Agenda item

TALIADAU HAMDDEN 2018-19

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i grynhoad o'r taliadau hamdden arfaethedig ar gyfer 2018-19 a oedd yn cynnwys mân newidiadau yn sgil adborth o gyfarfod y Pwyllgor Craffu - Cymunedau a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2017, fel cyflwyno tocyn 5-7 diwrnod ar gyfer y parciau gwledig a fyddai'n addas ar gyfer twristiaid. Roedd yr adroddiad yn cynnwys taliadau am y canlynol:-

·         Gwasanaethau Diwylliannol (Lleoliadau'r Celfyddydau a'r Theatr);

·         Lleoliadau Hamdden a Chwaraeon (canolfannau hamdden a phyllau nofio);

·         Hamdden Awyr Agored (Parciau Gwledig, gan gynnwys Parc Arfordirol y Mileniwm, a maes parcio Traeth Pentywyn; Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn.

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r crynhoad o Daliadau Hamdden ar gyfer 2018-19.

 

Dogfennau ategol: