Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Jessica Laimann 01267 224178
Rhif | eitem | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Aaron Shotton (Cyngor Sir y Fflint). |
|||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
(Noder: Mae eithriad yng Nghod Ymddygiad Aelodau sy'n galluogi i aelod sydd wedi'i benodi neu'i enwebu i gorff perthnasol gan ei awdurdod ddatgan y budd hwnnw ac i aros a chymryd rhan yn y cyfarfod). |
|||||||||||||||
LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 20 SEPTEMBER 2019 PDF 310 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cydbwyllgor Llywodraethu a gynhaliwyd ar 20 Medi 2019, fel cofnod cywir. |
|||||||||||||||
DIWEDDARIAD GAN YR AWDURDOD LLETYA PDF 232 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Hysbyswyd y Cydbwyllgor bod gwaith ar nifer o bolisïau a chynlluniau wedi ei gwblhau yn ystod y misoedd diwethaf a daethpwyd â'r dogfennau isod i'r cyfarfod heddiw i'w cymeradwyo:
· Datganiad Credoau · Matrics llywodraethu · Cynllun cyfathrebu · Cynllun Hyfforddi 2019/20
O ran y camau nesaf a'r blaenoriaethau, hysbysodd Mr Parnell fod cynllun busnes yn cael ei ddatblygu a byddai fersiwn drafft yn cael ei ddosbarth i'r Cydbwyllgor yn y flwyddyn newydd. Roedd yr is-gr?p marchnadoedd preifat yn gweithio ar ddiffinio'r gofynion ar gyfer asedau caeth a byddent yn rhoi argymhellion i Weithgor y Swyddogion a'r Cydbwyllgor. Byddai asiant pleidleisio drwy ddirprwy yn cael ei benodi a pholisi pleidleisio'n cael ei ddatblygu.
Mewn meysydd allweddol eraill, hysbyswyd y Cydbwyllgor fod BlackRock wedi eu penodi fel y Rheolwr Trawsnewid Incwm Sefydlog. Bydd Link yn rhoi diweddariad ar weithrediad y cynllun ar gyfer y trawsnewid yn y cyfarfod heddiw. Atodwyd cynllun gwaith PPC wedi ei ddiweddaru am 2019/20 ac roedd datganiad i'r wasg ar Bolisi Buddsoddi Cyfrifol PPC to atodol i'r adroddiad.
O safbwynt y Polisi Buddsoddi Cyfrifol, awgrymwyd y dylai matrics monitro amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu (ESG) ystyried adrodd am allyriadau Sgôp 1-3 fel a nodwyd yn y Protocol Nwyon T? Gwydr.
PENDERFYNWYD i dderbyn cyflwyniad yr awdurdod lletya. |
|||||||||||||||
CYNLLUN HYFFORDDIANT PPC 2019/20 PDF 216 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Cydbwyllgor Gynllun Hyfforddiant PPC 2019/20. Hysbyswyd y Cydbwyllgor i'r Cynllun Hyfforddi gael ei ddatblygu ar sail yr ymatebion a gafwyd i Holiadur Gofynion Hyfforddi PPC, oedd wedi ei gyflwyno i holl aelodau Gweithgor y Swyddogion ac aelodau'r Cydbwyllgor. Oherwydd amseriad datblygu'r Cynllun Hyfforddi, dim ond chwarter olaf 2019/20 oedd wedi wedi ei gynnwys. Byddai Cynllun Hyfforddi 2020/21 yn cael ei gyflwyno i'w gymeradwyo yng nghyfarfod nesaf y Cydbwyllgor ym mis Mawrth 2020. Hysbyswyd y Cydbwyllgor ymhellach mai bwriad Cynllun Hyfforddi PPC oedd cyd-fynd â chynlluniau hyfforddi yr awdurdodau unigol.
Wrth ateb ymholiad, hysbyswyd y Cydbwyllgor bod yr hyfforddiant a ddarparwyd dan Gynllun Hyfforddi PPC yn agored i aelodau'r pwyllgor pensiwn a'r bwrdd, ar yr amod bod digon o le yn y lleoliadau.
PENDERFYNWYD cymeradwyo Cynllun Hyfforddi PPC 2019/20. |
|||||||||||||||
CYNLLUN CYFATHREBU PPC PDF 228 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cydbwyllgor gyflwyniad ar Gynllun Cyfathrebu PPC. Hysbyswyd fod y Cynllun wedi cael ei ddatblygu yn dilyn gweithdy cyfathrebu a fynychwyd gan aelodau Gweithgor y Swyddogion a'r Cydbwyllgor ym Mehefin 2019. Roedd y Cynllun yn adnabod cynulleidfa PPC, negeseuon allweddol, dulliau cyfathrebu, cyfrifoldebau a'r broses adolygu a myfyrio.
Wrth ateb ymholiad, hysbyswyd y Cydbwyllgor y byddai'r cynllun cyfathrebu yn cael ei ddosbarthu i Aelodau'r Cydbwyllgor ar ebost cyn ei ddosbarthu yn ehangach.
Wrth ateb ymholiad ynghylch y porth dogfennau mewnol, cafodd y Cydbwyllgor wybod y byddai'r porth yn hygyrch i holl aelodau'r Cydbwyllgor a'r Gweithgor Swyddogion.
Gwnaed sylw yn awgrymu y dylai rheolwyr y gronfa ddarparu'r Cydbwyllgor gyda gwybodaeth ar eu gweithgareddau am fuddsoddi cyfrifol a safonau ESG.
Wrth ateb ymholiad ynghylch datganiadau i'r wasg, cafodd y Cydbwyllgor wybod ei fod yn arfer safonol cyffredinol i Gadeirydd y Cydbwyllgor i gael ei ddyfynnu ac i gymeradwyo pob datganiad i'w wasg. Er hynny, roedd yn fanteisiol i gael yr hyblygrwydd i newid yr arfer yma os oedd angen.
PENDERFYNWYD cymeradwyo Cynllun Cyfathrebu PPC. |
|||||||||||||||
DATGANIAD CREDOAU PPC PDF 215 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cydbwyllgor gyflwyniad ar Ddatganiad Credoau PPC. Hysbyswyd y Pwyllgor y byddai'r Datganiad Credoau yn cael ei ddefnyddio i gyfarwyddo gwneud penderfyniadau gan y PPC, polisiau a chynlluniau busnes a byddai ar gael ar wefan PPC.
Awgrymwyd y dylid newid mymryn ar eiriad pwynt 6 a'i osod yn uwch i fyny yn y Datganiad ac na ddylai eitemau gael eu rhifo gan osgoi'r argraff o flaenoriaethu.
PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad Credoau y PPC. |
|||||||||||||||
MATRICS LLYWODRAETHU PPC PDF 125 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cydbwyllgor gyflwyniad ar Fatrics Llywodraethu PPC. Cynghorwyd y Pwyllgor fod y Matrics Llywodraethu yn darparu trosolwg o strwythur llywodraethu PPC, gan gynnwys ei gyrff mewnol a'u cyfrifoldebau perthnasol. Byddai'r Matrics Llywodraethu yn rhan o Lawlyfr Llywodraethu PPC.
PENDERFYNWYD cymeradwyo Matrics Llywodraethu PPC. |
|||||||||||||||
DIWEDDARIAD LINK / RUSSELL PDF 139 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cydbwyllgor gyflwyniad gan Link a Russell ar gynnydd PPC. Hysbyswyd y Cydbwyllgor bod Cronfa Cyfleoedd yn y DU wedi ei lansio ar 23 Medi 2019. O ran Incwm Sefydlog, roedd y dyddiad lansio wedi ei ohirio gan fod gwaith yn mynd rhagddo ar y prosbectws. Byddai'r prosbectws yn cael ei gyflwyno gyda hyn i'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) ac wedyn byddai dyddiad targed lansio newydd yn cael ei gadarnhau. Hysbyswyd y Pwyllgor bod yr adroddiad cynnydd yn atodol gyda Phrotocol Ymgysylltu wedi ei ddiweddaru, oedd yn manylu sut dylai'r gweithredwr ymgysylltu gyda PPC.
Awgrymwyd y dylai adroddiadau cynnydd ddarparu gwybodaeth am faint roedd buddsoddiadau ychwanegol yn eu cyfrannu at ddaliadau cyfredol y gronfa a hefyd bod pum is-gronfa Incwm Sefydlog, yn cynnwys Cronfa Gredyd Sterling y DU.
Mewn ymateb i ymholiad ar y llinell amser i lansio Incwm Sefydlog, hysbysodd cynrychiolwyr o Link y byddai PPC yn derbyn rhagor o wybodaeth yr wythnos nesaf. Cafwyd wybod hefyd eu bod wedi ymgynghori gyda'r Rheolwr Trawsnewid Incwm Sefydlog ac roedd wedi cadarnhau bod ganddynt y gallu i gwblhau'r gwaith trawsnewid yn nes ymlaen.
PENDERFYNWYD derbyn y cyflwyniad. |
|||||||||||||||
ADRODDIADAU PERFFORMIAD AR 30 MEDI 2019 PDF 157 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cydbwyllgor gyflwyniad ar yr adroddiadau perfformiad ar gyfer y Gronfa Twf Byd-eang a'r Gronfa Cyfleoedd Byd-eang fel ar 30 Medi 2019. Cafodd y Cydbwyllgor wybod bod y Gronfa Twf Byd-eang, dros y chwarter diwethaf, wedi cynyddu mewn gwerth o oddeutu 3.8% o £2,204,139,517 i £2,288,355,103 a'r Gronfa Cyfleoedd Byd-eang o tua 3.4% o £2,114,503,736 i £2,186,490,978. O gymharu â'r meincnodau perthnasol, roedd y Gronfa Twf Byd-eang dros y chwarter diwethaf wedi tanberfformio mymryn, gyda dychweliad gwirioneddol o 2.13 yn erbyn meincnod o 3.25 net ffioedd, tra bo'r Gronfa Cyfleoedd Byd-eang wedi gwneud mymryn yn well, gyda dychweliad o 3.40 yn erbyn meincnod o 3.25 net ffioedd.
Wrth ateb ymholiad, hysbyswyd y Cydbwyllgor bod perfformiad rheolwr y gronfa yn cael ei fonitro yn ddyddiol ac roedd gwaith mantoli yn cael ei adolygu bob chwe mis.
Wrth ateb ymholiad, hysbyswyd y Cydbwyllgor y bydd Russell Investments yn darparu mwy o adroddiadau manwl wrth fwrw ymlaen mewn perthynas â'r Gronfa Cyfleoedd Byd-eang.
PENDERFYNWYD nodi Adroddiadau Perfformiad Cronfa Dwf Byd-eang PPC a Chronfa Cyfleoedd Byd-eang PPC fel ar 30 Medi 2019. |
|||||||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod ystyried yr eitem a ganlyn gan fod yr adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth eithriedig, fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A y Ddeddf. |
|||||||||||||||
YMGYNGHORYDD AROLYGIAETH PARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU Cofnodion: [Dalier sylw: Gadawodd cynrychiolwyr o Link Fund Solutions, Russell Investments a Hymans Robertson y cyfarfod i'r eitem yma gael ei hystyried.]
Yndilyn y cais prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati yng Nghofnod 11 uchod, y dylid ystyried y mater hwn yn breifat gan wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod, gan y byddai datgelu'r cyflwyniad yn debygol o gael effaith andwyol ar Bartneriaeth Pensiynau Cymru drwy roi negodiadau dan anfantais.
Ystyriodd y PCC adroddiad ar benodiad yr Ymgynghorydd Trosolwg ar gyfer PPC.
PENDERFYNWYD cymeradwyo penodiad bidiwr 2 fel y bidiwr a ffefrir ar gyfer Ymgynghorydd Trosolwg Partneriaeth Pensiynau Cymru, yn amodol ar gwblhau'r cyfnod segur a therfynu'r Cytundeb Ymgynghorydd Trosolwg. |