Agenda item

RHAGLEN ‘FOUNDATIONS 4 CHANGE’ SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant personol sef bod ei wraig yn brif weinyddes nyrsio yn Ysbyty Dyffryn Aman.

 

Roedd y Cynghorydd B.A.L. Roberts wedi datgan buddiant personol sef bod ei merch yn berchen ar siop mewn ysbyty lleol.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Mrs. Linda Williams, Cyfarwyddwr a Chomisiynydd Sir Gaerfyrddin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac i Dr. Michael Thomas, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i'r cyfarfod. 

 

Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad ar Sylfeini Newid Sir Gaerfyrddin, sef model sicrhau ansawdd o Loegr oedd yn cael ei dreialu yng Nghymru gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried y cyflwyniad:

 

Yn ateb i gwestiwn ynghylch y cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr (lefel Efydd) ar gyfer practisiau Meddygon Teulu, cadarnhaodd Cyfarwyddwr a Chomisiynydd Sir Gaerfyrddin fod pob practis Meddygon Teulu yn Sir Gaerfyrddin wedi cyflawni'r lefel hon ond bod gwaith yn dal i fynd rhagddo i sicrhau bod pob practis yn cyflawni'r lefel Arian erbyn Ebrill 2016.   

 

Gofynnwyd pam y defnyddiwyd model o Loegr yn hytrach nag ateb cynhenid o Gymru i ateb gofynion unigryw y gwasanaeth iechyd yng Nghymru a sut y gellid cyflawni ei amcanion o ystyried bod rhai rhannau o'r gwasanaeth wedi 'torri' a bod cryn anhawster denu gweithwyr allweddol i Orllewin Cymru. Nododd Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd a Chyfarwyddwr a Chomisiynydd Sir Gaerfyrddin, ni waeth o ble roedd y model yn tarddu, bod amcanion allweddol y model yn ddyheadau y byddai pawb yn dymuno eu derbyn a cheisio eu hefelychu. Roedd Cyfarwyddwr a Chomisiynydd Sir Gaerfyrddin yn cydnabod ei bod yn anodd recriwtio gweithwyr i ranbarth Hywel Dda a bod hwn yn fater allweddol roedd y Bwrdd yn ceisio mynd i'r afael ag ef. Er hynny, pwysleisiodd fod Sir Gaerfyrddin mewn gwell sefyllfa na siroedd eraill yn y rhanbarth, yn enwedig oherwydd yr ysbytai athrofaol a'r cydweithio ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

 

Yn ateb i gwestiwn ynghylch disgwyliad oes yn Sir Gaerfyrddin a'r cynnydd yn nifer y bobl h?n, cadarnhaodd Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd mai'r nod oedd cynyddu disgwyliad oes 3 blynedd ar draws pob gr?p oedran yn ogystal ag yn yr ardaloedd lle roedd disgwyliad oes ar ei isaf. Yn dilyn cwestiwn ychwanegol ynghylch ardaloedd mwyaf difreintiedig Sir Gaerfyrddin o ran anghydraddoldebau iechyd, roedd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yn cydnabod y byddai disgwyliad oes yr ardaloedd hynny'n is ond bod gwasanaethau iechyd yn cael eu targedu i'r ardaloedd hynny er mwyn mynd i'r afael â'r problemau (e.e. rhoi'r gorau i ysmygu, Iechyd Da).

 

Mynegwyd pryder bod pobl ifanc yn parhau i yfed llawer mwy o alcohol na chenedlaethau'r gorffennol a gofynnwyd beth y gellid ei wneud i fynd i'r afael â hyn. Rhoddodd Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd wybod i'r Pwyllgor fod llawer o waith yn cael ei gyflawni mewn sefydliadau addysg (e.e. Cynllun Ysgolion Iach a Rhaglen Ieuenctid Iechyd Da yn Sir Gaerfyrddin) a bod unigolion a oedd yn cael eu derbyn i Unedau Damweiniau ac Achosion Brys fel canlyniad i yfed gormod o alcohol yn cael eu cyfeirio drwy gyfrwng nyrs cyswllt alcohol am ddiagnosis a thriniaeth.

 

Cyfeiriwyd at nifer y cyn-filwyr o'r lluoedd arfog oedd yn dychwelyd ar ôl eu hamser yn gwasanaethu a gofynnwyd beth oedd practisiau Meddygon Teulu yn ei wneud neu beth y gallent ei wneud i gynorthwyo dynion a merched a fu yn y lluoedd arfog ac a allai fod ag amrywiaeth o broblemau cymhleth.  Rhoddodd Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd wybod i'r Pwyllgor fod gan Iechyd Cyhoeddus Cymru arweinydd enwebedig cenedlaethol dros iechyd cyn-filwyr er mwyn sicrhau bod yr holl wasanaethau yn barod i adnabod ac i ymdrin â phroblemau corfforol, meddyliol neu emosiynol sydd gan gyn-filwyr. 

 

Gofynnwyd a oedd nifer dda o bobl yn dod i'r gwahanol ddigwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd ac awgrymwyd y gallai'r sefydliadau iechyd ddefnyddio digwyddiadau sy'n bod eisoes (e.e. digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol neu ymweld â thafarndai) er mwyn ymgysylltu â mwy o bobl. Nododd Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd fod yr asiantaeth yn cynnal llawer o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn er ei fod yn cydnabod mai canran fach yn unig o'r boblogaeth oedd yn ymgysylltu drwy weithgareddau o'r fath. Er hynny, roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystyried pob dewis posibl i ymgysylltu a lledaenu gwybodaeth i'r cyhoedd, yn enwedig drwy'r cyfryngau a'r cyfryngau cymdeithasol.

 

Gofynnwyd cwestiwn ynghylch pa mor dda roedd y broses o integreiddio iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei weithredu yn y rhanbarth ac a oedd y gwaith hwn yn cael ei gyflawni'n ddigon cyflym. Awgrymodd Cyfarwyddwr a Chomisiynydd Sir Gaerfyrddin fod Sir Gaerfyrddin yn gwneud cynnydd da o ran rhanbarth Hywel Dda ond bod llawer o waith i'w wneud, yn enwedig mewn perthynas â threfniadau cyllid. Pwysleisiodd fod angen i hyn gael ei wneud yn dda ac na ddylid ei frysio ac ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru, hyd yma, wedi bod yn annog y cyrff perthnasol i gydweithio ond yr hyn oedd yn debygol o ddigwydd yn y dyfodol agos oedd y byddai'n ofynnol i iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol integreiddio drwy gyflwyno mesurau neu ddeddfwriaeth benodol. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i Gyfarwyddwr a Chomisiynydd Sir Gaerfyrddin ac i Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd am y diweddariad cynhwysfawr ac awgrymodd y dylai'r Pwyllgor gael diweddariad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol ac y byddai holl aelodau'r Cyngor Sir yn cael budd o gael y cyflwyniad. Cytunodd y Pwyllgor â'r cynigion hyn.  

 

PENDERFYNWYD:

 

6.1      Bod y cyflwyniad yn cael ei dderbyn.

 

6.2   Bod adroddiad ar waith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei gynnwys ym Mlaenraglen Waith y Pwyllgor.

 

6.3       Y dylid awgrymu fod y Cyngor Sir yn cael cyflwyniad ar y model Sylfeini Newid.

 

Dogfennau ategol: