Mater - cyfarfodydd

BUSINESS PLAN ENVIRONMENT

Cyfarfod: 19/04/2021 - Pwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd (eitem 6)

6 CYNLLUN BUSNES ADRANNOL YR AMGYLCHEDD 2021/22 pdf eicon PDF 411 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Aeth y Pwyllgor ati i ystyried Cynllun Busnes Drafft 2021/22 Adran yr Amgylchedd mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny o fewn ei faes gorchwyl fel a ganlyn:

 

  • Priffyrdd a Thrafnidiaeth
  • Gwasanaethau Gwastraff ac Amgylcheddol
  • Gwella Busnes

 

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd yr adroddiad gan egluro bod y Cynllun Busnes yn darparu crynodeb o'r camau gweithredu a'r mesurau allweddol sy'n ofynnol i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth Gorfforaethol ac Amcanion Llesiant y Cyngor ac fe'i cefnogwyd gan gynlluniau adrannol manwl a oedd yn destun adolygiad rheolaidd.

 

Rhoddwyd gwybod, oherwydd pandemig Coronafeirws COVID-19, fod y cynllun yn gynllun cryno, gan y byddai fel arfer yn cynnwys adran adolygu, a gafodd sylw yn Asesiadau Effaith COVID-19 ar Wasanaethau a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Craffu o'r blaen.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·       Gofynnwyd am eglurhad am gamau gweithredu a beth fyddai llwyddiant yn ei olygu.  Gofynnwyd am y camau gweithredu allweddol a sut yr oedd y mesurau sy'n priodoli'r camau gweithredu yn gysylltiedig? 

 

Esboniodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod y cynlluniau busnes wedi cael eu cyflwyno mewn dull gwahanol eleni oherwydd y pandemig.  Cafodd y pandemig effaith ar amseriad arferol datblygiad Cynlluniau Busnes gan fod gofyn i swyddogion ganolbwyntio ar ymateb i'r pandemig.  Felly, gwnaed penderfyniad corfforaethol i gyflwyno fersiwn o'r cynllun ar ffurf tabl a oedd yn wahanol i'r hyn roedd y Pwyllgor wedi ei gael yn y blynyddoedd diwethaf a oedd yn cynnwys y naratif i ddarparu cefndir i'r gweithredu allweddol.

 

Hefyd, esboniodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ddiben Cynlluniau Busnes gan fod y cynlluniau busnes yn galluogi adrannau i nodi'r meysydd gwaith y byddai'n parhau i'w cyflawni. Roedd hyn yn bwysig i sicrhau y byddai'r cynllun, pe bai arbedion effeithlonrwydd yn cael eu gwneud, yn darparu esboniad yngl?n â sut y byddai gwasanaethau'n parhau i gael eu darparu.  Yn ogystal, defnyddiwyd y cynlluniau fel platfform i nodi dyheadau a chwilio am gyfleoedd newydd.

 

·       Mewn ymateb i sylw a godwyd yn awgrymu bod y Cynllun Busnes yn generig iawn ac y byddai mwy o fanylion ar amserlenni yn fuddiol, pwysleisiodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod Cynllun Busnes 2021/22 wedi'i ddatblygu mewn fformat cryno a phe bai gan y Pwyllgor adborth cyffredinol ar y modd yr ysgrifennwyd y Cynlluniau Busnes, byddai angen trafodaethau pellach.  Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ei bod yn croesawu barn y Pwyllgorau o ran datblygu cynlluniau busnes yn y dyfodol, ond o ran y cynllun hwn, byddai'n fuddiol cael gwybodaeth am ba gamau yr hoffai'r Pwyllgor gael rhagor o wybodaeth amdanynt.  Rhoddodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar i'r Pwyllgor o ran y datblygiadau i'r sector Trafnidiaeth.

 

·       Yng ngoleuni'r sylwadau a godwyd ynghylch cynnwys y cynlluniau busnes, nododd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod Cynlluniau Busnes Adrannol yn lefel uchel a'u bod yn derbyn cefnogaeth gan Gynlluniau Busnes Adrannol sy'n darparu rhagor o wybodaeth.  Fodd bynnag, roedd wedi nodi'r sylwadau a byddai'n ystyried y camau ymhellach gan sicrhau bod gan bob un fesur cyfatebol er mwyn asesu effaith y camau gweithredu.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6