Agenda item

FFRAMWAITH AROLYGU ESTYN DIWYGIEDIG.

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar Fframwaith Arolygu diwygiedig Estyn.  Defnyddir y fframwaith arolygu hwn ar gyfer yr holl arolygiadau o ddarparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru a cheir un fframwaith ar gyfer yr holl ysgolion a'r unedau cyfeirio disgyblion.  Mae'r fframwaith diwygiedig yn rhoi cyfle i ysgolion gyflwyno eu harfer wrth gymharu â'r meysydd arolygu canlynol:-

 

- Safonau

- Llesiant ac agweddau at ddysgu

- Profiadau addysgu a dysgu

- Gofal, cymorth ac arweiniad

- Arweinyddiaeth a rheoli

 

Croesawodd y Cadeirydd, Mr Aled Davies, Prifathro Ysgol Gynradd Llangynnwr i'r cyfarfod a gafodd wahoddiad i roi cyflwyniad i'r Pwyllgor.  

 

Dywedodd Mr Davies wrth y Pwyllgor fod ei ysgol wedi cael arolygiad yn ddiweddar a'r ysgol gyntaf yn y Sir i wneud hynny o dan y fframwaith newydd.  Roedd ysgolion yn ymwybodol bod y fframwaith arolygu newydd yn cael ei gyflwyno, ac roedd swyddogion o'r Adran Addysg wedi helpu ysgolion i baratoi drwy ddarparu sesiynau hyfforddi a chymorth o ran paratoi dogfennau a'r Cynlluniau Datblygu Ysgol. 

 

Yn y gorffennol roedd ysgolion yn cael rhybudd o 4 wythnos cyn dechrau'r arolygiad ond dim ond 15 diwrnod gwaith o rybudd a roddir o dan y fframwaith newydd.  Byddwch yn cael galwad fore Llun yn rhoi gwybod ichi am yr ymweliad ac mae'n rhaid i chi lwytho'r holl ddogfennau gofynnol ar wefan Estyn erbyn dydd Gwener yr un wythnos.  Dylai'r dogfennau angenrheidiol fod yn barod gan ysgolion beth bynnag oherwydd eu bod yn ddogfennau statudol. Mae angen i Estyn wybod bod yr ysgol yn gwybod yr hyn sydd angen ei wella a chyfeiriad yr ysgol ac ati a bod hyn i gyd yn cael ei gynnwys yn y Cynllun Datblygu Ysgol.  Rhaid cwblhau'r dogfennau hunanwerthuso a chynnwys tystiolaeth gadarn i brofi'r hyn rydych yn ei ddweud.  Mae'n bwysig iawn cael y dogfennau hyn yn barod ac ar waith.

 

O ran yr arolygiad ei hun, rhoddir cryn dipyn o bwyslais ar y disgyblion ac mae'r arolygwyr yn treulio llawer o amser yn siarad â'r plant.  Maent yn casglu tystiolaeth o'r sgyrsiau hyn â'r disgyblion.  Mae'n bosibl na fyddant yn siarad â'r pennaeth o gwbl gan eu bod wedi gweld y ffurflenni hunanwerthuso ac yn gwybod beth yw barn a safbwyntiau'r pennaeth.  Maent yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar siarad â disgyblion a staff a hefyd â rhieni a llywodraethwyr.   Bellach mae'r pwyslais ar yr unigolyn a'r cynnydd y mae'n ei wneud yn yr ysgol, fodd bynnag, mae'r arolygwyr yn parhau i edrych ar grwpiau penodol e.e. plant sy'n gymwys am Brydau Ysgol am Ddim.   

 

Mae astudiaethau wedi dangos bod 65-70% o'r swyddi y bydd y plant hyn yn eu gwneud heb eu creu eto, felly, mae'n bwysig pwysleisio'r sgiliau sydd eu hangen ar blant ac nid swydd benodol. 

 

Mae llesiant y disgybl hefyd yn bwysig iawn ac agwedd y disgybl tuag at ddysgu.   Mae presenoldeb yn ffactor bwysig arall sy'n cael sylw, er bod presenoldeb o 90% yn ymddangos yn dda, os bydd plentyn wedi cyrraedd cyfradd presenoldeb o 90% yn yr ysgol o 4-16 oed mae hyn yn cyfateb i golli blwyddyn gyfan o addysg.

 

Yn y gorffennol, byddai arolygiadau yn golygu bod arolygydd yn bresennol mewn gwers am awr ac yna'n rhoi barn ar y dull addysgu.  Yn rhan o'r system newydd mae'r un arolygydd yn edrych ar ddisgyblaeth, un arall ar ddefnydd o'r Gymraeg yn ystod y dydd ac ati.  Yna mae'r Arolygwyr yn cyfarfod ar ddiwedd y dydd i drafod eu canfyddiadau.  Mae croeso i'r Pennaeth fod yn bresennol a gwrando ar y drafodaeth.

 

Mae Arolygwyr yn edrych ar dracio, monitro, darparu cymorth a datblygiad personol gan gynnwys a yw'r staff yn cael cyfleoedd hyfforddiant.  Maent hefyd yn edrych ar arweinyddiaeth a rheoli a hyd yn oed ar gofnodion cyfarfodydd staff.  Yn y gorffennol byddai hyn yn cynnwys gr?p bach, gan gynnwys y pennaeth ac un neu ddau eraill, fodd bynnag, y prif wahaniaeth bellach o dan y drefn newydd yw bod yr holl lywodraethwyr a'r athrawon yn cymryd rhan. 

 

Cyflwynwyd y cwestiynau canlynol ar yr adroddiad a'r cyflwyniad:-

 

·       Gofynnwyd a oedd unrhyw ddilyniant i'r hunanwerthuso, dywedwyd wrth y Pwyllgor ei fod yn rhan o'r Cynllun Datblygu Ysgol a fydd yn nodi'r hyn sydd angen ei wneud dros y 2-3 blynedd nesaf ac mae'n cael ei fonitro'n rheolaidd;

·       Gofynnwyd a oedd ERW wedi cefnogi'r ysgol drwy'r broses arolygu, dywedwyd wrth y Pwyllgor bod Ymgynghorydd Her wedi gweithio'n agos gyda'r ysgol drwy gydol y broses hon;

·       Gofynnwyd a yw'r holl ysgolion y Sir yn "barod am arolygiad" a beth oedd yr awdurdod yn ei wneud i'w helpu yn hyn o beth, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg wrth y Pwyllgor fod yr Awdurdod Lleol/ERW yn darparu amrywiaeth o gymorth ar gyfer ysgolion a bod ysgolion yn y broses o adolygu eu dogfennau hunanwerthuso presennol yn unol â fframwaith diwygiedig Estyn.  Mae gwaith hollbwysig hwn cael ei gynnwys yn y Cynllun Datblygu Ysgol unigol.  Mae swyddogion yn ymwybodol na ddylid gorlwytho ysgolion â gormod o bwyntiau gweithredu/argymhellion ac mae angen sicrhau bod gan lywodraethwyr ymagwedd ymarferol. Ychwanegodd fod ysgolion yn y Sir yr un mor barod ag unrhyw ysgol arall mewn awdurdodau eraill.  Pwysleisiodd yr angen i bwysleisio cynnydd yn hytrach na chanolbwyntio ar  'ystadegau data' yn unig a'r angen i dracio/rhoi ffocws ar y plentyn drwy'r Cyfnodau Allweddol.  Ychwanegodd Mr Davies fod hyn yn rhoi pwysau ar staff a'r peth pwysicaf i bennaeth yw sicrhau bod yr athrawon yn barod ac yn egnïol a'u bod yn ysbrydoli'r disgyblion.  Pwysleisiodd ei fod yn hanfodol wrth baratoi ar gyfer y fframwaith arolygu newydd i ystyried a ydym yn rhoi gormod o bwysau ar ein hathrawon. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Davies am ddod i'r cyfarfod ac am gyflwyniad diddorol a llawn gwybodaeth.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a'r cyflwyniad.

 

Dogfennau ategol: