Agenda item

SEFYDLU CWMNI TAI SY'N EIDDO I'R CYNGOR

Cofnodion:

(NODER: Gadawodd y Cynghorydd H.A.L. Evans, a oedd wedi datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon, Siambr y Cyngor tra oedd y Bwrdd Gweithredol yn penderfynu ar y cais)

 

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol, (yn ymwneud â chofnod 13 o'i gyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2017), adroddiad ar gynigion ar gyfer sefydlu Cwmni Tai Lleol ym Mherchnogaeth y Cyngor (Y Cwmni) fel cyfrwng datblygu i gyflymu'r gwaith o adeiladu tai yn Sir Gaerfyrddin er mwyn cynyddu'r cyflenwad o dai ychwanegol y mae angen mawr amdanynt, a hynny gan greu cyfleoedd am swyddi, hyfforddiant a phrentisiaethau, cefnogi'r gadwyn gyflenwi a chyflwyno dyheadau adfywio'r Cyngor. Byddai'r Cwmni hefyd yn ategu'r defnydd parhaus o adnoddau'r Cyfrif Refeniw Tai i gomisiynu tai newydd (lle'r oedd hi'n briodol gwneud hynny) a byddai hefyd yn cefnogi Ymrwymiad y Cyngor i Dai Fforddiadwy a wnaed ym mis Mawrth 2016 ar gyfer dewisiadau darparu tai eraill er mwyn cynyddu nifer y cartrefi yn y Sir.

 

Cynghorwyd y Bwrdd Gweithredol y byddai'r Cwmni, pe bai'n cael ei gymeradwyo, yn berchen i'r Cyngor yn llawn, ac na fyddai'n golygu trosglwyddo unrhyw ran o stoc dai bresennol y Cyngor, a fyddai'n parhau i gael ei reoli a'i gynnal gan y Cyngor, na threfniadau TUPE (Trosglwyddo Ymgymeriadau (Gwarchod Cyflogaeth)) y staff presennol.

 

Cynghorwyd y Bwrdd Gweithredol ymhellach fod yr adroddiad yn nodi'n fanwl y trefniadau ar gyfer sefydlu'r Cwmni a'i fod yn cynnwys saith argymhelliad i gael eu cymeradwyo ganddo, a oedd yn cynnwys y trefniadau ar gyfer penodi pum cyfarwyddwr cwmni, paratoi cynllun busnes i gael ei gymeradwyo gan y Bwrdd a'r Cyngor a'r costau sefydlu cychwynnol.

 

Cafodd yr adroddiad ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu - Cymunedau yn y cyfarfod a gynhaliwyd ganddo ar 24Tachwedd 2017 gyda'r argymhelliad ychwanegol fod y Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr awgrym y dylai'r Cyngor dderbyn cyflwyniad ar y Cynllun Busnes gorffenedig ar yr adeg briodol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Prosser, yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 11.1, p'un a fyddai'r Cwmni Tai Cyngor arfaethedig, y byddai ganddo bump o Gyfarwyddwyr gydag ond un ohonynt yn aelod o'r Cyngor, yn adlewyrchu'r sefyllfa yn Lloegr ac mewn Cwmnïau Tai eraill ac oni fyddai'n well, at ddibenion craffu, pe bai'r Cyngor yn defnyddio'r un dull ag yn achos ei Bwyllgor Pensiynau ac yn penodi tri aelod o'r Cyngor yn Gyfarwyddwyr ar sail drawsbleidiol er mwyn bod yn fwy cynrychioliadol, pa blaid bynnag fyddai mewn grym.

 

Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dai y byddai'r Bwrdd Cyfarwyddwyr, fel yn achos pob cwmni, yn gyfrifol am redeg y Cwmni ac y byddai cyfrifoldebau arnynt i gydymffurfio â chyfraith cwmnïau.
 Pe bai'r Bwrdd Cyfarwyddwyr yn cynnwys mwyafrif o aelodau'r Cyngor gallai gael ei gyhuddo o fod yn gorff a reolir gan gyfraith gyhoeddus a'i weld felly. Mewn geiriau eraill, byddai'n edrych fel llywodraeth leol ac felly byddai rhaid iddo ddilyn rheolau llywodraeth leol, gan gynnwys rhwymedigaethau caffael. Roedd yn bwysig fod nod y Cwmni yn cael ei ddeall a bod gan y Cyfarwyddwyr y sgiliau a'r weledigaeth angenrheidiol i sicrhau ei fod yn llwyddiant. Y Cyngor fyddai'r unig gyfranddaliwr, a byddai'r Bwrdd Cyfarwyddwyr yn atebol i'r Bwrdd Gweithredol a allai benodi a newid Cyfarwyddwyr yn ôl yr angen.

 

Mewn ymateb i gwestiwn atodol gan y Cynghorydd Prosser, cadarnhaodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dai y byddai'r Bwrdd Gweithredol yn gyfrifol am benodi cyfarwyddwyr y cwmni ac am sicrhau bod gan y rheiny a benodir y sgiliau cywir, y wybodaeth a'r arbenigedd sydd eu hangen i weithredu'r cwmni.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

6.1

Creu Cwmni Tai sy'n eiddo llwyr i'r Cyngor ("y Cwmni") er mwyn adeiladu tai i'w gwerthu a'u rhentu a bod yn gatalydd ar gyfer gweithgareddau adfywio pellach.

6.2

Bod y Cwmni'n cael ei ymgorffori’n gwmni cyfyngedig ac mai’r Cyngor fyddai’r unig gyfranddaliwr.

6.3

Cymeradwyo'r Erthyglau Cymdeithasiad a'r caniatâd cyfranddaliwr ar gyfer y Cwmni.  

6.4

Bod Bwrdd y Cwmni yn paratoi ac yn cytuno ar Gynllun Busnes y Cwmni ac yna'n ei gyflwyno i'w gymeradwyo'n ffurfiol gan Fwrdd Gweithredol yr Awdurdod cyn i'r Cynllun Busnes gael ei roi ar waith.

6.5

Bod unrhyw fenthyciad gan y Cyngor, fel y cytunwyd arno yng nghynllun busnes y Cwmni, yn cael ei ad-dalu ar gyfradd log fasnachol y cytunodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol arni.

6.6

Y dylid adennill costau cychwynnol y Cwmni (yr amcangyfrifir eu bod yn £100,000 yn 2017/18), trwy drefniant benthyca (ar gyfradd fasnachol a bennir gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol) gan gytuno ar ei hyd o fewn y cynllun busnes manwl. Pe na fyddai'r Cwmni'n cael ei sefydlu, byddai'r costau gweithredu'n dod o gronfeydd wrth gefn.

6.7

Bod y Bwrdd Cyfarwyddwyr yn cynnwys un aelod o’r Cyngor, dau swyddog a dau benodiad allanol.

 

Dogfennau ategol: