntio ar blant sydd ag anableddau dysgu sylweddol, plant dieiriau, a hefyd plant ag anableddau o gartrefi di-Gymraeg.”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

Mae'n flin gennyf glywed am brofiadau Mr Harries gyda'i blant a'i wyrion yn yr ysgol yn Llangennech ac rwyf yn mawr obeithio bod eu hamgylchiadau'n llawer gwell erbyn hyn. Fodd bynnag cefais wybod gan swyddogion proffesiynol y Cyngor nad yw profiad teulu Mr Harries yn nodweddiadol o'r hyn sy'n digwydd yn yr ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin.  Mae cyffredinoli'n anodd bob amser wrth ystyried amgylchiadau plant sydd ag anabledd corfforol neu anabledd dysgu gan fod anghenion plentyn unigol yn gallu bod yn benodol iawn.

Hefyd mae'n anodd cyflwyno tystiolaeth absoliwt, fel y gofynna Mr Harries, oherwydd nad ydym yn rhydd i gyhoeddi gwybodaeth am amgylchiadau plant unigol. Felly mae'n rhaid inni ddibynnu ar gyffredinoli mewn trafodaeth megis hon, gan dderbyn ei bod yn debygol bob amser fod eithriad y gellid cyfeirio ato.

 

Gallaf ddweud wrth Mr Harries ac eraill fod y sylwadau cyffredinol y gallaf eu cynnig yn seiliedig ar gyngor swyddogion proffesiynol profiadol. Hefyd gallaf ddweud yn gwbl hyderus fy mod yn dyst uniongyrchol i ymroddiad ein swyddogion wrth iddyn nhw gynorthwyo plant sydd ag anghenion ychwanegol, ac i ofal y swyddogion wrth ymwneud â phlant.

 

Yn gyffredinol nid yw 'angen dysgu ychwanegol' yn rhwystr o ran dysgu dwy iaith. Mae'n bwysig asesu a monitro'r cynnydd ym mhob iaith y mae plentyn yn ei defnyddio neu'n ei dysgu, gan gynnwys y systemau arwyddion a chyfathrebu â chymorth gweledol sy'n ofynnol ar gyfer rhai disgyblion, yn enwedig gan fod modd defnyddio'r iaith sydd wedi ei datblygu gryfaf i gefnogi a hybu dysgu drwy gyfrwng yr iaith nad yw wedi'i datblygu mor gryf.

 

Mae'n ofynnol i'r staff yn yr ysgolion a'r staff peripatetig wahaniaethu'r cwricwlwm a gwneud addasiadau rhesymol i'r iaith ddysgu ac ymateb, er mwyn gallu darparu ar gyfer anghenion ychwanegol ac er mwyn sicrhau bod mynediad i'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.5

5.6

CWESTIWN GAN MR DARREN SEWARD I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDSG A PHLANT

“Rydych wedi datgan eich bod, fel Awdurdod, yn ceisio cynyddu nifer y disgyblion dwyieithog yn Sir Gaerfyrddin a'ch bod wedi llunio polisi er mwyn gweithredu'r strategaeth hon.   Gwnaethom gysylltu â Mr Sully ar 29ain Mehefin i ofyn am wybodaeth ynghylch pa ysgolion oedd wedi bod yn destun y broses hon eisoes, cyn Llangennech, a pha ysgolion fyddai'n destun yr un broses ar ôl Llangennech. Yn ei ymateb dywedodd Mr Sully, ac rwyf yn dyfynnu, 'Nid oes gan y sefyllfa mewn ysgolion eraill unrhyw berthynas â'r cynnig ar gyfer Llangennech.'    A fyddech cystal ag amlinellu bod gorfodi addysg cyfrwng Cymraeg yn Llangennech yn rhan o strategaeth bolisi ehangach a ddilynir gan yr Awdurdod?”  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Rydych wedi datgan eich bod, fel Awdurdod, yn ceisio cynyddu nifer y disgyblion dwyieithog yn Sir Gaerfyrddin a'ch bod wedi llunio polisi er mwyn gweithredu'r strategaeth hon.  Gwnaethom gysylltu â Mr Sully ar 29ain Mehefin i ofyn am wybodaeth ynghylch pa ysgolion oedd wedi bod yn destun y broses hon eisoes, cyn Llangennech, a pha ysgolion fyddai'n destun yr un broses ar ôl Llangennech. Yn ei ymateb dywedodd Mr Sully, ac rwyf yn dyfynnu, 'Nid oes gan y sefyllfa mewn ysgolion eraill unrhyw berthynas â'r cynnig ar gyfer Llangennech’.  A fyddech cystal ag amlinellu bod gorfodi addysg cyfrwng Cymraeg yn Llangennech yn rhan o strategaeth bolisi ehangach a ddilynir gan yr Awdurdod?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

Mae'r cynnig ar gyfer yr ysgolion yn Llangennech yn gyson â rhaglen strategol y Cyngor Sir i helaethu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a datblygu pobl ifanc ddwyieithog ledled Sir Gaerfyrddin, fel yr amlinellwyd hynny yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin gyfrifoldeb statudol o dan Ran 4 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i lunio Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar gyfer ei ardal gyda golwg benodol ar wella'r modd y cynllunnir darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn codi'r safonau o ran addysgu ac o ran dysgu Cymraeg.

 

Ym mis Ebrill 2014 bu i'r Cyngor Sir fabwysiadu'n ffurfiol strategaeth gynhwysfawr ar gyfer datblygu'r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin, gan gymeradwyo argymhellion gr?p (oedd yn gytbwys yn wleidyddol) o aelodau etholedig a oedd wedi rhoi sylw i statws y Gymraeg yn y sir yn sgil cyfrifiad 2011 o'r boblogaeth. Mae'r strategaeth yn mynnu bod gweithredu'n digwydd o ran 73 o bwyntiau, y mae 21 ohonyn nhw'n ymwneud â'r gwasanaeth addysg.Mae'r holl argymhellion a chamau gweithredu perthnasol yn y strategaeth wedi'u cynnwys yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

Mae'r Cynllun yn ceisio cael y canlyniadau canlynol penodol o ran y cynnig ar gyfer ysgol Llangynnech:

 

·                 Cynyddu nifer y dysgwyr 7 oed a addysgir trwy gyfrwng y Gymraeg.

·                 Cael rhagor o ddysgwyr i ddal ati i wella eu sgiliau iaith wrth iddynt symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd.

·                 Cael rhagor o fyfyrwyr sydd â sgiliau iaith da yn Gymraeg.

 

Hefyd mae'r Cynllun yn ceisio cyrraedd y nodau a chael y canlyniadau penodedig drwy'r camau gweithredu canlynol:

 

·                 Bod y Cyngor Sir yn gweithio’n agos gyda staff a Chyrff Llywodraethu       ysgolion ffrydiau deuol Sir Gaerfyrddin er mwyn iddynt ddod yn ysgolion         Cymraeg.

·                 Targedu tair o ysgolion dwy ffrwd gyda golwg ar iddynt fod yn ysgolion      cyfrwng Cymraeg erbyn 2017.

 

Mae'n bwysig nodi bod Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn mynnu bod holl ysgolion cynradd Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys yr ysgolion cyfrwng Saesneg, yn symud ar hyd y continwwm iaith, gan ddal i gynyddu cyfran yr addysg a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda golwg ar sicrhau ymhen amser y bydd yr holl blant yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.6

5.7

CWESTIWN GAN MS NIKKI LLOYD I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Yn gyffredinol, ystyrir bod newid yn beth da i gymuned neu sefydliad. Ystyrir bod newid er mwyn newid yn unig yn wrthgynhyrchiol. Dylid osgoi newid os nad oes galw am hynny ar bob cyfrif. Yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth diweddar ynghylch y cyflenwad a'r galw o ran llyfrau Cymraeg yn llyfrgell Llangennech, rhoddwyd y wybodaeth ganlynol inni.

Llyfrau Saesneg mewn stoc 5,186 - 13,909 o fenthyciadau yn ystod y flwyddyn = mae'r galw dros ddwywaith y stoc.
 
Llyfrau Cymraeg mewn stoc 531, sef 10% y stoc Saesneg - 414 o fenthyciadau yn ystod y flwyddyn = mae'r galw'n llai na'r stoc.
 
Nifer y benthyciadau = 14,440. Nifer y benthyciadau Cymraeg = 2.8% o'r holl lyfrau
 
Yn ôl y darn ymchwil cymharol syml hwn, yn ogystal â cheisio cynllunio'n gymdeithasol newid o fewn yr ysgol, rydych hefyd drwy eich gweithredoedd yn ceisio cynllunio'n gymdeithasol gymuned nad yw'n galw am ymagwedd gwbl Gymraeg ac nad yw'n gwyro at ymagwedd o'r fath ychwaith. A ydych chi'n cytuno?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Ms Lloyd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw a'i bod wedi gofyn i'r Cadeirydd gyflwyno'r cwestiwn ar ei rhan.

 

“Yn gyffredinol, ystyrir bod newid yn beth da i gymuned neu sefydliad. Ystyrir bod newid er mwyn newid yn unig yn wrthgynhyrchiol. Dylid osgoi newid os nad oes galw am hynny ar bob cyfrif. Yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth diweddar ynghylch y cyflenwad a'r galw o ran llyfrau Cymraeg yn llyfrgell Llangennech, rhoddwyd y wybodaeth ganlynol inni.

 Llyfrau Saesneg mewn stoc 5,186 - 13,909 o fenthyciadau yn ystod y flwyddyn = mae'r galw dros ddwywaith y stoc.
 
Llyfrau Cymraeg mewn stoc 531, sef 10% y stoc Saesneg - 414 o fenthyciadau yn ystod y flwyddyn = mae'r galw'n llai na'r stoc.
 
Nifer y benthyciadau = 14,440. Nifer y benthyciadau Cymraeg = 2.8% o'r holl lyfrau
 
Yn ôl y darn ymchwil cymharol syml hwn, yn ogystal â cheisio cynllunio'n gymdeithasol newid o fewn yr ysgol, rydych hefyd drwy eich gweithredoedd yn ceisio cynllunio'n gymdeithasol gymuned nad yw'n galw am ymagwedd gwbl Gymraeg ac nad yw'n gwyro at ymagwedd o'r fath ychwaith. A ydych chi'n cytuno?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Er taw nod pennaf y cynigion er newid yn ysgolion Llangennech yw gwella canlyniadau addysgol y disgyblion, gallai yn sgil hynny fod o fudd o ran bod mwy o ddefnydd o'r Gymraeg yn y gymuned ymhen amser. Byddai hyn yn ganlyniad i'w groesawu ym marn y Cyngor Sir.

 

 

5.8

CWESTIWN GAN MR NIGEL HUGHES I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWETIHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Mae rhieni wedi clywed llawer o wrth-ddweud o ran yr ieithoedd addysgu yn y dosbarthiadau derbyn, gan beri dryswch a gofid iddynt ynghylch yr effaith bosibl y mae'r sefyllfa hon yn ei chael ar eu plant. Yn ddiweddar gwnaed datganiad gan Gareth Jones a oedd yn gwrthbrofi'r honiadau fod 'Ysgol Babanod Llangennech wedi gweithredu'n anghyfreithlon o ran darpariaeth iaith yn y Cyfnod Sylfaen.'  Aeth ymlaen i ddweud 'Mae'r Cyngor Sir am sicrhau'r holl rieni fod yr honiad hwn yn gwbl anwir. Mae'r ddarpariaeth yn yr ysgol yn gwbl briodol, mae'r ysgol yn parhau i berfformio i safonau uchel ac mae'r disgyblion yn cael deilliannau da.'  Diddorol yw nodi nad yw'r datganiad hwn yn taflu goleuni ar ddim mewn gwirionedd...yn hytrach mae'n ychwanegu at y dryswch.  Yn y cyfarfod Craffu ar 23ain Mai 2015, dywedodd Mr Rob Sully fod y Dosbarthiadau Derbyn yn Gymraeg, ond yn y cyfarfod i rieni newydd rai wythnosau'n ôl dywedwyd wrth yr athrawon eu bod yn cael eu haddysgu yn Saesneg a Chymraeg.  Hefyd mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dweud wrth rai rhieni sydd wedi cysylltu ag ef fod y dosbarthiadau derbyn yn rhai lle addysgir yn Gymraeg.  Cymraeg yn unig yw gwaith cartref a llyfrau darllen y plant. Mae gennym bryderon fod ffigurau wedi’u gweithio ac nad oedd y Ffrwd Saesneg yn gostwng yn naturiol a bod, yn hytrach, rwystrau wedi’u rhoi yn ffordd y rhieni i gyflawni’r nod Cyfrwng Cymraeg. A oedd yr Awdurdod Lleol yn ymwybodol o’r wybodaeth anghywir a ddarparwyd i rieni yngl?n â’r dosbarthiadau derbyn a’r farn wahanol? Hefyd a yw'r Awdurdod yn gallu cadarnhau'r dyddiad y bu i hyn newid i Gymraeg, pwy wnaeth gynnig hyn, a sut y rhoddwyd gwybod am hyn i'r sawl yr oedd yn effeithio arnynt, megis y rhieni?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Mae rhieni wedi clywed llawer o wrth-ddweud o ran yr ieithoedd addysgu yn y dosbarthiadau derbyn, gan beri dryswch a gofid iddynt ynghylch yr effaith bosibl y mae'r sefyllfa hon yn ei chael ar eu plant.  Yn ddiweddar gwnaed datganiad gan Gareth Jones a oedd yn gwrthbrofi'r honiadau fod 'Ysgol Babanod Llangennech wedi gweithredu'n anghyfreithlon o ran darpariaeth iaith yn y Cyfnod Sylfaen.' Dywed 'Mae'r Cyngor Sir am sicrhau'r holl rieni fod yr honiad hwn yn gwbl anwir. Mae'r ddarpariaeth yn yr ysgol yn gwbl briodol, mae'r ysgol yn parhau i berfformio i safonau uchel ac mae'r disgyblion yn cael deilliannau da.'  Diddorol yw nodi nad yw'r datganiad hwn yn taflu goleuni ar ddim mewn gwirionedd...yn hytrach mae'n ychwanegu at y dryswch.

 

Yn y cyfarfod Craffu ar 23ain Mai 2015, dywedodd Mr Rob Sully fod y Dosbarthiadau Derbyn yn Gymraeg, ond yn y cyfarfod i rieni newydd rai wythnosau'n ôl dywedwyd wrth yr athrawon eu bod yn cael eu haddysgu yn Saesneg a Chymraeg.  

 

Hefyd mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dweud wrth rai rhieni sydd wedi cysylltu ag ef fod y dosbarthiadau derbyn yn rhai lle addysgir yn Gymraeg.  Cymraeg yn unig yw gwaith cartref a llyfrau darllen y plant.

 

Mae gennym bryderon fod ffigurau wedi’u gweithio ac nad oedd y Ffrwd Saesneg yn gostwng yn naturiol a bod, yn hytrach, rwystrau wedi’u rhoi yn ffordd y rhieni i gyflawni’r nod Cyfrwng Cymraeg. A oedd yr Awdurdod Lleol yn ymwybodol o’r wybodaeth anghywir a ddarparwyd i rieni yngl?n â’r dosbarthiadau derbyn a’r farn wahanol? Hefyd a yw'r Awdurdod yn gallu cadarnhau'r dyddiad y bu i hyn newid i Gymraeg, pwy wnaeth gynnig hyn, a sut y rhoddwyd gwybod am hyn i'r sawl yr oedd yn effeithio arnynt, megis y rhieni?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Rwyf yn glynu wrth y datganiad a roddais i'r wasg ychydig wythnosau'n ôl, y mae Mr Hughes yn cyfeirio ato, ynghylch y trefniadau yn yr ysgol fabanod. Hefyd rwyf o'r farn fod cynnwys fy natganiad yn glir iawn.  Roedd fy natganiad yn datgan "nad oedd Ysgol Fabanod Llangennech wedi gweithredu'n anghyfreithlon", ac nid yr hyn a ddywedir yn y cwestiwn ysgrifenedig.  Y trefniant presennol yn yr ysgol yw y dysgir holl ddisgyblion y dosbarthiadau derbyn drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf, ac y defnyddir Saesneg fel cyfrwng hwyluso yn ôl anghenion y plant unigol.  Ar hyn o bryd mae gan rieni disgyblion Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 ddewis o ran gosod eu plant naill ai yn y ffrwd Gymraeg neu yn y ffrwd Saesneg.

 

Cyflwynwyd y trefniadau hynny yn sgil cynnal trafodaeth rhwng yr ysgol a'r rhieni. Roedd un o swyddogion y Cyngor yn rhan o'r trafodaethau ar gais yr ysgol.Gan fod y fenter hon wedi'i hyrwyddo gan yr ysgol, nid wyf yn gallu cadarnhau pryd y cyflwynwyd y trefniadau. Mae'r holl wybodaeth a ffigurau a ddefnyddiwyd wrth lunio'r cynnig yn gywir.

Nid wyf i na'r Adran Addysg a Gwasanaethau Plant yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.8

5.9

CWESTIWN GAN MS KAZ DEACON I'R CYNGHORYDD GARETH JONES AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Mae tudalen 28 o'r ddogfen Ymgynghori yn nodi bod yr holl blant yn nosbarthiadau Derbyn 1 a Derbyn 2 Ysgol Babanod Llangennech yn y cyfrwng Cymraeg. A fyddech cystal â chadarnhau'r union ddyddiad y bu i'r categori iaith newid o fod yn ddwyieithog i fod yn gyfrwng Cymraeg ar gyfer y dosbarthiadau hyn?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Ms Deacon yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw a'i bod wedi gofyn i'r Cadeirydd gyflwyno'r cwestiwn ar ei rhan.

 

“Mae tudalen 28 o'r ddogfen Ymgynghori yn nodi bod yr holl blant yn nosbarthiadau Derbyn 1 a Derbyn 2 Ysgol Fabanod Llangennech yn y cyfrwng Cymraeg. A fyddech cystal â chadarnhau'r union ddyddiad y bu i'r categori iaith newid o fod yn ddwyieithog i fod yn gyfrwng Cymraeg ar gyfer y dosbarthiadau hyn?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Cyflwynwyd y trefniadau i drochi plant yn yr iaith Gymraeg yn y dosbarthiadau derbyn yn sgil trafodaethau rhwng yr ysgol a'r rhieni, ynghyd â rhywfaint o gyngor gan un o swyddogion y Cyngor. Gan fod y fenter hon wedi'i hyrwyddo gan yr ysgol, nid wyf yn gallu cadarnhau pryd y cyflwynwyd y trefniadau.

 

</AI16>

<AI17>

 

5.10

CWESTIWN GAN MR ROBERT WILLOCK I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Ar y rhaglen 'Week in Week Out', dywedodd y Cynghorydd Campbell, ac rwyf yn dyfynnu "Dengys ymchwil dros flynyddoedd lawer fod y niferoedd cyfrwng Cymraeg yn gostwng pan fyddwch yn rhoi dewis. Felly mae gennych ddilema, os ydych yn rhoi dewis mae llai o bobl yn dewis cyfrwng Cymraeg am wahanol resymau, ond trwy gymell rydych yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc fod yn ddwyieithog." A hynny er bod cymhelliad ar y lefel hon o ran diffyg dewis yn mynd yn groes i erthygl 2 o brotocol cyntaf y Cytundeb Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. A ydych yn cytuno â sylwadau'r Cynghorydd Campbell?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Ar y rhaglen 'Week in Week Out', dywedodd y Cynghorydd Campbell, ac rwyf yn dyfynnu "Dengys ymchwil dros flynyddoedd lawer fod y niferoedd cyfrwng Cymraeg yn gostwng pan fyddwch yn rhoi dewis. Felly mae gennych ddilema, os ydych yn rhoi dewis mae llai o bobl yn dewis cyfrwng Cymraeg am wahanol resymau, ond trwy fod elfen o orfodaeth rydych yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc fod yn ddwyieithog." A hynny er bod gorfodaeth ar y lefel hon o ran diffyg dewis yn mynd yn groes i erthygl 2 o brotocol cyntaf y Cytundeb Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. A ydych yn cytuno â sylwadau'r Cynghorydd Campbell?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

Wrth wneud ei sylwadau yn ystod y rhaglen deledu y cyfeiriodd Mr Willock ati, roedd y Cynghorydd Cefin Campbell yn mynegi ei farn bersonol am y mater hwn, ac wrth wneud hynny rwyf yn disgwyl ei fod yn seilio ei farn ar ei brofiad fel ymgynghorydd iaith ac addysg proffesiynol, a oedd yn meddu ar wybodaeth am y sefyllfa ledled Cymru.             

 

Yn ein profiad ni yn Sir Gaerfyrddin mae cynnydd wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ran nifer y rhieni, ac o ran y ganran ohonyn nhw, sy'n well ganddyn nhw addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r data'n tystio i hyn ac, yn wir, yn adlewyrchu'r sefyllfa yn ysgolion Llangennech, lle mae nifer a chanran y disgyblion sydd yn y ffrwd Gymraeg wedi bod yn cynyddu tra bo nifer a chanran y disgyblion yn y ffrwd Saesneg wedi bod yn lleihau.

 

Rwyf wedi cael gwybod nad yw cynigion y Cyngor o ran y mater hwn yn mynd yn groes mewn unrhyw fodd i gyfreithiau Ewrop na'r gyfraith ddomestig.

 

Yn fy marn i mae dewis yn fater pwysig wrth ystyried y cynnig hwn, a'r agwedd bwysicaf oll o ran dewis yw'r dewis sydd ar gael i blant wrth iddyn gamu ymlaen drwy eu haddysg a'u bywydau cynnar. Mae cynnig y Cyngor i ddatblygu plant fel eu bod yn ddwyieithog erbyn iddyn nhw adael yr ysgol gynradd yn rhoi dewis i blant wrth iddyn nhw gamu ymlaen i'r ysgol uwchradd. Y ffordd fwyaf effeithiol o ddatblygu plant dwyieithog yn y sector cynradd yw eu trochi mewn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.Cydnabyddir yn gyffredinol yn y proffesiwn addysg nad yw astudio Cymraeg fel ail iaith yn datblygu pobl ifanc sy'n wirioneddol ddwyieithog."

 

Gofynnodd Mr Willock y cwestiwn atodol canlynol:-

 

"A yw'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn dod i'r cyfarfod hwn â'i lygaid ynghau a'i feddwl yn gaeedig?"

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Yn bendant nac ydwyf; rwyf yma fore heddiw i ateb eich cwestiynau ac i fod mor onest ag y gallaf i fod yn eu cylch."

</AI17>

 

5.11

CWESTIWN GAN MR DEAN BOLGIANI I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Er amlygu manteision posibl dwyieithrwydd ym meysydd iechyd a chyflawniadau addysgol, mae Llangennech yn ysgol ddwyieithog sydd wedi ennill baner werdd. Yn sicr, dylai'r awdurdod lleol fod yn canolbwyntio ar gynyddu Cymraeg o fewn ysgolion cyfrwng Saesneg a'u gwneud yn rhai Dwy Ffrwd o bosibl. Byddai hyn yn cynyddu ac yn hyrwyddo dwyieithrwydd yng ngwir ystyr y gair, gan roi fwy o ddewisiadau i rieni ar yr un pryd. Byddai'r fath hon o strategaeth yn cwmpasu canran uwch o boblogaeth ysgolion Sir Gaerfyrddin, ac mae'n ymagwedd sy'n uno yn hytrach na rhannu. A allwch esbonio pam y mae Llangennech yn cael ei thargedu o dan y polisi newydd?”
 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Er amlygu manteision posibl dwyieithrwydd ym meysydd iechyd a chyflawniadau addysgol, mae Llangennech yn ysgol ddwyieithog sydd wedi ennill baner werdd. Yn sicr, dylai'r awdurdod lleol fod yn canolbwyntio ar gynyddu Cymraeg o fewn ysgolion cyfrwng Saesneg a'u gwneud yn rhai Dwy Ffrwd o bosibl.   Byddai hyn yn cynyddu ac yn hyrwyddo dwyieithrwydd yng ngwir ystyr y gair, gan roi mwy o ddewisiadau i rieni ar yr un pryd. Byddai'r math hwn o strategaeth yn cwmpasu canran uwch o boblogaeth ysgolion Sir Gaerfyrddin, ac mae'n ymagwedd sy'n uno yn hytrach na rhannu.   A allwch esbonio pam y mae Llangennech yn cael ei thargedu o dan y polisi newydd?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

“Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin gyfrifoldeb statudol o dan Ran 4 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i lunio Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar gyfer ei ardal gyda golwg benodol ar wella'r modd y cynllunnir darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn codi'r safonau o ran addysgu ac o ran dysgu Cymraeg. Mae'n ofynnol i'r Cyngor bennu targedau ar gyfer ei amcanion.

 

Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2014-2017 Cyngor Sir Caerfyrddin wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru yn unol â gofynion y Ddeddf.   Mae'r Cynllun yn ceisio cael y canlyniadau canlynol penodol o ran y cynnig ar gyfer ysgol Llangynnech:

 

·     Cynyddu nifer y dysgwyr 7 oed a addysgir trwy gyfrwng y Gymraeg.

·     Cael rhagor o ddysgwyr i ddal ati i wella eu sgiliau iaith wrth iddynt symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd.

·     Cael rhagor o fyfyrwyr sydd â sgiliau iaith da yn Gymraeg.

 

Hefyd mae'r Cynllun yn cynnwys y nod canlynol:

 

·     Cynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin a sicrhau parhad ieithyddol o’r sector meithrin ar hyd y cyfnodau allweddol i’r sector uwchradd fel bod pob disgybl yn datblygu i fod yn rhugl a hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg.

 

Mae'r Cynllun yn ceisio cyrraedd y nodau a chael y canlyniadau penodedig drwy'r camau gweithredu canlynol:

 

·     Bod y Cyngor Sir yn gweithio’n agos gyda staff a chyrff llywodraethu ysgolion ffrydiau deuol Sir Gaerfyrddin er mwyn iddynt ddod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

·     Targedu tair o ysgolion dwy ffrwd gyda golwg ar iddynt fod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg erbyn 2017.

 

Mae'n bwysig nodi bod Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn mynnu bod holl ysgolion cynradd Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys yr ysgolion cyfrwng Saesneg, yn symud ar hyd y continwwm iaith, gan ddal i gynyddu cyfran yr addysg a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda golwg ar sicrhau ymhen amser y bydd yr holl blant yn ddwyieithog pan fyddan nhw'n gadael yr ysgol gynradd.

 

Clustnodwyd bod potensial yn ysgolion Llangennech i gamu'n gyflym ar hyd y continwwm iaith.Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer y plant yn y ffrwd Gymraeg wedi cynyddu'n gyson ac mae nifer y plant yn y ffrwd Saesneg wedi bod yn lleihau, felly mae'r symudiad tuag at ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.11

5.12

CWESTIWN GAN MS ORLA WILLIAMS I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWETIHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Mae astudiaethau rhyngwladol wedi dangos mai dim ond statws cyfartal cynhwysol o ieithoedd deuol sydd wir yn cynyddu'r defnydd o'r ddwy iaith ymysg oedolion ifanc. Nid yw polisi presennol Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru o eithrio teuluoedd di-Gymraeg yn gost-effeithiol, ac nid yw'n hyrwyddo'r Gymraeg mewn modd cadarnhaol. A yw'r Cyngor yn ymwybodol fod canran uchel o'r rheiny sy'n gadael y ffrwd Saesneg a Chymraeg ddeuol yn Llangennech yn mynd ymlaen i wneud yn dda mewn TGAU Cymraeg ac yn dal ati i astudio Cymraeg neu bynciau dewisol drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Bryngwyn a Choleg Sir Gâr?”
 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Mae astudiaethau rhyngwladol wedi dangos mai dim ond statws cyfartal cynhwysol o ieithoedd deuol sydd wir yn cynyddu'r defnydd o'r ddwy iaith ymysg oedolion ifanc. Nid yw polisi presennol Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru o eithrio teuluoedd di-Gymraeg yn gost-effeithiol, ac nid yw'n hyrwyddo'r Gymraeg mewn modd cadarnhaol. A yw'r Cyngor yn ymwybodol fod canran uchel o'r rheiny sy'n gadael y ffrwd Saesneg a Chymraeg ddeuol yn Llangennech yn mynd ymlaen i wneud yn dda mewn TGAU Cymraeg ac yn dal ati i astudio Cymraeg neu bynciau dewisol drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Bryngwyn a Choleg Sir Gâr?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

“Mae’r dystiolaeth ryngwladol, fel y'i dyfynnir gan Lywodraeth Cymru yn y dogfennau a gyhoeddwyd ganddi, yn cadarnhau mai’r ffordd fwyaf effeithiol i ddatblygu plant dwyieithog yw eu trochi yn yr iaith sy’n llai cyffredin tra datblygir hefyd eu sgiliau yn yr iaith sy’n fwy cyffredin. Hefyd mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo, yn achos plant sydd o deuluoedd nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg, fod trochi plant yn y Gymraeg yn hynod o bwysig er mwyn gwreiddio’r iaith.

 

Mae'r Cyngor yn ymwybodol fod rhai plant o Ysgol Iau Llangennech wedi dewis mynychu ysgolion uwchradd megis Bryngwyn, ac er nad yw'r ysgol hon yn ysgol Gymraeg ei chyfrwng yn ôl ei chategori mae wedi bod yn helaethu ei darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn cynnig dewis helaethach i ddysgwyr.Mae'r Cyngor Sir yn canmol Ysgol Bryngwyn am ei hagwedd flaengar at ddarparu dewis iaith, ac mae'n cymell ysgolion uwchradd eraill i gyflwyno rhaglenni tebyg.

Y pwynt pwysig o ran hyn o beth yw bod gan y plant yn ysgolion Llangennech sydd wedi astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, wrth iddyn nhw gamu ymlaen i'r ysgol uwchradd, ddewis o ran cyfran yr addysg uwchradd a astudir ganddyn nhw drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fyddai ganddyn nhw'r dewis hwn pe bydden nhw heb gael eu haddysg gynradd drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf.

Bydd y disgyblion yn y ffrwd Saesneg wedi dilyn rhaglen astudio Cymraeg ail iaith hyd at TGAU a bydd y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi ennill cymhwyster yn y pwnc hwn. Cydnabyddir yn gyffredinol bellach nad yw astudio Cymraeg fel ail iaith yn datblygu pobl ifanc sy'n wirioneddol ddwyieithog. Yn wir mae'r diwygiadau o ran y cwricwlwm sydd ar waith ledled Cymru yn cydnabod hyn, a bydd safonau newydd o ran medrusrwydd yn y Gymraeg yn cael eu pennu yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.

 

Gofynnodd Ms Williams y cwestiwn atodol canlynol:-

 

"Petai gan Gyngor Sir Caerfyrddin wir ddiddordeb mewn cynyddu'r defnydd o Gymraeg mewn modd cynhwysol, gan gwmpasu teuluoedd di-Gymraeg, oni fyddech chi wedi datblygu strategaethau clir a fyddai'n datblygu dysgwyr y tu hwnt i 11 oed, ac a fyddai'n peri bod cynnydd o ran niferoedd y siaradwyr Cymraeg, fel fi?"

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Mae polisi ar gyfer ysgolion uwchradd hefyd. Mae'r polisi hwnnw'n  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.12

5.13

CWESTIWN GAN MS SARAH MARTIN I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWETIHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Ar dudalen 138 o'r adroddiad ymgynghori, mae'r crynodeb/casgliad gan Estyn yn nodi "Ym marn Estyn, mae’r cynnig i uno’r ddwy ysgol yn debygol o gynnal y safonau addysg presennol. Fodd bynnag, nid yw’r cynnig yn rhoi digon o fanylder am yr opsiynau a’r trefniadau amgen ar gyfer disgyblion sy’n dymuno dilyn eu haddysg trwy gyfrwng y Saesneg pe bai’r ffrwd Saesneg yn cau yn Ysgol Llangennech." Mae'r adroddiad yn nodi dro ar ôl tro mai dewis rhieni fydd anfon eu plentyn i rywle arall, ond eto ni thelir costau a chredir bod y ddarpariaeth Saesneg amgen yn llawn.  Hefyd mae ymateb llywodraeth leol i Estyn ar dudalen 140 yn cydsynio â hyn gan nodi "...nid yw’r cynigiwr yn rhoi ystyriaeth ddigonol i effaith diweddu’r ffrwd Saesneg ar y disgyblion sy’n dymuno dilyn eu haddysg trwy gyfrwng yr iaith honno". Er bod disgyblion presennol yn cael eu hystyried, pa ddewisiadau ymarferol sydd gan fyfyrwyr y dyfodol nad ydynt am ddilyn addysg Gymraeg a sut gall y Cyngor gyfiawnhau cynnig nad yw'n cael ei gefnogi gan Estyn a llywodraeth leol?2

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Ms Martin yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw a'i bod wedi gofyn i'r Cadeirydd gyflwyno'r cwestiwn ar ei rhan.

 

“Ar dudalen 138 o'r adroddiad ymgynghori, mae'r crynodeb/casgliad gan Estyn yn nodi "Ym marn Estyn, mae’r cynnig i uno’r ddwy ysgol yn debygol o gynnal y safonau addysg presennol. Fodd bynnag, nid yw’r cynnig yn rhoi digon o fanylder am yr opsiynau a’r trefniadau amgen ar gyfer disgyblion sy’n dymuno dilyn eu haddysg trwy gyfrwng y Saesneg pe bai’r ffrwd Saesneg yn cau yn Ysgol Llangennech." Mae'r adroddiad yn nodi dro ar ôl tro mai dewis rhieni fydd anfon eu plentyn i rywle arall, ond eto ni thelir costau a chredir bod y ddarpariaeth Saesneg amgen yn llawn.  Hefyd mae ymateb llywodraeth leol i Estyn ar dudalen 140 yn cydsynio â hyn gan nodi "...nid yw’r cynigiwr yn rhoi ystyriaeth ddigonol i effaith diweddu’r ffrwd Saesneg ar y disgyblion sy’n dymuno dilyn eu haddysg trwy gyfrwng yr iaith honno". Er bod y disgyblion presennol yn cael eu hystyried, pa ddewisiadau ymarferol sydd gan fyfyrwyr y dyfodol nad ydynt am ddilyn addysg Gymraeg a sut gall y Cyngor gyfiawnhau cynnig nad yw'n cael ei gefnogi gan Estyn a llywodraeth leol?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Mae'r Cyngor Sir wedi cydnabod sylwadau Estyn ac wedi ymateb yn yr Adroddiad Ymgynghori drwy gyfeirio at ddyhead y Cyngor ynghylch bod yr holl blant lleol yn mynychu'r ysgol leol yn Llangennech. Fodd bynnag, petai rhai rhieni yn dewis anfon eu plant i ysgolion eraill, mae'r Cyngor wedi clustnodi dewisiadau posibl o ran ysgolion eraill y gallai rhieni gyflwyno cais iddyn nhw. Mae esiamplau o ysgolion eraill cyfagos ond mae rhai eraill ar gael.  Pan fo Estyn yn ymateb i gynnig ynghylch trefniadaeth ysgolion, nid yw'n cefnogi nac yn gwrthwynebu cynnig. Bydd Estyn yn mynegi barn am ei ddehongliad o effaith cynnig ar y ddarpariaeth i blant. Yn gwbl allweddol o ran hyn o beth mae Estyn wedi datgan barn sef bod "y cynnig i uno’r ddwy ysgol yn debygol o gynnal y safonau addysgol presennol”. Gan gofio bod safonau'r ddwy ysgol bresennol yn dda, dylai'r farn hon gan Estyn roi tawelwch meddwl i'r rhieni. Mewn gwirionedd y testun ar dudalen 140 o'r Ddogfen Ymgynghori, sy'n cyfeirio at "yr ymateb gan Lywodraeth Leol", yw ymateb yr awdurdod lleol hwn, Cyngor Sir Caerfyrddin, i'r sylwadau gan Estyn yr oedd angen rhagor o eglurhad arnyn nhw. Ymddiheuraf os nad oedd hynny'n gwbl glir."

 

</AI20>

 

5.14

CWESTIWN GAN MRS LAURA PEARCE I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Yn ystod y cyfarfod diwethaf roedd yn glir fod y pwyllgor / cadeirydd yn deall y manteision lu sy'n perthyn i ddwyieithrwydd o oedran cynnar, a sut y mae ysgol ddwy ffrwd yn cynnig hyn, a chyfeiriwyd at hynny dro ar ôl tro. I fod yn glir, ysgol ddwy ffrwd yw Ysgol Llangennech ar hyn o bryd, sy'n cynnig dwyieithrwydd yn lleol i blant o deuluoedd Saesneg a Chymraeg mewn cymuned glos. Mae tri o'm plant yn y ffrwd Saesneg neu wedi bod drwy'r ffrwd honno ac mae 2 yn y ffrwd Gymraeg. Mae'r dewis hwn wedi bod yn elfennol bwysig, yn dibynnu arnyn nhw fel unigolion (nid oes gan yr un anghenion arbennig). Yn syml, fy nghwestiwn yw hwn – sut yn y byd y gall gwaredu un iaith (Saesneg) o ysgol ddwy ffrwd (dwyieithog) fod yn fuddiol? Sut mae un iaith (Cymraeg) yn well na dwy (Cymraeg a Saesneg) gan mai 2 iaith yw hanfod dwyieithrwydd?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Mrs Pearce yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw a'i bod wedi gofyn i'r Cadeirydd gyflwyno'r cwestiwn ar ei rhan.

 

“Yn ystod y cyfarfod diwethaf roedd yn glir fod y pwyllgor / cadeirydd yn deall y manteision lu sy'n perthyn i ddwyieithrwydd o oedran cynnar, a sut y mae ysgol ddwy ffrwd yn cynnig hyn, a chyfeiriwyd at hynny dro ar ôl tro. I fod yn glir, ysgol ddwy ffrwd yw Ysgol Llangennech ar hyn o bryd, sy'n cynnig dwyieithrwydd yn lleol i blant o deuluoedd Saesneg a Chymraeg mewn cymuned glos. Mae tri o'm plant yn y ffrwd Saesneg neu wedi bod drwy'r ffrwd honno ac mae 2 yn y ffrwd Gymraeg. Mae'r dewis hwn wedi bod yn elfennol bwysig, yn dibynnu arnyn nhw fel unigolion (nid oes gan yr un anghenion arbennig). Yn syml, fy nghwestiwn yw hwn – sut yn y byd y gall gwaredu un iaith (Saesneg) o ysgol ddwy ffrwd (dwyieithog) fod yn fuddiol? Sut mae un iaith (Cymraeg) yn well na dwy (Cymraeg a Saesneg) gan mai 2 iaith yw hanfod dwyieithrwydd?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

“Mae strategaeth y Cyngor Sir yn seiliedig ar y ddealltwriaeth bod ysgolion yn elfen hanfodol bwysig yn natblygiad plant er mwyn iddyn nhw fod yn gwbl ddwyieithog erbyn eu bod yn gadael yr ysgol gynradd. Mae’r dystiolaeth ryngwladol, fel y'i dyfynnir gan Lywodraeth Cymru yn y dogfennau a gyhoeddwyd ganddi, yn cadarnhau mai’r ffordd fwyaf effeithiol i ddatblygu plant dwyieithog yw eu trochi yn yr iaith sy’n llai cyffredin tra datblygir hefyd eu sgiliau yn yr iaith sy’n fwy cyffredin. Hefyd mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo, yn achos plant sydd o deuluoedd di-Gymraeg, fod trochi plant yn y Gymraeg yn hynod o bwysig er mwyn gwreiddio’r iaith.

 

Yn ogystal, mae'n bwysig nodi y datblygir hefyd sgiliau iaith Saesneg plant sy'n cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Ar ben hynny, mae'r dystiolaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn ysgolion Llangennech yn dangos bod y plant yn y ffrwd Gymraeg yn cyrraedd safonau da o ran y Saesneg a'r Gymraeg. Fodd bynnag nid yw'r plant yn y ffrwd Saesneg yn cyrraedd yr un lefel o ran sgiliau Cymraeg wrth iddyn nhw ddilyn rhaglen astudio Cymraeg ail iaith.

 

Yn ogystal mae'r dystiolaeth yn cadarnhau bod plant o gartrefi di-Gymraeg sydd yn y ffrwd Gymraeg yn cael canlyniadau cyson dda yn yr holl bynciau, gan gynnwys Saesneg."

 

 

 

 

 

5.15

CWESTIWN GAN MRS MAUREEN JONES I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWETIHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

Rwy'n gyn-ddisgybl o ysgol Llangennech, fy chwiorydd, fy merch, fy wyrion a gor-wyrion wedi neu ar hyn o bryd yn mynychu ysgolion Llangennech. 

 Os gwelwch yn dda y gallaf ofyn pam, ar ôl dros 60 mlynedd o addysg ddwyieithog lwyddiannus a addysgir drwy Saesneg a chyfrwng Cymraeg, flynyddoedd lawer o adroddiadau ardderchog, ac enw da, y mae cyngor Sir Caerfyrddin yn teimlo'r angen i rhannu gymuned agos, gyda'r ysgol yn ei galon a dieithrio y rhai sy'n dewis, yn aml am resymau cymdeithasol, personol neu oherwydd anabledd, addysg cyfrwng Saesneg ar gyfer eu phlant, gan hyrwyddo addusg ungnwyd?” 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Mrs Jones yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw a'i bod wedi gofyn i'r Cadeirydd gyflwyno'r cwestiwn ar ei rhan.

“Rwy'n gyn-ddisgybl o ysgol Llangennech, fy chwiorydd, fy merch, fy wyrion a gor-wyrion wedi neu ar hyn o bryd yn mynychu ysgolion Llangennech.

Os gwelwch yn dda y gallaf ofyn pam, ar ôl dros 60 mlynedd o addysg ddwyieithog lwyddiannus a addysgir drwy Saesneg a chyfrwng Cymraeg, flynyddoedd lawer o adroddiadau ardderchog, ac enw da, y mae cyngor Sir Caerfyrddin yn teimlo'r angen i rhannu gymuned agos, gyda'r ysgol yn ei galon a dieithrio y rhai sy'n dewis, yn aml am resymau cymdeithasol, personol neu oherwydd anabledd, addysg cyfrwng Saesneg ar gyfer eu phlant, gan hyrwyddo addusg ungnwyd.”

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

“Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Cyngor Sir yn ceisio sicrhau manteision dwyieithrwydd ar gyfer holl blant Sir Gaerfyrddin.  Sefydlwyd Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar sail y fframwaith polisi gan Lywodraeth Cymru, sy'n defnyddio tystiolaeth o ymchwil ryngwladol ynghylch manteision addysgol dwyieithrwydd, sy'n gallu cynnwys cryfhau sgiliau gwybyddol, gwell chwimder meddyliol, gwell canolbwyntio a'r gallu i ganolbwyntio ar amrywiaeth o dasgau, gan anwybyddu pethau a all ddenu'r sylw.Y tu hwnt i addysg, mae ymchwil yng Nghanada yn awgrymu y gall dwyieithrwydd helpu i oedi symptomau dementia.  Rwy'n disgwyl, a hynny mwyfwy yn y dyfodol, y bydd gan bobl ifanc yng Nghymru sy'n ddwyieithog ragolygon gyrfa ehangach na'u cyfoedion uniaith. Hefyd mae bod yn ddwyieithog neu'n amlieithog yn ehangu profiadau diwylliannol unigolion ac yn gallu gwella rhagolygon gyrfa.

 

Mae’r dystiolaeth ryngwladol, fel y'i dyfynnir gan Lywodraeth Cymru yn y dogfennau a gyhoeddwyd ganddi, yn cadarnhau mai’r ffordd fwyaf effeithiol i ddatblygu plant dwyieithog yw eu trochi yn yr iaith sy’n llai cyffredin tra datblygir hefyd eu sgiliau yn yr iaith sy’n fwy cyffredin.Hefyd mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo, yn achos plant sydd o deuluoedd di-Gymraeg, fod trochi plant yn y Gymraeg yn hynod o bwysig er mwyn gwreiddio’r iaith.  Yn fy marn i, dylai bob plentyn gael y cyfle i ddatblygu yn unigolyn ifanc dwyieithog o fewn y system addysg leol er mwyn rhoi'r cyfleoedd bywyd gorau posibl iddo a'r ffordd fwyaf effeithiol o wneud hyn yw drwy gyfrwng addysg cyfrwng Cymraeg yn y cyfnod cynradd.”

 

 

5.16

CWESTIWN GAN MS SALLY ANN THOMAS I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWETIHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Yn yr hinsawdd hwn o gyni cyllidol, toriadau ac ansicrwydd, pam y mae CSC yn treulio cymaint o amser ac yn gwario cymaint o arian ac adnoddau gwerthfawr ar DDATRYS ysgol LLE NAD OES PROBLEM? Mae Llangennech yn ysgol werdd, ddwyieithog, ddwy ffrwd lwyddiannus iawn a'i harwyddair yw "Addysg i BAWB". Oni fyddai'n well gwario'r arian a'r adnoddau hyn ar ysgolion cyfrwng Saesneg melyn ac ambr er mwyn sicrhau eu bod yn darparu addysg ddwy ffrwd ddwyieithog o safon uchel, fel y mae Llangennech yn ei wneud?” 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Yn yr hinsawdd hwn o gyni cyllidol, toriadau ac ansicrwydd, pam y mae CSC yn treulio cymaint o amser ac yn gwario cymaint o arian ac adnoddau gwerthfawr ar DDATRYS ysgol LLE NAD OES PROBLEM? Mae Llangennech yn ysgol werdd, ddwyieithog, ddwy ffrwd lwyddiannus iawn a'i harwyddair yw "Addysg i BAWB". Oni fyddai'n well gwario'r arian a'r adnoddau hyn ar ysgolion cyfrwng Saesneg melyn ac ambr er mwyn sicrhau eu bod yn darparu addysg ddwy ffrwd ddwyieithog o safon uchel, fel y mae Llangennech yn ei wneud?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Mae'r Cyngor Sir yn hyrwyddo'r cynnig presennol ar gyfer addysg gynradd yn Llangennech gan ei fod yn barnu'n bendant taw hyn sydd orau o ran addysg y plant.Yn wir mae ysgolion Llangennech yn llwyddiannus iawn, ac amcan y cynnig yw gwella ymhellach y cyfleoedd i'r plant sy'n mynychu'r ysgolion er mwyn sicrhau bod y canlyniadau'n dal i wella. Yn gyffredinol mae gweithredu ysgol ddwy ffrwd yn ddrutach na gweithredu ysgol uniaith, felly os bydd y cynnig yn llwyddiannus dylai roi bod i fwy o effeithlonrwydd ariannol ymhen amser."

 

5.17

CWESTIWN GAN MRS EMMA LOMAS I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Yn dilyn yr adroddiad a ddarparwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin yngl?n ag ymatebion o’r broses ymgynghori, cysylltodd nifer o rieni â ni i ddweud nad oedd eu profformâu wedi’u cynnwys yn y ddogfen er iddynt gael eu cyflwyno ac iddynt gael derbynebau. O’r ymatebion a gafwyd, byddai’n ymddangos bod cefnogaeth gref dros gadw’r ddwy ffrwd gyda 154 o ymatebion wedi’u nodi a deiseb a lofnodwyd gan 505 o bobl (sydd eisoes wedi’i chyflwyno). Bu’r gr?p yn erbyn yn agored wrth rannu eu henwau a’u perthynas â’r ysgol, tra bo'r gr?p sy’n ymgyrchu o blaid wedi parhau i weithredu’n ddirgel gan ddymuno peidio â chael eu henwi, gyda mwy na 30 o gyflwyniadau dienw. Roedd llawer o’r ymgyngoreion a oedd o blaid newid yn gyn-athrawon, cynghorwyr, penaethiaid, a staff presennol. Awgrymwyd mai cymharol gyfartal o blaid ac yn erbyn oedd yr ymatebion. Cymhareb cyfanswm y nifer yn erbyn o gymharu ag o blaid yw 5:1. Sut gall hyn gael ei ystyried yn gyfartal pan fo’r ymgyngoreion sy’n cefnogi’r newid yn ymddangos nad ydynt yn cynnwys llawer o farn rhieni, a’i bod yn ymddangos nad yw llawer iawn o’r rhai yn erbyn y newid wedi’u cynnwys?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Yn dilyn yr adroddiad a ddarparwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin yngl?n ag ymatebion o’r broses ymgynghori cysylltodd nifer o rieni â ni i ddweud nad oedd eu profformâu wedi’u cynnwys yn y ddogfen er iddynt gael eu cyflwyno ac iddynt gael derbynebau. O’r ymatebion a gafwyd, byddai’n ymddangos bod cefnogaeth gref dros gadw’r ddwy ffrwd gyda 154 o ymatebion wedi’u nodi a deiseb a lofnodwyd gan 505 o bobl (sydd eisoes wedi’i chyflwyno). Bu’r gr?p yn erbyn yn agored wrth rannu eu henwau a’u perthynas â’r ysgol, tra bod y gr?p sy’n ymgyrchu o blaid wedi parhau i weithredu’n ddirgel gan ddymuno peidio â chael eu henwi, gyda mwy na 30 o gyflwyniadau di-enw. Roedd llawer o’r ymgyngoreion a oedd o blaid newid yn gyn-athrawon, cynghorwyr a phenaethiaid, a staff presennol. Awgrymwyd mai cymharol gyfartal o blaid ac yn erbyn oedd yr ymatebion. Cymhareb cyfanswm y nifer yn erbyn o gymharu ag o blaid yw 5:1. Sut gall hyn gael ei ystyried yn gyfartal pan fo’r ymgyngoreion sy’n cefnogi’r newid yn ymddangos nad ydynt yn cynnwys llawer o farn rhieni, a’i bod yn ymddangos nad yw llawer o’r rhai yn erbyn y newid wedi’u cynnwys?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

"Mae'r Adroddiad Ymgynghori oedd yn y papurau a roddwyd gerbron y Bwrdd Gweithredol yn cynnwys yr holl sylwadau a ddaethai i law'r Adran Addysg a Gwasanaethau Plant erbyn dyddiad cau estynedig y cyfnod ymgynghori ar 18fed Mawrth 2016.  Mae'r Adran wedi archwilio'r holl gyflwyniadau a ddaeth i law ac mae'n gallu cadarnhau'r sefyllfa honno, gan nodi bod tri ymatebydd wedi mynegi awydd i'w sylwadau beidio â bod ar gael i'r cyhoedd. Felly mae'r tri ymateb hyn wedi'u diystyru at ddibenion yr Adroddiad Ymgynghori.

Y dyddiad cau gwreiddiol ar gyfer cyflwyno ymatebion, a oedd wedi'i bennu yn unol â'r Côd Trefniadaeth Ysgolion, oedd 11eg Mawrth, 2016 ond, ar gais rhai pobl, cytunodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant i ymestyn y cyfnod ymgynghori am wythnos hyd at 18fed Mawrth er mwyn rhoi digon o amser i'r holl rai oedd a wnelon nhw â'r mater gyflwyno eu sylwadau.  Mae tipyn o ohebu wedi parhau â gwahanol bobl oedd a wnelon nhw â'r mater a hynny ar ôl i'r cyfnod ymgynghori orffen, ond er mwyn sicrhau y cydymffurfir â'r Côd Trefniadaeth Ysgolion ac er mwyn sicrhau bob pawb yn cael eu trin yn gyfartal ac yn gyson, dim ond cyflwyniadau oedd wedi dod i law erbyn 18fed Mawrth a gynhwyswyd yn yr Adroddiad Ymgynghori.

Mae'n rhaid, yn statudol, i'r penderfyniad ynghylch camu ymlaen neu beidio â'r cynnig gael ei wneud er lles pennaf y dysgwyr. Felly mae'n rhaid penderfynu ar sail y rhinweddau addysgol yn hytrach nag ar sail nifer yr ymatebion a ddaeth i law, boed o blaid neu yn erbyn y cynnig.  Mae hawl i fynegi barn gan bob unigolyn a phob mudiad ni waeth beth fo'r statws unigol.  Os teimla unrhyw unigolion neu fudiad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.17

5.18

CWESTIWN GAN MRS JACQUELINE SEWARD I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Cydnabyddir bod Cynulliad Cymru a arweinir gan y Llywodraeth Lafur wedi pennu gweledigaeth i gynyddu'r iaith Gymraeg yng Nghymru ar draws amryw agweddau ar fywyd. Mae'r Cynulliad wedi cadarnhau yn ysgrifenedig nad oes unrhyw dargedau wedi cael eu gosod o ran yr iaith Gymraeg, felly mater i bob Awdurdod Lleol yw sut y rhoddir hyn ar waith. Er enghraifft, mae gan siroedd De Cymru megis Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, a Chaerdydd bob o Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg sy'n anelu at gynyddu Cymraeg heb ddefnyddio dulliau awdurdodus. Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw elfennau cyflawnadwy o fewn unrhyw faniffesto gwleidyddol i newid drwy rym y dewisiadau iaith presennol mewn ysgolion cynradd yn y sir, heb ystyried y dewisiadau a ffefrir gan rieni a'r gymuned. A fyddech cystal â rhoi gwybod o dan ba fandad ac yn unol â pha addewidion a wnaed i'r etholwyr gan aelodau yr ymgymerir â'r fenter hon?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Cydnabyddir bod Cynulliad Cymru a arweinir gan y Llywodraeth Lafur wedi pennu gweledigaeth i gynyddu'r iaith Gymraeg yng Nghymru ar draws amryw agweddau ar fywyd. ?Mae'r Cynulliad wedi cadarnhau yn ysgrifenedig nad oes unrhyw dargedau wedi cael eu gosod o ran yr iaith Gymraeg, felly mater i bob Awdurdod Lleol yw sut y rhoddir hyn ar waith. ? Er enghraifft, mae gan siroedd De Cymru megis Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, a Chaerdydd bob o Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg sy'n anelu at gynyddu Cymraeg heb ddefnyddio dulliau awdurdodus.   Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw elfennau cyflawnadwy o fewn unrhyw faniffesto gwleidyddol i newid drwy rym y dewisiadau iaith presennol mewn ysgolion cynradd yn y sir, heb ystyried y dewisiadau a ffefrir gan rieni a'r gymuned. A fyddech cystal â rhoi gwybod o dan ba fandad ac yn unol â pha addewidion a wnaed i'r etholwyr gan aelodau yr ymgymerir â'r fenter hon?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

“Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin, fel sy'n wir am yr holl awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, gyfrifoldeb statudol o dan Ran 4 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i lunio Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar gyfer ei ardal gyda golwg benodol ar wella'r modd y cynllunnir darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn codi'r safonau o ran addysgu ac o ran dysgu Cymraeg. Mae'n ofynnol i'r Cyngor bennu targedau ar gyfer ei amcanion.

 

Ym mis Ebrill 2014 bu i'r Cyngor Sir fabwysiadu'n ffurfiol strategaeth gynhwysfawr ar gyfer datblygu'r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin, gan gymeradwyo argymhellion gr?p (oedd yn gytbwys yn wleidyddol) o aelodau etholedig a oedd wedi rhoi sylw i statws y Gymraeg yn y sir yn sgil cyfrifiad 2011 o'r boblogaeth.  Mae'r strategaeth yn mynnu bod gweithredu'n digwydd o ran 73 o bwyntiau, y mae 21 ohonyn nhw'n ymwneud â'r gwasanaeth addysg.Mae'r holl argymhellion a chamau gweithredu perthnasol yn y strategaeth wedi'u cynnwys yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin.  Cafodd y strategaeth iaith gefnogaeth drawsbleidiol gan yr aelodau etholedig pan y'i mabwysiadwyd yng nghyfarfod llawn y Cyngor Sir.

Fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad i'r Bwrdd Gweithredol, mae'r cynnig yn gyson â'r polisi cenedlaethol i helaethu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn cynyddu nifer y bobl ifanc sy'n gwbl ddwyieithog, ac er mwyn galluogi rhagor o blant i elwa ar fanteision dwyieithrwydd - a gadarnheir gan waith ymchwil rhyngwladol, a gynhwyswyd hefyd yn yr adroddiad. 

Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg wedi bod yn destun ymgynghori â'r cyhoedd wrth iddo gael ei baratoi ac wrth iddo gael ei adolygu'n ddiweddarach.Felly mae ei gynnwys wedi bod yn destun craffu gan y cyhoedd yn unol â'r gofynion statudol.

Gofynnodd Mrs Seward y cwestiwn atodol canlynol:-

 

"A yw Plaid Cymru yn argymell defnyddio polisïau dwrn dur yn hytrach na pholisïau democrataidd, ac ai'r nod yw cael gwared ag ysgolion cyfrwng Saesneg o'r sir?"

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.18

5.19

CWESTIWN GAN MRS KATE WARNER I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Yn unol â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, rhoddwyd cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru i bob Awdurdod Addysg Lleol yng Nghymru lunio 'Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg' er mwyn gweithredu ei bolisi o ehangu addysg cyfrwng Cymraeg. Bu i Gyngor Sir Caerfyrddin gydymffurfio â chyfarwyddeb y Llywodraeth a llunio'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru.

Os na weithredir y cynnig ar gyfer Ysgol Llangennech, does bosibl na fyddai'r Cyngor wedyn yn cydymffurfio â'r 'Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg' ar gyfer Sir Gaerfyrddin, a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru. A yw'r dehongliad hwn yn gywir?”

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Yn unol â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, rhoddwyd cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru i bob Awdurdod Addysg Lleol yng Nghymru lunio 'Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg' er mwyn gweithredu ei bolisi o ehangu addysg cyfrwng Cymraeg. Bu i Gyngor Sir Caerfyrddin gydymffurfio â chyfarwyddeb y Llywodraeth a llunio Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru.  

 

Os na weithredir y cynnig ar gyfer Ysgol Llangennech, does bosibl na fyddai'r Cyngor wedyn yn cydymffurfio â 'Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg' ar gyfer Sir Gaerfyrddin, a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru. A yw'r dehongliad hwn yn gywir?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Yn fy marn i mae'r dehongliad a gynigiwyd gan Mrs Warner yn deg ac yn rhesymol. Mae'r Cyngor Sir hwn wedi datgan yn glir ei fwriad strategol i ddatblygu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a hynny yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg a gyhoeddwyd gan y Cyngor ac sydd wedi bod yn destun ymgynghori â'r cyhoedd wrth iddo gael ei baratoi ac wrth iddo gael ei adolygu'n ddiweddarach.Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn bolisi ffurfiol gan y Cyngor, ac mae'r cynnig ar gyfer yr ysgolion yn Llangennech yn seiliedig ar y polisi hwn."

 

</AI26>

 

5.20

CWESTIWN GAN MRS ELIN GRIFFITHS I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Mae dwyieithrwydd yn cynnig nifer o fanteision ac mae gwaith ymchwil yn dangos bod plant sy’n deall fwy nag un iaith gyda’r gallu i feddwl yn fwy hyblyg a chreadigol. Mae dwy iaith yn cynnig manteision economaidd wrth chwilio am swyddi yn y dyfodol, mae’n rhoi’r gallu i gyfathrebu gydag ystod ehangach o bobl, y gallu i brofi dau ddiwylliant gwahanol ac yn rhoi i bobl y cyfle i fod yn rhan o bob agwedd o fywyd cymdeithasol. A ydy’r Bwrdd Gweithredol yn cytuno na ddylai unrhyw blentyn fod dan anfantais yn addysgol, cymdeithasol ac yn economaidd, felly drwy gytuno i ysgolion Babanod ac Iau Llangennech i barhau ar hyd y continwwm iaith, y bydd sicrhad bod bob plentyn yn cael yr un manteision â’i gilydd?”

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Mae dwyieithrwydd yn cynnig nifer o fanteision ac mae gwaith ymchwil yn dangos bod plant sy’n deall fwy nag un iaith gyda’r gallu i feddwl yn fwy hyblyg a chreadigol. Mae dwy iaith yn cynnig manteision economaidd wrth chwilio am swyddi yn y dyfodol, mae’n rhoi’r gallu i gyfathrebu gydag ystod ehangach o bobl, y gallu i brofi dau ddiwylliant gwahanol ac yn rhoi i bobl y cyfle i fod yn rhan o bob agwedd o fywyd cymdeithasol.  A ydy’r Bwrdd Gweithredol yn cytuno na ddylai unrhyw blentyn fod dan anfantais yn addysgol, cymdeithasol ac yn economaidd, felly drwy gytuno i ysgolion Babanod ac Iau Llangennech i barhau ar hyd y continwwm iaith, y bydd sicrhad bod bob plentyn yn cael yr un manteision â’i gilydd?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

“Rwy'n cytuno â'r manteision o ran dwyieithrwydd a nodwyd gan Mrs Griffiths ac rwy'n cytuno i'r carn y dylai pob plentyn gael y cyfle i fanteisio ar y cyfleoedd hyn. Rwyf hefyd yn credu taw'r modd mwyaf effeithiol o sicrhau'r manteision hyn ar gyfer ein plant yw drwy addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol gynradd.”

 

 

5.21

CWESTIWN GAN MR OWAIN GLENISTER I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

Wrth ystyried y pwysau sydd ar Gyngor Sir Caerfyrddin i ymateb i Mesur y Gymraeg 2011, hynny yw i ddarparu gwasanaethau craidd trwy gyfrwng y ddwy iaith, ydy'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried bod datblygu unigolion sydd gyda'r gallu i gyfathrebu yn effeithiol mewn dwy iaith yn hanfodol fel strategaeth hir dymor wrth geisio datblygu gweithlu sydd yn medru darparu gwasnaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Os felly, ydych chi’n teimlo bod y newid yma i Ysgol Llangennech yn mynd i roi gwell cyfle i blant ddatblygu i fod yn oedolion dwyieithog ac felly yn fwy tebygol o ddal swydd yn y sector gyhoeddus?”

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Wrth ystyried y pwysau sydd ar Gyngor Sir Caerfyrddin i ymateb i Fesur y Gymraeg 2011, hynny yw i ddarparu gwasanaethau craidd trwy gyfrwng y ddwy iaith, ydy'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried bod datblygu unigolion sydd gyda'r gallu i gyfathrebu yn effeithiol mewn dwy iaith yn hanfodol fel strategaeth hir dymor wrth geisio datblygu gweithlu sydd yn medru darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Os felly, ydych chi’n teimlo bod y newid yma i Ysgol Llangennech yn mynd i roi gwell cyfle i blant ddatblygu i fod yn oedolion dwyieithog ac felly yn fwy tebygol o ddal swydd yn y sector gyhoeddus?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

“Rwy'n cytuno â Mr Glenister fod y cynigion ar gyfer ysgolion Llangennech, a sefydlwyd ar yr amcanion a nodwyd yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Cyngor Sir, yn cefnogi dysgwyr nid yn unig wrth ddatblygu eu sgiliau iaith yn Saesneg ac yn Gymraeg, ond hefyd o ran eu haddysg ehangach a'u datblygiad personol hefyd.

 

Mae'r safonau iaith newydd sy'n gymwys i'r holl gynghorau yng Nghymru ar hyn o bryd, a fydd yn eu tro yn gymwys ledled y sector cyhoeddus, yn cyflwyno galw ychwanegol o ran darparu gwasanaethau a fydd yn gofyn am niferoedd uwch o bobl â lefel uchel o sgiliau Cymraeg. Mae'n anochel felly, y bydd pobl ifanc sy'n gwbl ddwyieithog mewn gwell sefyllfa yn y farchnad swyddi na'u cyfoedion uniaith, ac o gymharu bydd eu rhagolygon gyrfa yn well.”

 

Gofynnodd Mr Glenister y cwestiwn atodol canlynol:-

 

"O ystyried yr adroddiad diweddar gan Donaldson ynghyd â'r ffaith fod nifer o ystadegau cenedlaethol yn profi'n ddigamsyniol fod dwyieithrwydd yn fanteisiol, onid yw'n amserol felly ystyried bod addysg Gymraeg nid yn unig yn ffordd tuag at ddwyieithrwydd ond hefyd yn ffordd effeithiol o gryfhau'r ddealltwriaeth o'n diwylliant a'n treftadaeth." 

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Bydd Adroddiad Donaldson yn hanfodol o ran datblygu addysg dros y degawd nesaf.  Rwyf yn gobeithio bod gennym yr arweinwyr iawn yma yn Sir Gaerfyrddin i roi arweiniad o ran hyn o beth.  Mae gennym ysgolion blaengar yn barod. Ac rwyf yn meddwl y bydd Sir Gaerfyrddin yn rhoi arweiniad o ran Adroddiad Donaldson yng Nghymru. Mae'r Gymraeg yn rhan annatod o'r adroddiad.” 

 

 

5.22

CWESTIWN GAN MRS HELEN MAINWARING I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

Gan mai Llafur oedd yn arwain y Cyngor pan gyhoeddwyd eichCynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg 2014-2017’ yn 2013 a nododd y bwriad i droi ysgolion dwy ffrwd yn ysgolion Cymraeg, a ydy ymrwymiad y Blaid Lafur i’r polisi hwn yn dal i fod yr un peth ac a allwn ni gael yr un sicrwydd nawr fod arweinyddiaeth y Cyngor wedi newid y bydd y Cynllun Strategol hwn yn dal i gael cefnogaeth y Cynghorwyr a'i weithredu yn yr un modd?”

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Gan mai Llafur oedd yn arwain y Cyngor pan gyhoeddwyd eich ‘Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg 2014-2017’ yn 2013 a nododd y bwriad i droi ysgolion dwy ffrwd yn ysgolion Cymraeg, a ydy ymrwymiad y Blaid Lafur i’r polisi hwn yn dal i fod yr un peth ac a allwn ni gael yr un sicrwydd nawr fod arweinyddiaeth y Cyngor wedi newid y bydd y Cynllun Strategol hwn yn dal i gael cefnogaeth y Cynghorwyr a'i weithredu yn yr un modd?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

“Cafodd Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Cyngor Sir ei fabwysiadu'n ffurfiol yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 10fed Medi gan ennyn cefnogaeth drawsbleidiol.

 

Mae gan weinyddiaeth bresennol y Cyngor Sir, sef clymblaid Plaid Cymru a'r Gr?p Annibynnol, ymrwymiad o hyd i gynnwys y Cynllun a'i weithrediad. Nid yw'r Bwrdd Gweithredol yn cynnwys unrhyw gynghorwyr Llafur ar hyn o bryd.

 

Fel yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant, ac aelod o Gr?p Plaid Cymru, nid wyf yn gallu siarad ar ran aelodau Gr?p Llafur y Cyngor.”

 

Gofynnodd Mrs Mainwaring y cwestiwn atodol canlynol:-

 

"A allwch chi roi sicrwydd inni na chaiff y drafodaeth hon ei defnyddio at ddibenion gwleidyddol ac y bydd y cynghorwyr yn rhoi sylw iddi ar sail y gwaith ymchwil a'r dystiolaeth gadarn sydd o blaid manteision dwyieithrwydd, gan osgoi'r demtasiwn i ddefnyddio'r mater er budd gwleidyddol? 

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:

 

"Ni allaf warantu hynny, ond gallaf roi sicrwydd o ran Plaid Cymru, a gwn y bydd ein plaid ni'n cefnogi hyn."

 

 

5.23

CWESTIWN GAN MR HYWEL DAVIES I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

Ydy aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn ymwybodol o’r ffaith fod ymrwymiad trawsbleidiol gan y Cynulliad i greu Cymru ddwyieithog a bod mwy a mwy o gyflogwyr yn chwilio am sgiliau dwyieithog wrth i ddeddfwriaeth ddiweddar fynnu bod cyrff cyhoeddus yn darparu gwasanaethau yn newis iaith y cwsmer?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Mr Davies yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw a'i fod wedi gofyn i'r Cadeirydd gyflwyno'r cwestiwn ar ei ran.

 

“Ydy aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn ymwybodol o’r ffaith fod ymrwymiad trawsbleidiol gan y Cynulliad i greu Cymru ddwyieithog a bod mwy a mwy o gyflogwyr yn chwilio am sgiliau dwyieithog wrth i ddeddfwriaeth ddiweddar fynnu bod cyrff cyhoeddus yn darparu gwasanaethau yn newis iaith y cwsmer?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

“Mae'r Cyngor Sir yn ymwybodol o fframwaith polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg a safle'r Gymraeg o fewn addysg.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod dyletswyddau statudol ar yr holl gynghorau yng Nghymru o ran y Gymraeg a'i safle o fewn addysg. Mewn ymateb i hyn mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi paratoi ei Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ac mae wedi'i fabwysiadu'n ffurfiol fel polisi. Wrth wraidd y Cynllun mae rhaglen i ddatblygu ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a gallu dwyieithog disgyblion ysgol.

 

Bydd dyfodiad Safonau'r Gymraeg ar gyfer holl gynghorau Cymru, ac ymhen amser ar gyfer y sector cyhoeddus, yn cynyddu pwysigrwydd sgiliau dwyieithog ar gyfer pobl ifanc yn y dyfodol ac yn fy marn i, bydd gan y rheiny sy'n meddu ar y sgiliau hynny well rhagolygon gyrfa.”

 

 

5.24

CWESTIWN GAN MRS CATHRIN JONES I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

Ydy aelodau’r Bwrdd Gweithredol wedi darllen am ymchwil ddiweddar yng Nghanada sy’n profi fod dwyieithrwydd yn cael effaith gadarnhaol ar yr ymennydd yn hwyrach mewn bywyd drwy ei gadw’n effro a helpu lleihau’r tebygolrwydd o gael dementia?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Ydy aelodau’r Bwrdd Gweithredol wedi darllen am ymchwil ddiweddar yng Nghanada sy’n profi fod dwyieithrwydd yn cael effaith gadarnhaol ar yr ymennydd yn hwyrach mewn bywyd drwy ei gadw’n effro a helpu lleihau’r tebygolrwydd o gael dementia?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

“Rwy'n ymwybodol o'r ymchwil yng Nghanada y cyfeirir ati oherwydd mae'n cael ei dyfynnu yn Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru (2010) a chyfeirir ati yn aml mewn ymchwil ryngwladol arall wrth drafod dwyieithrwydd.

 

Ceir consensws ymhlith amrywiaeth o waith ymchwil a thystiolaeth ryngwladol bod dwyieithrwydd yn cynnig llawer o fanteision addysgol ar gyfer unigolion, yn cynnwys cryfhau sgiliau gwybyddol, gwell chwimder meddyliol, gwell canolbwyntio a'r gallu i roi ffocws ar amrywiaeth o dasgau, gan anwybyddu pethau all ddenu'r sylw.Hefyd mae bod yn ddwyieithog neu'n amlieithog yn ehangu profiadau diwylliannol unigolion ac yn gallu gwella rhagolygon gyrfa.”

 

 

5.25

CWESTIWN GAN MR MARTYN WILLIAMS I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion dwy ffrwd mae pwyslais penodol ar ddatblygu Cymraeg trwy ddulliau trochi ar draws pob un o feysydd dysgu y Cyfnod Sylfaen, pa iaith bynnag y mae'r plentyn yn ei siarad gartref. Mae'r adroddiad ‘Cymraeg yn y Cyfnod Sylfaen’ gan Estyn, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2013, yn nodi “bod y safonau o ran sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu y disgyblion yn debyg i'r rheiny mewn ysgolion a lleoliadau cyfrwng Saesneg, ac yn unol â'r lefelau a ddisgwylir ar gyfer yr oedran hwnnw". Felly a yw'r Bwrdd Gweithredol yn cytuno bod Cymraeg yn y Cyfnod Sylfaen yn llwyddiannus o ran rhoi'r addysg gychwynnol orau posibl i blant o gartrefi Cymraeg a chartrefi Saesneg?”

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion dwy ffrwd mae pwyslais penodol ar ddatblygu Cymraeg trwy ddulliau trochi ar draws pob un o feysydd dysgu y Cyfnod Sylfaen, pa iaith bynnag y mae'r plentyn yn ei siarad gartref. Mae'r adroddiad ‘Cymraeg yn y Cyfnod Sylfaen’ gan Estyn, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2013, yn nodi “bod y safonau o ran sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu y disgyblion yn debyg i'r rheiny mewn ysgolion a lleoliadau cyfrwng Saesneg, ac yn unol â'r lefelau a ddisgwylir ar gyfer yr oedran hwnnw". Felly a yw'r Bwrdd Gweithredol yn cytuno bod Cymraeg yn y Cyfnod Sylfaen yn llwyddiannus o ran rhoi'r addysg gychwynnol orau posibl i blant o gartrefi Cymraeg a chartrefi Saesneg?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Rwyf yn cytuno, yn rhinwedd fy swyddogaeth fel yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant, fod trochi plant yn y Gymraeg yn ystod y Cyfnod Sylfaen yn cynnig y cychwyn gorau posibl i'w haddysg drwy roi cyfle iddyn nhw ddatblygu sgiliau cwbl ddwyieithog a'u galluogi i elwa ar y manteision addysgol eraill y mae gwaith ymchwil rhyngwladol wedi dangos sy'n dod i ran plant dwyieithog.

 

Mae’r dystiolaeth ryngwladol, fel y'i dyfynnir gan Lywodraeth Cymru yn y dogfennau a gyhoeddwyd ganddi, yn cadarnhau mai’r ffordd fwyaf effeithiol i ddatblygu plant dwyieithog yw eu trochi yn yr iaith sy’n llai cyffredin tra datblygir hefyd eu sgiliau yn yr iaith sy’n fwy cyffredin.Hefyd mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo, yn achos plant sydd o deuluoedd di-Gymraeg, fod trochi plant yn y Gymraeg yn hynod o bwysig er mwyn gwreiddio’r iaith.”

 

 

5.26

CWESTIWN GAN MR MICHAEL REES I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWETIHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Roeddwn i'n athro cynradd yn Sir Gaerfyrddin. Rwyf wedi ymddeol bellach a'm swydd olaf oedd Dirprwy Bennaeth mewn ysgol yn Llanelli. Hoffwn ofyn cwestiwn am gryfder addysg cyfrwng Cymraeg. Cafodd fy ngwraig a minnau ein magu mewn cartrefi uniaith Saesneg, fodd bynnag penderfynom y byddai ein plant yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel siaradwyr Saesneg, ni chawsom fel rhieni unrhyw broblemau o ran gwaith cartref ein plant. I'r gwrthwyneb, gan fod hynny wedi gwella ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth. Yn ystod fy ngyrfa, fe wnes addysgu mewn ysgolion dwy ffrwd. Rwyf wedi gweld drosof fy hun fod addysgu Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg neu ddwy ffrwd yn fethiant llwyr, a bod ffrydiau deuol yn gwanhau'r Gymraeg, fel sydd mor amlwg ar y maes chwarae. A yw'r Bwrdd Gweithredol yn cytuno â'm sylwadau mai'r addysg fwyaf effeithiol i greu plant dwyieithog cwbl rugl - o ran siarad, darllen ac ysgrifennu yn Saesneg a Chymraeg - yw addysg cyfrwng Cymraeg?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roeddwn i'n athro cynradd yn Sir Gaerfyrddin. Rwyf wedi ymddeol bellach a'm swydd olaf oedd Dirprwy Bennaeth mewn ysgol yn Llanelli. Hoffwn ofyn cwestiwn am gryfder addysg cyfrwng Cymraeg. Cafodd fy ngwraig a minnau ein magu mewn cartrefi uniaith Saesneg, fodd bynnag penderfynom y byddai ein plant yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel siaradwyr Saesneg, ni chawsom fel rhieni unrhyw broblemau o ran gwaith cartref ein plant. I'r gwrthwyneb, gan fod hynny wedi gwella ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth. Yn ystod fy ngyrfa, fe wnes addysgu mewn ysgolion dwy ffrwd. Rwyf wedi gweld drosof fy hun fod addysgu Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg neu ddwy ffrwd yn fethiant llwyr, a bod ffrydiau deuol yn gwanhau'r Gymraeg, fel sydd mor amlwg ar y maes chwarae. A yw'r Bwrdd Gweithredol yn cytuno â'm sylwadau mai'r addysg fwyaf effeithiol i greu plant dwyieithog cwbl rugl - o ran siarad, darllen ac ysgrifennu yn Saesneg a Chymraeg - yw addysg cyfrwng Cymraeg?

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Rwyf yn cytuno, yn rhinwedd fy swyddogaeth fel yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant, fod trochi plant yn y Gymraeg yn ystod y Cyfnod Sylfaen yn cynnig y cychwyn gorau posibl i'w haddysg drwy roi cyfle iddyn nhw ddatblygu sgiliau cwbl ddwyieithog a'u galluogi i elwa ar y manteision addysgol eraill y mae gwaith ymchwil rhyngwladol wedi dangos sy'n dod i ran plant dwyieithog.

 

Cydnabyddir yn gyffredinol bellach nad yw astudio Cymraeg fel ail iaith yn datblygu pobl ifanc sy'n wirioneddol ddwyieithog. Yn wir mae'r diwygiadau o ran y cwricwlwm sydd ar waith ledled Cymru yn cydnabod hyn, a bydd safonau newydd o ran medrusrwydd yn y Gymraeg yn cael eu pennu yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.

 

Mae’r dystiolaeth ryngwladol, fel y'i dyfynnir gan Lywodraeth Cymru yn y dogfennau a gyhoeddwyd ganddi, yn cadarnhau mai’r ffordd fwyaf effeithiol i ddatblygu plant dwyieithog yw eu trochi yn yr iaith sy’n llai cyffredin tra datblygir hefyd eu sgiliau yn yr iaith sy’n fwy cyffredin.Hefyd mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo, yn achos plant sydd o deuluoedd di-Gymraeg, fod trochi plant yn y Gymraeg yn hynod o bwysig er mwyn gwreiddio’r iaith.”

 

 

5.27

CWESTIWN GAN MRS RHIANEDD RHYS I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

Rhwng 2000 a 2006, yr oedd y nifer o blant yn Ysgol y Ffwrnes wedi dyblu ac o ganlyniad i hyn ynghyd â rhesymau eraill, adeiladwyd ysgol newydd i sicrhau bod yna lefydd ysgol digonol ar gyfer y rhagamcaniadau yn y galw cynyddol naturiol gan rieni dros addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Llanelli. Gan fod y dosbarthiadau blynyddoedd cynnar estynedig hyn yn Ysgol Ffwrnes yn llawn neu’n agos at fod yn llawn ar gyfer Medi 2016, ydy’r Bwrdd Gweithredol yn cytuno bod hwn yn dystiolaeth gadarn taw’r unig ffordd i sicrhau bod y galw cynyddol yma am addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Llanelli, sy’n sicrhau bod plant yn gadael yr ysgol gynradd yn ddwyieithog, yw sicrhau bod Ysgol Babanod ac Iau Llangennech yn parhau ar hyd y continwwm iaith a newid i ysgol cyfrwng Cymraeg?” 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Rhwng 2000 a 2006, yr oedd y nifer o blant yn Ysgol y Ffwrnes wedi dyblu ac o ganlyniad i hyn ynghyd â rhesymau eraill, adeiladwyd ysgol newydd i sicrhau bod yna lefydd ysgol digonol ar gyfer y rhagamcaniadau yn y galw cynyddol naturiol gan rieni dros addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Llanelli. Gan fod y dosbarthiadau blynyddoedd cynnar estynedig hyn yn Ysgol Ffwrnes yn llawn neu’n agos at fod yn llawn ar gyfer Medi 2016, ydy’r Bwrdd Gweithredol yn cytuno bod hwn yn dystiolaeth gadarn taw’r unig ffordd i sicrhau bod y galw cynyddol yma am addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Llanelli, sy’n sicrhau bod plant yn gadael yr ysgol gynradd yn ddwyieithog, yw sicrhau bod Ysgol Babanod ac Iau Llangennech yn parhau ar hyd y continwwm iaith a newid i ysgol cyfrwng Cymraeg?  “

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

“Yn 2008, cynhaliodd y Cyngor Sir ddarn o waith i asesu'r galw yn y dyfodol am addysg cyfrwng Cymraeg yn nhref Llanelli ac o'i chwmpas. Canfyddiad y gwaith hwn oedd bod y galw yn cynyddu a bod angen rhagor o leoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

 

O ganlyniad, penderfynwyd buddsoddi mewn lleoedd cyfrwng Cymraeg newydd ac estynedig ledled y dref.

 

Manteisiodd y Cyngor ar y cyfle i ddarparu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg y Ffwrnes er mwyn ehangu nifer y lleoedd yn yr ysgol honno, gan fwy na threblu maint yr ysgol. Ers agor yn 2014, mae'r ysgol wedi bod yn boblogaidd iawn, ac mae'r dosbarthiadau blynyddoedd cynnar yn yr ysgol naill ai'n llawn neu'n llawn iawn. Ym mis Medi 2016, disgwylir y bydd 400 o blant wedi'u cofrestru yn yr ysgol, o gymharu â chapasiti'r ysgol o 480. Ar sail y tueddiadau diweddaraf, disgwylir y bydd yr ysgol yn llawn yn y flwyddyn neu ddwy nesaf.

 

Hefyd mae'r Cyngor wedi darparu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Brynsierfel, lle mae niferoedd y disgyblion yn gadarn.

 

Credaf fod newid y categori iaith yn Llangennech yn gam naturiol ar gyfer yr ysgolion, a gwelir hyn yn y nifer cynyddol sy'n dewis darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a fydd yn darparu cyfle cyson i blant ledled yr ysgol i ddatblygu yn ddysgwyr cwbl ddwyieithog erbyn iddyn nhw adael i fynd i'r ysgol uwchradd.”

 

</AI34>

 

5.28

CWESTIWN GAN MRS MANON WILLIAMS I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELDO O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

Agorwyd Ysgol Dewi Sant, yr ysgol gynradd gyfrwng Gymraeg gyntaf yng Nghymru i gael ei chynnal gan awdurdod lleol, yn 1947. Ers hynny, mae addysg gyfrwng Gymraeg wedi ehangu’n sylweddol yng Nghymru, yn gyffredinol, nid o ganlyniad i’w hyrwyddiad gan awdurdodau lleol ond yn bennaf o ganlyniad i alw cynyddol gan rieni, fel sy’n dyst yn ysgolion Llangennech.  Erbyn heddiw mae 387 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghymru ac mae hyn yn parhau i gynyddu’n raddol, ar yr un pryd bu cynnydd yng nghanran y plant oedran cynradd a fu’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg o 18.8% yn 2000/01 i 24% yn 2014/15. Wrth ystyried llwyddiant a manteision y fath hon o addysgu a dwyieithrwydd yn gyffredinol, sydd wedi cael eu cydnabod yn fyd-eang, a wnaiff y Cyngor yn awr ategu at ddoethineb a phell-welediad rhieni drwy hyrwyddo a marchnata addysg gyfrwng Gymraeg yn ddiwyd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Mrs Williams yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw a'i bod wedi gofyn i'r Cadeirydd gyflwyno'r cwestiwn ar ei rhan.

 

“Agorwyd Ysgol Dewi Sant, yr ysgol gynradd gyfrwng Gymraeg gyntaf yng Nghymru i gael ei chynnal gan awdurdod lleol, yn 1947. Ers hynny, mae addysg gyfrwng Gymraeg wedi ehangu’n sylweddol yng Nghymru, yn gyffredinol, nid o ganlyniad i’w hyrwyddiad gan awdurdodau lleol ond yn bennaf o ganlyniad i alw cynyddol gan rieni, fel sy’n dyst yn ysgolion Llangennech.  Erbyn heddiw mae 387 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghymru ac mae hyn yn parhau i gynyddu’n raddol, ar yr un pryd bu cynnydd yng nghanran y plant oedran cynradd a fu’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg o 18.8% yn 2000/01 i 24% yn 2014/15. Wrth ystyried llwyddiant a manteision y fath hon o addysgu a dwyieithrwydd yn gyffredinol, sydd wedi cael eu cydnabod yn fyd-eang, a wnaiff y Cyngor yn awr ategu at ddoethineb a phell-welediad rhieni drwy hyrwyddo a marchnata addysg gyfrwng Gymraeg yn ddiwyd?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

“Rwyf yn cyd-ymfalchïo â Mrs Williams fod yr ysgol Gymraeg gyntaf yn yr oes fodern wedi'i sefydlu yma yn Sir Gaerfyrddin, sef Ysgol Gymraeg Dewi Sant, ac rwyf innau hefyd yn dathlu'r twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru yn ystod y blynyddoedd ers hynny.Yma yn Sir Gaerfyrddin rydym wedi bod yn gweithio'n galed drwy gyfrwng ein Rhaglen Moderneiddio Addysg ers nifer o flynyddoedd i fodloni'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn ein canolfannau trefol, yn enwedig yn Llanelli, lle mae Ysgol newydd y Ffwrnes wedi cael ei hehangu a'i chreu yn benodol ar gyfer y diben hwn, yn ogystal ag er mwyn mynd i'r afael ag ansawdd gwael safle blaenorol yr ysgol.

 

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin strategaeth flaengar sydd wedi'i mynegi'n glir ar gyfer datblygu addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog drwy gyfrwng ei Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, sydd wedi cael ei fabwysiadu'n ffurfiol gan y Cyngor Sir fel polisi.  Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn rhaglen gynhwysfawr o ddatblygiad iaith i ysgolion a phlant ledled Sir Gaerfyrddin. Mae'n sefydlu strategaeth eang y Cyngor i ddatblygu dwyieithrwydd drwy'r gwasanaeth addysg, yn bennaf drwy ehangu addysg cyfrwng Cymraeg. Bwriad yr awdurdod lleol yw “cynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin a sicrhau parhad ieithyddol o’r sector meithrin ar hyd y cyfnodau allweddol i’r sector uwchradd fel bod pob disgybl yn datblygu i fod yn rhugl a hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg.” Fel rhan benodol o’r strategaeth, ymrwymodd y Cyngor i “weithio’n agos gyda staff a Chyrff Llywodraethu ysgolion ffrydiau deuol Sir Gaerfyrddin er mwyn iddynt ddod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg.”

 

Yn ychwanegol at gynigion ar gyfer ysgolion Ffrydiau Deuol mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn disgwyl i bob ysgol, gan gynnwys ysgolion sydd ar hyn o bryd wedi’u dynodi yn ysgolion cyfrwng Saesneg, wneud cynnydd ar hyd y continwwm iaith, er mwyn cynyddu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.28

5.29

CWESTIWN GAN MRS SIAN LLOYD I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWETIHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

Ydy’rBwrdd Gweithredol yn cytuno gyda mi fod data cenedlaethol a gyhoeddwyd dros y blynyddoedd diwethaf gan Lywodraeth Cymru a data gan Awdurdod Addysg Sir Gâr yn dangos yn glir fod disgyblion mewn ysgolion neu ffrydiau Cymraeg yn perfformio’n well mewn profion ac asesiadau allanol yn y pynciau craidd (gan gynnwys Saesneg fel pwnc) na disgyblion mewn ysgolion neu ffrydiau cyfrwng Saesneg, sy’n dangos fod gan ysgolion Cymraeg fanteision addysgol amlwg?

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Ydy’r Bwrdd Gweithredol yn cytuno gyda mi fod data cenedlaethol a gyhoeddwyd dros y blynyddoedd diwethaf gan Lywodraeth Cymru a data gan Awdurdod Addysg Sir Gâr yn dangos yn glir fod disgyblion mewn ysgolion neu ffrydiau Cymraeg yn perfformio’n well mewn profion ac asesiadau allanol yn y pynciau craidd (gan gynnwys Saesneg fel pwnc) na disgyblion mewn ysgolion neu ffrydiau cyfrwng Saesneg, sy’n dangos fod gan ysgolion Cymraeg fanteision addysgol amlwg?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

“Y dystiolaeth yn Sir Gaerfyrddin yw bod plant sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyffredinol yn cyflawni cystal â phlant sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Saesneg ym mhob pwnc, gan gynnwys Saesneg (Iaith) a phynciau craidd eraill. Mae hyn yn cynnwys plant o gartrefi lle nad y Gymraeg yw’r brif iaith.

 

Ym mis Tachwedd 2014, cyhoeddodd Estyn adroddiad ynghylch canfyddiadau ei archwiliad o ganlyniadau mewn deg o ysgolion uwchradd dwyieithog gan ddweud bod “...(rhai) athrawon ...... a disgyblion yn gwneud y gamdybiaeth y gall astudio pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg lesteirio eu llwyddiant academaidd. Mewn gwirionedd, mae disgyblion sy’n dilyn eu cyrsiau TGAU drwy gyfrwng y Gymraeg yn cyflawni cystal â’r disgyblion hynny sy’n dilyn y rhan fwyaf o’r cyrsiau TGAU drwy gyfrwng y Saesneg, os nad gwell na hwy”.

 

Mae’r Adran o’r farn mai addysg cyfrwng Cymraeg yw’r dull mwyaf effeithiol o ddatblygu plant dwyieithog erbyn iddyn nhw adael yr ysgol gynradd a bod y ffurf hon o addysg yn cynnig datblygiad personol ychwanegol a manteision addysgol i’r plant.

 

Yn ychwanegol, mae’r dystiolaeth a gasglwyd yn rhyngwladol drwy waith ymchwil yn dangos bod plant sydd wedi datblygu yn ddwyieithog yn elwa o allu dysgu ychwanegol, gan gynnwys gwell gallu gwybyddol, gwell dealltwriaeth a hyblygrwydd wrth gyflawni tasgau, gwell pwerau canolbwyntio ac ati.”

 

 

5.30

CWESTIWN GAN MR CURTIS ROBERTS I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

A all y Bwrdd Gweithredol gadarnhau, ar sail eu profiad yn y tymor hir o gyflwyno'r Gymraeg i blant ag anghenion addysgol arbennig, gyda llawer ohonynt yn dod o gartrefi lle na siaredir Cymraeg, nad yw hyn wedi cael effaith negyddol ar eu haddysg na'u datblygiad fel unigolion? 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Mr Roberts yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw a'i fod wedi gofyn i'r Cadeirydd gyflwyno'r cwestiwn ar ei ran.

 

“A all y Bwrdd Gweithredol gadarnhau, ar sail eu profiad yn y tymor hir o gyflwyno'r Gymraeg i blant ag anghenion addysgol arbennig, gyda llawer ohonynt yn dod o gartrefi lle na siaredir Cymraeg, nad yw hyn wedi cael effaith negyddol ar eu haddysg na'u datblygiad fel unigolion?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Polisi Cyngor Sir Caerfyrddin yw y dylai ei holl ysgolion fod yn gynhwysol, a bod plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu haddysgu mewn lleoliad prif ffrwd ochr yn ochr â'u cyfoedion ble bynnag y bo modd.Mae modd gwneud hyn yn y rhan fwyaf o ddigon o'r achosion, sydd o fudd i'r holl blant.

 

Er bod y gyfundrefn wedi'i chynllunio i ddiwallu anghenion dysgwyr drwy ymagwedd gyffredinol a chynhwysol, yn achos nifer bychan o blant sydd ag anghenion ychwanegol cymhleth a sylweddol nid yw hynny'n bosibl bob amser ac mae darpariaeth arbenigol yn gallu cynnig lleoliadau dysgu mwy priodol.

 

Mae'r Adran Addysg a Gwasanaethau Plant yn darparu cymorth ychwanegol penodol yn yr ysgolion, lle bo modd, fel bod cynifer o blant â phosibl yn aros yn eu hysgol leol.

 

Mae gan yr holl ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol gynlluniau unigol penodol sy'n seiliedig ar eu hamgylchiadau, a darperir rhaglen gymorth bwrpasol i gyd-fynd ag anghenion yr unigolyn. Yn gyffredinol nid yw 'angen dysgu ychwanegol' yn rhwystr o ran dysgu dwy iaith.  Mae'n bwysig asesu a monitro'r cynnydd ym mhob iaith y mae plentyn yn ei defnyddio neu'n ei dysgu, gan gynnwys y systemau arwyddion a chyfathrebu â chymorth gweledol sy'n ofynnol ar gyfer rhai disgyblion, yn enwedig gan fod modd defnyddio'r iaith sydd wedi ei datblygu gryfaf i gefnogi a hybu dysgu drwy gyfrwng yr iaith nad yw wedi'i datblygu mor gryf. Mae'n ofynnol i'r staff wahaniaethu'r cwricwlwm a gwneud addasiadau rhesymol i'r iaith ddysgu ac ymateb, er mwyn gallu darparu ar gyfer anghenion ychwanegol ac er mwyn sicrhau bod mynediad i'r cwricwlwm a bod cynnydd o ran y dysgu. Ar brydiau gall fod yn briodol i'r staff dargedu cymorth ychwanegol drwy un iaith am gyfnod i gyfnerthu a chyflymu'r dysgu, e.e. o ran llythrennedd. Fodd bynnag, bydd achosion prin pan fydd plentyn yn cael diagnosis o gyflwr sy'n golygu nad yw addysg gwbl ddwyieithog yn addas i'r plentyn. Dan amgylchiadau o'r fath mae ymarferwyr proffesiynol yn llunio pecyn cymorth ac yn ei drafod â'r rhieni.  Trefnir bod y plentyn yn mynychu ysgol briodol lle gellir diwallu ei anghenion. Mae'n bosibl ar adegau prin na ellir diwallu anghenion plentyn yn yr ysgol leol, er gwaethaf ymrwymiad y Cyngor i addysg gynhwysol, gan ei bod yn syml ddigon yn anymarferol inni ddarparu ar gyfer pob angen ym mhob ysgol. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf mae'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg a Phlant wedi ymwneud â dim ond un  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.30

6.

CWESTIYNAU A GYFEIRIWYD I'R BWRDD GWEITHREDOL GAN Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT:-

Dogfennau ychwanegol:

6.1

CWESTIWN GAN MR DARREN SEWARD

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi llunio dogfen sy'n disgrifio ei gynnig i GAU/DIDDYMU Ysgol Babanod Llangennech ac Ysgol Iau Llangennech ac agor Ysgol Gynradd Gymunedol Llangennech newydd a fyddai'n ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Pam y mae CSC yn gwthio cyfarwyddebau Cynulliad Cymru ynghylch y Gymraeg mor bell pan nad yw hynny'n digwydd mewn siroedd eraill fel Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, a Chasnewydd?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi llunio dogfen sy'n disgrifio ei gynnig i GAU/TERFYNU Ysgol Fabanod Llangennech ac Ysgol Iau Llangennech ac i agor ysgol gynradd gymunedol newydd drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig yn Llangennech.Pam y mae CSC yn gwthio cyfarwyddebau Cynulliad Cymru ynghylch y Gymraeg ymlaen cyn belled pan nad yw hynny'n digwydd mewn siroedd eraill megis Abertawe, Castell-nedd, Port Talbot a Chasnewydd??"

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

“Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin gyfrifoldeb statudol o dan Ran 4 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i lunio Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar gyfer ei ardal gyda golwg benodol ar wella'r modd y cynllunnir darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn codi'r safonau o ran addysgu ac o ran dysgu Cymraeg. Mae'n ofynnol i'r Cyngor bennu targedau ar gyfer ei amcanion.

 

Ym mis Ebrill 2014 bu i'r Cyngor Sir fabwysiadu'n ffurfiol strategaeth gynhwysfawr ar gyfer datblygu'r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin, gan gymeradwyo argymhellion gr?p (oedd yn gytbwys yn wleidyddol) o aelodau etholedig a oedd wedi rhoi sylw i statws y Gymraeg yn y sir yn sgil cyfrifiad 2011 o'r boblogaeth.  Mae'r strategaeth yn mynnu bod gweithredu'n digwydd o ran 73 o bwyntiau, y mae 21 ohonyn nhw'n ymwneud â'r gwasanaeth addysg.Mae'r holl argymhellion a chamau gweithredu perthnasol yn y strategaeth wedi'u cynnwys yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2014-2017 Cyngor Sir Caerfyrddin wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru yn unol â gofynion y Ddeddf.

 

Mae'r Cynllun yn ceisio cael y canlyniadau canlynol penodol o ran y cynnig ar gyfer ysgol Llangynnech:

 

·                 Cynyddu nifer y dysgwyr 7 oed a addysgir trwy gyfrwng y Gymraeg.

·                 Cael rhagor o ddysgwyr i ddal ati i wella eu sgiliau iaith wrth iddynt symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd.

·                 Cael rhagor o fyfyrwyr sydd â sgiliau iaith da yn Gymraeg.

 

Hefyd mae'r Cynllun yn cynnwys y nod canlynol:

 

·                 Cynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin a sicrhau        parhad ieithyddol o’r sector meithrin ar hyd y cyfnodau allweddol i’r sector   uwchradd fel bod pob disgybl yn datblygu i fod yn rhugl a hyderus yn y     Gymraeg a’r Saesneg.

 

Hefyd mae'r Cynllun yn ceisio cyrraedd y nodau a chael y canlyniadau penodedig drwy'r camau gweithredu canlynol:

 

·                 Bod y Cyngor Sir yn gweithio’n agos gyda staff a Chyrff Llywodraethu       ysgolion ffrydiau deuol Sir Gaerfyrddin er mwyn iddynt ddod yn ysgolion         cyfrwng Cymraeg.

·                 Targedu tair o ysgolion dwy ffrwd gyda golwg ar iddynt fod yn ysgolion      cyfrwng Cymraeg erbyn 2017.

 

Mae'n bwysig nodi bod Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn mynnu bod holl ysgolion cynradd Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys yr ysgolion cyfrwng Saesneg, yn symud ar hyd y continwwm iaith, gan ddal i gynyddu cyfran yr addysg a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda golwg ar sicrhau ymhen amser y bydd yr holl blant yn ddwyieithog pan fyddan nhw'n gadael yr ysgol gynradd.

 

Mae cyfrifoldeb ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.1

6.2

CWESTIWN GAN NIKKI LLOYD

Ar hyn o bryd mae 121 o ddisgyblion yn yr Ysgol nad ydynt yn byw ym mhentref Llangennech. Fodd bynnag, mae 96 o blant sy'n byw yn y pentref yn teithio i ysgolion eraill y tu hwnt i'r ardal. Dim ond 15 o'r plant hynny sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg sy'n golygu bod 81 yn mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg eraill. Pam y fath wahaniaeth? Gallairhai o'r rhain fod wedi cael lle yn Llangennech ond eu bod wedi eu gwrthod gan beri bod y ffrwd Saesneg yn ymddangos fel petai'n dirywio.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Mae 121 o ddisgyblion yn yr ysgol nad ydynt yn byw yn Llangennech. Ond mae 96 o blant o’r pentref yn teithio i ysgolion eraill y tu allan i’r ardal. Dim ond 15 o'r plant hyn sy'n cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, felly mae hynny'n golygu bod 81 ohonynt yn mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg eraill. Pam y fath wahaniaeth?Gallai rhai o'r rhain fod wedi cael lleoedd yn Llangennech ond gwrthodwyd lle iddynt gan beri i'r ffrwd Saesneg ymddangos fel petai'n lleihau."

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

“Y ffigurau a gyflwynwyd yn y Ddogfen Ymgynghori, o ran niferoedd y disgyblion yw'r rheiny a oedd yn bodoli ar adeg y cyfrifiad statudol blynyddol o ddisgyblion ym mis Ionawr 2015.

 

Mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer mis Ionawr 2016 fel a ganlyn:

 

Ysgol Fabanod Llangennech

 

Cyfanswm nifer y disgyblion yw 210, gyda 161 o blant yn byw yn y dalgylch a 49 o ddisgyblion yn byw y tu allan i'r dalgylch.

 

Ysgol Iau Llangennech

 

Cyfanswm nifer y disgyblion yw 236, gyda 175 o blant yn byw yn y dalgylch a 61 o ddisgyblion yn byw y tu allan i'r dalgylch.

 

Y Ddwy Ysgol Gyda'i Gilydd

 

Gyda'i gilydd y cyfanswm ar gyfer y ddwy ysgol yw 446, gyda 336, neu 75% yn byw yn y dalgylch a 110 o blant, neu 25% yn byw y tu allan i'r dalgylch.

 

Ym mis Ionawr 2016, roedd 96 o blant sy'n byw o fewn dalgylch ysgolion Llangennech yn mynychu ysgolion eraill. O blith y rhain, roedd 16 o blant yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, 7 yn mynychu ysgolion dwy ffrwd a 73 yn mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg, gyda nifer sylweddol o blant, 39 ohonyn nhw, sef dros hanner y rheiny a oedd yn gadael y dalgylch, yn mynychu ysgol y Bryn. Roedd 3 o'r plant yn mynychu ysgolion ffydd.

 

Dymuniad y Cyngor Sir yw bod plant yn mynychu eu hysgol leol, a chynllunnir lleoedd mewn ysgolion ar sail yr egwyddor hon.

 

Fodd bynnag y sefyllfa yw bod rhai rhieni yn dewis ysgol heblaw ysgol ddynodedig y dalgylch ar gyfer eu plant, gan wneud hynny am nifer o resymau, e.e. bod rhieni sy'n gweithio yn gallu cael cymorth gan eu teulu estynedig, hwylustod cludo plant, bod yr ysgol yn agos i'r cartref, enw da, ffydd, ac yn y blaen. 

 

Yr unig rwymedigaeth sydd ar y Cyngor Sir o ran hwyluso dewis y rhieni yw pan fo'r dewis hwnnw'n gyson â darparu addysg mewn modd effeithiol a defnyddio adnoddau'n effeithlon. Nid oes gan yr un rhiant hawl i fynnu lle mewn ysgol benodol i'w blentyn neu i'w blant.  Caiff y lleoedd yn yr ysgolion eu dyrannu ar sail polisi derbyn disgyblion cyhoeddedig y Cyngor, sy'n ffafrio bod plant yn mynychu eu hysgol leol neu ysgol "ddynodedig".Derbynnir plant mewn ysgolion heblaw eu hysgol ddynodedig pan fo lleoedd ar gael.

 

Derbyn Plentyn i'r Ysgol:Dywed y llyfryn Gwybodaeth i Rieni - "Gall rhieni fynegi eu bod yn dewis ysgol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.2

6.3

CWESTIWN GAN NIKKI LLOYD

“Mae gennym eisoes un rhiant y gwrthodwyd lle i'w blentyn yn y Bryn gan fod 54 o geisiadau am 30 o leoedd yn unig. Mae'r Hendy hefyd yn llawn; ble'r rydych yn mynd i ddarparu ar gyfer y rhieni sydd yn dymuno neu sydd ANGEN addysgu eu plant drwy gyfrwng y Saesneg.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Gwyddom am un rhiant y gwrthodwyd lle eisoes i'r plentyn yn Ysgol y Bryn gan fod 54 o geisiadau am ddim ond 30 o leoedd.Mae'r Hendy yn llawn hefyd, felly ymhle rydych yn mynd i ddarparu lleoedd i rieni sy'n dymuno neu sydd ANGEN addysgu eu plant drwy gyfrwng y Saesneg?"

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Yn y cylch derbyn disgyblion ar gyfer mis Medi 2016 daeth cyfanswm o 54 o geisiadau i law am le yn Ysgol y Bryn o gymharu â Nifer Derbyn o 30.

 

Dim ond 8 o blith y 54 o geisiadau oedd ar gyfer plant a breswyliai yn nalgylch Ysgol y Bryn. Roedd 7 ar gyfer plant oedd yn preswylio yn ardal dalgylch ysgolion Llangennech.

 

Cynigiwyd lleoedd i 30 o blant, hyd at y Nifer Derbyn cyhoeddedig, yn unol â'r meini prawf yn y ddogfen "Derbyn Plentyn i'r Ysgol - Gwybodaeth i Rieni 2016/2107".

 

Mae'r broses dderbyn yn mynd yn ei blaen ac ni fydd y sefyllfa derfynol yn hysbys am rai wythnosau eto.

 

Os bydd y patrwm hyn yn parhau yn y dyfodol, mae'n debygol y gallai lleoedd yn Ysgol y Bryn fod ar gael i blant sy'n preswylio yn nalgylch Llangennech, ond ni ellir gwarantu lleoedd, fel sy'n wir am yr holl ysgolion eraill ledled y sir.

 

Fodd bynnag bwriad yr Awdurdod Lleol yw bod yr holl ddisgyblion presennol yn aros yn Ysgol Llangennech a bod y disgyblion, yn y dyfodol, yn mynychu ysgol y pentref gan dderbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf. Mae'n bwysig nodi na fydd y cynnig yn effeithio ar ddisgyblion presennol yr ysgol, a bydd y disgyblion sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Saesneg yn dal i wneud hynny tan iddyn nhw adael am yr ysgol uwchradd. Bydd yr ysgol yn dal i ddarparu digon o gefnogaeth i'r disgyblion presennol drwy gyfrwng yr iaith y maen nhw'n cael eu haddysg drwyddi ar hyn o bryd.

 

Os gweithredir y cynnig rhoddir digon o gefnogaeth i'r holl ddisgyblion newydd sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n bwysig nodi bod disgwyl i'r holl athrawon wahaniaethu'r holl ddarnau gwaith ar sail anghenion y disgyblion. Ar hyn o bryd mae'r ysgolion yn cynnig amrywiaeth o gymorth i'r disgyblion a'r rhieni o deuluoedd di-Gymraeg, ac maen nhw wedi ymrwymo i gynyddu'r ddarpariaeth fel bo'r angen er mwyn diwallu anghenion y teuluoedd yn y dyfodol. Mae athrawon arbenigol ar gyfer datblygu'r Gymraeg, sef "Athrawon Cymraeg a Dwyieithrwydd", yn darparu cymorth i ysgolion ledled y sir. Ar hyn o bryd maen nhw yn yr ysgolion ddwywaith yr wythnos, a byddan nhw'n dal i gefnogi'r ysgol drwy gynnig cymorth ychwanegol i'r plant fel bo'r angen.

 

Mae'r holl ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael cymorth penodol a glustnodir mewn cynlluniau unigol sy'n seiliedig ar eu hamgylchiadau personol.Bydd yr holl gefnogaeth angenrheidiol yn dal i gael ei darparu i'r holl ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion Llangennech ar hyn o bryd, a hynny  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.3

6.4

CWESTIWN GAN ROBERT WILLOCK

“O blith y 121 o blant sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd mae 91 yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Pam felly? pan fo ysgol newydd yn y Ffwrnes sydd â 132 o leoedd gwag, a 38.5 o leoedd gwag yn ysgol Brynserfiel yn ôl adran 2.3 o'r ddogfen ymgynghori. Mae lleoedd gwag yn yr ysgolion cyfrwng Cymraeg ac nid yw hyn yn gyson â Chôd Trefniadaeth Ysgolion 2013 sy'n datgan nad oes mwy na 10% o leoedd gwag i fod. Yn ôl gwefan Cyngor Sir Caerfyrddin mae 1,710 o leoedd gwag yn yr holl ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin - ystadegau yw'r rhain o wefan CSC. Nidyw hyn yn cyfiawnhau creu rhagor o leoedd. Mae Côd Trefniadaeth Ysgolion 2013 yn datgan y dylai cyrff perthnasol, wrth ddatblygu cynigion, roi sylw i'r cynlluniau lleol ar gyfer datblygu economaidd a datblygu tai. Pam na roddwyd ystyriaeth i'r 91 o dai sy'n cael eu codi yn yr Hendy ac i'r 700 a mwy o dai sydd ar y gweill ym Mhontarddulais? Ynsicr ddigon byddai hyn yn effeithio'n fawr ar yr ysgolion cyfagos. Yr Hendy yw un o'r ysgolion agosaf ar gyfer addysg drwy gyfrwng y Saesneg os gweithredir y cynnig hwn. Fodd bynnag mae Ysgol Llanedi yn wynebu cael ei chau, a'r cyngor yw symud i'r Hendy. Mae Ysgol yr Hendy bron â bod yn llawn yn barod, ac fel ysgol ddwy ffrwd mae wedi'i chlustnodi fel ysgol fydd yn cael ei newid yn ysgol Gymraeg ei chyfrwng yn unig. Yr ysgol Saesneg ei chyfrwng agosaf arall yw Ysgol y Bryn, ond mae'r Sir wedi bod yn dosbarthu llythyron gwrthod yn barod gan eu bod wedi cael 54 o geisiadau hyd yn hyn am ddim ond 30 o leoedd. Yn ogystal â bod yr ysgol newydd arfaethedig yn anaddas i'r diben gan nad yw'n gwasanaethu ei chymuned, mae’n ymddangos nad oes gan plant sy’n siarad Saesneg dewisiadau amgen gerllaw?”

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"O blith y 121 o blant sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd, mae 91 yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Pam y mae hyn, pan fo 132 o leoedd gwag yn Ysgol newydd y Ffwrnes a 38.5 o leoedd gwag yn Ysgol Brynsierfel yn ôl adran 2.3 o'r ddogfen ymgynghori.Nid yw nifer y lleoedd gwag yn yr ysgolion cyfrwng Cymraeg yn gyson â Chôd Trefniadaeth Ysgolion 2013 sy'n datgan na ddylai'r lleoedd gwag fod yn fwy na 10%. Yn ôl y ffigurau a godwyd o wefan Cyngor Sir Caerfyrddin, mae 1,710 o leoedd gwag yn yr ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Felly nid yw hyn yn cyfiawnhau creu rhagor o leoedd. Dywed Côd Trefniadaeth Ysgolion 2013 y dylai cyrff perthnasol, wrth ddatblygu cynlluniau, roi ystyriaeth i gynlluniau lleol ar gyfer datblygiadau economaidd neu dai. Pam nad oes ystyriaeth wedi'i rhoi i'r 91 o dai sy'n cael eu codi yn yr Hendy, a'r 700 a mwy o dai sydd yn yr arfaeth ym Mhontarddulais? Mae'n si?r y byddai hyn yn cael effaith fawr ar yr ysgolion cyfagos. Ysgol yr Hendy yw un o'r ysgolion cyfrwng Saesneg agosaf os gweithredir y cynnig hwn. Fodd bynnag mae Ysgol Llanedi yn wynebu cael ei chau, a'r cyngor yw symud i'r Hendy. Mae Ysgol yr Hendy bron â bod yn llawn ac, fel ysgol ddwy ffrwd, fe'i clustnodwyd yn ysgol fyddai'n newid i fod yn ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Yr ysgol agosaf arall drwy gyfrwng y Saesneg yw Ysgol y Bryn ond mae'r sir wedi bod yn anfon llythyron gwrthod eisoes gan fod 54 o geisiadau wedi dod i law hyd yn hyn am ddim ond 30 o leoedd. Yn ogystal â bod yr ysgol newydd arfaethedig yn anaddas i'r diben gan nad yw'n gwasanaethu'r gymuned y mae hi i fod i'w chefnogi, ymddengys nad oes ysgolion eraill yn y cyffiniau i blant Saesneg eu hiaith?"

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Yn Nhymor y Gwanwyn 2016 roedd cyfanswm o 446 o blant yn mynychu ysgolion Llangennech, 210 yn yr ysgol fabanod a 236 yn yr ysgol iau.

 

Ar y cyfan, gan ystyried y ddwy ysgol gyda'i gilydd ac eithrio'r plant sydd yn y dosbarthiadau derbyn, mae 73% o'r plant yn y ffrwd Gymraeg ac mae 27% yn y ffrwd Saesneg.

 

Mae'r plant yn mynychu'r ffrydiau iaith yn unol â dewis y rhieni ac fel y cytunwyd rhwng yr ysgol a'r rhieni. Mae'r data'n cadarnhau bod nifer a chyfran y plant sy'n mynychu'r ffrwd Gymraeg wedi bod yn cynyddu'n gyson dros y blynyddoedd diwethaf a bod nifer a chyfran y plant sy'n mynychu'r ffrwd Saesneg wedi bod yn lleihau.

 

Codwyd adeilad newydd Ysgol y Ffwrnes i sicrhau bod digon o le yno er mwyn diwallu'r rhagamcanion yn ardal Llanelli lle mae'r galw am addysg gynradd drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod yn cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.  Roeddid yn llwyr gydnabod y byddai  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.4

6.5

CWESTIWN GAN JACQUELINE SEWARD

Ar ôl cau ysgol a cholli ffrwd iaith yn sgil hynny, dylid cynnig darpariaeth sydd o leiaf o’r un safon i ddysgwyr yn unol â Chôd Trefniadaeth Ysgolion 2013. Fodd bynnag mae Llangennech yn Wyrdd ar hyn o bryd. Mae'r Hendy yn Felyn ac mae'r Bryn yn Oren. Sut mae hyn yn gyfwerth?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Ar ôl cau ysgol a cholli ffrwd iaith yn sgil hynny dylid, yn ôl Côd Trefniadaeth Ysgolion 2013, gynnig darpariaeth sy'n cyrraedd o leiaf yr un safonau i'r dysgwyr. Fodd bynnag, mae Llangennech yn Wyrdd ar hyn o bryd.Mae'r Hendy yn felyn ac mae'r Bryn yn ambr. Sut mae hyn yn gyfwerth?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Mae'r holwr yn nodi categorïau ysgolion Llangennech, y Bryn, a'r Hendy yn 2015 yn gywir.

 

Bwriad y Cyngor Sir yw y dylai plant Llangennech dderbyn eu haddysg gynradd yn yr ysgol leol, y mae ei pherfformiad o safon ar hyn o bryd ac yn y categori Gwyrdd.

 

Os bydd rhieni'n dewis gosod eu plant mewn ysgolion eraill, byddan nhw'n gwneud hynny ar ôl rhoi ystyriaeth lawn i'r holl ffactorau perthnasol, gan gynnwys safonau'r ysgolion eraill, y goblygiadau o ran cludiant, ac ati.

 

Nid yw'r Cyngor Sir yn cynnig dewisiadau eraill heblaw ysgol Llangennech ar gyfer y plant lleol.Bwriad yr Awdurdod Lleol yw bod yr holl ddisgyblion presennol yn aros yn yr ysgol, a bod y plant lleol yn y dyfodol yn mynychu ysgol y pentref gan dderbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf.

 

Mae ysgolion eraill drwy gyfrwng y Saesneg wedi'u rhestru yn y Ddogfen Ymgynghori fel sy'n ofynnol gan y Côd Trefniadaeth Ysgolion, ynghyd â'r holl wybodaeth berthnasol at ddibenion cymharu, ond nid yw'n fwriad gan y Cyngor fod plant o Langennech yn chwilio am ysgol arall."

 

 

6.6

CWESTIWN GAN NIGEL HUGHES

Mae'r ddogfen ymgynghori yn ddogfen wallus sydd heb gydnabod y rheiny o bentref Llangennech sy'n cael eu rhoi dan anfantais gan y cynigion. Mae datgan nad oes neb yn cael ei effeithio gan y newidiadau arfaethedig hyn yn beth naïf ac anwybodus ac yn dangos nad yw'r Awdurdod wedi rhoi 'sylw dyledus' o dan y Ddeddf Dyletswydd Gyhoeddus i'r rheiny a effeithiwyd, wrth iddynt ddweud yn grwn nad ydynt yn bodoli. Drwy wneud hyn nid ydynt wedi cwmpasu'r agweddau Iechyd a Diogelwch neu broblemau lleoedd yn yr ysgolion eraill. Wrth gerdded i'r Hendy, er enghraifft, bydd croesi ffordd ddeuol yn peryglu bywydau. Mae CrashMap ar gael ar-lein sy'n dangos bod un ddamwain yn digwydd bob deufis ar gyfartaledd ar y ffordd benodol honno. Felly, mae'r ymgynghoriad hwn yn amlygu'r brys i gyrraedd canlyniad a bennwyd ymlaen llaw, waeth beth fo'r safbwyntiau a gasglwyd yn ystod y broses. Credwn y gallwn ddangos tystiolaeth bod naill ai'r Awdurdod Addysg Lleol neu'r corff llywodraethu, neu'r ddau, wedi methu â chydymffurfio â Chôd Trafnidiaeth Ysgolion 2013 ac o bosibl y gyfraith. Ydych chi o'r farn ei bod hi'n dderbyniol peryglu plant bach yn ddyddiol fel hyn?”

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Mae'r ddogfen ymgynghori yn ddogfen wallus sydd heb gydnabod y rheiny o bentref Llangennech sy'n cael eu rhoi dan anfantais gan y cynigion.  Mae datgan nad oes neb yn cael ei effeithio gan y newidiadau arfaethedig hyn yn beth naïf ac anwybodus ac yn dangos nad yw'r Awdurdod wedi rhoi 'sylw dyledus' o dan y Ddeddf Dyletswydd Cyhoeddus i'r rheiny a effeithiwyd, wrth ddweud yn grwn nad ydynt yn bodoli.    Drwy wneud hyn nid ydynt wedi cwmpasu'r agweddau Iechyd a Diogelwch neu broblemau lleoedd yn yr ysgolion eraill. Wrth gerdded i'r Hendy, er enghraifft, bydd croesi ffordd ddeuol yn peryglu bywydau.   Mae CrashMap ar gael ar-lein sy'n dangos bod un ddamwain yn digwydd bob deufis ar gyfartaledd ar y ffordd benodol honno.   Felly, mae'r ymgynghoriad hwn yn amlygu'r brys i gyrraedd canlyniad a bennwyd ymlaen llaw, waeth beth fo'r safbwyntiau a gasglwyd yn ystod y broses. Credwn y gallwn ddangos tystiolaeth bod naill ai'r Awdurdod Addysg Lleol neu'r corff llywodraethu, neu'r ddau, wedi methu â chydymffurfio â Chôd Trafnidiaeth Ysgolion 2013 ac o bosibl y gyfraith. Ydych chi o'r farn ei bod hi'n dderbyniol peryglu plant bach yn ddyddiol fel hyn?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Mae'r Ddogfen Ymgynghori a'r broses ymgynghori'n cydymffurfio â gofynion y Côd Trefniadaeth Ysgolion.

 

Bwriad cynnig y Cyngor Sir yw bod plant Llangennech yn mynychu'r ysgol leol.

 

Os gweithredir y cynnig bydd y plant sy'n preswylio yn nalgylch ysgol Llangennech ac sy'n mynychu ysgol Llangennech yn cael budd o bolisi derbyn disgyblion a pholisi cludiant i'r ysgol yr awdurdod lleol, sy'n rhoi sylw llawn i'r ystyriaethau diogelwch.

 

Fodd bynnag os bydd rhieni'n dewis gosod eu plant mewn ysgolion eraill, byddan nhw'n gwneud hynny ar ôl rhoi ystyriaeth lawn i'r holl ffactorau perthnasol, gan gynnwys y goblygiadau o ran cludiant, ac ati.”

 

</AI44>

 

6.7

CWESTIWN GAN DARREN SEWARD

A oes angen lleoedd meithrin ychwanegol yn yr ardal pan fo gennym ddau ddarparwr eisoes? Mae angen rhoi ystyriaeth i ffactorau penodol o ran cynigion i ychwanegu neu i waredu dosbarthiadau meithrin fel yr amlinellwyd yng Nghôd Trefniadaeth Ysgolion 2013. Dylai cyrff perthnasol roi ystyriaeth i ffactorau penodol: safon yr addysg feithrin a Digonolrwydd yr adeiladau a'r cyfleusterau a gynigir yn yr ystafell ddosbarth ac yn yr awyr agored, a hyfywdra unrhyw ysgol sydd am ychwanegu lleoedd meithrin; a oes angen rhagor o leoedd meithrin yn yr ardal?; lefel y galw am rai mathau o addysg feithrin e.e. cyfrwng Cymraeg neu ddarpariaeth ac iddi natur grefyddol; effaith y cynigion ar sefydliadau eraill, gan gynnwys darparwyr sector preifat a thrydydd sector; ac y graddau y bydd cynigion yn cydblethu addysg y blynyddoedd cynnar â gwasanaethau gofal plant, neu'n gydnaws â dull integredig. Nid oes tystiolaeth yn y ddogfen ymgynghori fod y rhain, ac effaith y cynigion ar ddarparwyr sector preifat eraill, wedi'u hystyried.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“A oes angen lleoedd meithrin ychwanegol yn yr ardal pan fo gennym ddau ddarparwr eisoes? Mae angen rhoi ystyriaeth i ffactorau penodol mewn perthynas â chynigion i ychwanegu neu i waredu dosbarthiadau meithrin fel yr amlinellwyd yng Nghôd Trefniadaeth Ysgolion 2013.Dylai cyrff perthnasol roi ystyriaeth i ffactorau penodol: safon yr addysg feithrin a digonolrwydd yr adeiladau a'r cyfleusterau a gynigir yn yr ystafell ddosbarth a'r tu allan, a hyfywedd unrhyw ysgol sydd am ychwanegu lleoedd meithrin; a oes angen rhagor o leoedd meithrin yn yr ardal?; lefel y galw am rai mathau o addysg feithrin e.e. cyfrwng Cymraeg neu ddarpariaeth ac iddi natur grefyddol; effaith y cynigion ar sefydliadau eraill, gan gynnwys darparwyr sector preifat a thrydydd sector; ac i ba raddau y bydd cynigion yn cydblethu addysg y blynyddoedd cynnar â gwasanaethau gofal plant, neu'n gydnaws â dull integredig. Nid oes tystiolaeth yn y ddogfen ymgynghori fod y rhain, ac effaith y cynigion ar ddarparwyr sector preifat eraill, wedi'u hystyried?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Mae 4 o ddarparwyr gofal plant cofrestredig yn Llangennech ar hyn o bryd, y mae 2 ohonyn nhw wedi'u comisiynu i ddarparu addysg feithrin ran-amser ac y mae 1 ohonyn nhw'n gallu darparu hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Mae'r Cyngor Sir yn cydnabod y bydd goblygiadau i'r 2 ddarparwr hyn os gweithredir y cynnig gan y bydd y cyllid y maen nhw’n ei gael ar hyn o bryd am ddarparu addysg feithrin ran-amser yn peidio.

 

Er bod addysg feithrin ledled Sir Gaerfyrddin yn cael ei darparu drwy fodel "economi cymysg" sef gan ysgolion, cyrff sector annibynnol a chwmnïau preifat, barn y Cyngor Sir yw y darperir addysg feithrin yn fwy effeithiol mewn ysgol, lle bynnag y bo hynny'n ymarferol, a hynny o dan gyfarwyddyd proffesiynol athrawon cymwysedig ac o dan arweiniad pennaeth proffesiynol. Yn gyffredinol ystyrir ei bod yn well lleoli'r ddarpariaeth feithrin ar safle ysgol gan fod hynny'n hwyluso mynediad y plentyn i addysg amser llawn mewn modd mwy effeithiol.Ar y cyfan dyma'r model a ffefrir yn ysgolion Sir Gaerfyrddin."

 

</AI45>

<AI46>

 

6.8

CWESTIWN GAN MICHAELA BEDDOWS

Anghenion Addysgol Arbennig: Ni roddwyd unrhyw ystyriaeth i blant sydd ag anghenion addysgol arbennig a gynghorir fel arfer i fynd i ffrwd Saesneg yn unig, neu i'r un ffrwd ag iaith eu cartref. Mae plant sydd ag oedi cyffredinol yn ei chael hi'n anodd ag un iaith, heb sôn am ddwy, felly drwy gael gwared ar y ddwy ffrwd bydd y plant hyn yn cael eu cau allan o'r ysgol. Nid yw plant sydd ag Anhwylder Sbectrwm Awtistig yn gallu ymdopi o gwbl â newid i'w trefn feunyddiol felly, pe baent yn dechrau mewn ysgol cyfrwng Cymraeg ac yna'n methu ag ymdopi ac yn gorfod symud i ysgol cyfrwng Saesneg, fe fyddai'r newid hwnnw'n cael effaith anferthol arnynt. Sut y cafodd hyn ei esgeuluso a pham na chafodd sylw?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Anghenion Addysgol Arbennig: Ni roddwyd unrhyw ystyriaeth i blant sydd ag anghenion addysgol arbennig a gynghorir fel arfer i fynd i ffrwd Saesneg yn unig, neu ffrwd iaith yr aelwyd. Mae plant sydd ag oedi cyffredinol yn cael trafferth gydag un iaith heb sôn am ddwy, felly drwy waredu’r ffrwd ddeuol byddai hyn yn eithrio’r plant hyn rhag mynychu’r ysgol. Ni all plant sydd ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig ymdopi â newid mewn trefn, felly petaent yn cychwyn ac wedyn yn cael trafferth mewn ysgol Cyfrwng Cymraeg ac wedyn yn gorfod symud i ysgol Cyfrwng Saesneg, byddai’r newid hwnnw yn cael effaith enfawr arnynt. Sut yr esgeuluswyd hyn a pham nad aethpwyd i’r afael â hyn?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

“Polisi Cyngor Sir Caerfyrddin yw y dylai ei holl ysgolion fod yn gynhwysol, a bod plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu haddysgu mewn lleoliad prif ffrwd ochr yn ochr â'u cyfoedion lle bynnag y bo modd.Mae modd gwneud hyn yn y rhan fwyaf o ddigon o'r achosion, sydd o fudd i'r holl blant.

 

Mae cyfundrefn ysgolion Sir Gaerfyrddin yn gwasanaethu cyfanswm o ryw 27,000 o ddisgyblion, ac er bod y gyfundrefn wedi'i chynllunio i ddiwallu anghenion dysgwyr drwy ymagwedd gyffredinol a chynhwysol, yn achos nifer bychan o blant sydd ag anghenion ychwanegol cymhleth a sylweddol nid yw hynny'n bosibl bob amser ac mae darpariaeth arbenigol yn cynnig lleoliadau dysgu mwy priodol.

 

Er mwyn gallu sicrhau y caiff anghenion yr holl ddysgwyr eu diwallu, mae'r gyfundrefn ysgolion yn Sir Gaerfyrddin yn cynnwys darpariaeth helaeth ar gyfer plant sydd ag anghenion ychwanegol. Cynigir addysg mewn ysgol arbenigol i'r plant sydd â'r anghenion mwyaf difrifol neu gymhleth pan na fo lleoliad prif ffrwd yn addas i'w hanghenion neu pan fo'n well gan y rhieni'r math hwn o leoliad.Mae gan rai ysgolion uwchradd a chynradd ledled y sir unedau arbenigol ar gyfer plant sydd ag anghenion penodol, megis awtistiaeth, namau synhwyraidd, neu oedi o ran lleferydd ac iaith. Mae'r Adran Addysg a Gwasanaethau Plant yn darparu cymorth ychwanegol penodol yn yr ysgolion, lle bo modd, fel bod cynifer o blant â phosibl yn aros yn eu hysgol leol. Er ei bod yn well gan y Cyngor ddiwallu anghenion yr holl blant mewn ysgol brif ffrwd pryd bynnag y bo modd, nid yw hyn yn ymarferol bob amser.

 

Mae gan yr holl ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol gynlluniau unigol penodol sy'n seiliedig ar eu hamgylchiadau, a darperir rhaglen gymorth bwrpasol i gyd-fynd ag anghenion yr unigolyn.Yn gyffredinol nid yw 'angen dysgu ychwanegol' yn rhwystr o ran dysgu dwy iaith.  Fodd bynnag, bydd achosion prin pan fydd plentyn yn cael diagnosis o gyflwr sy'n golygu nad yw addysg gwbl ddwyieithog yn addas i'r plentyn. Dan amgylchiadau o'r fath mae ymarferwyr proffesiynol yn llunio pecyn cymorth ac yn ei drafod â'r rhieni.  Trefnir bod y plentyn yn mynychu ysgol briodol lle gellir diwallu ei anghenion. Mae'n bosibl ar adegau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.8

6.9

CWESTOWN GAN STEVE HATTO

Mae'r ffigyrau wedi cael eu hystumio - O graffu ar y wybodaeth a ddarparwyd gan yr AALl, ac oherwydd bod gan y gr?p wybodaeth am yr ysgol, mae'n amlwg bod y ffigyrau wedi eu hystumio gan unigolion i gyfnerthu sefyllfa benodol. Gallwn ddangos bod y ffrydiau Saesneg presennol yn yr ysgol yn cyfrif am fwy na 30% o gyfanswm y disgyblion. Mae'rymgynghoriad yn datgan bod cyfanswm o 186 yn y ffrwd Gymraeg yn Ysgol Babanod Llangennech yn 2015. Nid yw'r ffigwr hwn yn gywir gan ei fod yn cynnwys yr holl ddisgyblion yn nosbarthiadau Derbyn 1 a 2, sy'n gyfanswm o 94 o ddisgyblion, heb ystyried a ydynt wedi'u cofrestru i gamu ymlaen i'r ffrwd Saesneg. Maent wedi eu cam-glustnodi at ddibenion y ddogfen ymgynghori fel disgyblion ffrwd Gymraeg. Hefyd os cynhwyswn y 27% sy'n dod o'r tu hwnt i'r ardal, ynghyd â'r posibilrwydd o golli'r ffrwd Saesneg, bydd y rhagamcanion cyfredol yn dangos y bydd mwy na 50% o ddisgyblion Ysgol Llangennech yn dod o'r tu hwnt i'r ardal. A ydych chi'n credu felly fod gennym 'yr ysgol briodol yn y man priodol ac a ydych chi'n gallu cadarnhau a yw'r ffigyrau hyn yn gywir?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Mae'r ffigurau wedi'u gweithio - O'r wybodaeth a ddarparwyd gan yr Awdurdod Addysg Leol, mae'n amlwg bod y ffigurau wedi cael eu trin gan unigolion i gryfhau sefyllfa benodol.  Gallwn ddangos tystiolaeth fod y ffrwd Saesneg bresennol yn yr ysgol yn cynnwys mwy na 30% o gyfanswm y disgyblion.Dywed yr ymgynghoriad fod cyfanswm nifer y disgyblion yn y ffrwd Gymraeg yn Ysgol Fabanod Llangennech yn 2015 yn 186. Nid yw'r ffigur hwn yn gywir gan ei fod yn cynnwys yr holl ddisgyblion yn nosbarthiadau Derbyn 1 a 2, sef cyfanswm o 94 o ddisgyblion, heb ystyried a ydyn nhw wedi'u cofrestru i gamu ymlaen i'r ffrwd Saesneg neu beidio. Maen nhw wedi'u cam-glustnodi'n ddisgyblion sydd yn y ffrwd Gymraeg at ddibenion y ddogfen ymgynghori. Hefyd os ystyriwn y 27% sy'n dod o'r tu hwnt i'r ardal, ynghyd â'r posibilrwydd y collir y ffrwd Saesneg, dengys y rhagamcanion presennol y bydd mwy na 50% o ddisgyblion Ysgol Llangennech yn dod o'r tu hwnt i'r ardal. A ydych chi'n credu felly fod gennym 'yr ysgol iawn yn y lle iawn' ac a ydych chi'n gallu cadarnhau bod y ffigurau hyn yn gywir?"

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Mae'r ffigurau yn y ddogfen ymgynghori yn fanwl-gywir, fel roedden nhw ym mis Ionawr 2015.Mae'r pwynt a wnaed gan yr holwr, sef bod yr holl blant yn nosbarthiadau Derbyn 1 a Derbyn 2 yn cael addysg ddwyieithog, ond bod hynny'n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, a bod dewis o ran y ffrwd iaith ar gael wrth i'r plant gamu i Flwyddyn 1, yn gywir.

 

Nid oes dim ffrydiau ar wahân yn y dosbarthiadau derbyn. Mae'r holl blant yn elwa ar gael eu trochi mewn darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf, a defnyddir Saesneg i gefnogi mynediad i'r Gymraeg drwy drawsgyfeirio.

 

Mae’r ffigurau presennol fel a ganlyn:

 

Ysgol Fabanod Llangennech

 

Dysgir pob un o'r 118 o ddisgyblion sydd yn y dosbarthiadau derbyn drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf, a defnyddir Saesneg fel cyfrwng hwyluso yn ôl anghenion y plant unigol.

 

O blith y cyfanswm o 116 o ddisgyblion sydd yn nosbarthiadau Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2, mae 88, neu 76%, yn y ffrwd Gymraeg ac mae 28, neu 24%, yn y ffrwd Saesneg.

 

Ysgol Iau Llangennech

 

O blith y cyfanswm o 235 o ddisgyblion, mae 167, neu 71%, yn y ffrwd Gymraeg ac mae 68, neu 29%, yn y ffrwd Saesneg.

 

Y Ddwy Ysgol Gyda'i Gilydd

 

Gan ystyried y ddwy ysgol gyda'i gilydd ac eithrio'r plant sydd yn y dosbarthiadau derbyn, mae 73% o'r plant yn y ffrwd Gymraeg ac mae 27% yn y ffrwd Saesneg.

 

Mae'r ffigurau hyn yn cadarnhau bod mwyafrif sylweddol o'r rhieni, y mae llawer ohonyn nhw heb fod yn siaradwyr Cymraeg, yn ffafrio darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Cred yr Adran fod creu ysgol Gymraeg ei chyfrwng yn ardal Llangennech yn darparu'r ysgol iawn yn y lle iawn, gan olygu bod yr holl ddisgyblion yn cael cyfle i ymddatblygu'n  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.9

6.10

CWESTIWN GAN KAREN HUGHES

“Mae oddeutu 11 o ysgolion dwy ffrwd yn Sir Gaerfyrddin sydd, yn ôl Strategaeth yr Iaith Gymraeg, yn cael eu clustnodi ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn unig. Rhaid cydnabod na fyddai'r ysgolion hyn i gyd yn addas, ar sail logisteg, oherwydd maen nhw'n ysgolion dwy ffrwd am reswm, felly sut a phwy sy'n asesu'r galw a'r priodoldeb? A gynhaliwyd ymarfer i fwrw golwg ar y gorwel o ran cymuned Llangennech? h.y. i asesu sut le fydd pentref/poblogaeth Llangennech ymhen 5, 10, 15 mlynedd? Wrth i ragor o dai newydd gael eu hadeiladu, y mewnlifiad o bobl, lleoliad y pentref wrth goridor yr M4, a allwn ni ddweud yn hyderus y bydd Ffrwd Gymraeg yn Unig yn bodloni'r gofynion hyn o ystyried bod 80% o'r boblogaeth eisoes yn siarad Saesneg yn unig. Wedi'r cyfan, daw 27% o ddisgyblion o'r tu hwnt i'r pentref ac nid yw ffigurau'r pentref yn dangos bod cynnydd yn y galw am y Gymraeg. Hefyd, nid yw'r Effaith ar yr Iaith Gymraeg wedi cael ei hasesu'n gywir, os o gwbl. Nid oes cyfeiriad at siaradwyr Saesneg yn gwerthfawrogi treftadaeth ddiwylliannol Cymru yn llai os ydynt yn mynychu ffrwd Saesneg yn Unig; mae mwy o bobl yn debygol o roi cynnig ar y ffrwd Gymraeg os ydynt yn gwybod y gallant gwympo'n ôl ar y Saesneg yn yr un ysgol. Bydd hyn yn cael effaith i'r gwrthwyneb. Mae'r defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned yn fach ac nid yw'n cyd-fynd â'r ddemograffeg ieithyddol nac ystadegau cyfrifiad 2011. Pam nad yw'r ffactorau hyn yn cael eu hystyried?”

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Mae oddeutu 11 o ysgolion dwy ffrwd yn Sir Gaerfyrddin sydd, yn ôl Strategaeth yr Iaith Gymraeg, yn cael eu clustnodi ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn unig. Rhaid cydnabod na fyddai'r ysgolion hyn i gyd yn addas, ar sail logisteg, oherwydd maen nhw'n ysgolion dwy ffrwd am reswm, felly sut a phwy sy'n asesu'r galw a'r priodoldeb? A gynhaliwyd ymarfer i fwrw golwg ar y gorwel o ran cymuned Llangennech? h.y. i asesu sut le fydd pentref/poblogaeth Llangennech ymhen 5, 10, 15 mlynedd?  Wrth i ragor o dai newydd gael eu hadeiladu, y mewnlifiad o bobl, lleoliad y pentref wrth goridor yr M4, a allwn ni ddweud yn hyderus y bydd Cyfrwng Cymraeg yn Unig yn bodloni'r gofynion hyn o ystyried bod 80% o'r boblogaeth eisoes yn siarad Saesneg yn unig. Wedi'r cyfan, daw 27% o'r disgyblion o'r tu hwnt i'r pentref ac nid yw ffigurau'r pentref yn dangos bod cynnydd yn y galw am y Gymraeg. Hefyd nid yw'r Effaith ar yr Iaith Gymraeg wedi cael ei hasesu'n gywir, os o gwbl. Nid oes cyfeiriad at siaradwyr Saesneg yn gwerthfawrogi treftadaeth ddiwylliannol Cymru yn llai os ydynt yn mynychu ffrwd Saesneg yn Unig; mae mwy o bobl yn debygol o roi cynnig ar y ffrwd Gymraeg os ydynt yn gwybod y gallant gwympo'n ôl ar y Saesneg yn yr un ysgol.  Bydd hyn yn cael effaith i'r gwrthwyneb. Mae'r defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned yn fach ac nid yw'n cyd-fynd â'r ddemograffeg ieithyddol nac ystadegau cyfrifiad 2011. Pam nad yw'r ffactorau hyn yn cael eu hystyried?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Mae 10 o ysgolion dwy ffrwd yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd, fel y bu i'w cyrff llywodraethu eu categoreiddio, gan gynnwys y ddwy ysgol yn Llangennech.

 

Mae'r cynigion wedi cael eu llunio mewn ymateb i Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin a Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru. Mae gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb o ran “cynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin a sicrhau parhad ieithyddol o’r sector meithrin ar hyd y cyfnodau allweddol i’r sector uwchradd fel bod pob disgybl yn datblygu i fod yn rhugl a hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg.” Er mwyn gallu cynyddu'r ddarpariaeth addysg drwy gyfrwng y Gymraeg penderfynwyd bod “y Cyngor Sir yn gweithio’n agos gyda staff a Chyrff Llywodraethu ysgolion ffrydiau deuol Sir Gaerfyrddin er mwyn iddynt ddod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg.”

 

Caiff yr holl ysgolion eu hasesu ar yr adeg briodol er mwyn penderfynu ar eu gallu i ddatblygu darpariaeth iaith.

 

Yn ychwanegol at gynigion ar gyfer ysgolion Ffrydiau Deuol mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn disgwyl i bob ysgol, gan gynnwys ysgolion sydd ar hyn o bryd wedi’u dynodi yn ysgolion cyfrwng Saesneg, wneud cynnydd ar hyd y continwwm iaith, er mwyn cynyddu cyfran yr addysg a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn amlwg, bydd pa mor gyflym y gall ysgolion ehangu dwyieithrwydd ac addysg cyfrwng Cymraeg yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.10

6.11

CWESTIWN GAN ROBERT WILLOCK

Nid yw'r Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned yn Asesiad o Effaith o gwbl.Nid yw wedi cydnabod unrhyw risgiau neu risg a aseswyd ganddynt (gan roi sgôr gadarnhaol, negyddol, neu niwtral). Byddech yn disgwyl y byddai sylw wedi ei roi i'r effaith ar ysgolion cyfagos, i'r effaith ar y rhieni a'r teuluoedd, i'r effaith ar y disgyblion, i'r goblygiadau o ran teithio, i'r effaith ar ddemograffeg y gymuned, i'r effeithiau amgylcheddol, i'r effaith ar weithgareddau cymunedol ac i'r effaith ar y trigolion. Y rhain yw'r agweddau y mae'n debygol y byddent yn cael eu hasesu’n negyddol – ac meant wedi eu hesgeuluso’n llwyr!  Pam?”

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

“Nid yw'r Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned yn Asesiad o Effaith o gwbl. Nid yw wedi clustnodi unrhyw risgiau nac wedi cynnal asesiad risg ohonyn nhw (drwy roi dyfarniad cadarnhaol, negyddol neu niwtral).Byddid yn disgwyl y byddid wedi rhoi ystyriaeth i'r effaith ar yr ysgolion cyfagos, yr effaith ar y rhieni a'r teuluoedd, yr effaith ar y disgyblion, y goblygiadau o ran teithio, yr effaith ar ddemograffeg y gymuned, yr effeithiau amgylcheddol, yr effaith ar weithgareddau cymunedol, a'r effaith ar y trigolion. Y rhain yw'r meysydd sy'n debygol o gael eu hasesu'n negyddol, ac maen nhw wedi'u diystyru'n llwyr! Pam?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Mae'r Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned a'r asesiadau eraill a amlinellwyd yn y Ddogfen Ymgynghori wedi'u datblygu yn unol â gofynion y Côd Trefniadaeth Ysgolion, sef y safon sy'n berthnasol o ran datblygu cynigion trefniadaeth ysgolion."

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r holl bobl oedd wedi gofyn cwestiynau, a diolchodd i'r Cynghorydd G.O. Jones am ymateb i'r cwestiynau hynny. 

 

 

7.

GOHIRIAD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn y man hwn yn y cyfarfod tynnodd y Cadeirydd sylw'r aelodau at yr amser, gan gynnig bod y cyfarfod yn cael ei ohirio er mwyn cael cinio.

 

Gan nad oedd y Cynghorydd Devichand yn gallu dychwelyd i'r cyfarfod ar ôl y gohiriad gofynnodd am ganiatâd gan y Cadeirydd i ofyn ei chwestiwn cyn i'r cyfarfod dorri.

 

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 11.1 gofynnodd y Cynghorydd Devichand a oedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn cytuno nad bwriad Llywodraeth Lafur Cynulliad Cymru na Bwrdd yr Iaith oedd gwaredu'r dewis oedd gan gymuned ynghyd â'i hawl ddemocrataidd i newid categori iaith yr ysgol heb roi ystyriaeth briodol i'r effeithiau niweidiol ar gymuned Llangennech? 

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant nad oedd ef yn gallu siarad ar ran y Llywodraeth Lafur ond ei fod yn aros am gyfarwyddyd gan Gaerdydd ynghylch symud ar hyd y continwwm iaith.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Devichand a oedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn cytuno na ddylai'r iaith fod yn rhwystr oedd yn peri pryder a rhaniadau mewn cymuned gan gyfyngu ar ddewisiadau pobl o ran eu bywyd academaidd neu o ran eu gwaith? 

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ei fod yn cytuno a phwysleisiodd fod yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal am y rheswm hwnnw, sef sicrhau bod y plant yn cael y cyfleoedd gorau posibl yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio gweddill y materion ar yr agenda tan 1.50pm y diwrnod hwnnw.

 

8.

Y CYFARFOD YN AILYMGYNNULL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yr oedd y Cyngor wedi ailymgynnull yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 1.50pm.

 

YN BRESENNOL: Y Cynghorydd. E. Dole [Cadeirydd]

 

Y Cynghorwyr:

H.A.L. Evans, L.D. Evans, D.M. Jenkins, G.O. Jones, T.J. Jones, P.A. Palmer, L.M. Stephens a J. Tremlett

 

Yn bresennol fel sylwedyddion:

Y Cynghorwyr S.M. Caiach, D.M. Cundy, J.S. Edmunds, W.G. Hopkins a G. Thomas

 

Yr oedd y swyddogion canlynol yn bresennol yn y cyfarfod:

Mr M. James                    -         Y Prif Weithredwr

Mr C. Moore                     -         Cyfarwyddwr y Gwasanaethau                                                                 Corfforaethol

Mr J. Morgan                    -         Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol

Ms R. Mullen                     -         Cyfarwyddwr yr Amgylchedd

Mr R. Sully                        -         Y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau                                                  Plant

Mr P. Thomas                   -         Y Prif Weithredwr Cynorthwyol

Ms W. Walters                  -         Y Prif Weithredwr Cynorthwyol

Mr J. Fearn                       -         Y Pennaeth Cynnal a Chadw Eiddo ac                                                      Adeiladu

Mr S. Pilliner                     -         Y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg

Ms L. Rees Jones             -         Y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Mr G. Morgans                 -         Y Prif Swyddog Addysg

Mr S. Davies                     -         Y Rheolwr Moderneiddio Ysgolion

Mrs D. Hockenhull             -         Y Rheolwr Marchnata a'r Cyfryngau

Mr I. Llewellyn                   -         Y Rheolwr Blaen-gynllunio

Mr G. Williams                  -         Cyfreithiwr Cynorthwyol

Mrs M. Evans Thomas      -         Pen-swyddog Gwasanaethau Democrataidd

 

Y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin : 1.50 p.m. - 3.30 p.m.

 

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

 

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd M. Gravell. <AI1>

 

9.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I GAU YSGOL BABANOD LLANGENNECH AC YSGOL IAU LLANGENNECH A SEFYDLU YSGOL GYMUNEDOL GYNRADD LLANGENNECH pdf eicon PDF 619 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a chyflwyniad a roddai fanylion y cynnig i gau Ysgol Fabanod Llangennech ac Ysgol Iau Llangennech ac i sefydlu Ysgol Gynradd Gymunedol Llangennech.

 

Yn dilyn ymddeoliad pennaeth Ysgol Fabanod Llangennech ar ddiwedd tymor yr haf 2013 sefydlwyd ffederasiwn llac gyda phennaeth Ysgol Iau Llangennech.  Ar 24ain Medi 2014, penderfynodd Cyrff Llywodraethu'r ddwy ysgol ffedereiddio'n ffurfiol o fis Ebrill 2015 ymlaen. 

 

Ar hyn o bryd yr oedd yr Awdurdod Lleol yn cynnig darpariaeth amser llawn ar gyfer plant 4-11 oed drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn Ysgol Fabanod ac Ysgol Iau Llangennech sydd wedi'u ffedereiddio.  Y bwriad yn yr ysgol gynradd newydd i ddisgyblion 3–11 oed, a fyddai'n cynnwys darpariaeth feithrin, fyddai newid categorïau ieithyddol presennol Ysgol Fabanod Llangennech (Dwy Ffrwd – (DFf)) ac Ysgol Iau Llangennech (Dwy Ffrwd – (DFf)) i greu ysgol newydd categori Cyfrwng Cymraeg (CC) a fyddai'n cynyddu'r ddarpariaeth o ran addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Hefyd byddai'n sicrhau bod cynnydd o ran dwyieithrwydd yn ardal Llangennech.  Byddai'n sicrhau bod parhad ieithyddol o'r sector meithrin ar hyd y cyfnodau allweddol i'r sector uwchradd er mwyn i bob disgybl ddod yn rhugl ac yn hyderus wrth ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg, yn unol â'r hyn a nodwyd yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2014–17.

 

Yn sgil estyniad bychan i'r cyfnod ymgynghori, yn sgil y cyfnod cyn yr etholiad, ac yn sgil y nifer mawr o ymatebion a ddaethai i law yn ystod y cyfnod ymgynghori, yr oedd dyddiadau'r cynnig wedi newid. Yr oeddid wedi gwneud hyn er mwyn sicrhau bod digon o amser ar gael i bobl fynegi eu barn ac er mwyn sicrhau nad oedd cyfnod gwyliau'r ysgolion yn tarfu ar y broses.  Felly yr oeddid yn cynnig:-

 

(i)    cau Ysgol Fabanod Llangennech ar 31ain Awst, 2017;

(ii)   cau Ysgol Iau Llangennech ar 31ain Awst, 2017;

(iii)  o 1af Medi, 2017 ymlaen sefydlu Ysgol Gynradd Gymunedol, ynghyd â darpariaeth feithrin, drwy gyfrwng y Gymraeg (CC) i ddisgyblion 3-11 oed (a elwir o hyn ymlaen yn Ysgol Gynradd Gymunedol Llangennech) ar safleoedd ac yn adeiladau presennol Ysgol Fabanod Llangennech ac Ysgol Iau Llangennech.  Byddai nifer y lleoedd yn y ddwy ysgol yn aros yr un fath ond byddai'r nifer yn cael ei adolygu a'i addasu'n unol â hynny petai galw yn y dyfodol.

 

Yn unol â chyfarwyddiadau'r Bwrdd Gweithredol yn y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 4ydd Ionawr 2016 (gweler cofnod 15), yr oedd ymgynghoriad ffurfiol wedi'i gynnal rhwng 25ain Ionawr a 18fed Mawrth, 2016, yr oedd y canlyniadau ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Pe byddid yn penderfynu cyhoeddi Hysbysiad Statudol, byddid yn ei gyhoeddi yn ystod yr wythnos fyddai'n dechrau ar 5ed Medi, 2016.  Pe byddid, ar ôl i gyfnod yr Hysbysiad Statudol orffen, yn cymeradwyo'r adroddiad gwrthwynebiadau oedd yn crynhoi unrhyw wrthwynebiadau a gawsid gan randdeiliaid, byddai'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant, i'r Bwrdd Gweithredol, ac yn y pen  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

ADRODDIAD TERFYNOL GRWP GORCHWYL A GORFFEN Y PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD 2015/16: - TALIADAU PARCIO CEIR pdf eicon PDF 526 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol fod y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd, yn ei gyfarfod ar 15fed Mai, 2015, wedi cytuno i sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen i ymchwilio i'r gwahanol ymagweddau at daliadau am barcio ceir y gellid eu rhoi ar waith yn y sir.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad am Feysydd Parcio yn Llanelli yn ei gyfarfod ar 28ain Medi, 2015 (cofnod 14) yr oedd y Bwrdd Gweithredol wedi gofyn i'r Gr?p roi sylw hefyd i'r dewisiadau o ran cyflwyno system talu wrth adael ym maes parcio aml-lawr Llanelli yn lle'r system talu ac arddangos/talu ar droed.

 

Daethai'r adolygiad i ben ag 11 o argymhellion a oedd wedi eu llunio yn sgil ystyried amrywiaeth o dystiolaeth mewn cyfres o gyfarfodydd a gynhelid rhwng Medi 2015 ac Ebrill 2016.

 

Diolchodd Cadeirydd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen i bawb oedd wedi bod yn gysylltiedig â hyn.

 

Nodwyd y byddai angen i'r argymhellion dan sylw gael eu cloriannu mewn perthynas â'r goblygiadau o ran yr adnoddau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r argymhellion yn adroddiad Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd: Taliadau am Barcio Ceir, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

11.

STRATEGAETH DIOGELWCH FFYRDD SIR GAERFYRDDIN. pdf eicon PDF 477 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried Strategaeth Diogelwch Ffyrdd Sir Gaerfyrddin 2016-2020 a oedd wedi ei llunio er mwyn ceisio lleihau nifer y bobl oedd yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd y Sir, yn unol â'r targedau cenedlaethol o ran lleihau nifer y clwyfedigion oedd wedi'u pennu gan y Fframwaith Diogelwch Ffyrdd ar gyfer Cymru yr oedd rhaid eu cyrraedd erbyn 2020.

 

Nodwyd y byddai'r Awdurdod yn dal i fuddsoddi mewn diogelwch ffyrdd drwy gyllido addysg ynghylch diogelwch ffyrdd, gwaith gwerthuso a gwaith peirianegol, a thrwy ddal i estyn cefnogaeth i gamau gorfodi gan yr Heddlu. Hefyd byddai'r swyddogion yn dal i fod yn gysylltiedig â threfniadau cydweithio a gweithio mewn partneriaeth er mwyn cynnal mentrau addysg ynghylch diogelwch ffyrdd ac er mwyn clustnodi safleoedd ar gyfer gwaith gorfodi ac ymyriadau peirianegol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Strategaeth Diogelwch Ffyrdd Sir Gaerfyrddin 2016/2020 yn cael ei chymeradwyo.

 

 

 

12.

Y RHAGOLYGYN O RAN CYLLIDEB REFENIW 2017/18 - 2019/20. pdf eicon PDF 432 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad am y rhagolygon ariannol presennol a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y model ariannol presennol ar gyfer y tair blynedd ariannol nesaf.  Yr oedd yr adroddiad yn amlinellu'r cynigion o ran paratoi'r gyllideb am y tair blynedd nesaf sef 2017/18, 2018/19 a 2019/20.

 

PENDERFYNWYD

12.1 nodi'r rhagolygon cyllidebol cychwynnol a'r heriau ariannol  sylweddol oedd ynghlwm wrthynt;

12.2 cadarnhau'r dull a gynigiwyd o ran clustnodi'r arbedion angenrheidiol;

12.3    cadarnhau'r dull a gynigiwyd o ran ymgynghori ynghylch y gyllideb.

 

 

13.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2015-2016 pdf eicon PDF 223 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol fod y Cyngor, yn ei gyfarfod ar 24ain Chwefror 2015 (gweler Cofnod 8), wedi mabwysiadu'r Polisi a'r Strategaeth Rheoli'r Trysorlys.  Yn unol â'r polisi hwnnw, cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys a oedd yn amlinellu gweithgareddau Rheoli Trysorlys yr Awdurdod yn ystod 2015/16 ac yn crynhoi'r gweithgareddau oedd wedi digwydd yn ystod 2015/16 o dan y penawdau canlynol: Buddsoddiadau; Benthyca; Dangosyddion Darbodaeth Rheoli'r Trysorlys; Dangosyddion Darbodaeth; Prydlesu ac Aildrefnu.

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CYNGOR ei fod yn derbyn Adroddiad Blynyddol 2015/16 ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys.

 

14.

PROSIECT SOLAR FFOTOFOLTAIDD (PV). pdf eicon PDF 533 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd grynodeb o'r broses ers y penderfyniad, yn ei gyfarfod ar 27ain Gorffennaf, 2015 (gweler Cofnod 3), i gamu ymlaen â'r Prosiect Solar Ffotofoltaidd.

 

Yr oedd y Cyngor wedi ystyried adroddiad ychwanegol ar 10fed Mawrth, 2016 (gweler Cofnod 11) pryd yr oeddid wedi cytuno i gyllido'r cynllun fel rhan o'r Rhaglen Gyfalaf, ac yr oedd y Cynghorydd D.M. Jenkins, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, wedi ei benodi i fod ar Fwrdd y Gymdeithas Budd Cymunedol, Egni Sir Gâr.

 

Er i benderfyniad gael ei wneud ynghylch y dylai'r Cyngor fuddsoddi'n uniongyrchol yn Egni Sir Gâr, a hynny hyd at uchafswm o £1.5 miliwn, nid oedd caniatâd i'r Cyngor brynu cyfranddaliadau yn Egni Sir Gâr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cyngor yn prynu cyfranddaliadau yn Egni Sir Gâr sef am werth y buddsoddiad olaf, a hynny hyd at uchafswm o £1.5 miliwn.

15.

PRIF GYNLLUN PARC HOWARD. pdf eicon PDF 428 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried prif gynllun diwygiedig ar gyfer Parc Howard yn Llanelli. Eglurwyd bod y parc yn cael ei reoli gan Adran yr Amgylchedd a bod y Plasty (yr Amgueddfa) yn cael ei reoli gan yr Is-adran Hamdden o fewn yr Adran Cymunedau.

 

Er bod elfennau o'r prif gynllun yn ddyheadau tymor hirach a fyddai'n cael eu gwireddu o bosibl drwy Gymdeithas Parc Howard neu Gyfeillion Gr?p Parc Howard, neu law yn llaw â'r rhain, yr oedd pum maes blaenoriaeth wedi eu clustnodi ar gyfer cael sylw ar unwaith:-

 

-        Cyfleusterau chwarae newydd ar gyfer plant bach, plant iau a phlant yn eu harddegau yn y parc;

-        Cyfleuster parcio ceir a fyddai'n fodd i annog mwyfwy o bobl i ddefnyddio'r cyfleusterau ac a fyddai'n hanfodol er mwyn i ddatblygiad y parc yn fasnachol ddigwydd mewn modd sensitif.

-        Bod datblygiad masnachol llawr isaf y plasty ac efallai'r ardd furiog yn y cefn yn digwydd mewn modd sensitif.

-        Ailwampio'r llecyn arddangos ar y llawr cyntaf, gan gynnwys ystafell gymunedol, a gwireddu prosiect y 6 Threftadaeth (sef prosiect ar y cyd gan yr Archifau, yr Amgueddfeydd a'r Llyfrgelloedd gyda golwg ar ddatblygu gwefan i ddigideiddio treftadaeth Sir Gaerfyrddin drwy gyfrwng gwefan gan y gymuned sy'n seiliedig ar 6 thema: Pobl, Lleoedd, Digwyddiadau, Cyfnodau, Diwydiant a Chwaraeon);

-        Ailwampio'r bandstand.

 

Dywedwyd bod £150,000 wedi'i neilltuo yn y cronfeydd adrannol ar gyfer gwella'r lle chwarae.  Byddai angen cadarnhau costau gwella'r maes parcio ond yr oeddid yn rhagweld y byddent tua £100,000.  Ar ôl y buddsoddiad cyfalaf cychwynnol, dylai'r defnydd masnachol o lawr isaf y plasty a'r ardd furiog ddod ag incwm i'r parc a ddylai helpu i leihau'r costau cynnal yn y dyfodol. Yr oeddid yn rhagweld y byddai cost ailwampio'r amgueddfa a chynnal prosiect y 6 Threftadaeth yn rhyw £30,000.  Nid oedd cadarnhad hyd yn hyn ynghylch cost atgyweirio'r bandstand ond byddai'n debygol o fod tua £50,000 (mwy na thebyg drwy gyflwyno cais am grant neu gyllid allanol ar y cyd â Chymdeithas Parc Howard).

 

PENDERFYNWYD

 

15.1   derbyn Prif Gynllun Parc Howard;

 

15.2   cymeradwyo dyrannu £150,000 o'r cronfeydd adrannol er mwyn          gosod dau le chwarae newydd yn y parc;

 

15.3   adolygu/diddymu'r is-ddeddfau lleol yn y parc fel eu bod yn gyson     â'r defnydd presennol a'r defnydd yn y dyfodol;

 

15.4   adolygu'r ddarpariaeth parcio yn y parc ac o'i gwmpas, ac        archwilio cyfleoedd datblygu masnachol sensitif ar gyfer llawr isaf      y plasty a'r ardd furiog yn y cefn.

 

 

16.

PRIF GYNLLUN PARC GWLEDIG PEN-BRE. pdf eicon PDF 420 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried fersiwn drafft cyntaf y prif gynllun diwygiedig ar gyfer Parc Gwledig Pen-bre.  Y bwriad wrth lunio'r ddogfen ddrafft oedd sbarduno rhagor o drafod gan roi amcan sut y gellid datblygu parthau yn y parc. Byddai angen gwneud llawer mwy o waith manwl i'r prif gynllun yn enwedig o ran cynllunio a dylunio. Hefyd byddai angen i'r prif gynllun fod yn rhan o'r prif gynllun adfywio ehangach ar gyfer Penrhyn Pen-be ac Ardal Arfordirol Llanelli.

 

Yr oedd tri maes blaenoriaeth wedi eu clustnodi gyda golwg ar weithredu'n ddiymdroi:-

 

-        Gwelliannau i fynedfa'r safle ac i'r arwyddion yn y parc;

-        Adeilad toiledau a chawodydd newydd ar gyfer y safle carafannau a gwersylla;

-        Canolfan ymwelwyr a chaffi yn y parc.

 

Yn ogystal byddid yn rhoi sylw i'r meysydd canlynol o ran gwneud rhagor o waith dylunio a phennu costau:-

 

-        Yr oeddid yn rhagweld y gellid gosod cladin newydd ar adeilad y bwyty, a oedd yn adeilad helaeth a chadarn, ynghyd â'i ailwampio er mwyn cynnwys gweithgareddau dan do yr oedd eu mawr angen ar y parc e.e. chwarae meddal, dringo dan do, gemau bwrdd, muriau antur, arcêd fechan;

-        Creu parth chwaraeon traeth newydd yng nghyffiniau'r caban ger y traeth, ynghyd â chyfleuster chwarae newydd a llecyn chwarae pêl foli / pêl-droed ar y traeth.

 

Dywedwyd bod amcangyfrif y costau yn anodd ar hyn o bryd heb wneud unrhyw waith archwilio ar y safle a heb fanylebau manwl. Gallai rhai o'r dyheadau yn y prif gynllun gael eu gwireddu yn y camau diweddarach drwy gael buddsoddiad gan y sector preifat neu drwy fuddsoddiad mewnol er mwyn arbed ceisiadau. Yr oedd angen dylunio'r cyfleusterau newydd yn y parc mewn modd sensitif gan fod yn gyson o ran brandio. Dewis posibl fyddai camu ymlaen i'r gwaith dylunio ac yna'r gwaith gwneud a hynny â chyllidebau penodedig ar gyfer pob datblygiad. Gallai'r costau posibl fod o fewn y terfynau canlynol:-

 

-        Y fynedfa tua £75,000

-        Yr adeilad cawodydd a thoiledau tua £200,000

-        Canolfan ymwelwyr a chaffi tua £600,000

-        Canolfan gweithgareddau dan do tua £450,00

-        Parth chwaraeon traeth newydd tua £250,000

 

Eglurwyd bod £250,000 wedi'i neilltuo eisoes yn rhaglen gyfalaf 2016/17 ar gyfer Parc Gwledig Pen-bre; fodd bynnag, yr oedd cyfran o'r swm hwn wedi ei glustnodi eisoes ar gyfer gwaith (tua £30,000) yng nghaffi'r Ganolfan Sgïo ac yr oedd £50,000 wedi ei wario eisoes ar osod cyfarpar chwarae newydd yn y lle chwarae i blant iau.  Y bwriad oedd buddsoddi rhagor yn y Ganolfan Sgïo a Gweithgareddau, gan greu cyfleusterau ar gyfer gweithgareddau antur newydd megis wal ddringo, llecyn chwarae antur, gwifren wib, ac yn y blaen.

 

Byddai angen gwneud cryn waith o ran dylunio a chynllunio yn achos yr holl bethau uchod. Yn ddelfrydol byddai'r datblygiadau blaenoriaeth yn barod ar gyfer tymor y Gwanwyn/Haf 2017, ond byddai hynny'n dipyn o her. Gallai defnyddio partneriaid fframwaith neu bartneriaid datblygu allanol fod o gymorth mawr o ran datblygu'r elfennau hyn yn gyflym.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

16.1  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 16.

17.

CLYMOG JAPAN A PHLANHIGION ANFRODOROL YMLEDOL ERAILL. pdf eicon PDF 265 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 wedi cyflwyno newidiadau mawr o ran y pwerau sydd ar gael i fynd i'r afael â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Yr oedd y llywodraeth wedi cyflwyno'r ddeddf hon heb ddarparu dim adnoddau ychwanegol ar gyfer ei gweithredu.

 

Yr oedd pwerau'r Ddeddf uchod yn cynnwys "Hysbysiadau Amddiffyn Cymunedol" y gallai Cynghorau, yr Heddlu a landlordiaid cymdeithasol dynodedig eu defnyddio lle'r oedd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio'n andwyol ar ansawdd bywyd y gymdogaeth ac yn gyson ac afresymol.  Gallai hysbysiadau o'r fath fynnu bod unigolyn yn rhoi'r gorau i'r ymddygiad tramgwyddus, neu roi bod i gamau cadarnhaol i atal rhagor o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

Yr oedd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi newid trefniadau'r swyddogaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol drwy dynnu cyllid yn ei ôl oddi ar bob un o'r cynghorau yn rhanbarth Dyfed-Powys (a oedd yn darparu swyddogion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol penodol) ac wedi cyfnerthu'r rôl hon yn nwylo Gwalia yn 2015.  Eglurwyd taw rôl swyddogion Gwalia yw helpu asiantaethau eraill mewn perthynas â chyfarfodydd Grwpiau Datrys Problemau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac o ran estyn cymorth i ddioddefwyr; fodd bynnag nid oes ganddynt rôl orfodi fel oedd gan y trefniadau blaenorol.

 

Gan nad oes gan swyddogion Gwalia rôl orfodi, mater i'r Cyngor neu Awdurdod yr Heddlu yw unrhyw orfodi.

 

Gan roi sylw i blanhigion anfrodorol ymledol, gan gynnwys clymog Japan, yr oedd canllawiau'r Swyddfa Gartref yn awgrymu y gellid defnyddio'r p?er hwn (cyflwyno Hysbysiadau Amddiffyn Cymunedol) i fynnu bod perchenogion tir yn cymryd camau i reoli planhigion o'r fath ar eu tir. Gan taw canllaw oedd hwn, nid oedd rheidrwydd cyfreithiol ar asiantaethau i weithredu hyn ac i gymryd camau gorfodi,

 

Yr oedd anawsterau ymarferol ynghlwm wrth ddefnyddio'r p?er hwn:-

 

(a)  Prin yw'r dulliau sydd ar gael i berchenogion tir i fynd i'r afael â chlymog Japan, a gwan yw eu heffaith. Yr oedd yn ddigon posibl na fyddai'r gofynion mewn hysbysiad yn gweithio;

(b)  Hefyd mae'r dulliau sydd ar gael yn ddrud, gan olygu bod gan dderbynnydd hysbysiad reswm dilys dros apelio;

(c)  Os ceir cwyn bod clymog Japan wedi ymledu o eiddo arall i dir yr achwynydd, byddai'n rhaid cyflwyno hysbysiadau i'r ddau berchennog tir;

(d)  Byddai'r ffactorau uchod yn rhoi bod i ymchwiliad, a byddai'r camau gorfodi i unioni'r sefyllfa yn cymryd llawer iawn o amser ac felly'n dipyn o dreth ar adnoddau'r swyddogion;

(e)  Dim ond pan fo'r cyfryw blanhigion wedi eu symud yn anghyfreithlon y byddai Awdurdod yr Heddlu yn cymryd camau gorfodi;

(f)    Yr oedd gan yr Awdurdod wybodaeth am blanhigion anfrodorol ymledol ar y wefan, ynghyd â chyfeiriadau/dolenni cyswllt at wybodaeth ychwanegol ynghylch dulliau rheoli;

(g)  Yr oedd gan yr Awdurdod raglen ar waith i reoli unrhyw blanhigion anfrodorol ymledol ar dir y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

17.1    Ni fydd yr Awdurdod yn ymateb i geisiadau ynghylch clymog   Japan a phlanhigion anfrodorol ymledol eraill ar eiddo preifat nac         yn cymryd unrhyw gamau ffurfiol mewn perthynas â'r mater hwn;

17.2    Bydd yr Awdurdod yn cyfeirio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 17.

18.

CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL DRAFFT - CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR GAERFYRDDIN. pdf eicon PDF 364 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Bwrdd fod y Cyngor, yn ei gyfarfod ar 11eg Tachwedd, 2015 (gweler Cofnod 12), wedi cymeradwyo cyhoeddi'r fersiwn drafft o'r Canllawiau Cynllunio Atodol at ddibenion ymgynghori ffurfiol.  Yr oedd y cyfnod ymgynghori wedi ei gynnal rhwng 24ain Chwefror ac 8fed Ebrill, 2016. Yr oedd cyfanswm o 59 o sylwadau wedi dod i law gan amrywiaeth o gyrff, pobl oedd a wnelont â'r mater, a'r cyhoedd, ac yr oedd y sylwadau ar gael yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

Nodwyd bod y fersiwn drafft o'r Canllawiau Cynllunio Atodol wedi ei lunio i ategu'r polisïau a'r darpariaethau oedd yng Nghynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir Gaerfyrddin ac i ymhelaethu arnynt. Nid diben y Canllawiau Cynllunio Atodol oedd datganoli materion polisi o'r Cynllun Datblygu Lleol nac o'r polisi cenedlaethol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR

 

18.1    Nodi'r sylwadau oedd wedi dod i law;

 

18.2     Bwrw ati i fabwysiadu'n ffurfiol y Canllawiau Cynllunio Atodol i Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin gan gynnwys y newidiadau arfaethedig;

 

18.3     Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r swyddogion gywiro unrhyw wallau teipio neu ramadeg.

 

19.

POLISI MODEL AMSER I FFWRDD AR GYFER YSGOLION. pdf eicon PDF 290 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER:  Yr oedd y Cynghorwyr L.D. Evans a G.O. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Bwrdd yn ystyried y Polisi Amser o’r Gwaith (Enghreifftiol) ar gyfer Ysgolion, a oedd yn addasiad o'r Polisi Amser o’r Gwaith Corfforaethol.

 

Eglurwyd bod gan yr Awdurdod amrywiaeth o bolisïau a gweithdrefnau ynghylch amser o'r gwaith a oedd yn rhoi manylion am y mathau o amser o'r gwaith y gall gweithwyr wneud cais amdanynt yn statudol ac yn unol â'u contract gan eu rheolwyr llinell.   Dywedwyd bod yr holl bolisïau hyn wedi eu rhestru ar wahân ar hyn o bryd ymhlith y polisïau a'r canllawiau Adnoddau Dynol ar Fewnrwyd y Cyngor, ac y gallai fod angen i reolwyr ddarllen nifer o ddogfennau i gael hyd i'r polisi sy'n berthnasol i'w sefyllfa hwy. 

 

Er bod ysgolion yn gallu cyrchu'r dogfennau hyn, byddai angen i gyrff llywodraethu ysgolion fabwysiadu pob un o'r polisïau hyn yn unigol.  Eglurwyd bod y Polisi Amser o’r Gwaith (Enghreifftiol) ar gyfer Ysgolion wedi ei lunio ar ffurf dogfen gyfeirio hawdd ei defnyddio gan gwmpasu'r holl drefniadau amser o'r gwaith y gallai gweithwyr ofyn amdanynt.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo mabwysiadu'rPolisi Amser o’r Gwaith (Enghreifftiol) ar gyfer Ysgolion. 

 

 

20.

POSIIBILRWYDD O GAFFAEL NEUADD SIROL CAERFYRDDIN.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd ei fod am i'r eitem hon gael ei thrafod yn gyhoeddus, ac felly cynigiodd fod yr eithriad yn cael ei godi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL godi'r eithriad ac ystyried yr adroddiad yn gyhoeddus.

 

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad am y dewisiadau o ran y posibilrwydd o brynu Neuadd Sirol Caerfyrddin. 

 

Yn sgil y penderfyniad gan Wasanaeth Llysoedd ei Mawrhydi i gau'r Neuadd Sirol ac i'w gwaredu, yr oedd nifer o fudiadau a chynghorwyr ynghyd â'r cyhoedd wedi mynegi barn bendant ynghylch cadw'r Neuadd Sirol ym meddiant y cyhoedd, a hynny oherwydd ei phwysigrwydd hanesyddol ac oherwydd ei phensaernïaeth ysblennydd, gan sicrhau ei bod ar gael er budd pobl Sir Gaerfyrddin.

 

Eglurwyd bod swyddogion yr Awdurdod wedi bod yn cynnal trafodaethau helaeth gyda'r asiantiaid oedd yn gweithredu ar ran Gwasanaeth Llysoedd ei Mawrhydi gyda golwg ar brynu'r adeilad o bosibl.  Yn sgil derbyn cyfarwyddyd ar y cyd gan y Cyngor a'r perchenogion, yr oedd y Prisiwr Dosbarth wedi ymgymryd â phrisiad annibynnol gan bennu bod y Neuadd Sirol yn werth £225,000. Er yr heriau a'r cyfyngiadau oedd ynghlwm wrth yr adeilad, yr oedd y Prisiwr Dosbarth yn dal o'r farn, oherwydd pwysigrwydd y neuadd yn hanesyddol, fod y prisiad yn unol â gwerth yr adeilad ar y farchnad agored. Gan ei fod yn adeilad rhestredig Gradd 2 nad yw ei isadeiledd yn unol â gofynion y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd ac sydd â dyluniad braidd yn gyfyngedig, ni fyddai'r defnydd o'r adeilad a fyddai'n cael ei ffafrio gan y Cyngor yn glir hyd nes y byddid wedi ymgynghori'n llawn â'r rhanddeiliaid perthnasol.  Er mwyn ei helpu i benderfynu ar y mater, yr oedd yn rhaid i'r Cyngor wneud nifer o dybiaethau ar sail defnydd posibl. Fodd bynnag, petai'r Cyngor yn penderfynu mynd ar drywydd y mater hwn, byddai angen gwneud gwaith manwl er mwyn canfod pa ddefnydd a allai fod yn briodol a pha ddefnydd a allai fod yn amhriodol, a hynny o ran ymarferoldeb ac o ran yr hyn a ystyrid yn briodol gan CADW/y cynllunwyr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL brynu'r Neuadd Sirol am y pris a bennwyd gan y Prisiwr Dosbarth.

 

 

21.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

22.

CYFFORDD STRYD Y GWYNT - LÔN TIR-Y-DAIL, RHYDAMAN - PRYNU TIR

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 21 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn gofyn am gymeradwyo dechrau prynu tir a defnyddio pwerau Prynu Gorfodol, yn ôl yr angen, mewn perthynas â phrif gynllun ailddatblygu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

22.1    cymeradwyo cychwyn prynu'r tir sydd ei angen ar gyfer y         prosiect;

 

22.2    cymeradwyo, mewn egwyddor, ddefnyddio pwerau Prynu         Gorfodol yn           ôl yr angen.

 

 

23.

MAES PARCIO CYHOEDDUS NEWYDD ARFAETHEDIG - STRYD Y BRENIN, TALACHARN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER:  Gan ei bod wedi datgan buddiant personol a rhagfarnol yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd J. Tremlett y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 21 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn gofyn am gymeradwyo dechrau prynu tir a defnyddio pwerau Prynu Gorfodol, yn ôl yr angen, mewn perthynas â phrif gynllun ailddatblygu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ddal ati â'r buddsoddiad cyfalaf yn y maes parcio cyhoeddus newydd yn Stryd y Brenin, Talacharn, yn unol â'r telerau oedd yn yr adroddiad.

 

 

 

[Mae'r cofnodion hyn yn dilyn trefn y materion oedd ar agenda'r cyfarfod, a allai fod yn wahanol i drefn y materion mewn unrhyw weddarllediad gan fod gan y Cadeirydd, a bod angen, ryddid yn y cyfarfod i amrywio trefn y materion ar yr agenda.]