6 BLAENRAGLEN WAITH AR GYFER 2022/23 PDF 104 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor, yn unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor, ei Flaengyllun Gwaith drafft ar gyfer 2022/23. Bu'r Pwyllgor hefyd yn ystyried ei drefniadau Gorchwyl a Gorffen ar gyfer 2022/23-24.
Yn ei sesiwn datblygu Blaengynllun Gwaith anffurfiol ar 21 Medi 2022, dechreuodd y Pwyllgor y broses o lunio'r blaengynllun gwaith ar gyfer 2022/23. Mae canlyniad y sesiwn ddatblygu bellach wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor yn y Blaengynllun Gwaith i'w gadarnhau.
Datblygodd yr aelodau Flaengynllun Gwaith y Pwyllgor gan ystyried y pynciau sy'n peri pryder o fewn maes gorchwyl y Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd, gan reoli'r agenda drwy Fethodoleg Porth.
Hefyd, drwy gydol y flwyddyn, nododd yr Aelodau y byddent yn ystyried Blaengynllun Gwaith y Cabinet er mwyn nodi adroddiadau cyn gwneud penderfyniadau y maent am eu rhoi ar y Blaengynllun Gwaith Craffu
Roedd yr adroddiad yn rhoi sylw i'r ffaith bod y Pwyllgor, yn ei gyfarfod ar 2 Gorffennaf 2021, wedi cytuno'n ffurfiol bod y trefniadau Gorchwyl a Gorffen ar gyfer 2021/22-2023 yn cael eu cyflawni yn y drefn ganlynol:-
1) Adolygu'r gwaith o Reoli Tipio Anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin
2) Adolygu bridio c?n yn Sir Gaerfyrddin.
Gofynnwyd i'r Pwyllgor nodi'r trefniadau a gytunwyd yn flaenorol ar gyfer yr adolygiadau Gorchwyl a Gorffen ar gyfer 2022/2023-2024.
Wrth ystyried y trefniadau ar gyfer yr adolygiadau Gorchwyl a Gorffen, codwyd pryder ynghylch yr amser y byddai'n ei gymryd i gynnal yr adolygiad bridio c?n. Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r Pwyllgor Craffu ond yn ymgymryd ag un Adolygiad Ymchwiliol (Gorchwyl a Gorffen) o fewn blwyddyn y cyngor, ond y gobaith oedd y byddai'r adolygiad o Reoli Tipio Anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei gwblhau erbyn mis Ebrill 2023, gan ganiatáu i'r adolygiad bridio c?n yn Sir Gaerfyrddin ddechrau yn ystod blwyddyn y cyngor 2023-2024.
Yn ogystal, mewn perthynas ag adolygiad y Gr?p Gorchwyl a Gorffen o Fridio C?n yn Sir Gaerfyrddin, dywedodd y Pennaeth Tai wrth y Pwyllgor nad yw'r amodau a'r ddeddfwriaeth o ran bridio c?n wedi dod i law eto gan Lywodraeth Cymru ac felly byddai'n well ddechrau'r adolygiad y flwyddyn nesaf.
6.1 gymeradwyo'r Blaengynllun Waith Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd ar gyfer 2022/22.
6.2 cyflwyno Blaengynllun Waith Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd ar gyfer 2022/23 gydag adroddiadau cyn gwneud penderfyniadau a nodwyd o Flaengynllun y Cabinet i'w cymeradwyo yn y cyfarfod nesaf.
6.3 Nodi'r trefniadau ar gyfer adolygiadau Gorchwyl a Gorffen ar gyfer 2022/23 - 2023/2024 fel y nodir o fewn yr adroddiad.