Agenda item

CYDWEITHREDFA IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU: Y WYBODAETH DDIWEDDARAF

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd H.I. Jones wedi datgan buddiant personol sef bod ei ferch yng nghyfraith yn gweithio i’r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol. 

 

Yn dilyn cais mewn cyfarfod blaenorol yn 2015, cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ar weithgareddau a chanlyniadau gwaith Cydweithredfa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Canolbarth a Gorllewin Cymru ac fe’i hysbyswyd ynghylch y trefniadau partneriaeth rhanbarthol newydd sydd bellach wedi’u sefydlu i ateb gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Nododd yr Aelodau mai Cyngor Sir Caerfyrddin oedd yr Awdurdod Lleol Arweiniol ar gyfer y Gydweithredfa, a’i fod yn lletya uned gydgysylltu fechan ac yn rheoli grantiau rhanbarthol.

 

Hysbyswyd yr Aelodau hefyd fod Rhan 9 o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2016, yn ei gwneud yn ofynnol creu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) er mwyn symud trefniadau gweithio mewn partneriaeth ac integreiddio yn eu blaen. Byddai gofyn sefydlu trefniadau ar wahân ar gyfer ardal pob bwrdd iechyd, a oedd yn golygu y byddai BPRh ar gyfer Gorllewin Cymru yn cael ei sefydlu ar ôl troed Bwrdd Iechyd Hywel Dda a bod rhanbarth presennol Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cael ei ddiddymu. Roedd trefniadau cysgodol wedi’u sefydlu er na ddigwyddodd cyfarfod agoriadol BPRh Gorllewin Cymru ar 15 Ebrill 2016, fel a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a gofynnwyd sut y byddai ei gofynion, ynghyd â gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, oll yn cydblethu â’i gilydd. Roedd y Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol yn cydnabod y byddai cysoni polisïau a gofynion y Llywodraeth yn her ond dywedodd y byddai cryfhau’r cysylltiadau rhwng y BPRh newydd a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus newydd yn hanfodol i gyflawni hyn. Ychwanegodd ei bod yn amlwg bod gwasanaethau presennol yn anghynaliadwy yn y tymor hir a bod y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer parhau i ailgyflunio gwasanaethau. Fodd bynnag, fel gydag unrhyw broses bontio, byddai strategaethau presennol a newydd yn cydfodoli am gyfnod o amser a byddai rheoli hyn yn her ychwanegol. Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaethau Integredig mai ysgogydd arall ar gyfer y gwaith hwn oedd creu cydnerthedd cymunedol a hunanofal ochr yn ochr ag ymyriadau wedi’u targedu er mwyn osgoi derbyniadau diangen i wasanaethau iechyd.

 

Mynegwyd pryder hefyd y gallai materion sy’n ymwneud â chynllunio neu ailddatblygu danseilio’r cynlluniau a’r strategaethau sy’n cael eu sefydlu fel rhan o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant newydd. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod y fframwaith yn Sir Gaerfyrddin yn darparu ar gyfer trafodaeth gydweithredol ynghylch pwysau a meysydd twf sy’n ymwneud â datblygiadau o ran y seilwaith, a allai roi pwysau ar wasanaethau eraill megis addysg ac iechyd. Ychwanegodd fod ei swydd ar y cyd yn gyfle i gyfrannu i drafodaethau strategol o fewn y Bwrdd Iechyd ac o fewn yr Awdurdod Lleol. Roedd hi hefyd yn cwrdd ag Arweinwyr Meddygon Teulu yn rheolaidd.

 

Gofynnwyd sut y byddai’r BPRh yn rheoli’r broses o hyrwyddo a sefydlu cronfeydd cyfun. Nododd y Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol fod hwn yn un o’r llu o gyfrifoldebau a roddir i’r Bwrdd newydd a bod angen i’r gwaith i hwyluso hyn gael ei symud yn ei flaen yn gyflym er mwyn sicrhau’r defnydd gorau o’r cronfeydd sydd ar gael a chael y canlyniadau gorau posibl i ddefnyddwyr gwasanaethau. Roedd Sir Gaerfyrddin eisoes wedi sefydlu trefniadau Adran 33 y gellid adeiladu arnynt o fewn y cyd-destun cyfreithiol newydd. Pwysleisiodd fod angen i’r broses o gyfuno cyllidebau wneud gwahaniaeth trwy ystyried anghenion lleol a rhanbarthol, yn hytrach na digwydd dim ond am fod gan y Bwrdd y p?er i wneud hynny. Fe wnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Integredig atgoffa’r Pwyllgor mai Sir Gaerfyrddin oedd yr unig sir yng Nghymru â threfniadau Adran 33 wedi’u sefydlu ond nad oedd hyn wedi cael ei drosglwyddo i wasanaethau rheng flaen. Hysbysodd y Pwyllgor fod peth Cyllid Trawsnewid wedi cael ei ddefnyddio i gyflogi ymgynghorydd i ddehongli’r ddeddfwriaeth mewn perthynas â chyllidebau cyfun a chadarnhau beth ellid neu na ellid ei wneud. Roedd disgwyl i adroddiad gael ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf a gallai ei ganfyddiadau gael eu rhannu gyda’r Pwyllgor maes o law. Fodd bynnag, fe wnaeth y Pennaeth Gwasanaethau Integredig atgoffa’r Pwyllgor nad cyllidebau cyfun oedd yr ateb i bob problem a bod angen sefydlu strwythurau llywodraethu a rheoli priodol ymlaen llaw.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am aelodaeth o’r BPRhau newydd, cadarnhaodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd mai hi fyddai’r cynrychiolydd o blith aelodau etholedig ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Rhoddodd y Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol wybod i’r Pwyllgor, ynghyd ag Aelodau o Fyrddau Gweithredol yr holl siroedd perthnasol, y byddai aelodaeth y Bwrdd yn cynnwys cynrychiolaeth o blith gofalwyr ac yn y blaen. Roedd disgwyl y byddai BPRh Gorllewin Cymru yn cadarnhau’r aelodaeth o blith asiantaethau partner statudol mewn cyfarfod wedi’i aildrefnu ym mis Mai er y byddai angen sefydlu proses benodiadau briodol hefyd i recriwtio cynrychiolwyr o blith defnyddwyr a gofalwyr. Byddai hyn yn sicrhau y byddai unrhyw aelodau lleyg yn ymwybodol o’r gofynion a’r disgwyliadau sy’n gysylltiedig â’u rolau.

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y gwasanaeth PIVOT. Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig wybod i’r Pwyllgor mai gwasanaeth a ddarperir gan fudiadau’r trydydd sector ac a ariennir trwy’r Gronfa Gofal Canolradd oedd hwn i helpu i leihau derbyniadau diangen i’r ysbyty trwy ddarparu mynediad at gymorth a ddarperir gan grwpiau gwirfoddol a chymunedol. Roedd yn debyg i wasanaethau’r fenter Twilight a’r Groes Goch a oedd yn gweithredu o ysbytai Sir Gaerfyrddin ac roedd wedi arwain at ryddhau cleifion yn gyflymach o’r ysbyty. Fodd bynnag, ychwanegodd fod y cynllun PIVOT yn wahanol i’r fenter TOCALS yn yr ystyr ei fod yn cynnwys asesiad lefel isel gan gynrychiolwyr o’r trydydd sector yn hytrach na chan weithwyr iechyd proffesiynol cymwysedig. Roedd yn hanfodol bod arfer da fel hwn yn cael ei rannu ar draws y rhanbarth i ddiwallu anghenion unigol pob sir ac roedd Sir Gaerfyrddin yn ceisio dysgu o hyn trwy gyflogi gweithwyr gofal newydd i gryfhau’r Timau Ardal. Gallai diweddariad ar y fenter newydd hon gael ei ddarparu ar gyfer y Pwyllgor maes o law.

 

Cafodd y datblygiadau a’r trefniadau cydweithio a oedd yn cael eu nodi yn yr adroddiad eu croesawu er y mynegwyd pryderon na fyddai’r boblogaeth sy’n heneiddio a’r gwahanol fathau o lygredd (e.e. llygredd aer, carthffosiaeth) yn cael sylw o anghenraid gan y datblygiadau hyn. Dywedodd y Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol ei fod yn cydnabod bod y rhain yn heriau y mae’n bwysig ymateb iddynt ond y byddai gan y Bwrdd Cynllunio Rhanbarthol fynediad uniongyrchol am y tro cyntaf at y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Byddai hyn yn amhrisiadwy gan y byddai angen i’r asesiad o’r boblogaeth y mae’n ofynnol i’r BPRhau ei gynnal gyd-fynd â’r asesiad o anghenion y mae’n ofynnol i’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ei gynnal. Byddai cyfethol aelodau o wasanaethau eraill i’r Bwrdd Rhanbarthol yn ôl y gofyn hefyd yn gyfle i sicrhau bod materion strategol yn cael eu trafod a bod y darlun ehangach yn cael ei ystyried.

 

Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch rhannu systemau TG, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod gan swyddogion fynediad ar hyn o bryd at system Care First yr Awdurdod Lleol a system Myrddin y Bwrdd Iechyd, yn ogystal â system FACE y Gwasanaethau Iechyd Meddwl. Yn y dyfodol, byddai gan yr holl swyddogion fynediad at System Wybodaeth Gofal Cymunedol (CCIS) Cymru ac roedd hwn yn cael ei dreialu ar hyn o bryd gan Geredigion a Phen-y-bont ar Ogwr. 

 

PENDERFYNWYD:

 

6.1.      Derbyn yr adroddiad.

 

6.2       Y byddai diweddariadau ar gyfuno cyllidebau a mentrau o fewn y Timau Ardal yn cael eu cynnwys ym Mlaenraglen Waith y Pwyllgor ar gyfer 2016/17.

 

Dogfennau ategol: