Agenda item

STRATEGAETH DIOGELWCH FFYRDD SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ail Strategaeth Diogelwch Ffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2016-20. Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad byr a oedd yn manylu ar nodau’r Strategaeth i fynd i’r afael â nifer o heriau allweddol, sef:

 

·         Lleihau nifer y marwolaethau ac anafiadau difrifol ar y ffyrdd

·         Diogelwch ar ffyrdd gwledig

·         Gweithio i amddiffyn pobl ifanc a beicwyr modur

·         Lleihau ymddygiad amhriodol ac anghyfreithlon gan ddefnyddwyr y ffyrdd gan gynnwys gyrru’n rhy gyflym, yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau, a gyrru’n ddiofal ac yn beryglus

·         Amddiffyn cerddwyr a beicwyr

·         Gwella gwybodaeth a dealltwriaeth yr Awdurdod am ddata anafiadau i ddatrys problemau o ran diogelwch ffyrdd

 

Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor y byddai’r Awdurdod yn parhau i fuddsoddi yn niogelwch ffyrdd trwy ariannu addysg, gwerthusiadau a pheirianneg mewn perthynas â diogelwch ffyrdd a chefnogaeth barhaus i gamau gorfodi gan yr Heddlu. Byddai swyddogion hefyd yn parhau i gydweithio a gweithio mewn partneriaeth i gyflawni mentrau addysg diogelwch ffyrdd ac adnabod safleoedd ar gyfer ymyriadau gorfodi a pheirianneg.

 

Codwyd y materion canlynol mewn perthynas â’r adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at nifer cynyddol y digwyddiadau diogelwch ffyrdd sy’n ymwneud â gyrwyr h?n ac mewn ymateb i gwestiwn am y berthynas rhwng meddygon teulu a’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg fod meddygon teulu a’r DVLA yn dibynnu ar unigolion i ddatgan unrhyw faterion neu gyflyrau meddygol a allai eu hanghymhwyso rhag cadw eu trwydded yrru. Rhoddodd wybod i’r Pwyllgor, yng ngoleuni’r ddamwain ddiweddar gyda lori wastraff yn Glasgow, bod y DVLA wedi cyhoeddi canllawiau newydd i feddygon teulu ynghylch y gofynion i hysbysu’r DVLA, er bod mater cyfrinachedd cleifion yn un anodd i feddygon teulu.

 

Gofynnwyd a oedd y data a gesglir gan yr Awdurdod ynghylch gwrthdrawiadau traffig y ffyrdd yn galluogi swyddogion i ddadansoddi ymhellach ac ystyried tueddiadau mewn perthynas â’r adeg o’r dydd neu’r tywydd pan fo damwain yn digwydd. Rhoddodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg wybod i’r Pwyllgor bod hyn yn bosibl a’i fod yn ddarn allweddol o waith yr oedd yr Awdurdod yn dymuno’i ddatblygu er mwyn helpu swyddogion i gael dealltwriaeth well am y data ac achosion posibl damweiniau. Roedd Is-gr?p Data yn mynd i gael ei sefydlu gan y Gr?p Gweithredu ar Ddiogelwch Ffyrdd lleol i wneud y gwaith hwn.

 

Mewn ymateb i sylw ynghylch canfyddiadau pobl ifanc am risg, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg ei fod yn cydnabod bod hwn yn faes sy’n her i swyddogion gan ei bod yn aml yn wir nad yw dealltwriaeth unigolion am risg yn datblygu’n llawn tan ganol eu 20iau a oedd yn gwneud gwaith yr Awdurdod gyda phobl ifanc yn fwy allweddol byth.

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y meini prawf ar gyfer sefydlu parthau 20mya y tu allan i ysgolion a pha un a oedd hyn bellach yn orfodol. Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg nad oedd yn orfodol cyflwyno’r parthau hyn y tu allan i ysgolion ond ei fod yn un o ddyheadau polisi Llywodraeth Cymru. Roedd sefydlu parthau o’r fath y tu allan i ysgolion yn seiliedig ar feini prawf asesu sy’n gysylltiedig â nifer y digwyddiadau, maint y traffig a niferoedd y cerddwyr ond, yn y pen draw roedd y rhaglen yn ddibynnol ar y cyllid sydd ar gael ar unrhyw adeg benodol.   

 

Cyfeiriwyd at y rhai sy’n gyrru fel rhan o’u gwaith a’r ffaith y bu’n ofynnol i aelodau etholedig ddarparu manylion eu polisïau yswiriant i gadarnhau bod eu cerbydau wedi’u hyswirio ar gyfer defnydd busnes. Gofynnwyd a oedd polisïau’r Awdurdod ar Yrru yn y Gwaith yn berthnasol i aelodau etholedig bellach ac a allai aelodau weld y dogfennau hyn. Rhoddodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg wybod i’r Pwyllgor bod gan yr Awdurdod Bolisi ‘Risg Ffyrdd ar gyfer Fflyd y Cyngor’ yn ogystal â chanllaw ‘Teithio’n Ddoeth, Gweithio’n Ddoeth’ a chanllawiau eraill ynghylch gyrru ar gyfer busnes gwaith a’i fod yn hapus i gylchredeg y rhain i aelodau. Roedd y polisïau hyn yn cynnwys sicrhau bod gyrwyr fflyd yn gymwysedig ac wedi’u hyfforddi’n ddigonol. Roedd system dreuliau’r Awdurdod yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion gadarnhau wrth gyflwyno’u hawliadau bod eu cerbydau wedi’u hyswirio ar gyfer defnydd busnes, eu bod yn cael eu cynnal a’u cadw i’r safon ofynnol a bod gan y gyrrwr drwydded yrru ddilys. Ychwanegodd fod cyfradd o 44% o ran damweiniau sy’n cynnwys gyrwyr ar fusnes y Cyngor wedi cael ei gostwng i 25% dros y blynyddoedd diwethaf trwy roi ystod eang o ymyriadau a pholisïau ar waith. 

 

Gofynnwyd a oedd yn ofynnol i ysgolion gymryd rhan mewn cyrsiau medrusrwydd beicio a, hyd yma, faint o ysgolion oedd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau o'r fath. Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg nad oedd y data wrth law ganddo, ond ei fod yn hapus i gylchredeg manylion pellach i’r Pwyllgor. Dywedodd fod yr Heddlu, yn ogystal â’r Awdurdod, hefyd yn darparu cyrsiau o’r fath mewn ysgolion.

 

Mewn ymateb i sylwadau ynghylch ymyriadau gostwng cyflymder / damweiniau ar yr A40 / A48 yn ac o amgylch Caerfyrddin, fe wnaeth y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg atgoffa’r Pwyllgor y byddai Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) yn ymwybodol o unrhyw anafiadau neu farwolaethau sy’n digwydd ar y cefnffyrdd hyn ac mai’r Heddlu a Gan Bwyll (Partneriaeth Lleihau Anafiadau ar y Ffyrdd yng Nghymru) sy’n gorfodi terfynau cyflymder. Atgoffodd yr Aelodau fod SWTRA wedi cyflwyno gwelliannau ar hyd yr A48 rhwng Cross Hands a Phont Abraham gan gynnwys cau cyffyrdd sy’n croesi ar ei thraws. Cytunodd â chais am ddiweddariad gan yr Asiantaeth ar unrhyw gynlluniau a oedd ganddi ar gyfer y dyfodol i wella diogelwch ar yr A48 rhwng Cross Hands a Chaerfyrddin.

 

Gofynnwyd a oedd swyddogion yn darparu hyfforddiant ar gyfer defnyddwyr sgwteri symudedd, gan eu bod yn aml i’w gweld ar ffyrdd y sir o amgylch pentrefi a threfi. Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg ei fod yn cydnabod y sylw ond ychwanegodd nad oedd y data, hyd yma, wedi datgelu unrhyw ddamweiniau neu ddigwyddiadau a oedd yn uniongyrchol gysylltiedig â defnyddio sgwteri symudedd. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn am y broses o weithredu mesurau diogelwch sy’n ymwneud â pheirianneg, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg fod yr oedi a brofwyd rhwng gofyn am welliannau a’u gweithredu’n gysylltiedig yn syml â’r adnoddau sydd ar gael. Roedd gan y gwasanaeth gyllideb o £194,000 a oedd wedi’i neilltuo ar gyfer arwyddion/marciau ffyrdd newydd ar draws y rhwydwaith cyfan ac felly roedd yn rhaid i’r holl geisiadau gael eu blaenoriaethu. O bryd i’w gilydd, fodd bynnag, roedd rhai prosiectau’n gallu cael eu cefnogi â chyllid grant. 

 

Cyfeiriwyd at yfed a gyrru a gofynnwyd a allai siopau lleol chwarae rhan trwy hysbysu ynghylch gyrwyr a oedd eisoes dan ddylanwad alcohol ond eto’n prynu mwy. Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg mai cyfrifoldeb yr heddlu oedd targedu unigolion o’r fath gan ei fod yn fater troseddol.

 

Awgrymwyd mai trigolion yr ardal leol oedd llawer o unigolion sy’n cael eu dal yn gyrru’n rhy gyflym a gofynnwyd a oedd modd ‘enwi a chodi cywilydd’ er mwyn lleihau digwyddiadau gyrru’n rhy gyflym. Nododd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg eto mai mater i’r Heddlu ac nid yr Awdurdod oedd gorfodi ar dramgwyddau gyrru’n rhy gyflym. Fodd bynnag, ychwanegodd mai un cynllun llwyddiannus i atal gyrwyr rhag gyrru’n rhy gyflym oedd y bartneriaeth rhwng yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân ac Achub, Ysgolion a’r Awdurdod. Roedd y rhai a oedd yn cael eu dal yn gyrru’n rhy gyflym yn cael dewis rhwng derbyn cosb benodedig neu siarad gyda’r plant ysgol lleol i egluro’u gweithredoedd. Rhoddodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau wybod i’r Pwyllgor bod y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi prynu offer monitro cyflymder i’w ddefnyddio gan gymunedau yn y sir fel modd i fonitro modurwyr sy’n gyrru’n rhy gyflym yn eu cymunedau a’u hatal rhag gwneud hynny. Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg nad oedd yn gallu cadarnhau faint o gymunedau oedd wedi derbyn y cynnig i ddefnyddio’r offer hwn ond y gallai gylchredeg y manylion i aelodau. 

 

Roedd yr aelodau’n croesawu’r ffaith bod parth 20mya wedi’i gyflwyno yn Saron (ger Rhydaman) a gofynnwyd am eglurhad ynghylch y cynigion a oedd yn cael eu datblygu ar gyfer croesffyrdd Capel Hendre. Rhoddodd y Pennaeth Peirianneg wybod i’r Pwyllgor bod yr opsiynau dylunio ar gyfer gwella diogelwch ar y gyffordd yn cael eu datblygu er mai’r her fyddai gweithredu unrhyw newidiadau o fewn yr adnoddau a oedd ar gael ar y pryd.

 

Cyfeiriwyd at y camera cyflymder ar Ffordd Pontaman (A474) yn Rhydaman a oedd wedi cael ei labelu ag arwydd ‘camera ddim yn gweithio’. Er nad cyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol oedd hwn, gofynnwyd a oedd unrhyw reswm penodol pam nad oedd y camera hwn yn fodd i atal gyrwyr rhag gyrru’n rhy gyflym mwyach. Awgrymodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg fod hyn naill ai’n gysylltiedig â gwaith cynnal a chadw ar y camera neu’n gysylltiedig â chyfarwyddeb gan yr Adran Drafnidiaeth i hysbysu gyrwyr ynghylch lleoliad camerâu cyflymder a pha un a oeddent yn cael eu defnyddio ai peidio. 

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL:

 

6.1       Ei fod yn derbyn yr adroddiad.

 

6.2       Y dylai’r mesurau gweithredu a oedd wedi’u nodi yn y Strategaeth Diogelwch Ffyrdd 2016-20 gael eu cymeradwyo i gael eu hystyried gan y Bwrdd Gweithredol. 

 

Dogfennau ategol: