Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgorau Craffu ar y Cyd - Dydd Mercher, 15fed Chwefror, 2017 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

PENODI CADEIRYDD AR GYFER Y CYFARFOD.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd D.M. Cundy yn Gadeirydd ar y cyfarfod.

2.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J.P Jenkins, S. Caiach, T. Evans, A.W. Jones, A. Speake, G.B. Thomas, D.J.R Llewellyn, E. Morgan, H.B. Shephardson a Mrs J. Voyle Williams.

3.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Cofnod Eitem(au)  

Y Math o fuddiant

 

Mrs A. Pickles

 

 

6. Cyngor Sir Caerfyrddin – Amcanion Llesiant 2017/18

 

 

Mae’n Gyfarwyddwr ar Gwmni Buddiant Cymunedol sy’n darparu cyrsiau Therapi Cwnsela. Mae’r Cwmni wedi cyflwyno tendr i’r Cyngor yn ddiweddar

 

 

4.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau ynghylch chwip waharddedig.

5.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw gwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

6.

CYNGOR SIR GAERFYRDDIN - AMCANION LLESIANT 2017/18. pdf eicon PDF 258 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODYN: Roedd Mrs A. Pickles wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Ystyriodd y Cyd-bwyllgor adroddiad ar Amcanion Llesiant Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2017/18.  Nododd y Cyd Bwyllgor ei bod yn ofynnol, o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, i’r Cyngor osod Blaenoriaethau o ran ei Amcanion Gwella Allweddol bob blwyddyn a bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus:-

 

·         Osod a chyhoeddi Amcanion Llesiant

·         Cymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r amcanion hynny

·         Cyhoeddi datganiad am Amcanion Llesiant

·         Cyhoeddi adroddiad cynnydd blynyddol

·         Cyhoeddi ein hymateb i argymhelliad a wnaed gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol dros Gymru

 

Tynnodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) sylw’r Cyd-bwyllgor at y ffaith y byddai Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ystyried a gwella llesiant Cymru, drwy ystyried anghenion cenedlaethau’r dyfodol wrth wneud penderfyniadau.

 

Hysbysodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) y Cyd-bwyllgor y byddai’r Blaenoriaethau o ran Amcanion Gwella Allweddol a’r Amcanion Llesiant yn cael eu hintegreiddio ar gyfer 2017/18.

 

Gwyliodd y Cyd-bwyllgor animeiddiad byr, a oedd yn egluro’r effaith gadarnhaol a gâi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gydol oes merch ifanc. Yn dilyn yr animeiddiad, rhoddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) gyflwyniad yn egluro beth oedd yn ofynnol gan y Cyngor er mwyn cydymffurfio â’r Ddeddf a sut y câi’r amcanion llesiant eu datblygu.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) fod pob un o Amcanion Llesiant 2017/18 y Cyngor wedi’u datblygu i gydymffurfio â’r Ddeddf, sy’n dweud bod rhaid i gyrff cyhoeddus sicrhau datblygu cynaliadwy, gan wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae hyn yn cynnwys mabwysiadu’r 5 ffordd newydd o weithio, i ddangos bod yr egwyddor o ddatblygu cynaliadwy wedi cael ei rhoi ar waith. Eglurwyd wrth y Cyd-bwyllgor y byddai’r 5 ffordd newydd o weithio yn annog cydweithio, osgoi dyblygu ymdrechion rhwng cyrff cyhoeddus a mynd i’r afael â rhai sialensiau tymor hir. Hefyd, er mwyn sicrhau bod y cyrff cyhoeddus hynny a restrir yn y Ddeddf yn gweithio tuag at yr un weledigaeth, roedd amcanion llesiant y Cyngor yn cael eu cysylltu â’r 7 nod llesiant cenedlaethol a geir yn y Ddeddf.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) fod gofyn i’r Cyngor gyhoeddi adroddiad blynyddol yn dangos y cynnwys y mae wedi’i wneud o ran cyflawni’i amcanion.

 

Dywedodd y y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) wrth y Cyd-bwyllgor fod canllawiau ar y Ddeddf wedi cael eu llunio a’u bod ar gael i’r Aelodau i fynd â nhw adref gyda nhw.

 

O ran yr ymgynghori ynghylch yr amcanion, hysbysodd y y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) y Cyd-bwyllgor fod yr ymgynghoriad yn rhan o Asesiad Llesiant Sir Gaerfyrddin, ynghyd â’r Seminar Aelodau a gynhaliwyd ym mis Hydref 2016. Daeth dros 2500 o ymatebion i law, i lywio amcanion llesiant y Cyngor. Achubwyd ar y cyfle hefyd i ymgynghori ynghylch y set ddrafft o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.