Agenda item

ADRODDIAD HANNER BLWYDDYN YNGHYLCH RHEOLI PERFFORMIAD - 1AF EBRILL TAN 30AIN MEDI 2015

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad Hanner Blwyddyn ynghylch Rheoli Perfformiad ar gyfer y gwasanaethau o fewn ei faes gorchwyl, am y cyfnod o'r 1af Ebrill tan 30ain Medi 2015. Roedd yr adroddiad  yn cynnwys:

 

·         Golwg Gyffredinol ar y Perfformiad gan Benaethiaid y Gwasanaethau

·         Monitro’r Cynllun Gwella – Camau Gweithredu a Mesurau Perfformiad

·         Monitro Cwynion a Chanmoliaeth

·         Ystadegau Troseddau yn Sir Gaerfyrddin

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at gynlluniau'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a gofynnwyd a oedd cyfle i'r Awdurdod Lleol wneud defnydd o d?'r Heddlu yn Felin-foel oedd yn wag, yn enwedig yng ngoleuni'r galw am dai cymdeithasol. Nododd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod gan yr Awdurdod gyllid i sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio eto fel tai cymdeithasol a chytunodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol i egluro'r mater gyda Heddlu Dyfed-Powys. 

 

Yn ateb i gwestiwn ynghylch statws y cynllun uwchraddio goleuadau cyhoeddus, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Stryd wrth y Pwyllgor bod cais Buddsoddi i Arbed a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru wedi bod yn llwyddiannus yn ôl datganiad i'r wasg er nad oedd y swyddogion wedi cael eu hysbysu'n swyddogol o hyn eto. Byddai'r cyllid o £1.4 miliwn yn helpu i ariannu newid tua 12,500 o oleuadau stryd yn unedau LED ac y disgwylir arbedion o £600,000 y flwyddyn ar ynni a llafur. 

 

Awgrymwyd er bod yr adroddiad yn nodi gostyngiadau hyd at ddiwedd 2014/15, byddai'r ffigyrau ar gyfer marwolaethau ar y ffyrdd yn uwch yn dilyn nifer y rhai a gafodd eu lladd yn ystod haf 2015. Roedd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg yn cydnabod bod y ffigyrau ar gyfer damweiniau wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn ac roedd yr ymchwil a wnaed gyda Heddlu Dyfed-Powys yn dangos mai ymddygiad gyrwyr oedd yn bennaf gyfrifol am achosi hyn. Roedd y cynnydd yn nifer y beicwyr modur a gafodd eu lladd yn destun pryder mawr ac roedd yr Awdurdod yn parhau i weithio'n galed i leihau nifer y digwyddiadau hynny, yn enwedig drwy ymgyrchoedd ar y cyd â Heddlu Dyfed-Powys (e.e. ‘Ymgyrch Darwen’) a chynlluniau addysgol.

 

Yn ateb i ymholiadau ynghylch Ffordd Osgoi Llandeilo, atgoffodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg y Pwyllgor fod ymrwymiad i'r ffordd osgoi yn y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol ac y byddai amrywiol astudiaethau yn ymwneud â'r llwybr arfaethedig yn dechrau erbyn diwedd y flwyddyn. Fodd bynnag, roedd angen goresgyn nifer o rwystrau cyn y gellid cychwyn ar unrhyw waith adeiladu. Ychwanegodd fod y llwybr a ffafrir wedi cael ei nodi a'i warchod rhag unrhyw ddatblygiadau tai ond y byddai unrhyw newidiadau i'r llwybr hwn yn cael ei ystyried gan y gweinidog fel rhan o'r broses statudol. 

 

Mewn perthynas â chwestiwn am y cydweithio rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Awdurdod Lleol yn ymwneud â herwhela pysgod cregyn, cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus fod swyddogion yn wir yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru a bod gan y ddau gyfrifoldeb penodol dros wahanol ardaloedd ar hyd morlin Sir Gaerfyrddin. Fodd bynnag, oherwydd maint yr ardal dan sylw, roedd yn anodd monitro a phlismona'r morlin oherwydd diffyg adnoddau gan yr asiantaethau perthnasol.

 

Awgrymwyd gofyn i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol lobïo Llywodraeth Cymru i gynyddu'r gwaith o fonitro'r gwelyau pysgod cregyn ym Mae Caerfyrddin er mwyn atal a rhwystro herwhela. Hefyd awgrymwyd oherwydd ymddygiad ymosodol yr herwhelwyr, y dylid anfon copïau at Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ac Asiantaeth Ffiniau'r DU o unrhyw ohebiaeth a anfonir at Lywodraeth Cymru.  Cytunodd y Pwyllgor â'r cynnig hwn.

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch statws Asesiad TEEP (ymarferol yn dechnegol, yn economaidd ac yn amgylcheddol) o drefniadau casglu deunyddiau gwastraff ac ailgylchu Sir Gaerfyrddin, mewn ymateb i ddymuniad Llywodraeth Cymru i safoni'r prosesau ar draws Cymru ar gyfer systemau didoli ymyl y ffordd.  Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Stryd fod ymgynghorydd allanol a gyflogir gan yr Awdurdod yn cynnal asesiad trosolwg lefel uchel cychwynnol o fethodoleg casglu Sir Gaerfyrddin, ac y byddai'n adrodd nôl maes o law. Roedd yr Awdurdod wedi egluro'n llawn ei syniadau ynghylch methodolegau casglu i swyddogion Llywodraeth Cymru yn y gorffennol. Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd wrth y Pwyllgor fod y Prif Weithredwr ac Arweinydd y Cyngor hefyd wedi cwrdd â Llywodraeth Cymru ac wedi cyflwyno sylwadau cryf i'r gweinidogion ynghylch safbwynt Sir Gaerfyrddin sef y dylai awdurdodau lleol fod yn rhydd i ddefnyddio pa broses bynnag oedd yn diwallu eu hanghenion nhw orau.

 

Mynegwyd siom fod adran Canmoliaeth a Chwynion yr adroddiad yn dal i adael allan ymholiadau gan Gynghorwyr oedd yn aml yn gwynion ond a gyflwynwyd drwy broses wahanol. Y farn oedd nad oedd yr adroddiad felly'n wir adlewyrchiad o'r cwynion a'r ganmoliaeth a gafodd yr Awdurdod.  Cytunodd y Cadeirydd a'r Ymgynghorydd Cynorthwyol i anfon y sylwadau ymlaen at y swyddog perthnasol oedd â chyfrifoldeb dros yr adroddiadau hyn.    

 

 PENDERFYNWYD:

 

7.1       Bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.2       Bod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol (Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd) yn cael ei ofyn i lobïo Llywodraeth Cymru i ddyrannu (ar y cyd â'r asiantaethau perthnasol), adnoddau ychwanegol er mwyn gallu cynyddu'r gwaith monitro yn ardal Bae Caerfyrddin er mwyn atal herwhela pysgod cregyn.

 

 

Dogfennau ategol: