Agenda item

Y FFRAMWAITH RHEOLI PERFFORMIAD

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd H.I. Jones wedi datgan buddiant personol sef bod ei ferch-yng-nghyfraith yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

 

Roedd y Cynghorydd K.Madge wedi datgan buddiant personol sef bod ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

 

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol Fframwaith Perfformiad newydd a oedd wedi'i ddatblygu gan yr Adran Cymunedau a gofynnodd am sylwadau'r Pwyllgor ar sut y gellid defnyddio'r Fframwaith i hysbysu'r Aelodau am berfformiad y gwasanaethau perthnasol. Roedd y fframwaith newydd wedi'i ddatblygu'n fewnol er mwyn canolbwyntio ar y meysydd pwysicaf yn yr Adran yn fodd o fonitro'r llwyddiant neu beidio o ran cyflawni amcanion.

 

Rhoddwyd cyflwyniad byw o'r system newydd gan alluogi'r Pwyllgor i weld y data byw a gipiwyd bellach a'r math o wybodaeth y gellid ei chyflwyno mewn adroddiadau monitro perfformiad yn y dyfodol. Aeth y Cyfarwyddwr ati i atgoffa'r Pwyllgor mai dyddiau cynnar oedd hi o ran y fframwaith a oedd yn cael ei gaboli ymhellach yn ystod cyfarfodydd rheolaidd i fonitro perfformiad.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried y fframwaith newydd:

 

Cyfeiriwyd at waith ataliol a gofynnwyd a allai'r system newydd roi rhybudd cynnar i swyddogion ynghylch lle y gallai fod anawsterau i wasanaethau penodol. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol y byddai'r data'n ddefnyddiol iawn wrth fynd i'r afael â phroblemau neu rwystrau yn y system a bod y data'n agwedd allweddol ar y cyfarfodydd rheoli perfformiad adrannol misol. Roedd yr adroddiadau electronig oedd ar gael yn fodd o gwestiynu perfformiad a'i herio a chan mai data byw ydoedd, gellid rheoli gwasanaethau'n fwy effeithiol yn hytrach na thrwy adroddiadau ôl-weithredol a oedd yn y gorffennol wedi golygu bod gwybodaeth wedi dyddio 2–3 mis. Ychwanegodd y Rheolwr Ardal Leol Cynorthwyol fod y system yn golygu y gallai'r rheolwyr ardal leol ddefnyddio adnoddau'n fwy effeithlon o ddydd i ddydd, gan alluogi ymateb cynt i anawsterau ar draws y gwahanol ardaloedd lleol.

 

Gofynnwyd a allai system mor fanwl beri i rai staff atal gwybodaeth neu ei chamystumio er mwyn iddi ymddangos nad oedd eu tîm/maes gwasanaeth yn methu/gorwario. Cydnabu Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod perygl bob amser y byddai 'diwylliant targedau' yn rhoi bod i ganlyniadau gwael. Fodd bynnag roedd swyddogion yn ceisio creu diwylliant dealltwriaeth ymysg y staff ynghylch y mesurau newydd a sut y bwriedid i'r mesurau hybu dealltwriaeth o'r busnes a sicrhau y clustnodid adnoddau'n briodol. Y gobaith oedd y byddai hyn yn atal timau rhag camystumio'r ffigurau i wneud i'w gwaith ymddangos yn well. Roedd yn fater o gydbwyso cyfrifoldebau gofalu ag arfer gofal cyllidol.

 

Gofynnwyd a allai'r system ddarparu gwybodaeth fanwl ar sail ward, megis nifer yr unigolion oedd yn dioddef o gyflyrau penodol neu mewn perygl o ddioddef ohonynt. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol ei bod yn bosibl chwilio ar sail côd post i ymchwilio i'r galw ar sail ardal. Fodd bynnag yr her o ddefnyddio'r dull hwn oedd bod llawer o bobl yn derbyn triniaeth mewn man (e.e. tref fawr) y tu allan i'r ardal lle roeddent yn byw. Nododd fod rhagor o waith yn cael ei wneud i fapio'r math o wasanaethau a chymorth oedd ar gael ym mhob ardal (e.e. gan grwpiau gwirfoddol). Hefyd aeth y Rheolwr Ardal Leol Cynorthwyol ati i hysbysu'r Pwyllgor fod asesiad poblogaeth trylwyr o gyflyrau iechyd ar waith eisoes a hynny ar sail pob ardal leol.

 

Croesawodd y Pwyllgor y fframwaith newydd a PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: