Agenda item

ADRODDIAD HANNER BLWYDDYN ADRANNOL AR REOLI PERFFORMIAD - Y 1AF O EBRILL HYD AT Y 30AIN O FEDI 2015

Cofnodion:

Bu'r Cynghorydd A.G. Morgan yn datgan budd oherwydd bod ganddo uned ddiwydiannol ar brydles yn Llynnoedd Delta, Llanelli. 

           

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad rheoli perfformiad a roddai olwg gyffredinol ar berfformiad  Adran y Prif Weithredwr a'r Adran Adnoddau y llynedd. Yr oedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

 

·       Golwg Gyffredinol ar Berfformiad gan Benaethiaid y Gwasanaethau (Adroddiad A)

·       Monitro'r Cynllun Gwella – Adroddiad Cyfun ar y Camau Gweithredu a'r Mesurau (Adroddiad B)

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd am y newyddion diweddaraf ynghylch yr Hwb yn Llanelli, peilot Skype a'r defnydd o D? Elwyn yn y dyfodol. Dywedodd Prif Weithredwr Cynorthwyol Adfywio a Pholisi fod ymwelwyr â'r Hwb wedi bod yn rhan o arolwg, a bod y mwyafrif yn ei ffafrio'n lleoliad ar gyfer y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid. Y gobaith oedd efelychu'r model yn Rhydaman a Chaerfyrddin. Cafwyd rhai problemau gyda pheilot Skype o ran cysylltedd mewn rhai ardaloedd gwledig, a hefyd rai cwynion ynghylch diffyg preifatrwydd. Y gobaith oedd sicrhau cyllid i ehangu'r cynllun ar draws ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin. Eglurodd Pennaeth Eiddo Corfforaethol fod y gwaith i adnewyddu llawr gwaelod T? Elwyn i gael ei gwblhau yn ystod yr wythnosau nesaf, gan greu derbynfa fechan a swyddfeydd. Byddai T? Elwyn hefyd yn lleoliad sengl ar gyfer Timau'r Gwasanaethau Plant. Byddai cyfle hefyd i sicrhau bod presenoldeb gan yr heddlu yn yr adeilad. Ar hyn o bryd roedd yr arianwyr yn dal yn Coleshill, ond bydden nhw'n symud i'r Hwb pan fyddai'n barod.

 

Cyfeiriwyd at yr Astudiaeth o Dlodi Gwledig, oedd yn edrych ar faterion sy'n effeithio ar gymunedau gwledig. Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd Prif Weithredwr Cynorthwyol Adfywio a Pholisi y byddai'r astudiaeth yn cael ei defnyddio i sicrhau bod y cyllid yn mynd i'r ardaloedd cywir. Cytunodd i ddosbarthu'r astudiaeth i'r Pwyllgor.

 

Holwyd a oedd gan yr adain Archwilio ddigon o adnoddau neu beidio. Dywedodd Pennaeth Archwilio, Risg a Chaffael fod y tîm ar hyn o bryd yn cynnwys 9.4 CALl, ac na fyddai am weld llai o adnoddau na hynny. Ychwanegodd Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol eu bod mewn gwirionedd yn edrych ar gynyddu'r adnodd yng ngoleuni materion oedd wedi codi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

Cyfeiriwyd at y Prawf Ffitrwydd Caffael, a holwyd pa faterion oedd yn dal heb eu datrys, yn ogystal ag ynghylch y cyfeiriad cyffredinol. Dywedodd Pennaeth Archwilio, Risg a Chaffael y byddai gr?p ffocws o aelodau Pwyllgor yn cwrdd yn fuan i edrych yn fanwl ar y sefyllfa bresennol ym maes Caffael. Roedd un o'r prif faterion oedd yn dal heb ei ddatrys yn ymwneud â rheoli categorïau, sef y model a ddefnyddid gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (NPS), nad oedd yn ddichonadwy gyda thîm o 6 CALl yn yr Uned Caffael Corfforaethol. Hefyd roedd gan Lywodraeth Cymru 1 swyddog ar gyfer pob £10 miliwn o wariant. Roedd y Prif Weithredwr yn edrych ar gyfleoedd i gydweithio â Sir Benfro o ran rheoli categorïau. Mewn ymateb i gwestiwn ychwanegol, cytunodd Pennaeth Archwilio, Risg a Chaffael y byddai'n cynnwys dadansoddiad manwl o'r Prawf Ffitrwydd yn Adroddiad Blynyddol Caffael, fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.

 

Cyfeiriwyd at y Strategaeth TGCh Gorfforaethol, y lluniwyd y fersiwn derfynol ohoni'n gynharach yn y flwyddyn, gan gynnwys gweithredu polisi 'dewch â'ch dyfais eich hun'. Gofynnwyd ai dyna oedd y bwriad o hyd. Dywedodd Pennaeth TG a'r Gwasanaethau Cefnogaeth Ganolog nad oedd yn cytuno â'r olaf, a'i fod yn ffafrio darparu offer y Cyngor i swyddogion. Roedd yn edrych ar nodweddion oedd yn gyffredin â Sir Benfro. Byddai angen i Sir Gaerfyrddin edrych eto ar y Strategaeth TGCh Gorfforaethol. Ychwanegodd Prif Weithredwr Cynorthwyol Adfywio a Pholisi fod problemau sylweddol o ran cadw rheolaeth ar wybodaeth a diogeledd yn sgil polisi 'Dewch â'ch dyfais eich hun' ac y byddai'r Tîm Rheoli Corfforaethol yn adolygu'r mater fel rhan o'r Strategaeth TGCh newydd sy'n cael ei datblygu gan Bennaeth TG a'r Gwasanaethau Cefnogaeth Ganolog.

 

Nodwyd bod adain y Gyflogres bellach yn yr un lleoliad ag Adnoddau Dynol. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod y trefniadau newydd yn gweithio'n dda.

 

Croesawyd y lefel uchel o feddiant ar y 400 o unedau diwydiannol sydd gan y Cyngor. Gofynnwyd, fodd bynnag, a oedd nifer yr unedau'n ddigonol, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig, lle roedd yn eithriadol o anodd sicrhau caniatâd cynllunio i ddatblygu adeiladau allanol ac adeiladau newydd. Eglurodd Pennaeth Eiddo Corfforaethol fod cynigion yn cael eu cyflwyno am gyllid Ewropeaidd ar gyfer datblygiadau bychain o unedau diwydiannol yn y dyfodol ac mewn ardaloedd gwledig. Mewn ymateb i gwestiwn ychwanegol ynghylch y potensial i ddatblygu adeiladau a fu gynt yn ysgolion yn unedau diwydiannol, yn hytrach nag ar gyfer defnydd preswyl, nododd fod rhai hen ysgolion, megis y Felin Wen, wedi cael eu gwerthu at ddefnydd busnes.

 

Cyfeiriwyd at gyflwr gwael yr unedau yng Nglanaman, a gofynnwyd a oedd bwriad i wneud rhywbeth i'w gwella. Cadarnhaodd Pennaeth Eiddo Corfforaethol fod yr unedau hyn ymhlith y 4% sydd heb eu meddiannu, a'u bod mewn cyflwr gwael. Roedd cynnig i'r rhaglen gyfalaf ddrafft arfaethedig yn cynnwys cynlluniau ar gyfer adnewyddu ac estyn yr ystâd, yn ogystal â chyllid ar gyfer datblygu unedau cychwynnol pellach ar gyfer busnesau bach.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch trosglwyddo asedau yn ardaloedd Gwledig a Threfol Llanelli, nododd Pennaeth Eiddo Corfforol fod Cyngor Gwledig Llanelli, ar ôl derbyn trosglwyddo asedau yn achos parciau yn Nyffryn y Swistir ac ambell fan arall, wedi nodi'n ddiweddar nad oedd ganddo ddiddordeb mewn trosglwyddiadau pellach. Roedd Cyngor Tref Llanelli hefyd wedi cadarnhau, er ei fod yn barod i gefnogi'r gwaith o gyllido rhai gweithgareddau cynnal a chadw, nad oedd yn barod i dderbyn trosglwyddo'r asedau hynny. Roedd bwriad i gadw'r trafodaethau'n agored er mwyn ceisio annog rhagor o drosglwyddiadau. Ychwanegodd y byddai'r Bwrdd Gweithredol yn cael gwybod am unrhyw barciau neu fannau chwarae oedd heb dderbyn mynegiant o ddiddordeb erbyn diwedd Mawrth 2016, ac mai'r polisi ar hyn o bryd oedd ymgynghori wedi hynny ar roi'r gorau i gynnal i cyfleusterau nad oeddent yn cael eu trosglwyddo. Nododd hefyd fod rhai cyfleusterau'n cael eu trosglwyddo i glybiau a chymdeithasau chwaraeon, nid i Gynghorau Tref a Chymuned yn unig.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: