Agenda item

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD - CWARTER 1 - 1AF EBRILL I'R 30AIN O FEHEFIN 2018

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad Monitro Perfformiad a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed gogyfer â'r camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol Newydd ar gyfer 2018-2023 i ddarparu'r Amcanion Llesiant ar gyfer 2018/19 a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor, dyddiedig 30 Mehefin, 2018.

 

Nododd y Pwyllgor o'r 62 cam gweithredu, roedd 52 yn unol â'r targed a 4 heb fod yn unol â'r targed. Nid oedd angen adrodd eto ar y 9 cam gweithredu a oedd yn weddill, yn unol â dyddiad dechrau'r cam gweithredu.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

 

·         O ran adolygu cyfraddau cyfranogiad presennol ar gyfer ailgylchu gwastraff y cartref er mwyn sicrhau bod cymaint â phosibl o wastraff yn cael ei ddargyfeirio, gofynnwyd a oedd gwasanaeth casglu pwrpasol ar gyfer cewynnau brwnt a gwasanaeth llosgi dilynol yn bosibilrwydd, tebyg i'r gwasanaeth llosgi gwastraff clinigol.  Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff er bod casgliad pwrpasol ar gyfer cewynnau yn bosibilrwydd ar gyfer y rheiny a fyddai'n gymwys, byddai'n ddatrysiad costus. Ar hyn o bryd, roedd cewynnau yn cael eu casglu yn ein bagiau du ac yn cael eu llosgi er mwyn osgoi tirlenwi, fel rhan o'r broses trin gwastraff bagiau duon.  Amlygodd y gellid ystyried dulliau eraill yn y dyfodol pan fyddwn yn adolygu ein gwasanaeth casglu gwastraff y tro nesaf.

·         Gwnaed sylw mewn perthynas â'r sbwriel sy'n deillio o fwyd cyflym a oedd yn effeithio ar ffordd ddeuol yr A48 yn arwain i Cross Hands a hefyd ar hyd yr A483 yn arwain i D?-croes a allai fod yn sgil y llefydd bwyd yng ngwasanaethau Pont Abraham. O ran gweithio gyda rhanddeiliaid lleol i beilota trefniadau rheoli sbwriel, gofynnwyd a oedd unrhyw beth y gallai'r Cyngor ei wneud. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y byddai'n trefnu i'r Swyddog Ansawdd yr Amgylchedd Lleol ymgysylltu â rheolwyr y cyfleuster i dynnu sylw at y broblem.

·         Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff i'r gweithgaredd cnocio ar ddrysau gael ei gynnal drwy gydol cyfnod yr haf er mwyn targedu ardaloedd lle'r oedd problem.

·         Gofynnwyd am ddiweddariad ar lafar mewn perthynas â'r camau gweithredu - 'byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu seilwaith priffyrdd y Sir er mwyn gwella ansawdd yr aer, yn enwedig yn Llandeilo'.  Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar Ganllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) a oedd yn fframwaith ar gyfer newidiadau arfaethedig i'r system drafnidiaeth ac yn cael eu defnyddio i ddatblygu ac i arfarnu cynigion trafnidiaeth a oedd yn cael eu hyrwyddo a'u hariannu gan Lywodraeth Cymru.  Yn ogystal, roedd y gwaith paratoadol wedi cychwyn ac ar ôl ei gwblhau, darperir diweddariad i aelodau.

·         Cyfeiriwyd at y cam gweithredu mewn perthynas â datblygu llwybrau teithio llesol ar gyfer aneddiadau allweddol.  Rhoddodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd wybod i'r Aelodau fod y cam gweithredu hwn yn bennaf gysylltiedig â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a oedd yn rhoi gofyniad statudol ar Awdurdodau Lleol i glustnodi ac i wella llwybrau ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn barhaus ac i baratoi mapiau sy'n clustnodi llwybrau cyfredol a llwybrau posibl yn y dyfodol.  Yn dilyn cael cyllid sylweddol gan gronfa trafnidiaeth leol Llywodraeth Cymru i ddatblygu cysylltiadau cerdded a beicio, roedd y Cyngor wedi cyflwyno ceisiadau am Gronfeydd Teithio Llesol pellach.

Cynigiodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd ddarparu gwybodaeth ynghylch pa ardaloedd sydd wedi cyflwyno cynigion i Aelodau'r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 1 sef rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin.

 

 

Dogfennau ategol: