Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 20fed Mehefin, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd G.O. Jones a T.J. Jones.

 

Cydymdeimlodd y Bwrdd yn ddwys â theulu'r ddiweddar Jo Cox, AS, a oedd wedi marw mewn modd mor drist ac annhymig.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

 Y Cynghorydd E. Dole

12 - Trosglwyddo Parciau, Lleoedd Chwarae a Llecynnau Amwynder - Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Drosglwyddo Asedau Cymunedol

Aelod o Gyngor Cymuned Llannon

Y Cynghorydd D.M. Jenkins

12 - Trosglwyddo Parciau, Lleoedd Chwarae a Llecynnau Amwynder - Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Drosglwyddo Asedau Cymunedol

Aelod o Gyngor Tref Cwmaman

Y Cynghorydd D.M. Jenkins

21 - Gosod Tir ym Mharc Pen-y-bont, Glanaman ar Brydles i Glwb Pêl-Droed Cwmaman.

Aelod o Gyngor Tref Cwmaman

Y Cynghorydd P.A. Palmer

12 - Trosglwyddo Parciau, Lleoedd Chwarae a Llecynnau Amwynder - Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Drosglwyddo Asedau Cymunedol

CadeiryddCymdeithas Cymunedol Peniel

Y Cynghorydd L.M. Stephens

8 – Cynnig i Newid Categori Iaith Ysgol Bro Myrddin o fod yn Ddwyieithog (2A) i fod yn Gyfrwng Cymraeg (CC)

Mae hi’n cynrychioli’r Awdurdod ar Gorff Llywodraethu Ysgol Bro Myrddin

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y pdf eicon PDF 352 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd Gweithredol oedd wedi eu cynnal ar 9fed ac ar 23ain Mai 2016 gan eu bod yn gywir.

 

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD:-

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r aelodau o'r cyhoedd oedd wedi cyflwyno cwestiynau â rhybudd i'r Cynghorydd Gareth Jones, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant. Esboniodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd Jones wedi ymddiheuro am na fyddai'n gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw oherwydd ymrwymiad ers tro byd, ac felly, yn ei absenoldeb, byddai Mr Robert Sully, y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, yn ymateb i'r cwestiynau. 

 

Mynegwyd pryder am nad oedd y bobl oedd yn gofyn cwestiwn yn gallu arfer eu hawl i ofyn cwestiwn atodol i'r aelod yr oeddynt wedi cyfeirio eu cwestiwn ato gan nad oedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn bresennol.  Felly

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y bobl hynny oedd am ofyn eu cwestiynau yng nghyfarfod heddiw yn gwneud hynny, a bod cwestiynau'r bobl hynny oedd am ofyn eu cwestiynau yn uniongyrchol i'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant, a chael cyfle i ofyn cwestiwn atodol, yn cael eu gohirio tan gyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar 26ain Gorffennaf, 2016.

O ganlyniad gohiriwyd gofyn cwestiynau Mr Steve Hatto, Ms Nikki Lloyd, Mrs Michaela Beddows, Mrs Jacqueline Seward, Ms Kaz Deacon, Mrs Karen Hughes, Mr Nigel Hughes a Mr Robert Willock tan y cyfarfod fyddai'n cael ei gynnal ar 26ain Gorffennaf, 2016. 

 

[NODER:  Roedd Mr Steve Hatto, Ms Nikki Lloyd a Mrs Michaela Beddows eisoes wedi gofyn eu cwestiynau a’r Cyfarwyddwr Addysg & Phlant wedi ymateb cyn i’r penderfyniad i ohirio, ac o ganlyniad i’r benderfyniad uchod, nid yw’r cwestiynau a’r ymatebion hynny wedi eu cofnodi yn y cofnodion gan y byddant yn cael eu gofyn eto yn y cyfarfod i’w gynnal ar 26ain Gorffennaf.]

 

 

5.1

CWESTIWN GAN MRS RHIANEDD RHYS I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT:-

Yngyntaf oll, hoffwn ddiolch i'r Cyngor am ei weledigaeth a hoffwn ofyn, ydy aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn ymwybodol o’r ffaith fod disgyblion mewn addysg Gymraeg yng Nghymru (gan gynnwys disgyblion Ysgol Babanod ac Iau Llangennech) ar y cyfan yn perfformio’n well mewn asesiadau athrawon ac arholiadau allanol na disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a bod unrhyw amrywiadau fel arfer yn adlewyrchu ansawdd yr addysgu yn hytrach na chyfrwng yr addysgu?

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i'r Cyngor am ei weledigaeth a hoffwn ofyn, ydy aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn ymwybodol o’r ffaith fod disgyblion mewn addysg Gymraeg yng Nghymru (gan gynnwys disgyblion Ysgol Babanod ac Iau Llangennech) ar y cyfan yn perfformio’n well mewn asesiadau athrawon ac arholiadau allanol na disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a bod unrhyw amrywiadau fel arfer yn adlewyrchu ansawdd yr addysgu yn hytrach na chyfrwng yr addysgu?”

 

Ymateb Mr Robert Sully - Y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant:-

 

“Profiad y Cyngor Sir hwn yw bod plant sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyffredinol yn cyflawni ar lefelau sy’n gyson â phlant sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Saesneg ym mhob pwnc, gan gynnwys Saesneg (Iaith).

 

Mae’r data ar gyfer 2014/2015 yn ysgolion Llangennech, y set ddata gyflawn ddiweddaraf sydd ar gael, yn cadarnhau’r canfyddiadau hyn, gan ddangos bod plant yn y ffrydiau Cymraeg a Saesneg yn cyflawni’n gymharol mewn asesiadau athrawon ac mewn profion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol.  Yn 2015 llwyddodd pob plentyn yn y ddwy ysgol i gyrraedd y lefelau disgwyliedig yn y ddau gyfnod allweddol yn y profion cenedlaethol ym mhob pwnc.  Llwyddodd y plant yn y ffrwd Gymraeg a’r ffrwd Saesneg i gael canlyniadau da a chymharol mewn Saesneg (Iaith) ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2.  Bu i’r plant yn y ffrwd Gymraeg hefyd gael canlyniadau da mewn Cymraeg iaith gyntaf ond nid oedd modd i’r plant yn y ffrwd Saesneg gael y canlyniad hwn am nad oeddynt yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Ym mis Tachwedd 2014, cyhoeddodd Estyn adroddiad ar ganfyddiadau ei archwiliad o ganlyniadau mewn deg o ysgolion uwchradd dwyieithog gan ddweud bod “...(rhai) athrawon ...... a disgyblion yn gwneud y gamdybiaeth y gall astudio pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg lesteirio eu llwyddiant academaidd.  Mewn gwirionedd, mae disgyblion sy’n dilyn eu cyrsiau TGAU drwy gyfrwng y Gymraeg yn cyflawni gystal â’r disgyblion hynny sy’n dilyn y rhan fwyaf o’r cyrsiau TGAU drwy gyfrwng y Saesneg, os nad gwell na hwy”.

 

Yn ychwanegol, mae’r dystiolaeth a gasglwyd yn rhyngwladol drwy waith ymchwil yn dangos bod plant sydd wedi datblygu yn ddwyieithog yn elwa o allu dysgu ychwanegol, gan gynnwys gwell gallu gwybyddol, gwell dealltwriaeth a hyblygrwydd wrth gyflawni tasgau, gwell pwerau canolbwyntio ac ati.”

 

5.2

CWESTIWN GAN MR MICHAEL REES I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT:-

"A minnau yn siaradwr di-Gymraeg a ddewisodd addysg cyfrwng Cymraeg i fy mhlant, a fyddai aelodau'r Bwrdd Gweithredol yn rhannu'r pleser a'r boddhad personol yr wyf wedi ei gael dros y blynyddoedd yn gweld fy mhlant yn dod yn oedolion dwyieithog hyderus sy'n defnyddio'r ddwy iaith yn eu gwaith a'u bywyd bob dydd, a chydnabod llwyddiant ysgubol addysg cyfrwng Cymraeg a'r amrywiol fanteision y mae dwyieithrwydd yn ei gynnig i unigolion o bob cefndir cymdeithasol?"

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“A minnau yn siaradwr di-Gymraeg a ddewisodd addysg cyfrwng Cymraeg i fy mhlant, a fyddai aelodau'r Bwrdd Gweithredol yn rhannu'r pleser a'r boddhad personol yr wyf wedi ei gael dros y blynyddoedd yn gweld fy mhlant yn dod yn oedolion dwyieithog hyderus sy'n defnyddio'r ddwy iaith yn eu gwaith a'u bywyd bob dydd, a chydnabod llwyddiant ysgubol addysg cyfrwng Cymraeg a'r amrywiol fanteision y mae dwyieithrwydd yn ei gynnig i unigolion o bob cefndir cymdeithasol?"

 

Ymateb Mr Robert Sully - Y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant:-

 

"Mae'r Adran yn cytuno â'r farn a fynegwyd gan yr holwr, oherwydd profiad yr Awdurdod hwn yw bod plant yn llwyddo'n dda mewn addysg cyfrwng Cymraeg ni waeth beth fo iaith yr aelwyd.

 

Cred yr Adran fod plant yn elwa ar gael addysg gwbl ddwyieithog ac y dylai cynifer o blant â phosibl gael y cyfle hwn. Hefyd barn yr Adran yw taw addysg cyfrwng Cymraeg yn y cyfnod cynradd yw'r dull mwyaf effeithiol o ddatblygu pobl ifanc ddwyieithog.

 

Ar ben hynny, mae bod yn ddwyieithog yn helaethu cyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol pobl ifanc ac yn gallu bod yn fanteisiol o ran gyrfa mewn rhai amgylchiadau."

 

</AI7>

<AI8>

 

5.3

CWESTIWN GAN MS ELIN GRIFFITHS I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT:-

"Ydy aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn ymwybodol o’r ffaith fod disgyblion o gartrefi di-Gymraeg sy’n mynychu ysgolion Cymraeg, gan gynnwys Ysgol Llangennech, ar y cyfan yn perfformio cystal os nad gwell yn y pynciau craidd na disgyblion mewn addysg Saesneg?"

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Ydy aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn ymwybodol o’r ffaith fod disgyblion o gartrefi di-Gymraeg sy’n mynychu ysgolion Cymraeg, gan gynnwys Ysgol Llangennech, ar y cyfan yn perfformio cystal os nad gwell yn y pynciau craidd na disgyblion mewn addysg Saesneg?"

 

Ymateb Mr Robert Sully - Y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant:-

 

“Profiad y Cyngor Sir hwn yw bod plant sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyffredinol yn cyflawni gystal â phlant sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Saesneg ym mhob pwnc, gan gynnwys Saesneg (Iaith) a phynciau craidd eraill.  Mae hyn yn cynnwys plant o gartrefi lle nad y Gymraeg yw’r brif iaith.”

 

 

5.4

CWESTIWN GAN MRS HELEN MAINWARING I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT:

Cyhoeddwyd eich 'Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg ar 2014-2017' yn 2013 lle nodir yn glir eich bod yn awyddus i symud Ysgol Llangennech ar hyd y continiwm ieithyddol.  Pa gamau y byddwch yn cymeryd i sicrhau bod plant Llangennech a Sir Gar yn datblygu'n ddinasyddion dwyieithog?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Cyhoeddwyd eich 'Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg ar 2014-2017' yn 2013 lle nodir yn glir eich bod yn awyddus i symud Ysgol Llangennech ar hyd y continiwm ieithyddol.   Pa gamau y byddwch yn cymeryd i sicrhau bod plant Llangennech a Sir Gar yn datblygu'n ddinasyddion dwyieithog?”

 

Ymateb Mr Robert Sully - Y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant:-

 

“Paratowyd y cynigion ar gyfer ysgolion Llangennech mewn ymateb i Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, Cyngor Sir Caerfyrddin, sy’n nodi strategaeth eang y Cyngor i ddatblygu dwyieithrwydd yn y gwasanaeth addysg, yn bennaf drwy ehangu addysg cyfrwng Cymraeg.  Bwriad yr awdurdod lleol yw “cynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin a sicrhau parhad ieithyddol o’r sector meithrin ar hyd y cyfnodau allweddol i’r sector uwchradd fel bod pob disgybl yn datblygu i fod yn rhugl a hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg.”  Fel rhan benodol o’r strategaeth, ymrwymodd y Cyngor i “weithio’n agos gyda staff a Chyrff Llywodraethu ysgolion ffrydiau deuol Sir Gaerfyrddin er mwyn iddynt ddod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg”.

 

Yn ychwanegol at gynigion ar gyfer ysgolion Ffrydiau Deuol mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn disgwyl i bob ysgol, gan gynnwys ysgolion sydd ar hyn o bryd wedi’u dynodi yn ysgolion cyfrwng Saesneg, wneud cynnydd ar hyd y continwwm iaith, er mwyn cynyddu cyfran yr addysg a gyflenwir drwy gyfrwng y Gymraeg.  Yn amlwg, bydd pa mor gyflym y gall ysgolion ehangu dwyieithrwydd ac addysg cyfrwng Cymraeg yn dibynnu ar amgylchiadau lleol ond mae’r disgwyl am gynnydd yn berthnasol i bob ysgol.  Mae’r ysgolion yn Llangennech wedi’u nodi fel rhai sydd â’r potensial i symud yn gyflym i fod yn gyfrwng Cymraeg oherwydd y cynnydd yn niferoedd y ffrwd Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf, fel y tystia’r data.

 

Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn nodi rhaglen gynhwysfawr o ddatblygiad iaith i’r ysgolion a’r plant ledled Sir Gaerfyrddin. Mae’r Cynllun yn cael ei adolygu ar hyn o bryd a chaiff rhaglen ar ei newydd wedd ei chyflwyno yn fuan i’r aelodau etholedig ei chymeradwyo.

 

Mae’r Cynllun yn seiliedig ar y ddealltwriaeth bod ysgolion yn gydran hanfodol bwysig yn natblygiad plant er mwyn iddynt fod yn gwbl ddwyieithog erbyn eu bod yn gadael yr ysgol gynradd.  Mae’r dystiolaeth ryngwladol, fel a ddyfynnir gan Lywodraeth Cymru, yn cadarnhau mai’r ffordd fwyaf effeithiol o ddatblygu plant dwyieithog yw eu trochi yn yr iaith sy’n llai cyffredin tra’n datblygu hefyd eu sgiliau yn yr iaith sy’n fwy cyffredin.  Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn hyrwyddo, i blant sydd o deuluoedd nad ydynt yn siarad Cymraeg, fod trochi plant yn y Gymraeg yn benodol o bwysig er mwyn gwreiddio’r iaith.”

 

 

5.5

CWESTIWN GAN MRS MANON WILLIAMS I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT:-

“Ydy aelodau'r Bwrdd Gweithredol yn ymwybodol o'r ffaith nad oes unrhyw ymchwil rhyngwladol yn profi fod addysg drochi yn niweidiol i ddatblygiad plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a bod gan Sir Gâr brofiad helaeth o ddarparu addysg a gofal o'r radd flaenaf i blant ADY drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Ydy aelodau'r Bwrdd Gweithredol yn ymwybodol o'r ffaith nad oes unrhyw ymchwil rhyngwladol yn profi fod addysg drochi yn niweidiol i ddatblygiad plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a bod gan Sir Gâr brofiad helaeth o ddarparu addysg a gofal o'r radd flaenaf i blant ADY drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg?"

 

Ymateb Mr Robert Sully - Y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant:-

 

“Nid yw’r Adran yn ymwybodol o unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn andwyol i ddatblygiad plant, gan gynnwys plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.  I’r gwrthwyneb, mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos bod datblygiad dwyieithog yn ysgogi sgiliau ychwanegol ar gyfer dysgu a bywyd ymysg pobl ifanc ac mai’r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau’r manteision hyn yw trochi plant ifanc yn yr iaith sy’n llai cyffredin o oedran ifanc.

 

Dyma brofiad ysgolion cyfrwng Cymraeg ledled Sir Gaerfyrddin a lwyddodd ers llawer o flynyddoedd i ddatblygu pobl ifanc ddwyieithog a medrus, gan gynnwys rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

 

Dim ond mewn rhai achosion prin y mae dysgu drwy gyfrwng dwy iaith yn her i blentyn sydd ag anghenion dysgu ychwanegol penodol.  Mae dysgu gwahaniaethol mewn dosbarth prif ffrwd yn gallu cefnogi'r mwyafrif helaeth o ddysgwyr drwy atgyfnerthu iaith gryfaf plentyn ochr yn ochr â datblygu'r ail iaith.  Pwysig yw nodi y bydd rhai plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn elwa o gael eu dysgu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, ac eraill yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg.  Ym mhob achos, bydd pecyn pwrpasol o gymorth yn sicrhau’r ddarpariaeth fwyaf priodol i’r unigolyn.”

 

</AI10>

 

5.6

CWESTIWN GAN MRS RACHEL BENDALL I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

Dros y blynyddoedd diwethaf mae canran y boblogaeth sy'n gallu siarad Cymraeg yn ardal Llangennech wedi gostwng o 53.3% yn 1991 i 39.9% yn 2011 - ydy'r Bwrdd Gweithredol yn cytuno taw sefydlu Ysgol Gymraeg yn y pentref er mwyn rhoi sgiliau dwyieithog i bawb yw'r ffordd fwyaf effeithiol o atal y dirywiad hwn?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Dros y blynyddoedd diwethaf mae canran y boblogaeth sy'n gallu siarad Cymraeg yn ardal Llangennech wedi gostwng o 53.3% yn 1991 i 39.9% yn 2011 - ydy'r Bwrdd Gweithredol yn cytuno taw sefydlu Ysgol Gymraeg yn y pentref er mwyn rhoi sgiliau dwyieithog i bawb yw'r ffordd fwyaf effeithiol o atal y dirywiad hwn?”

 

Ymateb Mr Robert Sully - Y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant:-

 

“Mae Cyfrifiad y Boblogaeth a gynhaliwyd yn 2011 yn cadarnhau dirywiad siomedig yng nghyfran y boblogaeth sydd â sgiliau iaith ar draws Sir Gaerfyrddin.

 

Sefydlodd Cyngor Sir Caerfyrddin strategaeth gynhwysfawr i fynd i’r afael â’r dirywiad hwn drwy raglen flaengar o weithgarwch ar draws amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys addysg.

 

Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn nodi amrywiaeth o gamau ar gyfer y gwasanaeth addysg a’r ysgolion i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg. Y nod yw cynyddu nifer y dinasyddion dwyieithog a manteisio’n llawn ar gyfleoedd i blant elwa ar addysg sy’n wirioneddol ddwyieithog.

 

Daw’r cynnig ar gyfer ysgolion cynradd yn Llangennech o gynllun y Cyngor, Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, am mai polisi’r Cyngor Sir yw mai addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector cynradd sy’n cynnig y dull mwyaf effeithiol o wella sgiliau iaith plant, yn ogystal â rhoi iddynt y manteision datblygiadol ehangach y mae addysg ddwyieithog yn eu cynnig.”

 

</AI11>

 

5.7

CWESTIWN GAN MR CURTIS ROBERTS I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT:-

 

“A yw aelodau'r Bwrdd Gweithredol yn ymwybodol bod gan y mwyafrif helaeth o ysgolion cyfrwng Cymraeg strategaethau ar waith i gynorthwyo teuluoedd di-Gymraeg gyda gwaith cartref , sy'n cynnwys anfon nodyn dwyieithiog adref yn egluro’r tasgau y mae angen eu cwblhau?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"A yw aelodau'r Bwrdd Gweithredol yn ymwybodol bod gan y mwyafrif helaeth o ysgolion cyfrwng Cymraeg strategaethau ar waith i gynorthwyo teuluoedd di-Gymraeg gyda gwaith cartref , sy'n cynnwys anfon nodyn dwyieithiog adref yn egluro’r tasgau y mae angen eu cwblhau?”

 

Ymateb Mr Robert Sully - Y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant:-

 

"Mae gan ysgolion cyfrwng Cymraeg ledled Sir Gaerfyrddin amrywiaeth o strategaethau i gynorthwyo plant o deuluoedd di-Gymraeg, yn yr ysgol a gartref, yn enwedig o ran gwaith cartref. Mae enghreifftiau o'r cymorth y gellir ei roi ar gael yn yr Adroddiad Ymgynghori.

 

Mae canlyniadau da'r plant o'r holl gefndiroedd yn yr ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cadarnhau llwyddiant y rhaglenni cymorth hyn."

 

 

5.8

CWESTIWN GAN MRS CATHRIN JONES I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT:-

Ydy aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn ymwybodol o’r ffaith mai addysg drochi yn yr iaith darged sydd wedi cael ei brofi i fod y model mwyaf llwyddiannus ar draws y byd o ran sicrhau dwyieithrwydd cyflawn mewn plentyn?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Ydy aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn ymwybodol o’r ffaith mai addysg drochi yn yr iaith darged sydd wedi cael ei brofi i fod y model mwyaf llwyddiannus ar draws y byd o ran sicrhau dwyieithrwydd cyflawn mewn plentyn?”

 

Ymateb Mr Robert Sully - Y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant:-

 

“Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, Cyngor Sir Caerfyrddin, yn seiliedig ar yr egwyddor, a sefydlwyd drwy waith ymchwil rhyngwladol, mai’r dull mwyaf effeithiol o ddatblygu plant sy’n wirioneddol ddwyieithog yw eu trochi yn yr iaith sy’n llai cyffredin o oedran cynnar tra’n datblygu hefyd eu sgiliau yn yr iaith sy’n fwy cyffredin.  Derbyniodd y Cyngor Sir arweiniad Llywodraeth Cymru fod cael eu trochi yn y Gymraeg yn yr ysgol yn hynod o bwysig i blant o deuluoedd nad ydynt yn siarad Cymraeg er mwyn gwreiddio’r iaith.”

 

</AI13>

 

5.9

CWESTIWN GAN MR ALAN WARNER I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT:-

 “Ydyaelodau’r Bwrdd Gweithredol yn sylweddoli fod rhieni/gwarcheidiaid wrth drafod gwaith cartref yn Saesneg gyda’u plant mewn gwirionedd yn gallu datblygu eu sgiliau trawsieithu (trans-languaging) sy’n cael ei ystyried gan arbenigwyr iaith fel sgil lefel uchel?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Ydy aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn sylweddoli fod rhieni/gwarcheidiaid wrth drafod gwaith cartref yn Saesneg gyda’u plant mewn gwirionedd yn gallu datblygu eu sgiliau trawsieithu (trans-languaging) sy’n cael ei ystyried gan arbenigwyr iaith fel sgil lefel uchel?”

 

Ymateb Mr Robert Sully - Y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant:-

 

“Barn yr Adran yw bod plant a rhieni neu warcheidwaid oll yn elwa o drafod bywyd ysgol a gwaith cartref yn y ddwy iaith.”

 

 

5.10

CWESTIWN GAN MR MARTYN DAVID WILLIAMS I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT:-

“Ydy aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn ymwybodol o’r ffaith fod asesiadau athrawon a chanlyniadau arholiadau allanol yn y Saesneg fel pwnc wedi bod yn gyson uwch ymhlith disgyblion sydd wedi derbyn addysg Gymraeg o’u cymharu â disgyblion gafodd addysg drwy gyfrwng y Saesneg?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Ydy aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn ymwybodol o’r ffaith fod asesiadau athrawon a chanlyniadau arholiadau allanol yn y Saesneg fel pwnc wedi bod yn gyson uwch ymhlith disgyblion sydd wedi derbyn addysg Gymraeg o’u cymharu â disgyblion gafodd addysg drwy gyfrwng y Saesneg?”

 

Ymateb Mr Robert Sully - Y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant:-

 

“Y dystiolaeth yn Sir Gaerfyrddin yw bod plant sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyffredinol yn cyflawni gystal â phlant sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Saesneg ym mhob pwnc, gan gynnwys Saesneg (Iaith) a phynciau craidd eraill.  Mae hyn yn cynnwys plant o gartrefi lle nad y Gymraeg yw’r brif iaith.

 

Mae’r Adran o’r farn mai addysg cyfrwng Cymraeg yw’r dull mwyaf effeithiol o ddatblygu plant dwyieithog erbyn iddynt adael yr ysgol gynradd a bod y ffurf hon o addysg yn cynnig datblygiad personol ychwanegol a manteision addysgol i’r plant.

 

Cadarnhaodd Estyn, mewn adolygiad o'r canlyniadau mewn deg o ysgolion uwchradd dwyieithog, fod “...disgyblion sy’n dilyn eu cyrsiau TGAU drwy gyfrwng y Gymraeg yn cyflawni gystal â’r disgyblion hynny sy’n dilyn y rhan fwyaf o’r cyrsiau TGAU drwy gyfrwng y Saesneg, os nad gwell na hwy”.

 

</AI15>

 

 

 

5.11

CWESTIWN GAN MR OWAIN GLENISTER I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT:-

“Gan ystyried y ffaith fod 65% o boblogaeth y byd yn siarad o leiaf dwy iaith, ydy aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn ymwybodol o’r ffaith nad oes ymchwil academaidd wedi ei gyhoeddi unrhywle yn y byd sy’n profi fod addysg drochi’n cael effaith niweidiol ar ddatblygiad addysgol plentyn – i’r gwrthwyneb mae ymchwil yn Nghanada yn profi fod lefelau IQ plant mewn addysg drochi ddwyieithog yn gyson uwch na phlant mewn addysg uniaith ac ymchwil o Gatalwnia’n profi fod plant mewn addysg drochi ddwyieithog yn well am rhesymu ac yn fwy creadigol?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Gan ystyried y ffaith fod 65% o boblogaeth y byd yn siarad o leiaf dwy iaith, ydy aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn ymwybodol o’r ffaith nad oes ymchwil academaidd wedi ei gyhoeddi unrhywle yn y byd sy’n profi fod addysg drochi’n cael effaith niweidiol ar ddatblygiad addysgol plentyn – i’r gwrthwyneb mae ymchwil yn Nghanada yn profi fod lefelau IQ plant mewn addysg drochi ddwyieithog yn gyson uwch na phlant mewn addysg uniaith ac ymchwil o Gatalwnia’n profi fod plant mewn addysg drochi ddwyieithog yn well am rhesymu ac yn fwy creadigol?”

 

Ymateb Mr Robert Sully - Y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant:-

 

“Nid yw’r Adran yn ymwybodol o unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod addysg cyfrwng Cymraeg yn andwyol i ddatblygiad plant.  I’r gwrthwyneb, mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos bod datblygiad dwyieithog yn ysgogi sgiliau ychwanegol ar gyfer dysgu a bywyd ymysg pobl ifanc ac mai’r ffordd fwyaf effeithiol i sicrhau’r manteision hyn yw trochi plant bach yn yr iaith sy’n llai cyffredin o oedran ifanc.

 

Barn y Cyngor Sir yw bod pob plentyn yn elwa o addysg ddwyieithog, sy’n darparu datblygiad sgiliau ehangach, megis gwell gallu gwybyddol, gwell dealltwriaeth a hyblygrwydd wrth gyflawni tasgau, gwell pwerau canolbwyntio ac ati, ac y dylai pob plentyn dderbyn y cyfleoedd hyn.”

 

</AI16>

 

6.

CWESTIYNAU A GYFEIRIWYD I'R BWRDD GWEITHREDOL GAN Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT:-

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gofio'r penderfyniad a wnaed yn gynharach yn y cyfarfod i ohirio ystyried y cwestiynau gan y cyhoedd tan y cyfarfod nesaf,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried yr eitem hon tan gyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar 26ain Gorffennaf, 2016.

 

 

7.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I GAU YSGOL BABANOD LLANGENNECH AC YSGOL IAU LLANGENNECH A SEFYDLU YSGOL GYMUNEDOL GYNRADD LLANGENNECH. pdf eicon PDF 619 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gofio'r penderfyniad a wnaed yn gynharach yn y cyfarfod i ohirio ystyried y cwestiynau gan y cyhoedd tan y cyfarfod nesaf,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried yr eitem hon tan gyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar 26ain Gorffennaf, 2016.

 

8.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - BWRIAD I NEWID CATEGORI IAITH YSGOL BRO MYRDDIN O DWYIEITHOG (2A) I'R GYFRWNG GYMRAEG (CC). pdf eicon PDF 658 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER:  Yr oedd y Cynghorydd L.M. Stephens wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar y cynnig i newid categori iaith Ysgol Bro Myrddin o fod yn Ddwyieithog (2A) i fod yn Gyfrwng Cymraeg (CC).

 

Dywedwyd bod yr ysgol wedi symud yn naturiol ar hyd y continwwm yr iaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn unol â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2014-17 Sir Gaerfyrddin.  Ar hyn o bryd nid oedd dim disgyblion yn astudio mathemateg drwy gyfrwng y Saesneg ym mlynyddoedd 7-10 a dim ond un gr?p o ddisgyblion oedd wedi dewis astudio gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Saesneg ym mlwyddyn 7.  Yr oedd y newid hwn wedi digwydd mewn modd organig dros nifer o flynyddoedd gan olygu bod cyfle i gamu ymlaen a sefydlu'r ysgol uwchradd gyntaf yn Sir Gaerfyrddin i fod yn y categori cyfrwng Cymraeg.

 

Yr oedd yr Adran Addysg a Phlant yn llwyr gefnogi dymuniad yr ysgol i barhau ar hyd continwwm y Gymraeg a newid y categori iaith i fod yn Gyfrwng Cymraeg. 

 

Yr oedd y broses ymgynghori statudol wedi'i chwblhau yn Nhymor yr Hydref 2015, ac yna yr oedd Hysbysiad Statudol wedi'i gyhoeddi ar 13eg Ebrill, 2016.  Daethai cyfnod yr Hysbysiad Statudol i ben ar 10fed Mai, 2016 a daethai cyfanswm o 2 wrthwynebiad i law, yr oedd manylion amdanynt yn yr atodiad i'r adroddiad.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant wedi ystyried yr adroddiad yn ei gyfarfod ar 17eg Mehefin, 2016 ac wedi penderfynu'n unfrydol:

 

·       argymell i'r Bwrdd Gweithredol ei fod yn camu ymlaen â'r cynnig i newid categori iaith Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin o fod yn Ddwyieithog (2a) i fod yn Gyfrwng Cymraeg (CC), gan weithredu'r cynnig fel yr oedd yn yr Hysbysiad Statudol, a hynny o'r 1af Medi, 2016 ymlaen;

·       gofyn i'r Bwrdd Gweithredol argymell i'r Cyngor ei fod yn lobïo Llywodraeth Cymru i symleiddio'r broses ofynnol o ran newid categori iaith ysgol, gan ei gwneud hi'n haws i ysgolion symud ar hyd continwwm y Gymraeg a newid eu categori iaith i fod yn gyfrwng Cymraeg.

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CYNGOR

 

8.1     nodi'r gwrthwynebiadau ond bod y Cyngor yn camu ymlaen â'r cynnig i newid categori iaith Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin o fod yn ddwyieithog 2A i fod yn gyfrwng Cymraeg, fel y manylwyd ar hynny yn yr Hysbysiad Statudol, gan ddod i rym ar 1af Medi, 2016;

 

8.2     bod y Cyngor yn lobïo Llywodraeth Cymru ac yn gofyn iddi symleiddio'r broses ofynnol o ran newid categori iaith ysgol, gan ei gwneud hi'n haws i ysgolion symud ar hyd continwwm y Gymraeg a newid eu categori iaith i fod yn gyfrwng Cymraeg.

 

 

9.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - ADOLYGIAD DWYFLYNYDDOL. pdf eicon PDF 797 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad yr Adolygiad Dwyflynyddol o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Moderneiddio Addysg, yn unol â phenderfyniad y Cyngor yn 2010 i adolygu a diweddaru'r rhaglen bob dwy flynedd neu fel oedd yn ofynnol er mwyn sicrhau ei bod yn gyson â rhaglen genedlaethol Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

Llongyfarchwyd y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant a'i staff am eu holl waith o ran sicrhau bod prosiect Ysgolion yr 21ain Ganrif yn llwyddiannus. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Rhaglen Moderneiddio Addysg ddiweddaredig.

 

 

10.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR. pdf eicon PDF 580 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr adroddiad monitro ynghylch y gyllideb refeniw a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol 'derfynol bron' blwyddyn ariannol 2015/16.

 

Yr oedd y ffigwr 'terfynol bron' yn dangos bod gorwariant o £33,000 ar lefel adrannol am y flwyddyn.  Yr oedd y ffigwr hwn wedi cael ei wrthbwyso gan danwariant o £1,399,000 ar daliadau cyfalaf, ac yr oedd yr alldro o ganlyniad i hynny yn golygu bod yr Awdurdod yn rhagweld y byddid yn trosglwyddo £280,000 i'r cronfeydd wrth gefn cyffredinol.  Yr oeddid yn rhagweld y byddai tanwariant o -£1.9m o ran y Cyfrif Refeniw Tai tan ddiwedd blwyddyn ariannol 2015/16.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad ynghylch monitro'r gyllideb yn cael ei dderbyn.

 

 

 

11.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF. pdf eicon PDF 467 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad diweddaru a oedd yn manylu ar y gwariant 'terfynol bron' mewn perthynas â rhaglen gyfalaf 2015/16, fel yr oedd ar 31ain Mawrth, 2016.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod swyddogion ledled yr Awdurdod wedi llwyddo i sicrhau bod £8m o gyllid allanol ychwanegol ar gael yn ystod 2015/16. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad diweddaru ynghylch y rhaglen gyfalaf yn cael ei dderbyn.

 

</AI22>

 

12.

TROSGLWYDDO PARCIAU, LLEOEDD CHWARAE A LLECYNNAU AMWYNDER - Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM DROSGLWYDDO ASEDAU CYMUNEDOL. pdf eicon PDF 510 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Yr oedd y Cynghorwyr E. Dole, D.M. Jenkins a P.A. Palmer wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Mewn perthynas â'r penderfyniad a wnaethai'r Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 15fed Rhagfyr, 2014 (gweler cofnod 11) ynghylch trosglwyddo asedau sef parciau, lleoedd chwarae a mannau amwynder, bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol.

 

O blith y 27 o gynghorau tref a chymuned oedd ag asedau perthnasol, yr oedd 18 wedi cyflwyno Datganiadau o Ddiddordeb ynghylch 81 o asedau cyn y dyddiad cau sef 1af ebrill, 2016.  Golygai hynny fod 9 o gynghorau cymuned, lle'r oedd 35 o asedau, heb gyflwyno Datganiadau nac ychwaith ddiddordeb cychwynnol ond bod gohebiaeth ddiweddarach wedi rhoi ar ddeall fel arall.  Yr oedd 13 o ddatganiadau o ddiddordeb eraill wedi dod i law ynghylch ystod o asedau gan amrywiaeth o grwpiau chwaraeon. Hefyd yr oedd 30 o ardaloedd cynghorau cymuned eraill lle'r oedd yr asedau amwynder yn cael eu rheoli'n lleol eisoes yn hytrach na chan y Cyngor Sir.

 

Yr oedd y trafodaethau rhwng y Cyngor a'r amrywiaeth o gynghorau tref a chymuned oedd wedi mynegi diddordeb yn y cyfleusterau wedi cyrraedd gwahanol fannau. Erbyn hyn yr oedd y rhan fwyaf o'r trosglwyddiadau yn nwylo'r cyfreithwyr, ac yr oedd y rhai eraill yn destun trafod cynnar o hyd.

 

PENDERFYNWYD

 

12.1    nodi canlyniad y broses Datganiadau o Ddiddordeb;

 

12.2    cymeradwyo'r ffordd arfaethedig ymlaen, fel y manylwyd ar hynny yn yr adroddiad;

 

12.3    cytuno, o ran ffurf ac amseriad yr ymgynghori ffurfiol ynghylch y rheolaeth yn y dyfodol ar y cyfleusterau nad oeddynt yn destun Datganiad o Ddiddordeb mewn perthynas â throsglwyddo ased, y dylai hyn ddigwydd yn 2017. Yn y cyfamser dylai trafodaethau anffurfiol barhau gyda'r 9 cyngor tref a chymuned nad oeddynt wedi cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb hyd yn hyn;

 

12.4    tynnu Parc Howard o'r broses trosglwyddo asedau a dal i gynnal y trafodaethau sydd ar waith ynghylch y trefniadau cynnal a chadw yn y dyfodol.

 

 

13.

ASESIAD DIGONOLRWYDD CYFLEOEDD CHWARAE A'R CYNLLUN GWEITHREDU 2016. pdf eicon PDF 561 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a Chynllun Gweithredu 2016, a oedd wedi eu llunio'n unol â gofynion Adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ac a oedd yn pennu bod dyletswydd ar awdurdodau lleol ledled Cymru i gwblhau a chyflwyno Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ynghyd â Chynllun Gweithredu ategol bob tair blynedd.  Pan fyddai'r asesiad yn clustnodi diffyg cyfleoedd chwarae i blant yn ardal yr Awdurdod Lleol, byddai'n rhaid i'r Cynllun Gweithredu bennu pa gamau yr oedd angen eu cymryd i wella'r cyfleoedd i'r plant.

 

Mynegwyd pryder ynghylch goblygiadau ariannol y cynllun hwn i'r Awdurdod ac ynghylch bod Llywodraeth Cymru yn gosod rhwymedigaethau statudol ar Awdurdodau Lleol heb roi dim cyllid ychwanegol iddynt.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a Chynllun Gweithredu 2016 i Lywodraeth Cymru.

 

 

14.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL YNGHYLCH EFFEITHIOLRWYDD Y GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL YN SIR GAERFYRDDIN YN 2015/16. pdf eicon PDF 338 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y fersiwn drafft o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch effeithiolrwydd y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn 2015/16. 

 

Dywedwyd bod rheidrwydd statudol ar Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i roi adroddiad yn flynyddol i'r Cyngor ynghylch y perfformiad a'r ddarpariaeth yn ogystal â'r cynlluniau i wella holl ystod y gwasanaethau cymdeithasol.

 

Yr oedd yr adroddiad yn manylu ar y perfformiad yn ystod 2015/16 ac yn amlinellu'r cynnydd oedd wedi ei wneud o ran y meysydd yr oedd adroddiad y llynedd wedi amlygu bod angen eu gwella, gan dynnu sylw at y meysydd oedd i'w datblygu yn ystod y flwyddyn gyfredol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch effeithiolrwydd y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn 2015/16 yn cael ei gymeradwyo.

 

 

15.

CYNHADLEDD DINASOEDD DYSG UNESCO. pdf eicon PDF 442 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol fod Abertawe yn un o'r 12 dinas ledled y byd oedd wedi eu cydnabod yn Ddinasoedd Dysg Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig (UNESCO), a hynny yn achos Abertawe am ei gwaith yn datblygu dysgu gydol oes drwy'r holl grwpiau oedran. 

 

Dywedwyd bod UNESCO yn cynnal cynhadledd Dinas Dysg ryngwladol bob dwy flynedd a bod Dinas a Sir Abertawe yn paratoi i gyflwyno cais am y gynhadledd yn 2017.  Byddai'r gynhadledd 3 diwrnod yn cael ei chynnal yn haf 2017 a hynny'n bennaf ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe. 

 

Yr oedd Dinas a Sir Abertawe wedi gofyn am lythyr cefnogaeth gan Gyngor Sir Caerfyrddin i'w gynnwys gyda'r cais i UNESCO.  Petai Abertawe yn llwyddiannus byddai'n gofyn am gymorth ariannol gan y partneriaid tuag at rai gweithgareddau, nad oeddynt yn hysbys hyd yn hyn.

 

PENDERFYNWYD rhoi llythyr cefnogaeth, mewn egwyddor, i Ddinas a Sir Abertawe, o ran ei chais i gynnal Cynhadledd Dinasoedd Dysg Ryngwladol Sefydliad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (UNESCO) yn 2017.

 

16.

DIWYGIADAU I BOLISI DEFNYDD A MONITRO E-BOST. pdf eicon PDF 559 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol fod y Polisi ynghylch Defnyddio'r E-bost a'i Fonitro wedi ei newid yn sgil cynnal adolygiad, a hynny er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r holl ofynion deddfwriaethol presennol.  Yr oeddid yn argymell y newidiadau er mwyn cryfhau'r polisi gan sicrhau ei fod yn unol â'r rhwymedigaethau statudol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r newidiadau i'r Polisi ynghylch Defnyddio'r E-bost a'i Fonitro.

 

 

17.

POLISI AR DDEFNYDD DDYFEISIADAU SYMUDOL. pdf eicon PDF 418 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol nad oedd polisi mewn grym ar hyn o bryd i ddiffinio'r arferion, y cyfrifoldebau a'r gweithdrefnau o ran defnyddio’r dyfeisiau symudol yr oedd y Cyngor yn eu darparu (ffonau clyfar, llechi, iPads, ac ati). 

 

Dywedwyd bod y Polisi ynghylch Defnyddio Dyfeisiau Symudol yn diffinio'r arferion, y cyfrifoldebau a'r gweithdrefnau o ran defnyddio'r dyfeisiau symudol yr oedd y Cyngor yn caniatáu iddynt gysylltu â'i rwydwaith.

 

Eglurwyd bod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y dyfeisiau symudol a ddefnyddir wrth i'r Cyngor hyrwyddo trefniadau gweithio symudol ar gyfer ei weithlu, gan hwyluso mwy o hyblygrwydd o ran bod yr aelodau etholedig a'r staff yn gallu cyrchu amryfal systemau'r Cyngor. Gan fod mwyfwy o bwyslais ar drefniadau gweithio mwy symudol, yr oeddid yn rhagweld y byddai cynnydd parhaus o ran nifer y dyfeisiau symudol fyddai'n cael eu defnyddio.

 

Felly, yn sgil y cynnydd hwn, yr oedd angen polisi a fyddai'n rheoli'r defnydd o ddyfeisiau symudol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a'r arferion gorau o ran rheoli dyfeisiau symudol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisiynghylch Defnyddio Dyfeisiau Symudol.

 

 

18.

YMGYNGHORI YNGHYLCH RHEOLEIDDIO CAFFAEL YNG NGHYMRU. pdf eicon PDF 498 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol fod Llywodraeth Cymru, ar 5ed Ebrill, 2016, wedi cyhoeddi dogfen ymgynghori oedd yn cynnwys 7 o gynigion ar gyfer Rheoliadau Caffael newydd yng Nghymru. Dywedwyd bod y cyfnod ymgynghori wedi gorffen ar 28ain Mehefin, 2016. Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried ymateb drafft oedd wedi ei lunio gan y swyddogion.

 

Byddai'r cynnydd o ran rheoliadau yn golygu bod yr Awdurdodau Lleol yn colli'r rhyddid a'r rheolaeth oedd ganddynt o ran rheoli eu cyfrifoldebau caffael, a hefyd byddai'n peri baich ychwanegol ynghyd â'r posibilrwydd o gostau ychwanegol i Lywodraeth Leol.

 

Mynegwyd pryder am oblygiadau'r rheoliadau i'r Awdurdodau Lleol ac am yr effaith andwyol ar yr economi leol. Yr oedd yr Awdurdod wedi cael ei orfodi i roi'r gorau i drefniadau da o ran pwrcasu ar y cyd ar draws y rhanbarthau a hynny er mwyn defnyddio system genedlaethol nad oedd, yn syml ddigon, yn gweithio.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ymateb i ddogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru ynghylch Rheoleiddio Caffael yng Nghymru.

 

</AI29>

 

19.

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIADAU SY'N YMWNEUD Â'R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

20.

GOSOD TIR YM MHARC PEN-Y-BONT, GLANAMAN AR BRYDLES I GLWB PÊL-DROED CWMAMAN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd D.M. Jenkins y cyfarfod cyn i'r Bwrdd ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 19 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar y cynnig i osod tir Parc Pen-y-bont yng Nglanaman ar brydles i Glwb Pêl-droed Cwmaman.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gytuno ar brydles newydd gyda Chlwb Pêl-droed Cwmaman ar y telerau yr oedd y Pennaeth Eiddo yn eu hargymell, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.