Agenda item

DIWEDDARIAD RHAGLEN TIC.

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a derbyn cyflwyniad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Trawsnewid i Wneud Cynnydd (TIC) – Cymorth ar gyfer Ysgolion.

 

Yn hanesyddol mae cyllidebau dirprwyedig ysgolion wedi cael eu diogelu rhag gostyngiadau fel rhan o raglen effeithlonrwydd corfforaethol.  Gan mai gostyngiadau pellach yw'r rhagolygon ar gyfer cyllideb y Cyngor yn y dyfodol, mae ysgolion wedi cael eu herio i ddod o hyd i arbedion effeithlonrwydd yn y gyllideb gan sicrhau ar yr un pryd bod safonau yn cael eu cynnal neu'n gwella.  Er mwyn helpu gyda'r gwaith, mae Allan Carter, Dirprwy Bennaeth Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth wedi ymuno â'r tîm ar secondiad er mwyn canolbwyntio ar helpu ysgolion i ddod o hyd i arbedion effeithlonrwydd yn y gyllideb.

 

Sefydlwyd rhaglen TIC dros bedair blynedd yn ôl mewn ymateb i her ariannol hynod galed.  Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf mae prosiectau TIC wedi helpu i sicrhau arbedion ariannol o dros £2m ac mae'r rhaglen, ers ei sefydlu, wedi helpu i nodi arbedion sy'n dod i gyfanswm o bron i £11.5m.  Dechreuodd Allan ar ei rôl yn amser llawn ym mis Medi 2017 ac mae'n gweithio gyda chydweithwyr TIC i ddeall eu methodoleg ac i weld sut y gallwn ailadrodd y llwyddiant hwnnw ar draws ysgolion yn Sir Gaerfyrddin.

 

Nod y Rhaglen TIC i Ysgolion yw defnyddio egwyddorion TIC o weithio ar y cyd, lleihau gwastraff a rhannu arfer da i gynorthwyo ysgolion i leihau costau, ond ar yr un pryd, diogelu ansawdd gwasanaethau rheng flaen a gwella deilliannau.  Mae hefyd yn ceisio cryfhau'r cysylltiadau rhwng ysgolion a'r Awdurdod Lleol drwy weithio mewn partneriaeth.  Ni fwriedir iddo fod yn ymagwedd o'r brig i'r bôn.

 

Yn ystod dau fis cyntaf ei secondiad mae Allan wedi nodi nifer o feysydd ffocws lle y gellid gwneud arbedion ac mae'n gweithio gyda chydweithwyr i ddatblygu'r rhain.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad a'r cyflwyniad:-

 

·       Cyfeiriwyd at dendro a chaffael ar y cyd a gofynnwyd i'r swyddogion a fyddai'r awdurdod yn cefnogi ysgolion yn gweithio ar y cyd ar bethau fel torri gwair.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg wrth y Pwyllgor fod gan ysgolion Gytundebau Lefel Gwasanaeth unigol ond rhoddir ystyriaeth bob amser i gyfleoedd i wella effeithlonrwydd ac mae hyn rhan o waith TIC ar hyn o bryd;

·       Gofynnwyd i swyddogion a roddwyd ystyriaeth i weithio ar y cyd a rhannu arbenigedd/staff i gyflawni rhai o bynciau'r cwricwlwm.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg wrth y Pwyllgor fod hwn eisoes ar waith o ran uno grwpiau o ddisgyblion i gyflawni rhai pynciau;

·       Mynegwyd pryder mai un o'r problemau a wynebir gan ysgolion yw'r ffaith nad yw eu systemau TG wedi'u safoni. Dywedodd Mr Carter wrth y Pwyllgor y dylid safoni'r holl systemau.  Eglurodd y Rheolwr Datblygu Strategol ymhellach fod yr holl ysgolion cynradd yn defnyddio'r system Canolfan Athrawon a bod yr holl ysgolion uwchradd yn defnyddio'r system SIMS (System Gwybodaeth Reoli Ysgolion Uwchradd);

·       Cyfeiriwyd at salwch ac absenoldeb staff a'r gost a ddaw yn sgìl  trefnu athrawon cyflenwi a'r effaith ar ddisgyblion a gofynnwyd i'r swyddogion a oes gan yr Awdurdod strategaeth ar waith i ddiogelu plant a staff rhag y sgìl effeithiau hyn. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg wrth y Pwyllgor fod gweithdy wedi'i gynnal yn ddiweddar ar gyfer holl lywodraethwyr ysgolion i hyrwyddo'r athroniaeth bod staff hapus yn staff effeithiol.  Mae'n bwysig sicrhau bod adnoddau ar gael er mwyn cefnogi llesiant staff;

·       Cyfeiriwyd at y Rheolwyr Busnes a gofynnwyd i'r swyddogion a fyddai'n rhaid i  ysgolion dalu am y gwasanaeth hwn.  Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg bydd y cynllun peilot yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru hyd fis Gorffennaf 2019;

·       O ran defnyddio staff asiantaethau allanol ar gyfer salwch/absenoldeb, gofynnwyd i swyddogion a fyddai modd i'r Awdurdod gael rhestr o staff y gellir eu defnyddio at ddibenion cyflenwi yn hytrach na defnyddio staff asiantaethau allanol.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg wrth y Pwyllgor fod yr Awdurdod yn ddiweddar wedi llwyddo i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i dreialu model o'r fath ar gyfer 3 o staff canolog y byddai modd eu hanfon i glwstwr o ysgolion pe bai'r angen yn codi.  Ychwanegodd fod y cais a dderbyniwyd ar gyfer 3 o athrawon yn unig, fodd bynnag roedd yn fodel y gellid ei gyflwyno yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD

 

6.1    derbyn yr adroddiad a'r cyflwyniad;

 

6.2 bod y Pwyllgor yn cael adroddiad am y wybodaeth ddiweddaraf  ymhen chwe mis.

 

Dogfennau ategol: