Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Gartrefi a Dirprwy Arweinydd - Dydd Mawrth, 6ed Chwefror, 2024 2.00 yp

Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 8 IONAWR, 2024 pdf eicon PDF 83 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 8 Ionawr 2024, gan ei fod yn gywir.

3.

CRONFA CYMORTH BWYD UNIONGYRCHOL pdf eicon PDF 178 KB

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i adroddiad ar gynigion i sefydlu cyfres o fentrau i gefnogi anghenion pobl sy'n wynebu tlodi bwyd yn Sir Gaerfyrddin, fel rhan o Gronfa Cymorth Bwyd Uniongyrchol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24 y dyrannwyd cyllideb i'r Cyngor o £45,647 (cyllid cyfalaf) a £55,916 (cyllid refeniw).

 

Er mwyn cefnogi anghenion cymunedau lleol, cynigiwyd bod y cyllid yn cael ei ddefnyddio i ddarparu'r grantiau trydydd parti canlynol (fel y manylir yn yr adroddiad) a weinyddir gan Dîm Biwro'r Cyngor o fewn Datblygu Economaidd:

 

·         Cymorth i Fanciau Bwyd

·         Cymorth Digidol

·         Cronfa Gyfalaf

 

Nododd yr Aelod Cabinet, o ran y cymorth a ddarperir i fanciau bwyd sydd wedi'u lleoli yn Sir Gaerfyrddin, y byddai banciau bwyd sydd wedi'u lleoli o fewn ardaloedd awdurdodau cyfagos hefyd yn gymwys i wneud cais am gyllid ar yr amod eu bod yn rhoi cymorth i drigolion yn Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD

 

3.1

Cymeradwyo sefydlu'r grantiau trydydd parti canlynol drwy Gronfa Gymorth Llywodraeth Cymru a weinyddir gan Dîm Biwro'r Cyngor o fewn Datblygu Economaidd:

·       Cymorth i Fanciau Bwyd

·       Cymorth Digidol

·       Cronfa Gyfalaf

3.2

Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Adfywio, Polisi a Digidol i ddyfarnu cyllid i ymgeiswyr llwyddiannus.