Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGHYLCH DIOGELU OEDOLION 2014/15

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant personol sef bod ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Diogelu Oedolion am y flwyddyn ariannol 2014/15. Hefyd cafodd y Pwyllgor gyflwyniad byr a roddai olwg gyffredinol ar bwrpas a chyd-destun yr adroddiad blynyddol. Roedd yr Adroddiad yn egluro'r cyd-destun o ran y polisi cenedlaethol yn ymwneud â diogelu oedolion   gan gynnwys goblygiadau tebygol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Er bod y datblygiadau a'r gweithgareddau cadarnhaol niferus y tynnwyd sylw atynt yn yr adroddiad i'w croesawu, mynegwyd pryder am yr hyn a oedd yn ymddangos fel diffyg erlyniadau yn erbyn unigolion yr honnwyd eu bod yn gyfrifol am gam-drin. Roedd y Rheolwr Diogelu a Chomisiynu yn cydnabod bod y swyddogion yn rhannu'r un pryderon a rhwystredigaethau â'r aelodau ond bod achosion o gam-drin yn aml yn rhai cymhleth lle roedd yn anodd cael y dystiolaeth angenrheidiol i fynd ag unigolion i'r llys, yn enwedig mewn achosion yn ymwneud ag oedolion nad oeddynt â'r gallu i ddeall y sefyllfa, neu oedd yn anfodlon mynd i'r llys o gwbl.   Ychwanegodd nad oedd y ddeddfwriaeth gyfredol yn helpu swyddogion yn y gwaith hwn ond roedd yn gobeithio y byddai Adroddiad Flynn (Chwilio am Atebolrwydd) a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sef adolygiad o esgeuluso pobl h?n sy'n byw mewn cartrefi gofal a gyflawnwyd ar ran Llywodraeth Cymru, yn arwain at newid mewn deddfwriaeth ac yn cau'r bwlch hwn.  

 Nododd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol, wrth bennu trothwyon ar gyfer erlyniadau, nad oedd bob amser er budd gorau'r unigolion dan sylw i erlyn. Fodd bynnag, ychwanegodd os oedd tystiolaeth glir o fwriadu achosi niwed neu gam-drin, y gallai'r aelodau fod yn dawel eu meddwl y byddai'r Awdurdod yn dadlau o blaid erlyn er bod hyn yn fater i'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron.    

 

Rhoddodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd wybod i'r Pwyllgor am brosiect ymchwil oedd yn cael ei gynnal gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar y cyd â Chyngor Caerdydd a Phrifysgol Aberystwyth. Nod yr ymchwil oedd codi ymwybyddiaeth ymhlith unigolion sydd mewn gofal neu sy'n derbyn gofal am yr opsiynau sydd ar gael iddynt os ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu cam-drin mewn unrhyw ffordd. Nod arall yr ymchwil oedd archwilio'r rhesymau pam nad oedd unigolion yn dymuno bwrw ymlaen ag erlyniad a rôl bosibl 'brocer' i gyfryngu rhwng y gwahanol bartïon er mwyn cael canlyniad derbyniol. 

 

Cyfeiriwyd at y cynnydd sylweddol yn nifer yr atgyfeiriadau a gafwyd yn 2014/15 a gofynnwyd a oedd hyn yn ddigwyddiad unwaith yn unig neu a ydoedd o ganlyniad i'r gwelliant yng ngweithdrefnau'r Awdurdod. Nododd y Rheolwr Diogelu a Chomisiynu ei bod yn anodd dweud beth oedd yr union reswm am y cynnydd ond roedd yn ddigon posib bod y cynnydd yn y sylw a'r cyhoeddusrwydd a roddwyd i bob math o gam-drin yn ogystal â bod mwy o ymgysylltu a gwell hyfforddiant, i gyd wedi cyfrannu i'r cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau. Ychwanegodd ei bod yn galonogol mewn rhai ffyrdd fod unigolion yn teimlo eu bod yn gallu rhoi gwybod am achosion o gam-drin ac y gallai hyn fod yn adlewyrchiad o'r hyn a fu'n digwydd mewn perthynas ag achosion hanesyddol o gam-drin plant.

 

Mynegwyd pryder fod Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) wedi methu â chwblhau unrhyw atgyfeiriadau (fel rhan o ymchwiliad asiantaeth unigol) am y tair blynedd diwethaf a gofynnwyd pam y dylai hyn fod. Roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol yn cydnabod ei bod yn anarferol na chwblhawyd dim atgyfeiriadau yn ystod y cyfnod hwn ond y gallai hynny fod oherwydd problemau deddfwriaethol oedd yn bod eisoes. Fodd bynnag, mae'n ddigon posib y gallai'r ddeddfwriaeth newydd sy'n gysylltiedig â'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 gynorthwyo'r AGGCC yn y dyfodol. Ychwanegodd fod yr Awdurdod yn gallu rhoi darparwyr o dan embargo oedd yn aml yn broses gyflymach a mwy effeithiol nac erlyn. Rhoddodd y Rheolwr Ardal Leol (Aman a Gwendraeth) wybod i'r Pwyllgor fod yr AGGCC, yn ystod yr wythnos flaenorol, wedi erlyn darparydd gofal yn Abertawe ac wedi llwyddo i gael y ddirwy fwyaf sef £2,500.

 

Gofynnwyd a oedd y problemau staffio a gafodd y Tîm Diogelu a Chomisiynu, ac y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad, wedi effeithio ar ei allu i gyflawni ei waith. Rhoddodd y Rheolwr Diogelu a Chomisiynu wybod i'r Pwyllgor, yn ystod 2014/15, bod un aelod o'r tîm wedi cael cyfnod o seibiant salwch a bod un arall wedi cael seibiant gyrfa. Roedd hyn wedi'i gynnwys er mwyn pwysleisio wrth yr aelodau nad oedd y Tîm wedi bod â digon o staff ar adegau ond bod hyn wedi'i gywiro erbyn hyn a bellach roedd nifer cyflawn o staff yn y Tîm.

 

Mewn ymateb i awgrym fod nifer yr atgyfeiriadau oedd yn ymwneud â darparwyr sector annibynnol yn uchel, atgoffwyd y Pwyllgor gan y Rheolwr Diogelu a Chomisiynu fod 90% o'r unigolion oedd yn derbyn gofal yn y Sir yn y sector annibynnol (mae dros 90 o gartrefi gofal, mae 1,200 o ddefnyddwyr gwasanaeth yn derbyn gofal cartref ac mae 1,500 o welyau cartrefi gofal) ac yng ngoleuni'r ffigyrau hyn, bod y nifer yn gymharol isel.

 

Awgrymwyd bod angen addysgu'r aelodau etholedig ynghylch y gwaith a wneir gan y Tîm Diogelu a Chomisiynu, yn enwedig gan fod yr aelodau'n gweithio ymhlith y gymuned neu'n cyflawni gwaith gwirfoddol a allai o bryd i'w gilydd olygu fod angen atgyfeirio mater neu holi a ddylid cymryd camau pellach ynghylch pryder penodol. Nododd y Rheolwr Diogelu a Chomisiynu fod y gwasanaeth wedi cynnal sesiynau datblygu aelodau yn y gorffennol ac y gellid gwneud hyn eto. Yn dilyn awgrym gan y Cadeirydd y dylid trefnu sesiwn i'r holl aelodau, dywedodd y Rheolwr Diogelu a Chomisiynu y byddai'n fwy buddiol cynnal sesiwn ar ôl i'r trefniadau rhanbarthol newydd ddod i rym yn nes ymlaen yn 2016. Cytunodd y Pwyllgor â'r cynnig hwn. 

 

Yn ateb i gwestiwn ynghylch rôl a thâl gweithwyr gofal, rhoddodd y Rheolwr Diogelu a Chomisiynu wybod i'r Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi cyflawni llawer iawn o waith gyda'r darparwyr mewn perthynas â lefelau cyflog yn ogystal â threfniadau contractiol er mwyn sicrhau nad oedd gweithwyr gofal yn gwneud y gwaith oherwydd nad oedd unrhyw opsiynau eraill ar gael, ond eu bod yn derbyn cyflog teg a phriodol am eu gwaith.  

 

Talwydteyrnged i'r Rheolwr Diogelu a Chomisiynu gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd a diolchodd iddo am ei waith mewn perthynas â Diogelu Oedolion dros nifer o flynyddoedd a dymunodd yn dda iddo yn ei rôl newydd yn yr adran.

 

 PENDERFYNWYD:

 

7.1      Bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

7.2.      Bod sesiwn datblygu ynghylch Diogelu a Chomisiynu yn cael ei drefnu ar gyfer yr holl aelodau yn 2016, ar ôl i'r trefniadau rhanbarthol newydd gael eu sefydlu a'u rhoi ar waith.  

Dogfennau ategol: