Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2023 yn gofnod cywir.
|
|||||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod dau o gwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||
CWESTIWN GAN CHARLIE EVANS I'R CYNGHORYDD DARREN PRICE, ARWEINYDD Y CYNGOR "O dan gynlluniau ar gyfer yr Ysbyty Gofal
Brys a Gofal wedi'i gynllunio newydd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol
Hywel Dda yn rhagweld y bydd 68% o weithlu Ysbyty Cyffredinol
Glangwili yn cael ei drosglwyddo i'r
ysbyty newydd. Mae hyn yn cyfateb i 2,625 aelod o staff, yn
seiliedig ar niferoedd 2022. Ysbyty Glangwili yw un o gyflogwyr mwyaf
Caerfyrddin.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: "O dan gynlluniau ar gyfer yr Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi'i gynllunio newydd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn rhagweld y bydd 68% o weithlu Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn cael ei drosglwyddo i'r ysbyty newydd. Mae hyn yn cyfateb i 2,625 aelod o staff, yn seiliedig ar niferoedd 2022. Ysbyty Glangwili yw un o gyflogwyr mwyaf Caerfyrddin. O ystyried bod gan y Cyngor gyfrifoldebau dros ein trefi, pa effaith ydych chi'n credu y bydd hyn yn ei chael ar dref Caerfyrddin?"
Ymateb gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd y Cyngor:- “Diolch Mr. Evans. Fel y gwyddoch, y Bwrdd Iechyd fydd yn penderfynu ynghylch ailstrwythuro gofal ysbyty yn Ne-orllewin Cymru wrth gwrs, ac, yn y pen draw, os caiff ei gymeradwyo, bydd yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru. Mae'n glir bod gennych ddiddordeb amlwg yn y mater hwn, a byddwn yn awgrymu efallai ei fod yn werth i chi gysylltu'n uniongyrchol â'r Bwrdd Iechyd yn ei gylch.
Fodd bynnag, mae hwn yn fater sy'n amlwg o ddiddordeb i'r boblogaeth leol, gan fod Glangwili wedi bod, a bydd yn parhau i fod, yn rhan bwysig o wead y dref. Yn wir mae aelodau etholedig lleol yng Nghaerfyrddin wedi ymgyrchu ers tro i gadw a datblygu Ysbyty Glangwili - a dweud y gwir, lansiwyd ac arweiniwyd yr ymgyrch i wneud hynny gan gynghorwyr lleol Plaid Cymru yn y dref - dau sydd bellach yn aelodau Cabinet ac sy'n eistedd yn y siambr y bore 'ma.
Pan dorrodd y newyddion am y bwriad i ad-drefnu'r ddarpariaeth ysbyty ym mis Mawrth 2018, galwodd y Cynghorydd Alun Lenny, Maer y Dref ar y pryd, gyfarfod cyhoeddus a threfnu deiseb ar-lein a ddenodd dros 5,000 o enwau mewn byr iawn o amser. Cefnogwyd hyn gan bob plaid ar y Cyngor Tref, a oedd dan arweiniad Plaid.
Cafodd y Cynghorydd Gareth John y dasg wedyn gan gr?p Plaid Cymru ar y cyngor sir i baratoi ymateb manwl i'r ymgynghoriad gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda ynghylch trawsnewid gwasanaethau clinigol. O ganlyniad, ym mis Mehefin 2018, cyflwynwyd ymateb manwl 14 tudalen i'r Bwrdd. Wrth ddadlau achos Glangwili, tynnodd sylw at y ffaith bod bron i hanner (48%) poblogaeth ardal y Bwrdd Iechyd yn byw yn Sir Gaerfyrddin, a bod Glangwili wedi'i leoli'n agos iawn i ganol y sir.
Yn wir, y llynedd galwodd cynghorwyr tref Plaid Cymru yng Nghaerfyrddin a'r Aelod o'r Senedd Adam Price ar y Bwrdd Iechyd i amddiffyn gwasanaethau a'r ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys yng Nglangwili, fel rhan o unrhyw ad-drefnu gofal iechyd yn Ne-orllewin Cymru.
Fodd bynnag, fel y gwyddoch, rydym bellach mewn sefyllfa lle mae'r Bwrdd Iechyd yn ystyried 3 safle y tu allan i dref Caerfyrddin ar gyfer yr ysbyty gofal brys a gofal wedi'i gynllunio newydd, serch bod y safleoedd arfaethedig o fewn ffiniau'r sir.
Rwy'n deall bod yn rhaid i'r Bwrdd Iechyd wneud gwaith pellach (a'i fod yn bwriadu gwneud hynny) i ddeall yn well effaith economaidd ei newidiadau arfaethedig i'r ddarpariaeth ysbyty fel ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.1 |
|||||||
CWESTIWN GAN HARVARD HUGHES I'R CYNGHORYDD ANN DAVIES, YR AELOD CABINET DROS FATERION GWLEDIG A PHOLISI CYNLLUNIO “Yn ei ymateb fel ymgynghorwr statudol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn tynnu sylw at y risg 'y byddai llifogydd yn effeithio ar rannau sylweddol o lwybr Beicio Dyffryn Tywi' ac mae'n gofyn am Gynllun Rheoli Perygl Llifogydd. Pryd fydd hyn yn cael ei gwblhau ac ar gael i'r cyhoedd?”
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorydd C.A. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.] “Yn ei ymateb fel ymgynghorwr statudol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn tynnu sylw at y risg 'y byddai llifogydd yn effeithio ar rannau sylweddol o lwybr Beicio Dyffryn Tywi' ac mae'n gofyn am Gynllun Rheoli Perygl Llifogydd. Pryd fydd hyn yn cael ei gwblhau ac ar gael i'r cyhoedd?”
Ymateb gan y Cynghorydd Ann Davies, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio :- “Rwyf eisoes wedi datgan buddiant yn yr eitem hon gan fy mod yn ffermio ac yn berchen ar dir ar hyd Dyffryn Tywi, ac felly mae gen i fuddiant personol ym Mhrosiect Llwybr Beicio Dyffryn Tywi. Rwyf heb ofyn am ollyngiad gan y Pwyllgor Safonau gan fy mod yn teimlo fy mod yn rhy agos i'r llwybr sy'n mynd yn uniongyrchol drwy ein tir. Rwy'n gadael y siambr neu unrhyw bwyllgor pan caiff y prosiect hwn ei drafod, ac ni fyddaf yn gadael heddiw gan na ellir cael trafodaeth ar y mater oherwydd fy muddiant. Ond gallaf ddiolch yn fawr iawn i chi am eich cwestiwn a rhoi gwybod i chi fod eich cwestiwn wedi'i gyfeirio i'r adran berthnasol a fydd yn ymateb i chi'n ysgrifenedig. Ond ni allaf drafod y mater hwn. Diolch yn fawr.”
Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.
|
|||||||
CYFLWYNO DEISEB
Nodyn: Er mwyn cael eu hystyried mewn cyfarfod ffurfiol rhaid i bob deiseb gynnwys 50 o lofnodion etholwyr cofrestredig ar gyfer copïau papur a 300 o lofnodion etholwyr cofrestredig ar gyfer e-ddeisebau. Mae cyfanswm Llofnodion Etholiadol Sir Gaerfyrddin hyd at y trothwy o 50 wedi'u dilysu. Nid ydym wedi gwirio'r llofnodion wedi hynny.
“Rydym ni'r rhai sydd wedi llofnodi isod yn gofyn am weithredu ar unwaith gan Gyngor Sir Caerfyrddin i gynllunio, ariannu ac adeiladu toiledau yn Nwyrain Harbwr Porth Tywyn a Gorllewin Harbwr Porth Tywyn. Deiseb i ddatrys absenoldeb toiledau cyhoeddus digonol a hygyrch yn Harbwr Porth Tywyn.” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 9 o gyfarfod y Cyngor ar 10 Mai 2023, croesawodd y Cadeirydd i'r cyfarfod Mrs. Katherine Start a oedd wedi cael gwahoddiad i gyflwyno'r ddeiseb ganlynol ynghylch toiledau yn Harbwr Porth Tywyn ac i annerch y Cabinet yn ei chylch:
“Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn gofyn i Gyngor Sir Caerfyrddin weithredu ar unwaith i gynllunio, i ariannu ac i adeiladu toiledau yn nwyrain Harbwr Porth Tywyn ac yng ngorllewin Harbwr Porth Tywyn. Deiseb i unioni'r diffyg toiledau cyhoeddus digonol a hygyrch yn Harbwr Porth Tywyn.”
Amlinellodd Mrs. Start i'r Cyngor y rhesymeg dros y ddeiseb.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth y byddai'r adran yn ymchwilio i'r materion a godwyd yn y ddeiseb ac yna byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o Gabinet y Cyngor yn y dyfodol.
Yn dilyn y cyflwyniad, trosglwyddodd Mrs. Start y ddeiseb yn ffurfiol i'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y ddeiseb a chyflwyno adroddiad am y materion a godwyd i'r Cabinet maes o law.
|
|||||||
POLISI ENWI STRYDOEDD A RHIFO EIDDO Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 9.1 o gyfarfod y Cyngor ar 28 Medi 2022, rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad ar y sylwadau oedd wedi dod i law yn ystod y cyfnod ymgynghori dilynol ar y Polisi Enwi Strydoedd a Rhifo Eiddo. Roedd chwe ymateb/sylw wedi dod i law fel y manylwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad, a dywedwyd nad oedd yr un ohonynt wedi gofyn am welliant penodol i'r Polisi drafft, ac felly argymhellwyd mabwysiadu hwnnw.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR y dylid mabwysiadu'r Polisi Enwi Strydoedd a Rhifo Eiddo drafft.
|
|||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 28 Chwefror 2023, o ran 2022/2023. Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld gorwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £6.159k ac yn rhagweld gorwariant o £470k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod. Ar lefel uchel, roedd hyn o ganlyniad i gyfuniad o'r canlynol:
· setliadau cyflog a drafodir yn genedlaethol (heb eu penderfynu hyd yn hyn) ar lefelau llawer uwch na'r hyn a gyllidebwyd, ac nid oedd y llywodraeth wedi darparu cyllid ychwanegol ar gyfer hyn; · gorwariant mewn meysydd gwasanaeth o achos galw cynyddol ynghyd â llai o gyllid grant o gymharu â blynyddoedd blaenorol, yn enwedig yn y Gwasanaeth Anableddau Dysgu a Phlant; · gostyngiad parhaus mewn incwm masnachol, gan gynnwys meysydd parcio, canolfannau hamdden a phrydau ysgol; · tanwariant cyllido cyfalaf oherwydd oedi o ran y cynllun a llai o angen i fenthyca.
Rhagwelwyd byddai tanwariant o £850k ar gyfer 2022/23 o ran y Cyfrif Refeniw Tai. Byddai hyn yn cael ei adolygu wrth i'r materion sylweddol a nodwyd ddod yn gliriach o safbwynt ariannol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
8.1 Derbyn adroddiad Monitro'r Gyllideb, a nodi'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol a gymerwyd;
8.2 O ran gorwariant sylweddol ar feysydd penodol o'r gyllideb, bydd y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'n feirniadol yr opsiynau sydd ar gael iddynt er mwyn mynd i'r afael â'r effaith barhaus.
|
|||||||
DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2022/23 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad a oedd yn amlinellu'r sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf ar gyfer rhaglen gyfalaf 2022/23, fel yr oedd ar 28 Chwefror 2023 gan fanylu ar y prosiectau newydd i'w nodi a'u cymeradwyo gan y Cabinet.
Fel rhan o gylch monitro mis Rhagfyr roedd £56,878k wedi cael ei drosglwyddo i'r blynyddoedd i ddod ac wedi'i gynnwys yn Rhaglen Gyfalaf newydd 2023-2028, a olygai bod cyllideb waith y gronfa gyffredinol yn agosach i'r alldro a ragwelir ar gyfer y flwyddyn. Nid yw'r cyllidebau Cyfrif Refeniw Tai yn newid.
Yn adrannol rhagwelwyd gwariant net o £54,673k o gymharu â chyllideb net weithredol o £93,787k gan roi £39,115k o amrywiant.
Roedd rhai cyllidebau wedi cael eu diwygio yn unol â’r gwahaniaethau yn y dyraniadau grant gwirioneddol o gymharu â'r dyraniadau disgwyliedig pan gafodd y rhaglen ei chymeradwyo, a grantiau newydd oedd wedi dod i law yn ystod y flwyddyn hyd yn hyn.
Nodwyd bod Atodiad B yn manylu ar y prif amrywiannau ym mhob adran.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
9.1 bod yr adroddiad ar ddiweddaru'r rhaglen gyfalaf yn cael ei dderbyn;
9.2. bod y prosiectau newydd, fel yr oeddent yn yr adroddiad, yn cael eu nodi a'u cytuno.
|
|||||||
STRATEGAETH HYBU 2023-28 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Cabinet Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg arfaethedig 2023-28 y bu'n ofynnol i'r Cyngor ei llunio a'i chyhoeddi yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau'r Gymraeg. Roedd y strategaeth 5 mlynedd yn nodi sut bwriadai'r Cyngor hyrwyddo'r Gymraeg a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yn ehangach yn Sir Gaerfyrddin.
Diolchwyd i Fforwm Strategol y Gymraeg y Sir, sef prif gyfrwng cynllunio'r Strategaeth yn ogystal â chraffu arni, am ei gyfraniad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg arfaethedig 2023-28 i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a hyrwyddo'r defnydd o'r Iaith ar draws Sir Gaerfyrddin.
|
|||||||
POLISI AR DDYFARNU GRANTIAU A'R IAITH GYMRAEG Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried Polisi arfaethedig ar Ddyfarnu Grantiau a'r Gymraeg i'r Cyngor er mwyn sicrhau cysondeb ar draws cynlluniau grant. Roedd y Polisi wedi cael ei baratoi er mwyn cydymffurfio â Mesur y Gymraeg (Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011). Roedd hysbysiad cydymffurfio Cyngor Sir Caerfyrddin yn nodi bod yn rhaid iddo 'lunio a chyhoeddi polisi ar ddyfarnu grantiau' sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni ystyried pa effaith fydd dyfarnu grant yn ei chael ar 'gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg', a 'pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg'. Roedd y Polisi yn manylu ar ymrwymiad y Cyngor i roi Grantiau yn unol â'r Safonau ac yn esbonio'r ffordd y byddai'r Cyngor yn trosglwyddo'r dyletswyddau hyn i'r ymgeiswyr.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi arfaethedig ar Ddyfarnu Grantiau a'r Gymraeg. |
|||||||
CYNLLUN RHEOLI ASEDAU CORFFORAETHOL 2023-2028 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i Gynllun Rheoli Asedau Corfforaethol arfaethedig 2023-2028 a'i ddiben oedd dal ar lefel uchel oblygiadau asedau materion eiddo oedd gan wasanaethau a achoswyd gan wahanol ffactorau megis newidiadau mewn agendâu lleol a chenedlaethol, pwysau ariannol a newidiadau i anghenion cleientiaid. Lle bo'n briodol, roedd gofynion eiddo manwl amrywiol wasanaethau wedi eu cofnodi yng Nghynlluniau Rheoli Asedau y Gwasanaeth. Roedd y Cynllun hefyd yn rhoi trosolwg o bortffolio asedau'r Cyngor nad ydynt yn ymwneud â thai o ran costau rhedeg, cynaliadwyedd a phroblemau cynnal a chadw, gan arwain at gynllun gweithredu i gwmpasu'r cynlluniau o sylwedd sy'n gysylltiedig ag eiddo.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Crynodeb a Chynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2023-2028.
|
|||||||
BEICIO I'R GWAITH A BENTHYCIADAU I BRYNU CEIR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad a roddai ddiweddariad yn dilyn adolygiad o gynllun presennol yr Awdurdod o ran Beicio i'r Gwaith a Benthyciadau i Brynu Ceir.
Roedd y Cynllun Beicio i'r Gwaith wedi'i sefydlu 11 mlynedd yn ôl a bernid ei fod wedi dyddio bellach. Roedd technoleg well yn y diwydiant beicio nid yn unig wedi arwain at gostau prynu uwch ar gyfer beiciau ffordd traddodiadol ond roedd yr opsiwn i brynu beiciau trydan newydd hefyd yn fwy deniadol.
Roedd y cynllun Benthyciadau i Brynu Ceir (Cymorth â Phrynu Car) wedi bod ar waith ers 1998. Roedd wedi'i gynnwys yn Amodau Gwasanaeth y Cyngor a byddai angen ymgynghori â'r Undebau Llafur cydnabyddedig ar unrhyw newid i'r cynllun presennol neu unrhyw fwriad i gael gwared arno.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
13.1 cynyddu'r terfyn ar gyfer prynu beiciau ac ategolion o dan y Cynllun Beicio i'r Gwaith o £1,000 i £3,500;
13.2 ymestyn cyfnod y cytundeb o dan y Cynllun Beicio i'r Gwaith o'r 12 mis presennol i 24 mis ar gyfer pryniannau o fwy na £1,000;
13.3 oherwydd costau a chwyddiant cynyddol, bydd uchafswm y benthyciad ymlaen llaw o dan y cynllun benthyciadau i brynu ceir yn cynyddu o £7,350.00 i £9,999.00 o 1 Gorffennaf 2023.
|
|||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.
|
|||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NIDDYLID CYHOEDDI’RADRODDIADAU SY’NYMWNEUD Â’R Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|||||||
LLAIN 1 PARC ADWERTHU TROSTRE, LLANELLI Cofnodion: Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 15 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon yn anfantais faterol i'r awdurdod mewn unrhyw drafodaethau dilynol â thrydydd partïon, a gallai gael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus.
Gan gyfeirio at gofnod 10 o gyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar 16 Rhagfyr 2019, rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a fanylai ar geisiadau gan ddatblygwr y safle uchod i · ymestyn y cytundeb tir am gyfnod pellach o 12 mis; · ystyried gostyngiad pellach yn y pris prynu i adlewyrchu costau annormal eithriadol annisgwyl; · cynnwys darn pellach o dir o fewn ardal y brydles i fynd i'r afael â materion ecolegol sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL beidio ag ystyried y cais am ostwng y prisprynu.
|