Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||
E/37292 - CODI GAREJ AR WAHÂN Â THO Â PHIG, 125 HEOL SARON, SARON, RHYDAMAN, SA18 3LH PDF 106 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu [Rhanbarth y De] at yr ymweliad preifat i'r safle a gynhaliwyd gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (cofnod 3.1 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gyhaliwyd ar 23 Awst 2018 yn cyfeirio at hyn), er mwyn galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.
Cafwyd sylw yn gwrthwynebu'r cais, a ail-bwysleisiai’r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio a oedd hefyd yn cyfeirio at hanes y safle, natur ormesol y datblygiad, uchder y wal derfyn gyfagos, y gwaith o godi'r llawr gwaelod i'w uchder presennol, safle cwteri d?r glaw, craciau ar y llwybr i'r eiddo cyfagos a'i fod yn groes i Bolisi GP6 Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin oherwydd ei effaith ar amwynder y breswylfa gyfagos.
Ymatebodd yr ymgeisydd ac Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) i'r materion a godwyd. Gan gyfeirio'n benodol at bryderon y cymydog o ran uchder ac effaith y wal derfyn, cynigodd yr ymgeisydd leihau uchder y wal drwy gael gwared â dwy res o flociau concrid yn hytrach nag un rhes fel y cynigwyd yn flaenorol.
PENDERFYNWYD caniatáu cais cynllunio E/37292, yn amodol ar gyflwyno cynlluniau diwygiedig sy'n rhoi manylion ynghylch lleihau uchder y wal derfyn, fel y cynigwyd gan yr ymgeisydd.
|
||||||||||
RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU PDF 980 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: 4.1 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio:-
|
||||||||||
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU PDF 944 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: 4.1 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio:-
4.2 PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-
|
||||||||||
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU PDF 1 MB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: 4.1 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio:-
|
||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 4YDD MEDI, 2018 PDF 104 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 4 Medi 2018 gan eu bod yn gywir.
|