Agenda item

GWEITHIO GYDA'R RHEINY NAD YDYNT MEWN ADDYSG, CYFLOGAETH NA HYFFORDDIANT (NEET)

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg a diweddariad ar y gwaith sy'n cael ei wneud gyda'r rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).  Roedd yr adroddiad yn manylu ar ddarpariaeth y gwasanaeth a oedd yn cynnwys y canlynol:-

 

-       Amcanion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn y maes gwaith hwn;

-       Amcanion a bennir yn lleol, gweithio mewn partneriaeth a pherfformiad;

-       Datblygiadau rhanbarthol;

-       Risgiau a heriau.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

  • Cyfeiriwyd at effaith covid a gofynnwyd i swyddogion a fyddwn yn gallu dal i fyny â'r cyfleoedd NEET a gollwyd ac a fyddai modd i ni fod yn ôl ar y trywydd iawn i gyrraedd y nod.  Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Pwyllgor fod y gwasanaeth wedi parhau i weithio drwy gydol y pandemig a'i fod wedi mynd yn ôl i gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn eithaf cyflym ar ôl i'r pandemig ddechrau. Ychwanegodd Prif Reolwr y Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid fod gweithwyr ieuenctid mewn ysgolion yn allweddol i'r gwaith hwn ac roeddynt yn ôl mewn ysgolion ar y cyfle cynharaf posibl.  Mae llawer o waith wedi'i wneud o fewn yr adran i sicrhau bod asesiadau risg ac arferion gweithio diogel ar waith i alluogi staff i barhau i weithio'n ddiogel ac yn gyfrifol. Ychwanegodd nad oes angen iddynt ddal i fyny fel gwasanaeth gan eu bod wedi parhau i weithio drwy gydol y pandemig;
  • Cyfeiriwyd at y Warant i Bobl Ifanc a mynegwyd pryder ynghylch y diffyg cynnydd ar y fenter hon oherwydd materion adnoddau mewnol Llywodraeth Cymru. Gofynnwyd am sicrwydd y bydd y materion hyn yn cael eu datrys gan ei bod yn annheg bod ein pobl ifanc yn cael eu hamddifadu o gyfleoedd oherwydd Llywodraeth Cymru. Dywedodd Prif Reolwr y Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid wrth y Pwyllgor fod cysylltiad cryf rhwng y fenter hon a'r adolygiad o'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, a bod adroddiad diweddaru ar y Fframwaith i fod i ddod yn y flwyddyn newydd;
  • Gan fod yn rhaid i Awdurdodau Lleol wneud cynnig am arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin bob blwyddyn, gofynnwyd i swyddogion faint o ansicrwydd y mae hynny'n ei greu a hefyd a oes rhaid i bob Awdurdod Lleol gystadlu yn erbyn ei gilydd am yr arian hwn ac os nad yw'n dod i law yna beth ydym yn ei wneud.  Cyfeiriwyd hefyd at y ffaith bod llawer o'r cyllid sydd ar gael ar ffurf grantiau tymor byr a gofynnwyd i swyddogion a oes unrhyw benderfyniadau'n debygol ar lefel genedlaethol i greu system hirdymor fwy cynaliadwy.  Esboniodd y Cyfarwyddwr fod nifer o'r rhaglenni yn rhai tymor byr dros 3 blynedd. Roedd yn cytuno ei bod yn anodd oherwydd bod timau'n sefydlu'n dda ystod y cyfnod hwnnw ond pan ddaw'r cyllid i ben, rhaid diddymu'r timau. Ychwanegodd Prif Reolwr y Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid fod pryder y bydd pob Awdurdod Lleol a'r trydydd sector yn cyflwyno cynigion a fydd yn arwain at fod rhai ardaloedd yn colli allan, a fyddai'n destun pryder mawr.  Fel Cyngor Sir, mae angen i ni edrych ar y ffordd orau o gael gafael ar y cyllid hwnnw er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer y dyfodol. Sicrhawyd y Pwyllgor fod y mater hwn yn cael ei fonitro'n ofalus;
  • Mynegwyd siom ynghylch y ffaith bod yn rhaid i'r Awdurdod Lleol wneud cynnig am yr arian hwn oherwydd ein bod yn mynd i gael carfan o bobl ifanc bob blwyddyn sy'n perthyn i'r categori hwn, a'r farn oedd y dylai'r cyllid hwn fod yn rhan o'r cymorth craidd sydd ar gael.  Awgrymwyd bod y Pwyllgor yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i awgrymu bod y Warant i Bobl Ifanc yn dod yn rhan o'r cyllid craidd;
  • Cyfeiriwyd at hunanadrodd, ac yn benodol y myfyrwyr hynny nad ydynt yn bresennol ar gwrs coleg a gofynnwyd i swyddogion pwy sy'n gyfrifol am fonitro achosion o'r fath ac a ydynt yn cael eu hadrodd i Gyrfa Cymru. Dywedodd Prif Reolwr y Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid wrth y Pwyllgor fod swyddogion yn cael cipolwg ar ddata gan Gyrfa Cymru mewn perthynas â phobl ifanc 16-19 oed yn fisol.  Mae cyfarfodydd Asesu Bod yn Agored i Niwed yn yr ysgol hefyd yn ddefnyddiol o ran dilysu data. Rhoddodd sicrwydd i'r Pwyllgor fod swyddogion yn gwneud yr hyn y gallant ei wneud yn rhesymol i sicrhau bod y data'n gywir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

4.1        bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

4.2        bod llythyr yn cael ei anfon oddi wrth y Pwyllgor at Lywodraeth           Cymru yn cyfleu pryderon y Pwyllgor ynghylch cyllid ac yn gofyn     am gyflwyno system fwy cynaliadwy, hirdymor.

 

Dogfennau ategol: