13 PROTOCOL AR GYFER ENWEBU CADEIRYDD Y CYNGOR PDF 304 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad a oedd yn awgrymu protocol ar gyfer enwebu Cadeirydd y Cyngor ar gyfer cyfnod 2017/18 i 2022/23. Mae cael protocol ar waith yn cynorthwyo â'r paratoadau ar gyfer y Cyfarfod Blynyddol bob blwyddyn, gyda'r Cyngor yn cytuno ar enwebiadau yn ystod ei gyfarfod ym mis Ebrill (heblaw yn ystod blwyddyn etholiadau'r Cyngor Sir).
Roedd y Cyngor blaenorol wedi mabwysiadu protocol ar gyfer enwebu Cadeirydd y Cyngor hyd at Flwyddyn y cyngor 2017/18 ac os oedd y Cyngor yn penderfynu defnyddio protocol tebyg i'r un blaenorol, byddai'r enwebiadau fel a ganlyn:-
2017/18 Annibynnol (fel y cytunwyd yn y Cyngor ar 1 Mehefin)
2018/19 Plaid Cymru
2019/20 Llafur
2020/21 Annibynnol
2021/22 Plaid Cymru
2022/23 Llafur
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL mabwysiadu'r protocol ar gyfer enwebu Cadeirydd y Cyngor, fel y manylwyd arno uchod ar gyfer y cyfnod 2017/18 i 2022/23.