Agenda item

CANLYNIADAU ARHOLIADAU AC ASESIADAU ATHRAWON A DATA PRESENOLDEB YSGOLION (HEB EU CADARNHAU)

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ynghylch Canlyniadau Arholiadau ac Asesiadau Athrawon a Data Presenoldeb yn yr Ysgolion (heb eu cadarnhau) ar gyfer 2015 a chafodd gyflwyniad arnynt. Nodwyd y byddai'r data'n cael ei wirio a'i gyflwyno yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd cwestiwn ynghylch effaith bosibl amseroedd teithio ar berfformiad disgyblion. Dywedodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion y gellid edrych ar hyn yn rhanbarthol drwy samplu 10 ysgol a chymharu sampl o ddisgyblion oedd yn byw gryn bellter o'r ysgol o gymharu â sampl o ddisgyblion oedd yn byw'n lleol.

 

Estynnodd y Pwyllgor longyfarchiadau i'r swyddogion ar y gwelliannau mewn perfformiad a phresenoldeb. Gofynnwyd a oedd digon o gyhoeddusrwydd wedi cael ei roi i hyn. Nododd y Pryf Swyddog Addysg/Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod datganiadau i'r wasg ynghylch canlyniadau Ysgol Glanymôr wedi cael eu cyhoeddi ar ddiwrnod y canlyniadau. Dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai'r adroddiad data (wedi'i wirio) a fyddai'n cael ei roi gerbron y Pwyllgor yn gyfle arall i ddathlu'r canlyniadau.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith fod asesiadau athrawon cyson ar gyfer CA2 a CA3 yn rhan o feini prawf Estyn ar gyfer ysgol lwyddiannus. Dywedodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion fod Llywodraeth Cymru wedi rhagdybio fod athrawon yn ddigon aeddfed i wneud asesiadau cywir ond ni chafwyd dim canllawiau cenedlaethol ac roedd yr arweiniad ar gyfer y model "ffit-orau" wedi cael ei ddehongli mewn ffyrdd gwahanol. Roedd Aneirin Thomas (Ymgynghorydd Her, Arweinydd Tîm) yn arwain adolygiad rhanbarthol ERW oedd yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch sut y gellid gwella'r system a'i phlismona. Un o'r awgrymiadau oedd bwrw golwg ar bortffolio cyfan plentyn ac roedd Estyn bellach yn gofyn i weld llyfrau'r disgyblion. Hefyd roedd yn fwriad cymedroli asesiadau iaith yn y Gymraeg a'r Saesneg flwyddyn nesaf i wella cysondeb. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr fod adolygiad Llywodraeth Cymru o asesiadau yn 2013 wedi dod i'r casgliad nad oedd dim gwerth iddynt at bwrpas cymharu perfformiad. Dylai canlyniadau'r peilot cymedroli gael eu cyhoeddi yn y misoedd nesaf.

 

Hefyd gofynnwyd a fyddai modd cyflwyno canlyniadau CA3 yn ôl categori iaith yr ysgolion. Cytunodd y Cyfarwyddwr i gynnwys hyn yn yr adroddiad data (wedi'i wirio) a gynlluniwyd ar gyfer Ionawr 2016.

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch yr ystod oedran ar gyfer y profion cenedlaethol llythrennedd a rhifedd a gofynnwyd pam roedd canlyniadau'r iaith Gymraeg yn is na chyfartaledd Cymru. Dywedodd y Prif Swyddog Addysg/Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod hwn yn ffigur cyffredinol ar gyfer blynyddoedd 2 i 9. Ychwanegodd fod y profion llythrennedd Cymraeg yn asesu Cymraeg iaith gyntaf yn unig mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Roedd dros 60% o'r disgyblion a oedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn dod o aelwydydd nad oeddynt yn siarad Cymraeg ond byddai angen dadansoddi'r canlyniadau a'u cymharu â siroedd eraill tebyg i weld lle gellid gwneud gwelliannau.

 

Nodwyd mai un o'r blaenoriaethau eleni oedd gwella perfformiad dysgwyr sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (e-FSM). Dywedodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion fod y mater hwn yn flaenoriaeth genedlaethol yn ogystal ag yn flaenoriaeth leol. Roedd enghreifftiau cadarnhaol yn lleol o'r modd y defnyddiwyd y Grant Amddifadedd Disgyblion ond hefyd enghreifftiau lle na chafwyd dim gwelliannau, serch y Grant Amddifadedd Disgyblion. Bellach roedd Llywodraeth Cymru yn dymuno cael canlyniadau'r Grant Amddifadedd Disgyblion ac yn y dyfodol byddai'r ysgolion lle roedd llai na 30% o ddysgwyr e-FSM yn llwyddo i gael Lefel 2 (5 TGAU graddau A*C) yn cael eu rhoi yng nghategori 3 (oren) yn awtomatig. 30% oedd targed ERW eleni a byddai'n 32% flwyddyn nesaf. Awgrymodd y Pwyllgor y gellid llunio gr?p gorchwyl a gorffen i wneud ymchwil fanwl i'r maes hwn. Croesawodd y Cyfarwyddwr y syniad, gan dynnu sylw at werth ychwanegol y gwaith y byddai'r Aelodau'n ei wneud.

 

Nodwyd bod trefniadau craffu ar y cyd ar gyfer ERW yn cael eu llunio, gan gychwyn gyda thrafodaethau anffurfiol rhwng swyddogion craffu a Rheolwr-gyfarwyddwr ERW. Gofynnwyd i'r Pwyllgor a fyddai'n barod enwebu Cadeirydd ac Is-gadeirydd i'w gynrychioli mewn cyfarfodydd, seminarau neu ddigwyddiadau rhanbarthol er mwyn datblygu rhagor ar y trefniadau craffu rhanbarthol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

8.1       Cymeradwyo'r adroddiad

 

8.2       Sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen i gynnal adolygiad o'r bwlch cyrhaeddiad o ran dysgwyr sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.

 

8.3       Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cadeirydd dderbyn enwebiadau i wasanaethu ar y Gr?p Gorchwyl a Gorffen, a fyddai'n gytbwys yn wleidyddol, gan arweinwyr y grwpiau gwleidyddol (2 Annibynnol, 2 Llafur a 2 Plaid Cymru).

 

8.4      Estyn gwahoddiad i'r aelodau cyfetholedig o'r Pwyllgor ymuno â'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

 

8.5       Enwebu'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd i gynrychioli'r Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant ym  mhob digwyddiad a gynhelir i ddatblygu trefniadau craffu ar y cyd ar draws rhanbarth ERW.

 

Dogfennau ategol: