Agenda item

CYNNAL CLUDIANT I’R YSGOL/COLEG AR GYFER DISGYBLION ÔL-16

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd D.J.R. Bartlett wedi datgan buddiant sef ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol Dyffryn Aman.

 

Roedd y Cynghorydd C.A. Campbell wedi datgan buddiant sef bod ganddo ddau o blant mewn addysg uwchradd a allai barhau mewn addysg ôl-16.

 

Roedd y Cynghorydd A. James wedi datgan buddiant sef bod ganddo blant mewn addysg amser llawn. 

 

Roedd Mr. S. Pearson wedi datgan buddiant sef bod ganddo blant mewn addysg amser llawn. 

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a fanylai ar gynnig i godi tâl am gludiant i'r ysgol/coleg ar gyfer disgyblion ôl-16. Cyflwynwyd yr adroddiad i aelodau'r ddau Bwyllgor Craffu er mwyn iddynt roi sylwadau, fel rhan o'r broses ymgynghori ffurfiol.

 

Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg wrth y Pwyllgor fod y Cyngor Sir, yn ei gyfarfod ar 24ain Chwefror 2015, wedi cymeradwyo strategaeth tair blynedd y gyllideb, a bod rhan o hynny'n cynnwys cytundeb "i barhau â'r Gwasanaeth Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol/Coleg gan fynd ati i godi tâl, a fyddai'n cael ei gyflwyno'n raddol dros nifer o flynyddoedd", yn amodol ar "eithrio unrhyw blant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim yn ogystal ag eithrio'r plant sy'n ddisgyblion yn ysgol Pantycelyn ar hyn o bryd”.

 

Hefyd atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg fod cludiant ôl-16 yn wasanaeth anstatudol a bod y Cyngor hyd yma wedi dewis defnyddio disgresiwn a darparu gwasanaeth. Fodd bynnag, oherwydd yr her ariannol sylweddol a wynebai'r Awdurdod ar hyn o bryd a hyd y gellir rhagweld yn y dyfodol, roedd y cynnig hwn wedi cael ei lunio er mwyn cynnal gwasanaeth cludiant ôl-16, yn dilyn trafodaethau â'r prif bartneriaid.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at drafodaethau mewn cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ym Mehefin 2015 pryd y rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod trafodaethau'n cael eu cynnal gydag ysgolion a Choleg Sir Gâr a gofynnwyd pa gynnydd a wnaethpwyd. Hefyd gofynnwyd am eglurhad mewn perthynas â'r cymhorthdal a ddarperir i'r gwasanaeth ar hyn o bryd. Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg wrth y Pwyllgor fod swyddogion wedi ceisio, trwy gydol y trafodaethau, i gynnal y gwasanaeth. Roedd y Coleg hefyd yn wynebu pwysau ariannol ac er bod y swyddogion wedi ceisio cael rhagor o gyfraniadau, nid oedd hynny'n bosibl. Fodd bynnag, roedd y Coleg wedi ymrwymo i gynnal ei gyfraniad presennol sef tua £700,000 i gefnogi'r gwasanaeth. £477,000 oedd effaith net cymhorthdal yr Awdurdod.

 

Yn ateb i gwestiwn ynghylch y penderfyniad a wnaed gan y Cyngor Sir yn Chwefror 2015, ail-gadarnhaodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg y byddai unrhyw ddisgyblion a oedd yn derbyn prydau ysgol am ddim yn cael eu heithrio rhag y tâl ac y byddai'r holl blant sy'n ddisgyblion yng Nghampws Pantycelyn o Ysgol Bro Dinefwr ar hyn o bryd, yn cael eu heithrio hefyd. Fodd bynnag, yn achos plant ysgol gynradd yn ardal Llanymddyfri a fyddai'n symud i Ysgol Bro Dinefwr yn y dyfodol, ni fyddent hwy'n cael eu heithrio petaent yn dymuno parhau mewn addysg ôl-16.   

 

Awgrymwyd bod addysg yn ffactor allweddol o ran gwella lles cymunedau a mynegwyd pryder mawr y byddai codi tâl nid yn unig yn amddifadu'r bobl ifanc hynny a oedd yn dlotach yn ariannol ond hefyd y rhai oedd yn dlawd yn ddiwylliannol ac nad oeddynt o anghenraid yn cael eu gwerthfawrogi na'u cefnogi gartref rhag cael safon dda o addysg. Roedd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg yn cydnabod bod hwn yn fater anodd ac y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i holl sylwadau'r Pwyllgor fel rhan o'r broses ymgynghori. 

 

Cyfeiriwyd at Gr?p Ffocws yr aelodau a gyfarfu yn y misoedd diwethaf i drafod y polisi cludiant i'r ysgol. Dywedwyd bod y Gr?p yn unedig yn ei wrthwynebiad i godi tâl am gludiant ôl-16 ond pan ddaethant wyneb yn wyneb â gwir sefyllfa'r gyllideb roedd yr aelodau'n ystyried bod £100 y pen yn dâl rhesymol i'w godi, petai'n cael ei weithredu. Fodd bynnag, roedd y tâl o £200-250 a gynigiwyd yn yr adroddiad yn uwch o lawer na hynny ac yn annerbyniol, yn enwedig gan y byddai'n sicr o gynyddu maes o law. Roedd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg yn cydnabod bod y Gr?p Ffocws wedi gwrthwynebu codi tâl ond nid oedd yn cofio bod unrhyw drafodaeth wedi digwydd ynghylch codi tâl o £100. Dywedodd wrth y Pwyllgor fod y tâl wedi cael ei gyfrifo ar sail ymrwymiad presennol y gyllideb, asesiad o niferoedd y disgyblion a faint fyddai'n defnyddio'r gwasanaeth.

 

Gofynnwyd a fyddai disgwyl i'r bobl ifanc dalu ymlaen llaw am gludiant neu a fyddai modd iddynt dalu mewn camau drwy gydol y flwyddyn. Hefyd cyfeiriwyd at y stigma oedd yn gysylltiedig â phrydau ysgol am ddim a gofynnwyd am sicrhad na fyddai'r rhai fyddai'n derbyn cludiant am ddim yn cael eu henwi. Cytunodd Cyfarwyddwr Dros Dro yr Amgylchedd y gellid ystyried gwahanol fathau o dalu a chadarnhaodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg y byddai'r awgrym hwn yn cael ei gynnwys fel rhan o'r broses ymgynghori. Hefyd sicrhaodd yr aelodau y byddai'r holl ddisgyblion, p'un a fyddent yn talu neu beidio, yn derbyn yr un tocyn.

 

Mynegwyd pryder ynghylch natur ranedig y tâl arfaethedig drwy lethu pobl ifanc â chostau ychwanegol am addysg, hyd yn oed cyn iddynt ystyried astudio gradd mewn prifysgol.  Awgrymwyd mai prin oedd y manylion ynghylch yr holl ffigyrau a ddyfynnwyd yn yr adroddiad, yn enwedig o ran niferoedd y disgyblion ar lwybrau sy'n bod eisoes, y niferoedd sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd, yn ogystal ag effaith bosibl Credyd Cynhwysol ar y rhai sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd. Hefyd cyfeiriwyd at ardaloedd megis Brynaman lle byddai disgyblion mewn gwahanol ardaloedd awdurdod lleol yn talu costau gwahanol am fynychu chweched dosbarth mewn ysgolion neu golegau (e.e. roedd Castell-nedd Port Talbot yn codi tâl o £100 ar hyn o bryd tra roedd Sir Gaerfyrddin yn ystyried codi tâl o £200+). Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg bod y Cyngor Sir wedi cytuno ar yr egwyddor a bod hyn yn unig yn ddechrau'r broses ymgynghori oedd yn angenrheidiol ar gyfer newid polisi. Roedd yn cydnabod bod y taliadau'n amrywio ar draws yr wyth awdurdod yng Nghymru ond bod y darlun yn newid yn barhaus. Nododd fod nifer o fyfyrwyr eisoes yn teithio i Goleg G?yr o Sir Gaerfyrddin ac yn talu tua £280 y flwyddyn. Hefyd atgoffodd y Pwyllgor fod y rhwydwaith bysiau i'r ysgolion/colegau yn cael ei adolygu'n barhaus i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio i'w lawn botensial (gyda 95% ohono'n cael ei lenwi ar hyn o bryd).

 

Awgrymwyd bod y mwyafrif o'r Pwyllgor yn anhapus â'r newid arfaethedig a'r modd y cafodd hwn ei gynnwys yn strategaeth gyffredinol y gyllideb gyda'r aelodau'n aneglur ynghylch sawl mater. Gofynnwyd sut roedd yr Awdurdodau Lleol eraill wedi ymdrin â'r mater hwn ac ymgynghori yn ei gylch ac a fyddai modd rhoi'r gorau i broses ymgynghori Sir Gaerfyrddin tan y ceid rhagor o wybodaeth yn ymwneud â goblygiadau'r cynnig hwn.  Dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro yr Amgylchedd fod y broses ymgynghori'n cael ei weithredu'n unol â'r penderfyniad a wnaed gan y Cyngor Sir. Atgoffodd y Pwyllgor fod Adran yr Amgylchedd wedi wynebu gostyngiadau mawr mewn cyllid dros nifer o flynyddoedd ac yn y gorffennol gallai'r gwasanaethau oedd yn bodoli eisoes ysgwyddo'r gostyngiadau hyn. Ond bellach roedd cynigion megis y rhain yn cael effaith uniongyrchol ar drigolion y sir. Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg fod y broses ymgynghori'n ofyniad statudol yr oedd yn rhaid ei weithredu ac na ellid ei ohirio. Roedd strategaeth y gyllideb yn cynnwys cyfeiriad at gludiant ôl-16 oedd yn destun ymgynghori ar hyn o bryd cyn y byddai'r Cyngor Sir yn ystyried gwneud newid ffurfiol i'r polisi. Atgoffodd ef yr aelodau y gallent gyflwyno sylwadau ychwanegol yn ystod y broses ymgynghori yn ogystal â thrwy'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb a fyddai'n dechrau yn yr hydref. 

 

Tynnwyd sylw at bwysigrwydd egwyddor addysg am ddim a mynegwyd pryder y byddai yna deuluoedd, er na fyddent yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, yn cael anhawster talu taliad o'r fath. Dadleuwyd y dylai'r Awdurdod fod yn annog pobl ifanc i aros mewn addysg ac y byddai codi tâl am gludiant ôl-16 yn eu hannog i beidio â mynd i addysg bellach. Hefyd cwestiynwyd yr ymgynghoriad y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad ac awgrymwyd bod y rhan fwyaf o'r rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad diwethaf ynghylch y gyllideb ac a gytunodd â'r cynnig i godi tâl yn bobl canol oed heb blant. Y farn hefyd oedd y byddai'r tâl yn atal datblygiad addysg cyfrwng Cymraeg yn ysgolion uwchradd y Sir gan y byddai'r disgyblion yn dewis yr ysgol agosaf lle roedd chweched dosbarth yn hytrach nag un oedd yn cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

 

Cyfeiriwyd at y cynnydd yng nghostau prydau ysgol ac ynghyd â'r tâl ychwanegol am fynychu addysg ôl-16 awgrymwyd y byddai hynny'n cael effaith sylweddol ar deuluoedd oedd â dau o blant neu ragor. Cydnabuwyd bod dyletswyddau gofal ariannol a moesol yr oedd angen eu hystyried ond y gallai'r Awdurdod ddysgu o brofiadau Awdurdodau eraill. Hefyd gofynnwyd a roddwyd ystyriaeth i effaith rhieni yn peidio â thalu ac yn gyrru disgyblion i'r ysgol yn lle hynny (yn ogystal â'r allyriadau a fyddai'n deillio o hynny) a hefyd a oedd yr asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb wedi rhoi ystyriaeth o gwbl i grwpiau lleiafrifol a fyddai'n cael eu rhoi dan anfantais ariannol.  Hysbyswyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg fod yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi cael ei gynnal a chan ei bod yn ddogfen 'fyw' y byddai'n cael ei haddasu'n barhaus wrth i'r ymatebion ddod i law yn ystod y broses ymgynghori. Atgoffodd ef y Pwyllgor fod y Cyngor wedi gwneud penderfyniad i fwrw ymlaen â'r ymgynghoriad ac yn dilyn hynny byddai'r holl sylwadau a gyflwynir yn cael eu coladu a'u hystyried cyn i'r Cyngor Sir ddod i benderfyniad terfynol. 

 

Gwrthododd y Pwyllgor gymeradwyo'r cynnig a amlinellwyd yn yr adroddiad a chynigiwyd bod y Bwrdd Gweithredol, cyn bwrw ymlaen dim rhagor, yn gofyn am ragor o fanylion gan Awdurdodau Lleol eraill Cymru a oedd eisoes wedi gweithredu taliadau ar gyfer cludiant ôl-16, er mwyn egluro sut y cafodd y rhain eu gweithredu a'u heffaith ar addysg ôl-16 yn y tymor hir. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Bwrdd Gweithredol yn gofyn i Awdurdodau Lleol eraill Cymru am fanylion llawn ynghylch y modd y gwnaethant hwy weithredu taliadau am gludiant ôl-16 a cheisio eglurhad ynghylch a oedd y rhain wedi effeithio ar addysg ôl-16 yn y tymor hir. 

 

 

 

LLOFNODWYD:

 

(Cadeirydd)  

 

DYDDIAD:

 

 

 

 

Dogfennau ategol: